Hwyluso hyfforddiant datblygu drwy ddysgu awyr agored
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â hwyluso dysgu gydag unigolion a grwpiau o oedolion neu bobl ifanc gan ddefnyddio dulliau hyfforddiant datblygu yn yr awyr agored i fodloni’r amcanion a gytunwyd ganddynt. Bydd newyddbeth, sialens, risg ac ansicrwydd yn bresennol yn aml, ac felly rhaid rhoi sylw gofalus i ddiogelwch corfforol ac emosiynol y cyfranogwyr.
Mae’r safon hon yn cynnwys tri phrif ddeilliant, sef:
- sefydlu a chynnal awyrgylch sy’n ffafriol i gyflawni amcanion dysgu penodol
- hwyluso datblygiad cyfranogwyr fel unigolion ac fel grŵp
- rheoli lles corfforol ac emosiynol cyfranogwyr
Mae’r safon hon ar gyfer staff sydd â rhywfaint o brofiad o weithio yn yr awyr agored ac sy’n gallu gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol. Cyd-destunau nodweddiadol - gweithio gydag oedolion a phobl ifanc i fodloni amcanion hyfforddiant datblygu a gytunwyd gyda sefydliadau’r cleient.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Sefydlu a chynnal awyrgylch sy'n ffafriol i gyflawni amcanion dysgu penodol
sefydlu eich r*ȏl chi gyda'r grŵ*p
trafod rheolau sylfaenol o ran ymddygiad
ymateb i deimladau a gwerthoedd sy'n cael eu mynegi gan y cyfranogwyr
annog cyfranogwyr i rannu cyfrifoldeb am eu dysgu unigol personol ac am ddysgu'r gr*ŵ*p
cydweithio gyda a dylanwadu ar ddynameg gr*ŵ*p mewn ffyrdd sy'n cefnogi dysgu
cydnabod cyflawniad cyfranogwr
Hwyluso datblygiad cyfranogwyr fel unigolion ac fel gr*ŵ*p
pwysleisio pwysigrwydd gwaith tîm er mwyn cyflawni amcanion
sicrhau bod o leiaf un aelod o'r gr*ŵ*p yn deall yr amcanion a'r ffiniau
annog cyfathrebu agored ac effeithiol
amrywio gweithgareddau er mwyn cyfarfod ag anghenion yr unigolyn ac anghenion y gr*ŵ*p
annog ymchwilio a chymryd risg oddi mewn i'r gweithdrefnau diogelwch a gytunwyd
gwneud defnydd o ddigwyddiadau annisgwyl yn ystod y profiad
galluogi myfyrio ac adolygu fel unigolion ac fel grŵp
annog cyfranogwyr i ystyried sut y gallent gymhwyso a phrofi'r hyn a ddysgwyd ganddynt i sefyllfaoedd sy'n bodoli eisoes a sefyllfaoedd newydd
*
*
Rheoli lles corfforol ac emosiynol cyfranogwyr
dilyn rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer y gweithgaredd
rheoli risg i gadw'r gweithgaredd yn ddiogel gan ddilyn rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad, a chymryd i ystyriaeth manteision cymryd risg
monitro ar gyfer dechrau perygl corfforol ac emosiynol, gan gynnwys amodau anffafriol
annog cyfranogwyr i warchod diogelwch yr unigolyn a'r gr*ŵ*p
annog ymddygiad positif ac ymdrin yn effeithiol ag ymddygiad annerbyniol
ymyrryd er mwyn rhwystro neu gyfyngu ar niwed
adnabod a diogelu ffiniau corfforol ac emosiynol cyfranogwyr a'u galluogi i gadw urddas a hunan-barch
cynnal a chadw ac amrywio rheolau sylfaenol yn ȏl rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad a gofynion y cleient
ymateb i ddigwyddiadau ac achosion brys yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Sefydlu a chynnal awyrgylch sy'n ffafriol i gyflawni amcanion dysgu penodol
*
*
nodweddion y profiad arfaethedig
yr athroniaeth a'r cysyniadau sy'n tanategu'r hyfforddiant datblygu yn yr awyr agored, a pham bod ei hegwyddorion a'i gwerthoedd yn bwysig
sut i sefydlu eich rȏl chi gyda'r grŵp gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau a dulliau cyfathrebu
pam ei bod yn bwysig trafod rheolau sylfaenol o ran ymddygiad
sut i ymateb yn sensitif i deimladau a gwerthoedd a fynegir gan gyfranogwyr
pam ei bod yn bwysig annog cyfranogwyr i rannu cyfrifoldeb am eu dysgu unigol eu hunain ac am ddysgu'r grŵp a sut i wneud hyn
sut i gydweithio gyda a dylanwadu ar ddynameg grŵp mewn ffyrdd sy'n cefnogi dysgu
pam ei bod yn bwysig cydnabod cyflawniad cyfranogwr, a sut i wneud hyn
Hwyluso datblygiad cyfranogwyr fel unigolion ac fel gr*ŵ*p
*
*
pwysigrwydd gwaith tîm er mwyn cyflawni amcanion
pwysigrwydd sicrhau bod o leiaf un aelod o'r grŵp yn deall yr amcanion a'r ffiniau
sut i annog cyfathrebu agored ac effeithiol
amrywiaeth o weithgareddau a thechnegau i gyfarfod ag anghenion yr unigolyn ac anghenion y grŵp
sut i annog ymchwilio a chymryd risg oddi mewn i weithdrefnau diogelwch a gytunwyd a rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
dulliau o wneud defnydd o ddigwyddiadau annisgwyl yn ystod y profiad a manteision hyn
sut i alluogi myfyrio ac adolygu fel unigolion a grŵp
pwysigrwydd annog cyfranogwyr i ystyried sut y gallent gymhwyso a phrofi'r hyn a ddysgwyd ganddynt i sefyllfaoedd sy'n bodoli eisoes a sefyllfaoedd newydd
Rheoli lles corfforol ac emosiynol cyfranogwyr
pam ei bod yn bwysig dilyn rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer y gweithgaredd
dulliau o reoli risg i gadw'r gweithgaredd mor ddiogel ag sydd angen gan gymryd i ystyriaeth manteision cymryd risg a gofynion iechyd a diogelwch
pam ei bod yn bwysig monitro ar gyfer dechrau perygl corfforol ac emosiynol ac amodau anffafriol
dulliau o annog cyfranogwyr i gymryd cyfrifoldeb dros ddiogelwch yr unigolyn a'r grŵp, a sut i wneud hynny
pwysigrwydd annog ymddygiad positif ac ymdrin yn effeithiol ag ymddygiad annerbyniol, a sut i wneud hynny
pryd i ymyrryd er mwyn rhwystro neu gyfyngu ar niwed a phryd i ddal yn ȏl gydag unigolion sy'n dynesu at drothwy eu hantur
dulliau o adnabod gwahanol ffiniau corfforol ac emosiynol cyfranogwyr a'u cynnal i gadw urddas a hunan-barch
sut i gynnal ac amrywio rheolau sylfaenol yn ȏl gofynion a gweithdrefnau'r sefydliad a gofynion y cleient
sut i ymateb i ddigwyddiadau ac achosion brys yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Cyfranogwyr
1.1 oedolion
1.2 plant a phobl ifanc
1.3 grwpiau nad yw eu haelodau yn adnabod ei gilydd
1.4 cyfranogwyr sydd ag anghenion penodol mewn perthynas â'r gweithgaredd
1.5 unigolion
2. Grŵp
2.1 cydweithwyr
2.2 grwpiau perthynol oddi mewn i un sefydliad
2.3 grwpiau perthynol oddi mewn i fwy nag un sefydliad
*
*
3. R*ȏ*l
3.1 hwylusydd dysgu
3.2 hwylusydd proses grŵp
3.3 hwylusydd tasg
*
*
4. Teimladau
4.1 pryder
4.2 dicter
4.3 penbleth
4.4 difaterwch
4.5 llawenydd
5. Amcanion
5.1 affeithiol
5.2 gwybyddol
5.3 corfforol
5.4 datblygiad tîm
6. Amodau anffafriol
6.1 tir anodd
6.2 amodau dŵr anodd
6.3 tywydd
7. Ymddygiad positif
7.1 cyfathrebu
7.2 ymwneud
7.3 empathi
7.4 cefnogaeth y naill i'r llall
7.5 datrys problemau
7.6 dangos brwdfrydedd
8. Ymddygiad annerbyniol
8.1 ymddygiad yn achosi niwed corfforol
8.2 ymddygiad yn achosi niwed emosiynol
8.3 ymddygiad yn achosi difrod
Gwybodaeth Cwmpas
1. Iechyd a Diogelwch
1.1 deddfwriaeth iechyd a diogelwch perthnasol r
1.2 gweithdrefnau a gofynion y sefydliad
1.3 egwyddorion dyletswydd gofal
1.4 diogelu
1.5 iechyd emosiynol/seicolegol
1.6 rheoliadau trwyddedu ar gyfer gweithgareddau/canolfannau
1.7 canllawiau gwneuthurwyr offer
1.8 gwybodaeth dechnegol
1.9 hapddigwyddiadau
1.10 gweithdrefnau brys safonol
2. Cysyniadau
2.1 damcaniaeth dulliau dysgu
2.2 y cylch dysgu drwy brofiad
2.3 dynameg grŵp a datblygiad tîm
2.4 datblygiad tîm y gellir ei gyflawni drwy raglenni awyr agored
2.5 trothwyon antur ac anffodion
2.6 datblygiad y person cyfan yn cynnwys ffactorau affeithiol, gwybyddol, corfforol, cymdeithasol ac ysbrydol
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Rhestrir isod y prif sgiliau a'r priodoleddau generig sy'n gymwys i'r dasg o gyflwyno Rhaglenni Awyr Agored.
Empathi
Gwrando'n weithredol
Hyfforddi
Cyfathrebu
Ymgynghori
Dylanwadu a pherswadio
Dirprwyo
Diplomyddiaeth
Galluogi
Hwyluso
Dilyn
Arwain drwy esiampl
Rheoli ymddygiad heriol
Mentora
Ysgogi
Trafod a chyfaddawdu
Sicrhau adborth
Cynllunio a gwerthuso
Darparu adborth
Pennu amcanion
Gwerthfawrogi a chefnogi eraill
Geirfa
Trothwyau antur ac anffawd
Y cysyniad mewn antur awyr agored bod gan bob unigolyn ei 'drothwy' personol yn nhermau pan fydd gweithgareddau 'arferol' bywyd yn symud ar draws llinell i brofiadau llai cyfforddus, ond mwy cyffrous, heriol ac yn y pen draw yn brofiadau sy'n cadarnhau bywyd. Gellir ystyried bod anffawd wedi digwydd pan fydd dolur neu niwed yn cymryd drosodd yn y sefyllfaoedd heriol hyn.
*
*
Hapddigwyddiadau
Darpariaeth a wneir ar gyfer digwyddiadau sy'n debygol o godi: y tywydd, damwain ac achos brys, newidiadau anorfod a sut i gynllunio ar eu cyfer.
Gallant hefyd gynnwys cynllunio ar gyfer materion ymddygiadol neu les gyda chyfranogwyr neu staff eraill.
*
*
Rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
Yn nodweddiadol, bydd y dogfennau hyn yn gosod y safonau, gweithdrefnau a'r gofynion ar gyfer cyflwyno'r gweithgaredd. Gallant gynnwys rhestri cyfarpar, amlinelliad o gynlluniau sesiwn, pwyntiau a gweithdrefnau diogelwch. Gallant hefyd gyfeirio at gyrff llywodraethol Cenedlaethol (CLlC) penodol neu gyrff gweithgarwch cenedlaethol eraill perthnasol yn nhermau gwybodaeth a chanllawiau sy'n ymwneud â gweithgareddau. Gall y dogfennau hefyd gyfeirio at lefelau staffio yn nhermau cymarebau, cymwysterau a'r hyfforddiant/asesiad yr ymgymerwyd ag e, a gall fod ynghlwm wrth CLlC, ymgynghorwyr technegol a nodweddion allanol neu fewnol eraill. Mae i ddogfennau o safon dda sawl defnydd ac efallai y bydd ar amrywiaeth o bartïon mewnol ac allanol a budd-ddeiliad eu hangen. Mae'r dogfennau o gymorth i gyflwyno gwybodaeth glir a chyson i aelodau staff ac eraill.
Anghenion a therfynau corfforol a seicolegol
Deall sut i gydbwyso cryfderau corfforol ac emosiynol unigolion â sialensiau cyffredinol a phenodol yr awyr agored a sut i adnabod a rheoli'r sialensiau a'r terfynau perthynol ar gyfer lles a llwyddiant yr unigolyn.
Staff sydd â rhywfaint o brofiad
Yn nodweddiadol rhywun sydd wedi gweithio yn y sector am o leiaf ddau neu dri thymor a neu ddwy neu dair blynedd. Mae'n bosib y bydd e/hi wedi symud ymlaen o swydd iau a neu swydd gychwynnol i ymdrin erbyn hyn â gweithgareddau, lleoliadau a/neu gyfranogiadau mwy cymhleth, ond nid ar y lefelau eithaf/anoddaf a fyddai'n cael eu cwmpasu gan safonau eraill.
Gwybodaeth Dechnegol
Yn ymwneud ag agweddau technegol y gweithgareddau a chyfarpar, lleoliadau gweithgaredd cysylltiedig. Gall hyn hefyd ymwneud â chysylltu ag agweddau penodol ar weithgareddau a'u Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol neu gyfarwyddyd sefydliadau cenedlaethol eraill.