Datblygu rhaglenni hyfforddiant datblygu yn yr awyr agored

URN: SKAOP8
Sectorau Busnes (Suites): Rhaglenni Awyr Agored
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu rhaglenni awyr agored sydd yn cyfarfod ag anghenion datblygu'r unigolyn a grŵp.

Mae'r safon hon yn cynnwys dau ddeilliant:

  1. adnabod anghenion datblygu'r unigolyn a'r grŵp

  2. datblygu rhaglenni sy'n bodloni datblygiad yr unigolyn a'r grŵp

Mae'r safon hon ar gyfer staff sydd â rhywfaint o brofiad o weithio yn yr awyr agored ac sy'n gallu gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol.  Cyd-destunau nodweddiadol - gweithio gydag oedolion a phobl ifanc i gyfarfod ag amcanion hyfforddiant datblygu a gytunwyd â sefydliadau'r cleientiaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Adnabod anghenion datblygu'r unigolyn a'r grŵp


*

  1. dadansoddi gwybodaeth ynghylch anghenion datblygu cyfranogwr a grŵp

  2. cadarnhau a blaenoriaethu anghenion datblygu cyfranogwr a grŵp drwy ymgynghori â chydweithwyr, cyfranogwyr a chleientiaid

  3. sefydlu lefelau cytundeb ar gyfer cymryd risg corfforol, seicolegol a neu emosiynol

  4. adnabod a chytuno ar strategaethau dysgu a throsglwyddo dewisol gyda chydweithwyr, cyfranogwyr a chleientiaid

Datblygu rhaglenni sy'n bodloni datblygiad yr unigolyn a'r grŵp


*

  1. adnabod a chytuno ar amcanion sy'n cyfarfod ag anghenion datblygu cyfranogwr

  2. dethol cyfleoedd datblygu er mwyn cyflawni'r amcanion dysgu

  3. sicrhau bod y rhaglen yn gyson â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

  4. cynllunio sialensiau sy'n cyfarfod ag anghenion y cleient

  5. cynllunio ar gyfer dilyniant a throsglwyddo dysgu i gyd-destunau eraill ar sail deilliannau'r rhaglen

  6. cynllunio cyfleoedd ar gyfer myfyrio, adolygu a gwerthuso deilliannau'r rhaglen

  7. sicrhau amgylchedd dysgu cefnogol yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau eich sefydliad

  8. cynllunio ar gyfer hapddigwyddiadau oddi mewn i gynllun y rhaglen


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Adnabod anghenion datblygu'r unigolyn a'r grŵp


*

  1. sut i ddadansoddi gwybodaeth ynghylch anghenion datblygu cyfranogwr a grŵp

  2. sut i gadarnhau a blaenoriaethu anghenion datblygu cyfranogwr a grŵp drwy ymgynghori â chydweithwyr, cyfranogwyr a chleientiaid

  3. sut i sefydlu lefelau cytundeb ar gyfer cymryd risg corfforol, seicolegol a neu emosiynol

  4. sut i adnabod a chytuno ar strategaethau dysgu a throsglwyddo dewisol gyda chydweithwyr, cyfranogwyr a chleientiaid

Datblygu rhaglenni sy'n bodloni datblygiad yr unigolyn a'r grŵp

  1. y mathau cyffredin o anghenion datblygu'r unigolyn a'r grŵp sy'n debygol o fod gan gyfranogwyr

  2. sut i adnabod a chytuno ar amcanion sy'n cyfarfod ag anghenion datblygu, galluoedd a photensial cyfranogwyr

  3. cyd-destun gwaith, cefndir, trefniadau a gweithgaredd sefydliad y cyfranogwyr

  4. sut i ddethol cyfleoedd datblygu er mwyn cyflawni'r amcanion dysgu

  5. yr athroniaeth sy'n sail i hyfforddiant datblygu yn yr awyr agored, a pham bod ei hegwyddorion a'i gwerthoedd yn bwysig

  6. sut i sicrhau bod y rhaglen yn gyson â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

  7. sut i gynllunio sialensiau sy'n cyfarfod ag anghenion, galluoedd, potensial a dulliau dysgu'r cyfranogwyr a'r cleient

  8. sut i ddethol gweithgareddau ac amgylcheddau sy'n cyfarfod â'r anghenion, galluoedd, potensial a'r dulliau dysgu

  9. ffactorau i'w cadw mewn cof wrth ddethol gweithgareddau sy'n ymestyn y cyfranogwyr a sut i ddethol gweithgareddau o'r fath

  10. pwysigrwydd sefydlu lefelau caniatâd ar gyfer cymryd risg corfforol ac emosiynol a sut i wneud hynny

  11. sut i gynllunio ar gyfer dilyniant a throsglwyddo dysgu i gyd-destunau eraill ar sail deilliannau'r rhaglen

  12. y mathau o sefyllfaoedd lle gall gweithgareddau weithredu fel trosiadau a sut i ddewis gweithgareddau sy'n drosiadau priodol

  13. sut i gynllunio cyfleoedd ar gyfer myfyrio, adolygu a gwerthuso deilliannau'r rhaglen

  14. sut i sicrhau amgylchedd dysgu cefnogol yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau eich sefydliad

  15. sut i gynllunio ar gyfer hapddigwyddiadau oddi mewn i gynllun y rhaglen


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Gwybodaeth

1.1 cwestiwn

1.2 arsylwad

1.3 ymgynghori â chleientiaid


*

2. Cyfranogwyr* *

2.1 oedolion

2.2 plant a phobl ifanc

2.3 grwpiau nad yw eu haelodau yn adnabod ei gilydd

2.4 cyfranogwyr sydd ag anghenion arbennig mewn perthynas â'r rhaglen

2.5 unigolion

2.6 grwpiau


*

3. Grŵp

3.1 cydweithwyr

3.2 grwpiau perthynol oddi mewn i un sefydliad

3.3 grwpiau perthynol oddi mewn i fwy nag un sefydliad


*

4. Cleientiaid

4.1 arweinwyr a chysylltiadau allweddol oddi mewn i un sefydliad

4.2 arweinwyr a chysylltiadau allweddol oddi mewn i fwy nag un sefydliad


*

5. Anghenion datblygu

5.1 affeithiol

5.2 gwybyddol

5.3 corfforol

5.4 datblygiad tîm

6. Rhaglen

6.1 un diwrnod

6.2 sawl ddiwrnod

6.3 yn gofyn am lety dros nos

7. Cydweithwyr

7.1 staff ar lefel uwch

7.2 gweithio ar yr un lefel

7.3 y rhai hynny sy'n gweithio mewn swyddogaethau ategol

7.4 cydweithwyr annibynnol

7.5 cydweithwyr o sefydliad arall

8. Cyfleoedd datblygu

8.1 yn canolbwyntio ar yr unigolyn

8.2 yn canolbwyntio ar y tîm


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

Rhestrir isod y prif sgiliau a'r priodoleddau generig sy'n gymwys i'r dasg o gyflwyno Rhaglenni Awyr Agored.

  1. Empathi

  2. Gwrando'n weithredol

  3. Hyfforddi

  4. Cyfathrebu

  5. Ymgynghori

  6. Dylanwadu a pherswadio

  7. Dirprwyo

  8. Diplomyddiaeth

  9. Galluogi

  10. Hwyluso

  11. Dilyn

  12. Arwain drwy esiampl

  13. Rheoli ymddygiad heriol

  14. Mentora

  15. Ysgogi

  16. Trafod a chyfaddawdu

  17. Sicrhau adborth

  18. Cynllunio a gwerthuso

  19. Darparu adborth

  20. Pennu amcanion

  21. Gwerthfawrogi a chefnogi eraill


Geirfa

Hapddigwyddiadau

Darpariaeth a wneir ar gyfer digwyddiadau sy'n debygol o godi: y tywydd, damwain ac achos brys, newidiadau anorfod a sut i gynllunio ar eu cyfer.

Gallant hefyd gynnwys cynllunio ar gyfer materion ymddygiadol neu les gyda chyfranogwyr neu staff eraill.

Rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

Yn nodweddiadol, bydd y dogfennau hyn yn gosod y safonau, gweithdrefnau a'r gofynion ar gyfer cyflwyno'r gweithgaredd.  Gallant gynnwys rhestri cyfarpar, amlinelliad o gynlluniau sesiwn, pwyntiau a gweithdrefnau diogelwch.  Gallant hefyd gyfeirio at gyrff llywodraethol Cenedlaethol (CLlC) penodol neu gyrff gweithgarwch cenedlaethol eraill perthnasol yn nhermau gwybodaeth a chanllawiau sy'n ymwneud â gweithgareddau.  Gall y dogfennau hefyd gyfeirio at lefelau staffio yn nhermau cymarebau, cymwysterau a'r hyfforddiant/asesiad yr ymgymerwyd ag e, a gall fod ynghlwm wrth CLlC, ymgynghorwyr technegol a nodweddion allanol neu fewnol eraill. * *Mae i ddogfennau o safon dda sawl defnydd ac efallai y bydd ar amrywiaeth o bartïon mewnol ac allanol a budd-ddeiliad eu hangen.  Mae'r dogfennau o gymorth i gyflwyno gwybodaeth glir a chyson i aelodau staff ac eraill.

* *

Cymryd risg corfforol, seicolegol a neu emosiynol

Deall sut i gydbwyso cryfderau corfforol ac emosiynol unigolion â sialensiau cyffredinol a phenodol yr awyr agored.  Sut i adnabod a rheoli'r sialensiau a'r terfynau perthynol ar gyfer lles a llwyddiant yr unigolyn yng nghyd-destun datblygiad personol a datblygiad y sefydliad. 

Strategaethau dysgu a throsglwyddo dewisol

Sut ac ym mha fodd mae prosesau dysgu sy'n gysylltiedig â gweithgareddau a phrofiadau i'w gweithredu. 

* *

Amgylchedd dysgu cefnogol

Y man lle mae gan ddysgu y siawns fwyaf cadarnhaol o ddigwydd.


Dolenni I NOS Eraill

​Mae’r safon hon yn cyplysu â SKAOP9


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAB23

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Hamdden; teithio a thwristiaeth, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

awyr agored; cynllunio; datblygiad; hyfforddiant; rhaglenni; unigolyn; grŵp; anghenion; cyfranogwyr; galluoedd; potensial