Hwyluso cyfleoedd addysgol yn yr awyr agored
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â hwyluso profiadau addysgol yn yr awyr agored. Mae'r safon hon yn cwmpasu cychwyn, monitro, cefnogi ac arwain y cyfranogwr drwy'r profiad addysgol. Bydd y safon hon hefyd yn helpu cyfranogwyr i adnabod sut y gallant drosglwyddo dysgu i agweddau eraill ar eu bywydau.
Mae'r safon hon yn cynnwys pum deilliant:
cychwyn y profiad addysgol awyr agored
monitro, cefnogi ac arwain y cyfranogwr drwy'r profiad addysgol
rheoli lles corfforol ac emosiynol cyfranogwyr
hwyluso dysgu drwy fyfyrio'n unigol ac ar y cyd ar brofiad
helpu cyfranogwyr i adnabod sut y gallant drosglwyddo dysgu i agweddau eraill ar eu bywydau
Mae'r safon hon ar gyfer staff sydd â rhywfaint o brofiad o weithio yn yr awyr agored ac sy'n gallu gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol. Cyd-destunau nodweddiadol - gweithio gyda phlant a phobl ifanc i fodloni gofynion cleientiaid addysgol megis ysgolion a cholegau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cychwyn y profiad addysgol awyr agored
*
*
sicrhau bod y cyfarpar a'r dillad sydd eu hangen gan y cyfranogwyr
creu a chynnal awyrgylch sydd yn ffafriol i ddysgu
cyfleu eu rolau eu hunain i'r cyfranogwyr
addasu eich ymddygiad eich hun i gyfarfod ag anghenion y cyfranogwyr a diben y profiad
annog y cyfranogwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain
cytuno ar reolau sylfaenol
Monitro, cefnogi ac arwain y cyfranogwr drwy'r profiad addysgol
cydbwyso eich rolau eich hun er mwyn sicrhau'r deilliant gorau i'r cyfranogwyr
annog cyfranogwyr i ymgymryd â chyfrifoldebau lle mae hyn yn ddiogel
darparu adborth lle mae hyn yn cefnogi dysgu
manteisio ar gyfleoedd pan fyddant yn codi i sicrhau'r dysgu gorau i'r cyfranogwyr
sicrhau bod deilliannau'r profiad yn cael eu gwahaniaethu er mwyn cyfarfod ag anghenion unigolion ac anghenion y grŵp
cyfathrebu gyda chyfranogwyr mewn modd sy'n cyfarfod â'u hanghenion, y sefyllfa a nodau'r profiad
Rheoli lles corfforol ac emosiynol cyfranogwyr
dilyn gofynion a gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer y gweithgaredd
rheoli risg er mwyn cadw'r gweithgaredd mor ddiogel â phosibl gan gymryd i ystyriaeth fanteision cymryd risg a gofynion iechyd a diogelwch
monitro ar gyfer dechrau perygl corfforol ac emosiynol ac amodau anffafriol
annog cyfranogwyr i gefnogi diogelwch yr unigolyn a'r grŵp
annog ymddygiad positif ac ymdrin yn effeithiol ag ymddygiad annerbyniol
ymyrryd er mwyn rhwystro neu gyfyngu ar niwed
adnabod gwahanol derfynau corfforol ac emosiynol cyfranogwyr a'u cefnogi i gynnal urddas a hunan-barch
cynnal ac amrywio rheolau sylfaenol yn unol â gofynion a gweithdrefnau'r sefydliad a gofynion cleientiaid
ymateb i ddigwyddiad ac achosion brys yn unol â gofynion a gweithdrefnau'r sefydliad
monitro gweithrediadau ac ymddygiadau'r rhai, heblaw am y cyfranogwyr, sy'n ymwneud â'r gweithgaredd
**
Hwyluso dysgu drwy fyfyrio'n unigol ac ar y cyd ar brofiad**
*
*
sefydlu amgylchedd gwrando ar gyfer yr adolygiad e
galluogi cyfranogwyr i fyfyrio ar eu profiadau a'u hamcanion
galluogi cyfranogwyr i adnabod y broses o ddysgu unigol ac fel grŵp
cysylltu dysgu bwriadol ac anfwriadol gydag amcanion yr unigolion a rhai'r grŵp
egluro ac atgyfnerthu pwyntiau allweddol er mwyn canolbwyntio sylw'r cyfranogwyr ar ddysgu
Helpu cyfranogwyr i adnabod sut y gallant drosglwyddo dysgu i agweddau eraill ar eu bywydau
* *
galluogi cyfranogwyr i weld perthnasedd eu dysgu ac i weld eu bod yn gallu trosglwyddo'r dysgu i feysydd penodol bywyd
gwerthuso rhwystrau posibl i'r cyfranogwyr wrth drosglwyddo'r hyn a ddysgwyd ganddynt
trafod strategaethau posibl i oresgyn y rhwystrau hyn
rhannu gwybodaeth ac arweiniad gydag eraill ynghylch cyfleoedd i drosglwyddo dysgu a'r gefnogaeth y bydd ei hangen arnynt o bosib
annog myfyrio ac adolygu parhaus
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cychwyn y profiad addysgol awyr agored
*
*
y cyfarpar a'r dillad sydd eu hangen
sut i greu a chynnal awyrgylch sy'n ffafriol i ddysgu
dulliau o gyfathrebu
technegau cymhelliant
sut i annog y cyfranogwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain
pam ei bod yn bwysig cytuno ar reolau sylfaenol
Monitro, cefnogi ac arwain y cyfranogwr drwy'r profiad addysgol
sut i gydbwyso eich rolau chi i sicrhau'r deilliant gorau i'r cyfranogwyr
manteision annog cyfranogwyr i ymgymryd â chyfrifoldebau lle mae hyn yn ddiogel
dulliau o roi adborth fydd yn cefnogi dysgu
sut i fanteisio ar gyfleoedd pan fydd y rheiny'n codi er mwyn sicrhau'r dysgu gorau i'r cyfranogwyr
cynllunio a datblygu deilliannau'r profiad mewn modd sy'n cyfarfod ag anghenion pawb
offer a thechnegau cyfathrebu fydd yn hwyluso dysgu yn yr awyr agored
Rheoli lles corfforol ac emosiynol cyfranogwyr
gofynion iechyd a diogelwch ar gyfer y gweithgaredd
technegau rheoli risg fydd yn annog gweithgaredd cymryd risg iach a diogel
pam ei bod yn bwysig monitro ar gyfer dechreuad perygl corfforol ac emosiynol ac amodau anffafriol
pam ei bod yn bwysig annog cyfranogwyr i gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am ddiogelwch yr unigolyn a'r grŵp a sut i wneud hynny
manteision annog ymddygiad positif ac o ymdrin yn effeithiol ag ymddygiad annerbyniol
pryd i ymyrryd er mwyn rhwystro neu gyfyngu ar niwed
ffactorau sydd yn effeithio ar wahanol derfynau corfforol ac emosiynol cyfranogwyr a sut i reoli'r rhain yn effeithiol
pryd i gynnal ac amrywio rheolau sylfaenol yn unol â gofynion y sefydliad, gweithdrefnau a gofynion cleientiaid
y broses o ran ymateb i ddigwyddiad ac achosion brys yn unol â gofynion iechyd a diogelwch
y broses ar gyfer monitro gweithrediadau ac ymddygiadau'r rhai, heblaw am y cyfranogwyr, sy'n ymwneud â'r gweithgaredd
Hwyluso dysgu drwy fyfyrio'n unigol ac ar y cyd ar brofiad
*
*
sut i greu amgylchedd gwrando effeithiol sy'n annog cyfranogwyr i fynegi eu safbwyntiau
y cysyniad o arfer adfyfyriol
y broses o ddysgu unigol a dysgu fel grŵp
nodau ac amcanion y cyfranogwyr
sut i gysylltu dysgu bwriadol ac anfwriadol gydag amcanion yr unigolyn a rhai'r grŵp
sut i ddadansoddi profiadau'r cyfranogwyr a darparu crynodeb o'r dadansoddiad hwn
Helpu cyfranogwyr adnabod sut y gallant drosglwyddo dysgu i agweddau eraill ar eu bywydau
*
*
y fethodoleg sy'n gysylltiedig â throsglwyddo dysgu i feysydd eraill bywyd
sut i werthuso rhwystrau posibl sy'n gallu amharu ar drosglwyddo dysgu
gwahanol fathau o gyfleoedd i drosglwyddo dysgu a'r mathau o gefnogaeth fydd eu hangen o bosib ar gyfranogwyr oddi wrth eraill
y mathau o gyngor, cymorth a gwybodaeth ynghylch cyfleoedd dysgu ac anghenion cyfranogwyr
sut i annog myfyrio ac adolygu parhaus
technegau hyfforddi i gefnogi trosglwyddo dysgu
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Cyfranogwyr
1.1 oedolion
1.2 plant a phobl ifanc
1.3 grwpiau nad yw eu haelodau yn adnabod ei gilydd
1.4 pobl sydd ag anghenion arbennig mewn perthynas â'r rhaglen
1.5 unigolion
1.6 grwpiau
*
*
2. Rolau
2.1 arweinyddiaeth
2.2 hyfforddi a meithrin ymwybyddiaeth
2.3 monitro
2.4 cefnogi
2.5 arwain
*
*
3. Profiad
3.1 â ffocws cwricwlaidd a thrawsgwricwlaidd
3.2 â ffocws gweithgaredd/sgil
3.3 â ffocws amgylcheddol
3.4 â ffocws drwy brofiad/datblygiad
3.5 â ffocws dilyniant
4. Amodau anffafriol
4.1 tir anodd
4.2 amodau dŵr anodd
4.3 tywydd
*
*
5. Ymddygiad positif
5.1 cyfathrebu
5.2 ymwneud
5.3 cydgefnogaeth
5.4 datrys problemau
5.5 brwdfrydu
*
*
6. Ymddygiad annerbyniol
6.1 ymddygiad sy'n achosi niwed corfforol
6.2 ymddygiad sy'n achosi niwed emosiynol
6.3 ymddygiad sy'n achosi difrod
7. Adborth
7.1 ffurfiol
7.2 anffurfiol
7.3 cadarnhaol
7.4 negyddol
7.5 awgrymiadau ar gyfer gwella
Gwybodaeth Cwmpas
1. Technegau cymhelliant
1.1 delweddaeth gadarnhaol
1.2 gweithgareddau adeiladu tîm
1.3 hyfforddiant
1.4 cyfathrebu uwch
1.5 targedau
1.6 gwobrau
1.7 cymhellion
2. Iechyd a Diogelwch
2.1 deddfwriaeth iechyd a diogelwch
2.2 gweithdrefnau a gofynion y sefydliad
2.3 egwyddorion dyletswydd gofal
2.4 diogelu
2.5 iechyd emosiynol a neu seicolegol
2.6 rheoliadau trwyddedu ar gyfer gweithgareddau/canolfannau
2.7 canllawiau gwneuthurwyr offer
2.8 gwybodaeth dechnegol, yn cynnwys fel bo'n briodol, canllawiau'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol a sefydliadau cenedlaethol eraill sy'n berthnasol i weithgareddau
2.9 y mathau o hapddigwyddiadau sy'n debygol o ddigwydd, tywydd, damwain ac achosion brys, newidiadau anorfod a sut i gynllunio ar eu cyfer
2.10 gweithdrefnau brys safonol
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Rhestrir isod y prif sgiliau a'r priodoleddau generig sy'n gymwys i'r dasg o gyflwyno Rhaglenni Awyr Agored.
Empathi
Gwrando'n weithredol
Hyfforddi
Cyfathrebu
Ymgynghori
Dylanwadu a pherswadio
Dirprwyo
Diplomyddiaeth
Galluogi
Hwyluso
Dilyn
Arwain drwy esiampl
Rheoli ymddygiad heriol
Mentora
Ysgogi
Trafod a chyfaddawdu
Sicrhau adborth
Cynllunio a gwerthuso
Darparu adborth
Pennu amcanion
Gwerthfawrogi a chefnogi eraill
Geirfa
Amgylchedd dysgu ffafriol
Yn ymwneud â'r amgylchedd corfforol, yr amgylchedd gwybyddol, cyd-destun y gweithgaredd a'r berthynas a'r awyrgylch cadarnhaol sy'n cael eu creu gan yr hyfforddwr/arweinydd ymysg pawb sy'n cymryd rhan – angerdd, brwdfrydedd, ymrwymiad i gychwyn a chwblhau'r profiad.
Profiad
O fewn cyd-destun addysg yn yr awyr agored gall fod sawl math o nodau a deilliannau fel profiadau. Gallai'r rhai hyn gynnwys deilliannau cwricwlaidd, trawsgwricwlaidd, dysgu i ddysgu, dysgu gydol oes yn ogystal â deilliannau personol a chymdeithasol allai gynnwys elfennau ysbrydol, moesol, diwylliannol, meddyliol a chorfforol.
Rheolau sylfaenol
Yng nghyswllt ymddygiad cyfranogwyr sy'n blant neu bobl ifanc. Yn aml bydd hyfforddwyr yn cynnig ac yn cael cytundeb oddi wrth gyfranogwyr ar agweddau syml ond pwysig ar ymddygiad megis "cyfranogwyr yn gwrando pan fydd yr hyfforddwr yn siarad a bydd yr hyfforddwr yn gwrando pan fydd cyfranogwr yn gofyn cwestiwn", neu "er mwyn eich diogelwch a'ch hwyl, mae'n rhaid ichi wneud beth mae'r hyfforddwr yn gofyn ichi ei wneud" a "rydyn ni i gyd yn cytuno i helpu a chefnogi a chadw llygad ar ein gilydd pa mor dda bynnag y byddwn ni'n gwneud ar y gweithgaredd". Nid helpu i osod rhai rheolau ymddygiadol defnyddiol yn unig a wna hyn, ond mae hefyd yn anfon neges gadarnhaol, gref, gysurlon yn aml i gyfranogwyr sydd weithiau'n nerfus bod ym mherson yr hyfforddwr a/neu'r arweinydd bresenoldeb rhywun cyfrifol fydd yn sicrhau bod popeth yn mynd yn dda.
* *
Rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
Yn nodweddiadol, bydd y dogfennau hyn yn gosod y safonau, gweithdrefnau a'r gofynion ar gyfer cyflwyno'r gweithgaredd. Gallant gynnwys rhestri cyfarpar, amlinelliad o gynlluniau sesiwn, pwyntiau a gweithdrefnau diogelwch. Gallant hefyd gyfeirio at gyrff llywodraethol Cenedlaethol (CLlC) penodol neu gyrff gweithgarwch cenedlaethol eraill perthnasol yn nhermau gwybodaeth a chanllawiau sy'n ymwneud â gweithgareddau. Gall y dogfennau hefyd gyfeirio at lefelau staffio yn nhermau cymarebau, cymwysterau a'r hyfforddiant/asesiad yr ymgymerwyd ag e, a gall fod ynghlwm wrth CLlC, ymgynghorwyr technegol a nodweddion allanol neu fewnol eraill.
Anghenion a therfynau corfforol a seicolegol
Deall sut i gydbwyso cryfderau corfforol ac emosiynol unigolion â sialensiau cyffredinol a phenodol yr awyr agored a sut i adnabod a rheoli'r sialensiau a'r terfynau perthynol ar gyfer lles a llwyddiant yr unigolyn.
Staff sydd â rhywfaint o brofiad
Yn nodweddiadol rhywun sydd wedi gweithio yn y sector am o leiaf ddau neu dri thymor a neu ddwy neu dair blynedd. Mae'n bosib y bydd e/hi wedi symud ymlaen o swydd iau a neu swydd gychwynnol i ymdrin erbyn hyn â gweithgareddau, lleoliadau a/neu gyfranogiadau mwy cymhleth, ond nid ar y lefelau eithaf/anoddaf a fyddai'n cael eu cwmpasu gan safonau eraill.
Dolenni I NOS Eraill
Mae’r safon hon yn cyplysu â SKAOP6