Datblygu rhaglenni addysg awyr agored

URN: SKAOP6
Sectorau Busnes (Suites): Rhaglenni Awyr Agored
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu rhaglenni awyr agored sy'n cyfarfod ag anghenion addysgol yr unigolyn ac anghenion addysgol grŵp gan gynnwys rhai'r cwricwlwm cenedlaethol.

Mae'r safon hon yn cynnwys dau ddeilliant, sef:

  1. adnabod a chytuno ar anghenion addysgol yr unigolyn ac anghenion addysgol grŵp

  2. datblygu rhaglen addysg awyr agored

Mae'r safon hon ar gyfer staff sydd â rhywfaint o brofiad o weithio yn yr awyr agored ac sy'n gallu gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol.  Cyd-destunau nodweddiadol - gweithio gyda phlant a phobl ifanc i gyfarfod â gofynion cleientiaid addysgol megis ysgolion a cholegau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Adnabod a chytuno ar anghenion addysgol yr unigolyn ac anghenion addysgol grŵp

* *

  1. adnabod anghenion addysgol cyfranogwyr drwy gyfeirio at y gofynion

  2. cadarnhau anghenion addysgol mewn ymgynghoriad â phobl eraill

  3. nodi unrhyw anghenion addysgol unigol arwyddocaol

  4. cytuno ar gyfleoedd sy'n cyfarfod ag anghenion cyfranogwyr gyda phobl eraill

Datblygu rhaglen addysg awyr agored

  1. datblygu rhaglenni sy'n cymryd i ystyriaeth anghenion addysgol cytunedig

  2. gwneud y defnydd gorau o adnoddau

  3. cymryd i ystyriaeth amrywiol anghenion cyfranogwyr

  4. gwneud yn siŵr bod y rhaglen yn bodloni rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

  5. creu cyfleoedd i gael adborth gan y rhai sydd â diddordeb yn nysgu'r cyfranogwyr

  6. cynllunio ar gyfer hapddigwyddiadau oddi mewn i gynllun y rhaglen

  7. cytuno ar y rhaglen gyda phobl eraill a sicrhau eu hymrwymiad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Adnabod a chytuno ar anghenion addysgol yr unigolyn ac anghenion addysgol grŵp

* *

  1. anghenion addysgol nodweddiadol yr unigolyn ac anghenion addysgol nodweddiadol grŵp

  2. sut i adnabod a dadansoddi anghenion addysgol cyfranogwyr

  3. sut i gadarnhau anghenion addysgol mewn ymgynghoriad â phobl eraill

  4. beth sy'n gwneud anghenion addysgol unigol arwyddocaol

  5. sut i gytuno ar gyfleoedd sy'n cyfarfod ag anghenion addysgol cyfranogwyr gyda phobl eraill

Datblygu rhaglen addysg awyr agored

* *

  1. cysyniadau ac egwyddorion cynllunio rhaglen

  2. manteision a gwerth addysg awyr agored a neu ddysgu awyr agored

  3. sut i ddatblygu rhaglenni sy'n cymryd i ystyriaeth anghenion addysgol cytunedig

  4. sut i wneud y defnydd gorau o adnoddau

  5. sut i gymryd i ystyriaeth amrywiol anghenion cyfranogwyr

  6. sut i wneud yn siŵr bod y rhaglen yn bodloni rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

  7. sut i greu cyfleoedd i gael adborth gan y rhai sydd â diddordeb yn nysgu'r cyfranogwyr

  8. sut i gynllunio ar gyfer hapddigwyddiadau oddi mewn i gynllun y rhaglen

  9. sut i gytuno ar y rhaglen gyda phobl eraill a sicrhau eu hymrwymiad


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Cyfranogwyr

1.1 oedolion

1.2 plant a phobl ifanc

  1. grwpiau nad yw eu haelodau yn adnabod ei gilydd

1.4 pobl sydd ag anghenion arbennig mewn perthynas â'r rhaglen

1.5 unigolion

1.6 grwpiau


*

2. Anghenion addysgol

2.1 datblygiad personol a chymdeithasol

2.2 ymwybyddiaeth a dealltwriaeth amgylcheddol

2.3 sgiliau technegol

2.4 cymhwyso dysgu


*

3. Pobl eraill

3.1 cleientiaid

3.2 rhieni

3.3 oedolion eraill e.e. arweinwyr partïon

3.4 asiantaethau ariannu a budd-ddeiliaid


*

4. Adnoddau* *

4.1 staff

4.2 cyllideb

4.3 cyfarpar

4.4 llenyddiaeth ategol

5. Adborth

5.1 ffurfiol

5.2 anffurfiol

5.3 negyddol

5.4 cadarnhaol

5.5 awgrymiadau ar gyfer gwelliant

6. Rhaglenni

6.1 un diwrnod 

6.2 sawl ddiwrnod

6.3 yn gofyn am lety dros nos

6.4 cydaddysgol


Gwybodaeth Cwmpas

Hapddigwyddiadau

Darpariaeth a wneir ar gyfer digwyddiadau sy'n debygol o godi: y tywydd, damwain ac achos brys, newidiadau anorfod a sut i gynllunio ar eu cyfer.

Anghenion addysgol

Y gofynion a fydd gan grŵp ac unigolion fel rhan o brofiad addysg/dysgu awyr agored.  Gall hyn fod yn gysylltiedig â'r ymweliad cyffredinol neu ag un gweithgaredd a neu sesiwn yn unig.  Fel arfer, trafodir y meysydd penodol cyn ymweliad ac eto pan fydd yr ymweliad yn digwydd.  Gall yr anghenion fod yn rhai unigol neu luosog a gallant amrywio o ran sgôp, o addysg cwricwlwm-seiliedig hyd at anghenion math datblygiad personol.  Bydd angen rhywfaint o ddealltwriaeth o faterion, systemau a strwythurau addysgol o bosib, ond mae amrywiaeth y cyd-destunau yn eang.  Rhaid i'r cyflogeion deimlo'n hyderus ac yn gyffyrddus eu bod yn gallu gweithredu ar y lefelau perfformiad angenrheidiol a'u bod yn gallu siarad â chydweithwyr a rheolwyr llinell os oes ganddynt bryderon mewn unrhyw fodd.


*

Rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

Yn nodweddiadol, bydd y dogfennau hyn yn gosod y safonau, gweithdrefnau a'r gofynion ar gyfer cyflwyno'r gweithgaredd.  Gallant gynnwys rhestri cyfarpar, amlinelliad o gynlluniau sesiwn, pwyntiau a gweithdrefnau diogelwch.  Gallant hefyd gyfeirio at gyrff llywodraethol Cenedlaethol (CLlC) penodol neu gyrff gweithgarwch cenedlaethol eraill perthnasol yn nhermau gwybodaeth a chanllawiau sy'n ymwneud â gweithgareddau.  Gall y dogfennau hefyd gyfeirio at lefelau staffio a safonau yn nhermau cymarebau, cymwysterau a'r hyfforddiant/asesiad yr ymgymerwyd ag e, a gall fod ynghlwm wrth CLlC, ymgynghorwyr technegol a nodweddion allanol neu fewnol eraill. Mae i *ddogfennau o safon dda sawl defnydd ac o bosib bydd eu hangen ar amrywiaeth o **bartïon a budd-ddeiliaid mewnol ac allanol.  Mae'r dogfennau yn cynorthwyo i gyfleu gwybodaeth gyson a chlir i aelodau staff ac eraill.

**

Adnoddau**

Ystyrir adnoddau yn bennaf yng nghyswllt cyflwyno gweithgaredd yn nhermau cyfarpar a neu gyflenwadau, ond gallant hefyd fod yn gysylltiedig â staff sydd yn ymwneud â'r gweithgaredd.


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

​Rhestrir isod y prif sgiliau a'r priodoleddau generig sy'n gymwys i'r dasg o gyflwyno Rhaglenni Awyr Agored.

  1. Empathi

  2. Gwrando'n weithredol

  3. Hyfforddi

  4. Cyfathrebu

  5. Ymgynghori

  6. Dylanwadu a pherswadio

  7. Dirprwyo

  8. Diplomyddiaeth

  9. Galluogi

  10. Hwyluso

  11. Dilyn

  12. Arwain drwy esiampl

  13. Rheoli ymddygiad heriol

  14. Mentora

  15. Ysgogi

  16. Trafod a chyfaddawdu

  17. Sicrhau adborth

  18. Cynllunio a gwerthuso

  19. Darparu adborth

  20. Pennu amcanion

  21. Gwerthfawrogi a chefnogi eraill


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

Mae’r safon hon yn cyplysu â SKAOP7


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAB22

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Hamdden; teithio a thwristiaeth, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

awyr agored; addysgol; rhaglenni; cynllunio; grwpiau; anghenion; unigolion; cwricwlwm cenedlaethol; gofynion