Sefydlu a chynnal a chadw cydberthnasau gweithio effeithiol yn yr awyr agored

URN: SKAOP5
Sectorau Busnes (Suites): Rhaglenni Awyr Agored
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â sefydlu a chynnal a chadw cydberthnasau gweithio effeithiol gyda chyfranogwyr, cydweithwyr ac eraill.

Mae'r safon hon yn cynnwys dau brif ddeilliant, sef:

  1. sefydlu a chynnal a chadw cydberthnasau gweithio effeithiol gyda chyfranogwyr, cydweithwyr ac eraill

  2. gweithio'n effeithiol gyda chydweithwyr ac eraill

Mae'r safon hon ar gyfer staff sydd â rhywfaint o brofiad o weithio yn yr awyr agored ac sy'n gallu gweithio heb unrhyw oruchwyliaeth uniongyrchol.  Mae'n bosib y bydd ganddyn nhw rywfaint o gyfrifoldeb dydd-i-ddydd dros waith aelodau staff llai profiadol a neu waith mewn timau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Sefydlu a chynnal a chadw cydberthnasau gweithio effeithiol gyda chyfranogwyr, cydweithwyr ac eraill


*

  1. sefydlu a chynnal a chadw cyswllt â chyfranogwyr, cydweithwyr ac eraill gan ddilyn gweithdrefnau'r sefydliad

  2. datgan eich brwdfrydedd dros yr awyr agored ac anturio yn yr awyr agored gyda chyfranogwyr, cydweithwyr ac eraill

  3. ysgogi cyfranogwyr a meithrin eu hyder

  4. cyfathrebu gan barchu cyfrinachedd ar yr un pryd

  5. addasu eich dull o weithio i gyfarfod ag anghenion sy'n newid

  6. adnabod a chymryd camau mewn perthynas â therfynau cyfranogwyr

  7. hybu ethos o werthfawrogi amrywiaeth, her, gwahaniaethu a hollgynhwysedd

  8. ymdrin â gwrthdaro yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

  9. dilyn canllawiau moesegol

Gweithio'n effeithiol gyda chydweithwyr ac eraill

  1. rhoi argraff bositif ohonoch eich hun a'ch sefydliad i eraill  

  2. trafod a chytuno ar amcanion cyffredinol gydag eraill

  3. cynllunio gyda chydweithwyr ac eraill a chytuno ar swyddogaethau unigol

  4. cyflawni amcanion drwy waith tîm effeithiol

  5. trafod a chytuno ar newidiadau i gynlluniau'r sesiwn neu'r rhaglen

  6. gofyn am gefnogaeth gan gydweithwyr ac eraill pan fydd angen hynny

  7. creu a defnyddio cyfleoedd ar gyfer adolygu gweithio effeithiol

  8. rhoi adborth effeithiol i gydweithwyr ac eraill

  9. annog a derbyn adborth oddi wrth gydweithwyr ac eraill

  10. defnyddio adborth i wella gweithio gyda chydweithwyr ac eraill

  11. dirprwyo cyfrifoldebau yn effeithiol a diogel i gydweithwyr ac eraill

  12. monitro gwaith cydweithwyr

  13. mesur perfformiad yn erbyn amcanion cytunedig y sesiwn neu'r rhaglen

  14. rhoi cefnogaeth i gydweithwyr ac eraill


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Sefydlu a chynnal a chadw cydberthnasau gweithio effeithiol gyda chyfranogwyr, cydweithwyr ac eraill

* *

  1. gofynion cyfreithiol, moesegol a phroffesiynol perthnasol a gweithdrefnau'r sefydliad 

  2. pwysigrwydd ymddiriedaeth, didwylledd a gonestrwydd wrth weithio gyda chyfranogwyr, cydweithwyr ac eraill

  3. pwysigrwydd annog ac ysgogi cyfranogwyr ac eraill a meithrin eu hunanhyder

  4. pwysigrwydd cyfathrebu'n effeithiol gyda chyfranogwyr, cydweithwyr ac eraill

  5. pam ei bod yn bwysig gallu mabwysiadu gwahanol ddulliau yn unol â gwahanol sefyllfaoedd ac anghenion

  6. pwysigrwydd adnabod ac ymateb i derfynau corfforol ac emosiynol sy'n gymwys i gyfranogwyr ac eraill

  7. y mathau o amrywiaeth rydych yn debyg o ddod ar eu traws wrth weithio gyda chyfranogwyr, cydweithwyr ac eraill

  8. pam bod amrywiaeth ymhlith cyfranogwyr, cydweithwyr ac eraill yn bwysig a pham y dylid parchu ac adeiladu ar hyn

  9. mathau o wahaniaethu all ddigwydd a sut i herio'r rhain yn effeithiol

  10. y mathau o wrthdaro rydych yn debygol o ddod ar eu traws wrth weithio gyda chyfranogwyr ac eraill a sut i ddelio â'r rhain yn unol â'r gweithdrefnau

Gweithio'n effeithiol gyda chydweithwyr ac eraill

  1. ystod a swyddogaethau cydweithwyr ac eraill y byddwch o bosib yn gweithio gyda nhw

  2. pam ei bod yn bwysig rhoi argraff bositif ohonoch eich hun a'ch sefydliad i eraill, a sut i wneud hyn

  3. dulliau o gyd-drafod sgiliau a chytuno ar amcanion cyffredinol

  4. y dulliau o gynllunio gyda chydweithwyr ac eraill a chytuno ar swyddogaethau unigol

  5. natur deinameg tîm gyda chydweithwyr ac eraill, ac effaith hyn ar weithio'n effeithiol

  6. gwahanol swyddogaethau mewn tîm a sut i weithio'n effeithiol fel aelod o dîm

  7. y mathau o sefyllfaoedd pryd y bydd angen i chi addasu cynlluniau tîm o bosib

  8. pwysigrwydd addasu, cyd-drafod a chytuno ar gynlluniau sesiwn neu raglen, a sut i wneud hyn

  9. pwysigrwydd adnabod pryd y mae angen cymorth a chefnogaeth arnoch yn eich gwaith ac adnabod ffynonellau cymorth a chefnogaeth

  10. pwysigrwydd creu a defnyddio cyfleoedd i adolygu gweithio'n effeithiol

  11. dulliau o roi adborth adeiladol i gydweithwyr ac eraill

  12. sut i gael a defnyddio adborth gan gydweithwyr ac eraill er mwyn gwella arferion gweithio

  13. y dulliau o ddirprwyo gwaith i gydweithwyr ac eraill a hynny'n effeithiol a diogel

  14. y dulliau o fonitro gwaith cydweithwyr heb achosi unrhyw aflonyddwch

  15. sut i fesur eu perfformiad yn erbyn amcanion cytunedig y sesiwn neu'r rhaglen

  16. sut i ddarparu cefnogaeth effeithiol i gydweithwyr ac eraill a phwysigrwydd gwneud hynny


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


1. Cyfranogwyr

1.1 oedolion

1.2 plant a phobl ifanc

1.3 grwpiau nad yw eu haelodau yn adnabod ei gilydd

1.4 cyfranogwyr sydd ag anghenion arbennig mewn perthynas â'r gweithgaredd

1.5 unigolion

1.6 grwpiau

2. Cydweithwyr

2.1 staff ar lefel uwch

2.2 gweithio ar yr un lefel

2.3 gweithio mewn rôl ategol

2.4 cydweithwyr annibynnol

2.5 cydweithwyr o sefydliadau eraill

3. Eraill

3.1 rhieni

3.2 cleientiaid

3.3 aelodau'r cyhoedd (sy'n gweithio mewn lleoliadau cyhoeddus neu sydd â hawliau tramwy cyhoeddus)

3.4 oedolion eraill fel arweinwyr partïon

4. Terfynau

4.1 corfforol

4.2 emosiynol

5. Cefnogaeth

5.1 cyngor a gwybodaeth

5.2 cymorth uniongyrchol

5.3 rhannu sgiliau

5.4 cefnogaeth emosiynol

6. Adborth

6.1 ffurfiol

6.2 anffurfiol

6.3 cadarnhaol

6.4 negyddol

6.5 awgrymiadau ar gyfer gwella


Gwybodaeth Cwmpas

1. Gwahanol ddulliau

1.1 dulliau arwain

1.2 dulliau cyfathrebu

1.3 dulliau dysgu


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

​Rhestrir isod y prif sgiliau a'r priodoleddau generig sy'n gymwys i'r dasg o gyflwyno Rhaglenni Awyr Agored.

  1. Empathi

  2. Gwrando'n weithredol

  3. Hyfforddi

  4. Cyfathrebu

  5. Ymgynghori

  6. Dylanwadu a pherswadio

  7. Dirprwyo

  8. Diplomyddiaeth

  9. Galluogi

  10. Hwyluso

  11. Dilyn

  12. Arwain drwy esiampl

  13. Rheoli ymddygiad heriol

  14. Mentora

  15. Ysgogi

  16. Trafod a chyfaddawdu

  17. Sicrhau adborth

  18. Cynllunio a gwerthuso

  19. Darparu adborth

  20. Pennu amcanion

  21. Gwerthfawrogi a chefnogi eraill


Geirfa

Adeiladol

Gonest, cefnogol, realistig ac uniongyrchol

*
 *

Canllawiau moesegol

Fframwaith o egwyddorion a gwerthoedd sy'n cyfarwyddo pob agwedd ar arferion gweithio


*

Amcanion

Set o ddeilliannau sy'n gysylltiedig â'r gweithgaredd arfaethedig ar eich cyfer chi, eich sefydliad neu gyfranogwyr


*

Terfynau corfforol ac emosiynol

Deall sut i gydbwyso cryfderau corfforol ac emosiynol unigolion â sialensiau cyffredinol a phenodol yr awyr agored a sut i adnabod a rheoli'r sialensiau a'r terfynau perthynol ar gyfer lles a llwyddiant yr unigolyn.


*

Staff sydd â rhywfaint o brofiad

Person sydd wedi gweithio yn y sector awyr agored am o leiaf ddau neu dri thymor a neu ddwy neu dair blynedd.  Mae'n bosib y bydd e/hi wedi symud ymlaen o swydd iau a neu swydd gychwynnol i ymdrin erbyn hyn â gweithgareddau, lleoliadau a/neu gyfranogiadau mwy cymhleth.


*

Dull gweithio

Yn ymwneud â dulliau arwain, rheoli a chyfathrebu


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r safon hon yn cyplysu â SKAOP1, SKAOP2, SKAOP3, SKAOP4 a SKAOP13


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAD14

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Hamdden; teithio a thwristiaeth, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

sefydlu; cynnal a chadw; cydberthnasau gweithio; awyr agored; effeithiol; cydweithwyr; cyfranogwyr; sefydliadau