Hybu cadwraeth amgylcheddol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo i sefydlu codau ymarfer gogyfer â sut y caiff safleoedd eu defnyddio, gan sicrhau bod y codau hyn yn cael eu deall, ac addysgu cyfranogwyr yn egwyddorion cadwraeth amgylcheddol.
Mae'r safon hon yn ymwneud â:
- cyfrannu at a rhoi mewn grym godau ymarfer gogyfer â defnyddio'r amgylchedd
Mae'r safon hon ar gyfer staff datblygu chwaraeon a staff profiadol sy'n gweithio yn yr awyr agored ac sy'n gallu gweithio heb unrhyw oruchwyliaeth uniongyrchol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cyfrannu at a rhoi ar waith godau ymarfer ar gyfer defnyddio'r amgylchedd
*
*
cyfrannu at y codau ymarfer yn seiliedig ar arfer a chyfarwyddyd cyfredol
monitro bod yr holl weithgareddau sydd dan eu rheolaeth yn cydymffurfio â'r côd ymarfer a'r cytundebau
gwerthuso effaith y gweithgareddau ar y safleoedd a ddefnyddir gennych
cymryd cyfleoedd i wella'r amgylchedd naturiol mewn ffordd sy'n gydnaws â'r safle
adrodd am effaith y gweithgareddau ar y safleoedd hyn wrth y cydweithiwr cyfrifol
sicrhau bod y cyfranogwyr yn ymwybodol o'r codau ymarfer a'r cytundebau cyfredol ar gyfer y safle y byddant yn ei ddefnyddio
sicrhau bod y cyfranogwyr yn ymwybodol o'r effaith posib ar y safle
sicrhau bod y cyfranogwyr yn ymwybodol o sut y gellir cadw'r effaith ar y safle i'r lleiafswm
tynnu sylw'r cyfranogwyr at fannau bregus y safle a dangos sut y dylid trin y mannau hyn
rhoi i'r cyfranogwyr enghreifftiau trosglwyddadwy o arferion a chanllawiau ar sut i drin safleoedd eraill mewn ffyrdd tebyg
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cyfrannu at a rhoi ar waith godau ymarfer ar gyfer defnyddio'r amgylched
*
*
pwysigrwydd gwarchodaeth amgylcheddol a sut y gall codau gyfrannu at hyn
sut i roi ar waith godau cyfredol a sut i gyfrannu at eu datblygu oddi mewn i'w maes cyfrifoldeb
pwysigrwydd bod pob aelod staff sy'n gyfrifol am ymgeisydd yn sicrhau ei fod/bod yn deall y codau ymarfer a'r cytundebau
sut i reoli a monitro gweithgareddau er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r codau ymarfer
sut i fonitro a gwerthuso effaith gweithgareddau ar safleoedd
sut y gellir gwella'r amgylchedd naturiol mewn ffordd sy'n gydnaws â'r safle
y gweithdrefnau riportio y dylid eu dilyn wrth weithredu codau ymarfer
pwysigrwydd bod y cyfranogwyr yn deall y codau ymarfer a'r cytundebau ynghylch defnyddio safleoedd
sut i wirio a chadarnhau dealltwriaeth y cyfranogwyr o'r effaith bosib i'r safle a mesurau y gellir eu cymryd i leihau effeithiau amgylcheddol
mannau bregus ar y safle a sut i sicrhau bod cyfranogwyr yn gwybod am y rhain
pwysigrwydd darparu model trosglwyddadwy yn nhermau arferion a chanllawiau amgylcheddol a sut i wneud hynny
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Arferion a chanllawiau
1.1 cenedlaethol
1.2 lleol
1.3 trefniadaethol
*
*
2. Effaith
2.1 difrod
2.2 llygredd
2.3 aflonyddwch
3. Cydweithiwr sy'n gyfrifol
3.1 rheolwr llinell
3.2 uwch-gydweithiwr
3.3 oedolyn arall
4. Cyfranogwyr
4.1 oedolion
4.2 plant a phobl ifanc
4.3 grwpiau nad yw eu haelodau yn adnabod ei gilydd
4.4 cyfranogwyr sydd ag anghenion arbennig mewn perthynas â'r gweithgaredd
4.5 unigolion
4.6 grwpiau
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Rhestrir isod y prif sgiliau a'r priodoleddau generig sy'n gymwys i'r dasg o gyflwyno Rhaglenni Awyr Agored.
Empathi
Gwrando'n weithredol
Hyfforddi
Cyfathrebu
Ymgynghori
Dylanwadu a pherswadio
Dirprwyo
Diplomyddiaeth
Galluogi
Hwyluso
Dilyn
Arwain drwy esiampl
Rheoli ymddygiad heriol
Mentora
Ysgogi
Trafod a chyfaddawdu
Sicrhau adborth
Cynllunio a gwerthuso
Darparu adborth
Pennu amcanion
Gwerthfawrogi a chefnogi eraill
Geirfa
Arferion a chanllawiau
Arferion da cyfredol sydd wedi eu hen sefydlu mewn perthynas â gweithgareddau, eu cyflwyno a'u heffaith ar yr amgylchedd, gan gydnabod bod rhaid i bob datblygiad ddod o dan reoliadau a gweithdrefnau cyffredinol y sefydliad.
Safleoedd
Lleoliadau gweithgaredd, mannau gweithgaredd, ar neu heb fod yn y ganolfan a'r ardaloedd oddi amgylch e.e. clogwyni, lleoliadau canŵio.
Model trosglwyddadwy
Cyfleoedd i drosglwyddo'r dysgu i gyd-destunau yn y dyfodol sy'n gysylltiedig â chynaladwyedd amgylcheddol
*
*
Mannau bregus
Mannau sy'n gofyn am anghenion a gofynion penodol ychwanegol
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon hon yn cyplysu â SKAOP1, SKAOP2, SKAOP3, SKAOP5 a SKAOP22