Cynnal a chadw iechyd, diogelwch, lles a diogeledd cyfranogwyr a staff

URN: SKAOP3
Sectorau Busnes (Suites): Rhaglenni Awyr Agored,Rheoli Hamdden,Datblygu Chwaraeon
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu a chynnal a chadw meddylfryd o iechyd, diogelwch a diogeledd mewn chwaraeon, hamdden, yr awyr agored a mathau eraill o weithgareddau cysylltiedig.

Mae'r safon hon yn cynnwys tri deilliant, sef:

  1. adnabod peryglon ac asesu risgiau i iechyd, diogelwch a diogeledd

  2. cyfrannu at ddatblygu a chynnal a chadw gweithdrefnau gweithredu brys

  3. cyfrannu at gynnal a chadw a gwella gweithdrefnau ar gyfer gwarchod cyfranogwyr sy'n agored i niwed

Mae'r safon hon ar gyfer y rhai hynny sydd â chyfrifoldebau arolygol neu ddatblygu chwaraeon, ac ar gyfer staff sy'n gweithio yn yr awyr agored a chanddynt rywfaint o brofiad ac sy'n gallu gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Adnabod peryglon ac asesu'r risgiau i iechyd, diogelwch a diogeledd


*

  1. archwilio cyfleusterau, cyfarpar a gweithgareddau am unrhyw beryglon

  2. casglu gwybodaeth oddi wrth bob un o'r budd-ddeiliaid am beryglon posib

  3. cofnodi pob perygl o bwys, pwy sy'n agored i'r peryglon hyn, ac unrhyw weithdrefnau diogelwch cyfredol

  4. asesu'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r peryglon hyn a ph'un ai a yw'r risgiau yn dderbyniol yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

  5. cyfeirio materion sydd y tu allan i'ch swyddogaeth at sylw person sydd ag arbenigedd penodol pan fydd asesu'r risgiau y tu hwnt i lefel eich cymhwyster

  6. adrodd am unrhyw risgiau annerbyniol gan ddilyn rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

  7. parhau i fonitro am beryglon newydd ac asesu eu risgiau a hynny'n rheolaidd

Cyfrannu at ddatblygu a chynnal a chadw gweithdrefnau gweithredu arferol a brys

  1. gosod y gweithdrefnau ar waith er mwyn cadw risgiau i lefel dderbyniol yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

  2. rhoi i'r budd-ddeiliaid y wybodaeth sydd ei hangen arnynt am bolisïau a gweithdrefnau a'u hannog a'u hysgogi i ddilyn y gweithdrefnau

  3. ymyrryd pan na fydd gweithdrefnau'n cael eu dilyn

  4. cyfrannu at adolygu ac addasu gweithdrefnau pan fydd angen

  5. casglu adborth oddi wrth fudd-ddeiliaid ar ba mor dda mae'r gweithdrefnau'n gweithio

Cyfrannu at gynnal a chadw a gwella gweithdrefnau er mwyn gwarchod cyfranogwyr sy'n agored i niwed

  1. cyflawni eich cyfrifoldebau dros warchod cyfranogwyr sy'n agored i niwed yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

  2. ymyrryd pan na fydd gweithdrefnau'n cael eu dilyn

  3. annog eraill i riportio unrhyw amheuon sydd ganddynt ynghylch cam-drin posib

  4. dilyn y gweithdrefnau cywir pan gyfyd amheuon ynghylch cam-drin posib

  5. cadw at reoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer cynnal a chadw a diogelu data

  6. cefnogi eraill er mwyn iddynt gadw at reoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer cynnal a chadw a diogelu data

  7. sicrhau bod staff sy'n ymwneud ag achosion o gam-drin tybiedig yn cael unrhyw gefnogaeth all fod ei hangen arnynt

  8. casglu adborth oddi wrth eraill ar ba mor dda mae'r gweithdrefnau'n gweithio

  9. defnyddio'r adborth hwn i wella gweithdrefnau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Adnabod peryglon ac asesu risgiau i iechyd, diogelwch a diogeled


*

  1. y weithdrefn gogyfer ag archwilio cyfleusterau, cyfarpar a gweithgareddau am beryglon

  2. y gweithdrefnau gogyfer â chasglu a chofnodi gwybodaeth oddi wrth bob un o'r budd-ddeiliaid am beryglon posib

  3. gofynion cyfreithiol a sefydliadol sy'n gysylltiedig â riportio peryglon a risgiau

  4. y math o wybodaeth sydd angen ei chasglu er mwyn cynnal asesiad risg effeithiol

  5. sut i asesu'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r peryglon hyn

  6. cyfyngiadau technegol wrth asesu risgiau, yr achosion hynny pryd y bydd asesu'r risgiau y tu hwnt i lefel eich cymhwyster a pham y dylech gyfeirio'r mater at sylw person sydd ag arbenigedd penodol 

  7. sut i riportio unrhyw risgiau annerbyniol

  8. pam ei bod yn bwysig parhau i fonitro am beryglon newydd ac asesu eu risgiau'n rheolaidd

  9. yr amgylchiadau pryd y byddai'n rhaid rhoi gwybod i awdurdodau am ddiffyg rheoli risgiau yn effeithiol

Cyfrannu at ddatblygu a chynnal a chadw gweithdrefnau arferol a brys

  1. y broses gogyfer â rhoi gweithdrefnau mewn grym er mwyn cadw risgiau i lefel dderbyniol

  2. technegau cyfathrebu ac ysgogi gogyfer â rhoi'r wybodaeth i fudd-ddeiliaid

  3. pwysigrwydd ymyrryd pan na fydd gweithdrefnau'n cael eu dilyn

  4. y broses gogyfer ag adolygu ac addasu gweithdrefnau pan fydd angen

  5. pryd i geisio a chael arbenigedd penodol wrth ddatblygu gweithdrefnau diogelwch a sut i wneud hynny

  6. technegau casglu a dadansoddi data

Cyfrannu at gynnal a chadw a gwella gweithdrefnau ar gyfer diogelu cyfranogwyr sy'n agored i niwed* *

  1. eich cyfrifoldebau dros warchod cyfranogwyr sy'n agored i niwed yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

  2. pam ei bod yn bwysig annog budd-ddeiliaid i riportio unrhyw amheuon sydd ganddynt ynghylch cam-drin posib

  3. y gweithdrefnau cywir pan gyfyd amheuon ynghylch cam-drin posib

  4. pam ei bod yn bwysig diogelu, ac annog eraill i ddiogelu, gwybodaeth gyfrinachol, a'u cyfrifoldebau cyfreithiol i wneud hynny

  5. canllawiau a gweithdrefnau i'w dilyn wrth sicrhau bod staff sy'n ymwneud ag achosion o gam-drin tybiedig yn derbyn y gefnogaeth all fod ei hangen arnynt

  6. dulliau o gasglu adborth oddi wrth fudd-ddeiliaid ar ba mor dda mae gweithdrefnau'n gweithio

  7. sut i ddefnyddio'r adborth hwn i wella gweithdrefnau a pham ei bod yn bwysig gwneud hynny


Cwmpas/ystod

1. Budd-ddeiliaid

1.1 cydweithwyr ac aelodau'r tîm

1.2 cyfranogwyr

1.3 cleientiaid

1.4 gwylwyr

1.5 perchnogion cyfleusterau

2.* * Arbenigedd penodol

2.1 cynghorydd technegol

2.2 rheolwr gweithgareddau

2.3 rheolwr cyfleusterau

2.4 rheolwr iechyd a diogelwch

2.5 rheolwr llinell

3. Peryglon

3.1 i iechyd, gan gynnwys iechyd emosiynol a neu seicolegol

3.2 i ddiogelwch

3.3 i ddiogeledd

4. *Gweithdrefnau

4.1 gweithdrefnau gweithredu arferol

4.2 gweithdrefnau gweithredu brys


*

5. Risgiau

5.1 i iechyd

5.2 i ddiogelwch

5.3 i ddiogeledd


*

6. Cam-drin

6.1 corfforol

6.2 esgeulustod

6.3 emosiynol

6.4 rhywiol

6.5 bwlio


*

7. Gweithdrefnau

7.1 gweithdrefnau gweithredu arferol

7.2 gweithdrefnau gweithredu brys

8. *Eraill

8.1  rhieni

8.2  cleientiaid

8.3 aelodau'r cyhoedd sy'n gweithio mewn lleoliadau cyhoeddus neu sydd â hawl dramwy gyhoeddus

8.4  oedolion eraill fel arweinwyr partïon


*

9. Adborth

9.1 ffurfiol

9.2 anffurfiol

9.3 cadarnhaol

9.4 negyddol

9.5 awgrymiadau ar gyfer gwella


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

​Rhestrir isod y prif sgiliau a'r priodoleddau generig sy'n gymwys i'r dasg o gyflwyno Rhaglenni Awyr Agored.

  1. Empathi

  2. Gwrando'n weithredol

  3. Hyfforddi

  4. Cyfathrebu

  5. Ymgynghori

  6. Dylanwadu a pherswadio

  7. Dirprwyo

  8. Diplomyddiaeth

  9. Galluogi

  10. Hwyluso

  11. Dilyn

  12. Arwain drwy esiampl

  13. Rheoli ymddygiad heriol

  14. Mentora

  15. Ysgogi

  16. Trafod a chyfaddawdu

  17. Sicrhau adborth

  18. Cynllunio a gwerthuso

  19. Darparu adborth

  20. Pennu amcanion

  21. Gwerthfawrogi a chefnogi eraill


Geirfa

Peryglon

Perygl yw unrhyw ffynhonnell difrod, niwed neu effeithiau iechyd niweidiol posib ar rywbeth neu rywun dan amgylchiadau arbennig.

Rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

Yn nodweddiadol, bydd y dogfennau hyn yn gosod y safonau, gweithdrefnau a'r gofynion ar gyfer cyflwyno'r gweithgaredd.  Gallant gynnwys rhestri cyfarpar, amlinelliad o gynlluniau sesiwn, pwyntiau a gweithdrefnau diogelwch.  Gallant hefyd gyfeirio at gyrff llywodraethol Cenedlaethol (CLlC) penodol neu gyrff gweithgarwch cenedlaethol eraill perthnasol yn nhermau gwybodaeth a chanllawiau sy'n ymwneud â gweithgareddau.  Gall y dogfennau hefyd gyfeirio at lefelau staffio yn nhermau cymarebau, cymwysterau a'r hyfforddiant/asesiad yr ymgymerwyd ag e, a gall fod ynghlwm wrth CLlC, ymgynghorwyr technegol a nodweddion allanol neu fewnol eraill.

Cam-drin posib

Gall cyfranogwyr sydd o bosib wedi bod yn ddioddefwyr rhyw fath o gam-drin arddangos arwyddion a dangosyddion (heblaw siarad yn uniongyrchol am y mater).  Oddi mewn i'ch swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau, gallwch ddysgu am yr arwyddion a'r dangosyddion hyn er mwyn i chi o bosib allu cefnogi unigolion.

Bydd eich hyfforddiant wedi eich paratoi ar gyfer yr agwedd bwysig hon o'ch swyddogaeth a byddwch wedi dysgu bod yna wahanol fathau o gamdrin.  Mae'n amlwg bod hwn yn faes cymhleth a sensitif ac mae bob tro'n beth doeth trafod unrhyw bryderon neu gwestiynau sydd gennych gyda chydweithiwr mwy profiadol a/neu gydweithiwr hŷn ac er mwyn sicrhau eich bod yn dilyn rheoliadau a gweithdrefnau eich sefydliad.


*

Eraill

Pobl e.e. cyfranogwyr, athrawon cysylltiedig ac arweinydd parti/oedolion eraill.  Gall hefyd gynnwys budd-ddeiliaid eraill cysylltiedig, o ysgolion, awdurdodau lleol a rhywrai eraill sydd â diddordeb.

Arbenigedd penodol

Mae darparwyr awyr agored wedi penodi neu enwi staff sydd ag arbenigedd penodol mewn iechyd a diogelwch a rheoli risg, boed hynny mewn sefydliad bach neu fawr.

Cyfranogwyr sy'n agored i niwed

Gall hyn fod yn bobl ifanc, y rhai hynny sydd ag anghenion arbennig, ond mae hefyd yn ddibynnol ar weithgaredd – gall fod y rhai hynny sy'n ofni rhyw agwedd ar y gweithgaredd; gall fod y rhai hynny sydd â chyflwr neu angen meddygol, fel yr henoed.  Rhaid i 'agored i niwed' fod yn fwy na dim ond dan 18 oed a'r rhai sydd ag AAA – rhaid i'r peth fod yn berthnasol i sefyllfa.


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r safon hon yn cyplysu â SKAOP1, SKAOP2, SKAOP7, SKAOP10 a SKAOP12


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SA44NC27

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Hamdden; teithio a thwristiaeth, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Iechyd; diogelwch; lles; diogeledd; cwsmeriaid; staff; awyr agored; gwarchodaeth; risgiau; peryglon; gweithdrefnau; camdrin