Hwyluso dealltwriaeth ac ymchwil y cyfranogwr o’r amgylchedd

URN: SKAOP21
Sectorau Busnes (Suites): Rhaglenni Awyr Agored
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â galluogi pobl i gasglu, cyfosod, dadansoddi, cyflwyno a dehongli data am yr amgylchedd biolegol a daearyddol.  Bydd hyn yn cael ei wneud fel arfer drwy fynd â chyfranogwyr ar deithiau cyfyngedig, ar droed yn aml, drwy ardal adnabyddus sy'n gymharol rydd o beryglon.  Mae'r cyfranogwyr yn debygol o fod yn blant a phobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn astudiaethau maes.

Mae'r safon hon yn cynnwys tri phrif ddeilliant, sef:

  1. paratoi ar gyfer ymchwilio'r amgylchedd

  2. paratoi cyfranogwyr ar gyfer ymchwilio a deall yr amgylchedd

  3. datblygu sgiliau ymchwilio'r cyfranogwyr a'u dealltwriaeth o'r amgylchedd

Mae'r safon hon ar gyfer aelodau staff profiadol sy'n gweithio yn yr awyr agored ac sy'n gallu gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol.  Cyd-destunau nodweddiadol – gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar ddeilliannau addysgol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​**Paratoi ar gyfer ymchwilio'r amgylchedd

**1. adnabod nodau ac amcanion dysgu ymchwilio i'r amgylchedd

  1. sicrhau bod yr ymchwiliad yn gwneud y defnydd gorau o'r opsiynau sydd ar gael a'i fod yn cyfarfod ag anghenion y cyfranogwyr

  2. sicrhau bod y cyd-destun a'r cefndir ar gyfer yr ymchwiliad yn dwyn perthynas â'r dysgu a ddymunir

  3. sicrhau bod ffiniau diogelwch ar gael sy'n dilyn rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

  4. gwirio a chytuno ar bob agwedd o'r daith ymchwil i'r amgylchedd gyda chydweithiwr cyfrifol

*Paratoi'r cyfranogwyr ar gyfer ymchwilio a deall yr amgylchedd
*

  1. crisialu ffocws ac amcanion y daith ymchwil i'r amgylchedd gyda'r cyfranogwyr

  2. esbonio cefndir a chyd-destun y daith ymchwil wrth y cyfranogwyr

  3. hyrwyddo gwerth ymwybyddiaeth a dealltwriaeth amgylcheddol i'r cyfranogwyr

  4. annog y cyfranogwyr i berchenogi'r ymchwil i'r amgylchedd drostynt eu hunain, gan esbonio'n glir y ffiniau diogelwch ar yr un pryd

  5. pwysleisio pwysigrwydd sylwi ar yr amgylchedd yn ystod yr ymchwiliad ac o rannu'r arsylwadau hyn gydag eraill

  6. annog y cyfranogwyr i ofyn cwestiynau ac i fod yn gallu delio â'r cwestiynau hyn yn llawn gwybodaeth

**Datblygu sgiliau ymchwilio'r cyfranogwyr a'u dealltwriaeth o'r amgylchedd

**12. annog ymwybyddiaeth a dealltwriaeth amgylcheddol y cyfranogwyr i gyd-fynd â'r nodau ac amcanion dysgu arfaethedig

  1. deffro ymwybyddiaeth y cyfranogwyr o'r ystod o dechnegau gwaith maes a sut y mae'r rhain yn cael eu defnyddio mewn amgylcheddau gwahaniaethol

  2. rheoli casglu a chyfosod data

  3. cynorthwyo'r cyfranogwyr i gyflwyno, dadansoddi a dehongli canfyddiadau

  4. ymyrryd pan fydd hyn yn cefnogi amcanion dysgu'r daith ymchwil

  5. gwneud defnydd o'r amodau cyffredinol, digwyddiadau annisgwyl, y safle a medrusrwydd y cyfranogwyr


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​**Paratoi ar gyfer ymchwilio'r amgylchedd

**1. sut i adnabod nodau ac amcanion y daith ymchwil i'r amgylchedd a'u perthynas â chwricwla a meysydd llafur penodol

  1. gwerth ymwybyddiaeth a dealltwriaeth amgylcheddol i gyfranogwyr a'r mathau o ymchwiliadau a gweithgareddau sy'n annog hyn

  2. pam ei bod yn bwysig adnabod anghenion y cyfranogwyr a sut i wneud hyn

  3. yr opsiynau sydd ar gael yn yr ardal leol ar gyfer ymchwilio'r amgylchedd

  4. sut i ddewis ymchwiliad sy'n gwneud y defnydd gorau o'r opsiynau sydd ar gael ac sydd hefyd yn cwrdd ag anghenion a chryfderau dysgu'r cyfranogwyr

  5. pwysigrwydd sicrhau bod y cyd-destun a'r cefndir ar gyfer yr ymchwiliad yn dwyn perthynas â'r dysgu a ddymunir

  6. y ffiniau diogelwch a'r gofynion iechyd a diogelwch sy'n sicrhau diogelwch y cyfranogwyr ac sy'n galluogi cyflawni amcanion cytunedig y gweithgaredd

  7. manteision gwirio a chytuno ar bob agwedd o'r daith amgylcheddol gyda pherson cyfrifol

**Paratoi cyfranogwyr ar gyfer archwilio a deall yr amgylchedd

**9. pam ei bod yn bwysig crisialu ffocws ac amcanion y daith ymchwil i'r amgylchedd gyda'r cyfranogwyr

  1. pwysigrwydd esbonio cefndir a chyd-destun y daith ymchwil wrth y cyfranogwyr **

  2. yr amgylcheddau lleol a chyd-destun yr ymchwiliad

  3. pwysigrwydd hybu dealltwriaeth y cyfranogwyr o ymwybyddiaeth amgylcheddol

  4. pam ei bod yn bwysig bod y cyfranogwyr yn perchenogi'r ymchwil i'r amgylchedd drostynt eu hunain

  5. pam bod cael digon o egwyddorion ar gyfer yr ymchwiliad yn bwysig er mwyn hwyluso dealltwriaeth drwy ddysgu effeithiol

  6. pwysigrwydd bod y cyfranogwyr yn sylwi drostynt eu hunain ac yn rhannu'r arsylwadau hyn gydag eraill yn y grŵp

  7. sut i annog y cyfranogwyr i arsylwi, ac am beth y dylent fod yn edrych

  8. sut i annog y cyfranogwyr i ofyn cwestiynau ac i fod yn gallu delio â'r cwestiynau hyn yn llawn gwybodaeth ac mewn ffordd gadarnhaol

  9. ffynonellau gwybodaeth eraill y gallai'r cyfranogwyr neu'r ymgeisydd eu defnyddio

**Datblygu sgiliau ymchwilio'r cyfranogwyr a'u dealltwriaeth o'r amgylchedd

**19. y prif gysyniadau amgylcheddol sy'n tanategu'r ymchwiliad

  1. sut i annog ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyfranogwyr o'r amgylchedd yn unol â'r nodau a'r amcanion dysgu arfaethedig

  2. gwahanol dechnegau gwaith maes a sut y gellir cymhwyso'r rhain i amrywiaeth o amgylcheddau

  3. prif nodweddion yr amgylcheddau lleol, gan gynnwys planhigion ac anifeiliaid, daeareg gyffredinol, geomorffoleg, yr hinsawdd, mathau o bridd a defnyddio'r tir

  4. safleoedd lleol a pham eu bod yn ddiddorol, pam eu bod yn fregus a sut i'w gwarchod

  5. technegau casglu a chyfosod data

  6. sut i gynorthwyo'r cyfranogwyr i gyflwyno, dadansoddi a dehongli canfyddiadau'n gywir

  7. sut i ymyrryd pan fydd hyn yn cefnogi amcanion dysgu'r ymchwiliad

  8. sut i wneud defnydd o'r amodau cyffredinol, digwyddiadau annisgwyl, y safle a medrusrwydd y cyfranogwyr **


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

​**1. Cyfranogwyr

**1.1 oedolion

1.2 plant a phobl ifanc

1.3 grwpiau nad yw eu haelodau'n adnabod ei gilydd

1.4 cyfranogwyr sydd ag anghenion penodol mewn perthynas â'r gweithgaredd

1.5 unigolion

1.6 grwpiau

**2. Ffiniau diogelwch

**2.1 ffiniau ffisegol

2.2 meini prawf ar gyfer rhoi'r gorau i'r profiad

2.3 rheolau diogelwch cyfranogwyr

2.4 canllawiau perthnasol ar gyfer gweithgareddau o'r math hyn

**3. Technegau

**3.1 yn ymwneud â gweithio gyda phlanhigion

3.2 yn ymwneud â gweithio gydag anifeiliaid

3.3 yn ymwneud â gweithio gyda daearyddiaeth ddynol

3.4 yn ymwneud â gweithio gyda daearyddiaeth ffisegol

**4. Amgylcheddau

**4.1 trefol

4.2 gwledig

4.3 tir uchel

4.4 arfordirol

4.5 cynefinoedd/ecosystemau a enwir

5. * ***Cydweithiwr cyfrifol

**5.1 rheolwr llinell

5.2 uwch-gydweithiwr

5.3 oedolyn arall

6. * ***Opsiynau

**6.1   lleoliadau ar y safle

6.2   lleoliadau oddi ar y safle


Gwybodaeth Cwmpas

​**1. Iechyd a Diogelwch

**1.1 deddfwriaeth iechyd a diogelwch perthnasol

1.2 gweithdrefnau a gofynion y sefydliad

1.3 egwyddorion dyletswydd gofal

1.4 diogelu

1.5 iechyd emosiynol/seicolegol

1.6 rheoliadau trwyddedu/ gofynion arolwg ar gyfer gweithgareddau/canolfannau

1.7 gwybodaeth dechnegol, gan gynnwys cyfarwyddyd trefniadaethol cenedlaethol mewn perthynas ag astudio'r amgylchedd

1.8 y mathau o hapddigwyddiadau sy'n debygol o ddigwydd: tywydd, damwain ac achos brys, newidiadau anorfod a sut i gynllunio ar gyfer y rhain

1.9 gweithdrefnau argyfwng safono


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

'Curricula' a 'syllabi' (unigol: cwricwlwm a syllabus)

Yng nghyd-destun addysg awyr agored a grwpiau ysgol yn bennaf, cwricwlwm yw'r cynlluniau addysg cyffredinol ar gyfer yr ysgol – datganiadau o amcanion cyffredinol a deilliannau dysgu.  Mewn gwrthgyferbyniad, mae maes llafur (syllabus) yn fwy ymarferol ac mae'n disgrifio cynnwys y cwricwlwm (a sut y bydd y cwricwlwm yn cael ei gyflwyno/gyflawni) ac ystyrir maes llafur fel un rhan ohono.

**Rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

**Yn nodweddiadol, bydd y dogfennau hyn yn gosod y safonau, y gweithdrefnau a'r gofynion ar gyfer cyflwyno gweithgaredd.  Gallant gynnwys rhestri cyfarpar, amlinelliad o gynlluniau sesiwn, pwyntiau a gweithdrefnau diogelwch.  Gallant hefyd gyfeirio at gyrff llywodraethol Cenedlaethol (CLlC) penodol neu gyrff gweithgarwch cenedlaethol eraill perthnasol yn nhermau gwybodaeth a chanllawiau sy'n ymwneud â gweithgareddau.  Gall y dogfennau hefyd gyfeirio at lefelau staffio a safonau yn nhermau cymarebau, cymwysterau a'r hyfforddiant/asesiad yr ymgymerwyd ag e, a gall gyplysu â CLlC, ymgynghorwyr technegol a nodweddion allanol neu fewnol eraill.  Mae i ddogfennau o safon dda sawl defnydd ac efallai y bydd ar amrywiaeth o bartïon mewnol ac allanol a budd-ddeiliad eu hangen.  Mae'r dogfennau o gymorth i gyflwyno gwybodaeth glir a chyson i aelodau staff ac eraill.

**Perchenogaeth

**Mewn perthynas ag ymwneud y cyfranogwyr ym mhob agwedd ar y gweithgaredd/sesiwn, gan gynnwys lefelau priodol o gyfranogi yn y gwaith o gynllunio, trefnu a chynnal y sesiwn ei hun, gyda hyd yn oed ambell agwedd ar wneud penderfyniadau ynglŷn ag opsiynau, gan gymryd i ystyriaeth brofiad a gallu pawb sy'n cymryd rhan.  Gall y cyfranogi hwn ddod ag ymdeimlad llawnach o fodlonrwydd a dysgu gan fod cyfrifoldeb yn gofyn am fod yn wybodus ac am ddealltwriaeth/gwerthfawrogiad o'r problemau - profiad gwell, mwy boddhaus.  Er hynny, yn y pen draw rhaid i hyfforddwr/arweinydd y gweithgaredd bob tro ysgwyddo'r cyfrifoldeb/atebolrwydd eithaf, yn arbennig yn nhermau diogelwch, yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad.

**Ffiniau diogelwch

**Set o ffeithiau neu ffiniau yw'r rhain sy'n gosod terfynau i'r cyfranogwyr mewn perthynas â diogelwch oddi mewn i'r gweithgareddau.  Nid rhain yw'r unig agwedd ar reoli diogelwch oherwydd rhaid ystyried hefyd natur ymfflamychol ac anghysondeb y ffactor dynol!  Er hynny, gall ffiniau diogelwch fod yn ddefnyddiol iawn pan fydd y rhain yn cael eu cyflwyno i gyfranogwyr ac yn sgil hynny gellir cael dealltwriaeth gyfrannol a chytunedig o ffiniau a gall hyn helpu i gynnal a chadw diogelwch.


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r safon hon yn cyplysu â SKAOP3, SKAOP4 a SKAOP7.


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAD36

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Hamdden; teithio a thwristiaeth, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

awyr agored; amgylchedd; ymchwilio; dealltwriaeth; cyfranogwr; astudiaethau maes; data; daeryddol; biolegol