Hwyluso a chyflwyno profiadau anturus
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag arwain pobl drwy brofiadau anturus yn yr awyr agored. Enghreifftiau posib yw dringo creigiau, canŵio ar ddŵr rhaeadrog, cerdded ceunentydd, rhaffau uchel neu gyfuniad o weithgareddau fel anturio mewn ardal wledig wyllt neu ddiarffordd.
Mae'r safon hon yn cynnwys pedwar prif ddeilliant, sef
paratoi ar gyfer profiadau anturus
paratoi cyfranogwyr ar gyfer profiadau anturus
goruchwylio a hwyluso profiadau anturus
cwblhau ac adolygu profiadau anturus
Mae'r safon hon ar gyfer staff sydd â rhywfaint o brofiad o weithio yn yr awyr agored ac sy'n gallu gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
**Paratoi ar gyfer profiadau anturus
1. adnabod **amcanion y profiad, fel y maent yn ymwneud ag anghenion, medrau a photensial y cyfranogwyr
asesu trothwyau anturio'r cyfranogwyr
cynllunio'r profiad i gyfarfod ag amcanion trothwyau anturio'r cyfranogwyr
sicrhau bod y profiad yn cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
dewis, ymchwilio ac, os oes angen, archwilio a pharatoi'r lleoliad a'r cyfarpar ar gyfer y profiad
adnabod y dylanwadau allanol a'r peryglon mewn perthynas â'r profiad
sicrhau bod y profiad o fewn eich gallu i'w reoli
sicrhau bod ffiniau diogelwch effeithiol ond hyblyg wedi eu pennu gan ddilyn gofynion iechyd a diogelwch
**Paratoi cyfranogwyr ar gyfer gweithgareddau anturus
9. cyfleu **amcanion a gwerth y profiad i'r cyfranogwyr
galluogi'r cyfranogwyr i gynorthwyo gyda chynllunio a rheoli'r profiad
cyfleu'r ffiniau diogelwch mewn perthynas â'r profiad a'r lleoliad
darparu fforwm ar gyfer trafodaeth grŵp a chynnal arferion myfyrio ymhlith y cyfranogwyr
paratoi'r cyfranogwyr i allu ymdopi gydag amgylchiadau a ragwelir ac amgylchiadau annisgwyl, ac i ddatrys problemau drostynt eu hunain
cytuno gyda'r cyfranogwyr ar gyfrifoldeb yr arweinwyr a'r cyfranogwyr mewn perthynas ag adrodd am beryglon, damweiniau, trychineb agos, a thros asesu a rheoli risg
sicrhau bod y cyfranogwyr yn dilyn y gweithdrefnau argyfwng **
Goruchwylio a hwyluso profiadau anturus
16. monitro'n barhaus lefel y sialens a'r antur mewn perthynas â throthwyau antur y **cyfranogwyr a'u gallu i ymdopi
addasu lefel y sialens a'r antur drwy ymyriadau pwyllog sy'n amlhau i'r eithaf y tebygolrwydd o gyflawni amcanion y profiad
cynnal sylw'r cyfranogwyr mewn perthynas â pheryglon, ffiniau diogelwch a chyfrifoldebau cytunedig ar gyfer y profiad a'r lleoliad
annog nodi digwyddiadau a chyfnewidiadau y gellir eu defnyddio gyda chyfranogwyr yn ystod yn ogystal ag yn dilyn y digwyddiad er mwyn cael y gorau allan o'r profiad
**Cwblhau ac adolygu profiadau anturus
20. annog y **cyfranogwyr i asesu a yw'r profiad a'r lleoliad wedi cyflawni eu hamcanion corfforol ac amcanion eraill ynghyd â nodau pob cyfranogwr
asesu gyda'r cyfranogwyr a yw trothwy antur pob cyfranogwr wedi ei barchu, a dalwyd sylw at y ffiniau diogelwch y cytunwyd arnynt ac a yw'r cyfrifoldebau wedi eu cyflawni
galluogi'r cyfranogwyr i roi adborth er mwyn eu helpu i ddysgu o'u profiad, i atgyfnerthu cynnydd a chynnal a chadw morâl
adnabod unrhyw bwyntiau dysgu o bwys ar gyfer camau gweithredu yn y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
**Paratoi ar gyfer profiadau anturus
1. dulliau o adnabod nodau'r profiad, fel y maent yn ymwneud ag anghenion, medrau a photensial y cyfranogwyr **
y gofynion iechyd a diogelwch
gwerth antur a sialens a'r manteision y gall cyfranogwyr eu cael o brofiadau o'r fath
sut i asesu trothwyau antur y cyfranogwyr
sut i gynllunio'r profiad er mwyn cyfarfod â'r amcanion, a herio, ond nid mynd y tu hwnt i drothwyau antur y cyfranogwyr
dulliau o gydbwyso medrau a phryderon y cyfranogwyr gyda risg cydnabyddedig y profiad
pam ei bod yn bwysig sicrhau bod y profiad yn cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch
sut i ddewis, ymchwilio ac, os bydd angen, archwilio a pharatoi lleoliad y cyfarpar, a'r cyfarpar ar gyfer y profiad
pwysigrwydd bod yn gyfarwydd â, a bod â phrofiad personol priodol o'r gweithgaredd antur arfaethedig, y lleoliad a'r cyfarpar
pwysigrwydd adnabod y dylanwadau allanol a'r peryglon mewn perthynas â'r profiad
pam ei bod yn bwysig sicrhau bod y profiad oddi mewn i'ch gallu i'w reoli
sut i sicrhau bod ffiniau diogelwch effeithiol ond hyblyg wedi eu pennu
**Paratoi cyfranogwyr ar gyfer gweithgareddau anturus
**13. gwerth a manteision antur a sialens a sut i gyfleu'r amcanion i'r cyfranogwyr
pam ei bod yn bwysig galluogi'r cyfranogwyr i gynorthwyo gyda chynllunio a rheoli'r profiad a datblygu ymdeimlad o berchenogaeth
sut i gyfleu'r ffiniau diogelwch mewn perthynas â'r profiad a'r lleoliad a sicrhau bod y cyfranogwyr wedi eu deall
pam ei bod yn bwysig annog ymddiriedaeth, cefnogaeth a gonestrwydd rhwng y naill a'r llall yn y grŵp, am bryderon, ofnau, cryfderau a gwendidau
sut i baratoi'r cyfranogwyr i allu ymdopi gydag amgylchiadau a ragwelir a rhai annisgwyl, ac i ddatrys problemau drostynt eu hunain
pwysigrwydd meithrin barn a hunanhyder ymhlith cyfranogwyr
cytuno gyda'r cyfranogwyr ar gyfrifoldeb yr arweinwyr a'r cyfranogwyr mewn perthynas ag adrodd am beryglon, damweiniau, trychinebau agos, a thros asesu a rheoli risg
20.sicrhau bod y cyfranogwyr yn dilyn y gweithdrefnau argyfwng
**Goruchwylio a hwyluso profiadau anturus
21. sut i ddefnyddio gwahanol **ddulliau arwain sy'n cefnogi arwain profiadau anturus
pwysigrwydd monitro'n barhaus lefel y risg, y sialens a'r antur mewn perthynas â throthwyau antur y cyfranogwyr a'u gallu i ymdopi
sut i addasu lefel y risg, y sialens a'r antur drwy ymyriadau pwyllog sy'n amlhau i'r eithaf y tebygolrwydd o gyflawni amcanion y profiad
adweithiau sy'n nodweddiadol o unigolion dan straen a'u hanghenion corfforol a seicolegol
amrediadau ymddygiad a rhyngweithio tebygol grŵp
sut i annog ymddygiad positif a delio'n effeithiol gydag ymddygiad annerbyniol a pham bod hyn yn bwysig
y sefyllfaoedd pryd y bydd rhaid galw am help a'r gweithdrefnau i'w dilyn er mwyn gwneud hyn
pam ei bod yn bwysig cynnal sylw'r cyfranogwyr mewn perthynas â pheryglon, ffiniau diogelwch a chyfrifoldebau cytunedig ar gyfer y profiad a'r lleoliad, a sut i wneud hyn
pam ei bod yn bwysig annog nodi digwyddiadau a chyfnewidiadau y gellir eu defnyddio gan gyfranogion i fyfyrio ac adolygu yn ystod yn ogystal ag yn dilyn y profiad
**Cwblhau ac adolygu profiadau anturus
**30. sut i annog y cyfranogwyr i asesu a yw'r profiad a'r lleoliad wedi cyflawni eu hamcanion corfforol ac amcanion eraill ynghyd ag amcanion pob cyfranogwr
sut i asesu gyda'r cyfranogwyr a yw trothwy antur pob cyfranogwr wedi ei barchu, a dalwyd sylw at y ffiniau diogelwch y cytunwyd arnynt ac a yw'r cyfrifoldebau wedi eu cyflawni
sut i alluogi'r cyfranogwyr i roi adborth er mwyn eu helpu i ddysgu o'u profiad, i atgyfnerthu cynnydd a chynnal a chadw morâl
sut i adnabod unrhyw bwyntiau dysgu o bwys ar gyfer camau gweithredu yn y dyfodol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
**1. Cyfranogwyr
**1.1 oedolion
1.2 plant a phobl ifanc
1.3 grwpiau nad yw eu haelodau'n adnabod ei gilydd
1.4 cyfranogwyr sydd ag anghenion penodol mewn perthynas â'r gweithgaredd
1.5 unigolion
1.6 grwpiau
**2. Nodau
**2.1 adloniadol
2.2 canolbwynt cwricwlaidd a thrawsgwricwlaidd
2.3 ffocws gweithgaredd/sgìl
2.4 amgylcheddol
2.5 datblygiad personol, cymdeithasol ac ysbrydol
2.6 potensial ar gyfer datblygiad pellach
**3. Profiad
**3.1 un sesiwn
3.2 sawl diwrnod
3.3 yn gofyn am lety dros nos
3.4 cydaddysgol
**4. Lleoliad
**4.1 oddi mewn i derfyn y safle
4.2 mewn mannau anghysbell
4.3 tramor
**5. Adborth
**5.1 ffurfiol
5.2 anffurfiol
5.3 cadarnhaol
5.4 negyddol
Gwybodaeth Cwmpas
**1. Dulliau arwain
**Gall fod yna ddulliau eraill ond dyma rai enghreifftiau:
1.1 awdurdodaidd
1.2 democratig
1.3 laissez-faire
2 **Ymddygiad positif
**2.1 cyfathrebu
2.2 ymwneud
2.3 cefnogaeth y naill i'r llall
2.4 datrys problemau
2.5 dangos brwdfrydedd
**3 Ymddygiad annerbyniol
**3.1 ymddygiad yn achosi niwed corfforol
3.2 ymddygiad yn achosi niwed emosiynol
3.3. ymddygiad yn achosi difrod
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
**Trothwyau antur ac anffawd
**Y cysyniad mewn antur awyr agored bod gan bob unigolyn ei 'drothwy' personol yn nhermau pan fydd gweithgareddau 'arferol' bywyd yn symud ar draws llinell i brofiadau llai cyfforddus, ond mwy cyffrous, heriol ac yn y pen draw yn brofiadau sy'n cadarnhau bywyd. Gellir ystyried bod anffawd wedi digwydd pan fydd dolur neu niwed yn cymryd drosodd yn y sefyllfaoedd heriol hyn.
**Ymyriadau pwyllog
**Mae'n bosib y bydd angen i ymyriadau, fel y rhai hynny sy'n ymwneud â materion iechyd a diogelwch sydd ar ddod, ddigwydd ar frys.
**Trychineb agos!
**Digwyddiad sydd heb ei gynllunio lle na ddigwyddodd niwed, salwch na difrod yw trychineb agos.
Rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
Yn nodweddiadol, bydd y dogfennau hyn yn gosod y safonau, y gweithdrefnau a'r gofynion ar gyfer cyflwyno gweithgaredd. Gallant gynnwys rhestri cyfarpar, amlinelliad o gynlluniau sesiwn, pwyntiau a gweithdrefnau diogelwch. Gallant hefyd gyfeirio at gyrff llywodraethol Cenedlaethol (CLlC) penodol neu gyrff gweithgarwch cenedlaethol eraill perthnasol yn nhermau gwybodaeth a chanllawiau sy'n ymwneud â gweithgareddau. Gall y dogfennau hefyd gyfeirio at lefelau staffio a safonau yn nhermau cymarebau, cymwysterau a'r hyfforddiant/asesiad yr ymgymerwyd ag e, a gall gyplysu â CLlC, ymgynghorwyr technegol a nodweddion allanol neu fewnol eraill. Mae i ddogfennau o safon dda sawl defnydd ac efallai y bydd ar amrywiaeth o bartïon mewnol ac allanol a budd-ddeiliad eu hangen. Mae'r dogfennau o gymorth i gyflwyno gwybodaeth glir a chyson i aelodau staff ac eraill.
**Ymdeimlad o berchenogaeth
**Mewn perthynas ag ymwneud y cyfranogwyr ym mhob agwedd ar y gweithgaredd/sesiwn, gan gynnwys lefelau ymwneud priodol yn y gwaith o gynllunio, trefnu a chynnal y sesiwn ei hun, gyda hyd yn oed ambell agwedd ar wneud penderfyniadau ar opsiynau, gan gymryd i ystyriaeth brofiad a gallu pawb sy'n cymryd rhan.
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon hon yn cyplysu â SKAOP2, SKAOP3 a SKAOP15.