Trefnu adnoddau a phobl ar gyfer rhaglenni awyr agored

URN: SKAOP2
Sectorau Busnes (Suites): Rhaglenni Awyr Agored
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â threfnu'r adnoddau sydd eu hangen arnoch ar gyfer rhaglen awyr agored, gan gynnwys y bobl, cyfarpar, trefniadau amgylcheddol a domestig.

Mae'r safon hefyd yn cynnwys paratoi eich hunan, staff eraill a'r cyfranogion ar gyfer y rhaglen.

Mae'r safon hon yn cynnwys tri deilliant, sef:

  1. trefnu adnoddau ar gyfer y rhaglen

  2. paratoi eich hunan, y cyfranogwyr ac eraill ar gyfer y rhaglen

  3. ymdrin ag adnoddau ar ôl eu defnyddio

Mae'r safon hon ar gyfer staff profiadol sy'n gweithio yn yr awyr agored ac sy'n gallu gweithio heb unrhyw oruchwyliaeth uniongyrchol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Trefnu adnoddau ar gyfer y rhaglen


*

  1. cael adnoddau i ateb nodau ac amcanion y rhaglen

  2. sicrhau bod yr adnoddau yn cyfarfod ag anghenion y cyfranogwyr

  3. sicrhau bod yr adnoddau yn bodloni rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

  4. sicrhau bod yr adnoddau ar gael pan fydd eu hangen

  5. gosod cynlluniau brys ac at raid yn eu lle ar gyfer y rhaglen


*

Paratoi eich hunan, cyfranogwyr ac eraill ar gyfer y rhaglen

  1. rhoi cyfarwyddyd i gydweithwyr ynghylch y rhaglen, cyfranogwyr ac adnoddau

  2. gwneud yn siŵr bod manylion y rhaglen gan y cyfranogwyr ac eraill

  3. ymateb i geisiadau ac awgrymiadau i gyfarfod ag anghenion y cyfranogwr ac anghenion y sefydliad 

  4. sicrhau eich bod chi, eraill a'r cyfranogwyr yn bresennol ac yn barod i gymryd rhan yn y rhaglen

Ymdrin ag adnoddau ar ô*l eu defnyddio*

  1. annog cyfranogwyr i adael yr amgylchedd yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad  

  2. sicrhau bod yr adnoddau yn gyson â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

  3. adnabod a symud adnoddau anniogel ac annefnyddadwy ac adrodd amdanynt wrth y cydweithiwr cyfrifol

  4. sicrhau bod adnoddau yn cael eu storio yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

  5. dilyn gweithdrefnau er mwyn sicrhau bod safon a niferoedd yr adnoddau yn cael eu cynnal a'u cadw

  6. dilyn rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad wrth ddeilio â materion staffio sy'n codi yn ystod y gweithgaredd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Trefnu adnoddau ar gyfer y rhaglen


*

  1. y mathau o adnoddau sydd eu hangen ar gyfer ystod o wahanol fathau o raglenni

  2. sut i sicrhau bod yr adnoddau yn cyfarfod ag anghenion y cyfranogwr a'r rhaglen

  3. y gofynion cyfreithiol, technegol a sefydliadol sydd ar yr adnoddau rydych chi'n gyfrifol amdanynt

  4. gweithdrefnau'r sefydliad gogyfer â dod o hyd i adnoddau

  5. pam bod cynlluniau brys ac at raid yn bwysig

Paratoi eich hunan, cyfranogwyr ac eraill ar gyfer y rhaglen


*

  1. pam ei bod yn bwysig rhoi cyfarwyddyd i gydweithwyr ac eraill

  2. y mathau o wybodaeth y dylech eu rhoi i gydweithwyr am y cyfranogwyr, y rhaglen a'r adnoddau y byddant yn eu defnyddio

  3. y mathau o wybodaeth y dylai'r cyfranogwyr ac eraill eu derbyn a pham bod hyn yn bwysig

  4. sut i roi cyfarwyddyd i gyfranogwyr, cydweithwyr ac eraill

  5. y mathau o geisiadau ac argymhellion y byddwch chi o bosib yn eu cael gan gydweithwyr, cyfranogwyr ac eraill, a sut i ymateb i'r rhain mewn ffordd adeiladol

  6. lefelau hyfforddiant a chymhwyster sy'n briodol i wahanol weithgareddau a sut i wirio bod y rhain gan aelodau staff

  7. pwysigrwydd bod eich cydweithwyr, cyfranogwyr a chi eich hun yn barod yn feddyliol, yn gorfforol ac o ran agwedd ar gyfer y rhaglen

Ymdrin ag adnoddau ar ôl eu defnyddio


*

  1. pam ei bod yn bwysig gadael yr amgylchedd, ar ôl ei ddefnyddio, yn unol â pholisi neu weithdrefnau cynaliadwyedd eich sefydliad

  2. sut i sicrhau bod yr adnoddau'n cael eu storio yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

  3. y gweithdrefnau cywir ar gyfer sicrhau bod safon a niferoedd yr adnoddau yn cael eu cynnal a'u cadw

  4. y rheoliadau a'r gweithdrefnau sefydliadol cywir gogyfer â delio â materion staffio sy'n codi yn ystod gweithgaredd


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Adnoddau

1.1 pobl

1.2 cyfarpar

1.3 dillad

1.4 amgylchedd

1.5 trefniadau domestig

1.6 trefniadau logistaidd

*
 *

2. Rhaglenni

2.1 undydd

2.2 sawl diwrnod

2.3 yn gofyn am lety dros nos

2.4 cydaddysgol


*

3. Cyfranogwyr

3.1 oedolion

3.2 plant a phobl ifanc

3.3 grwpiau nad yw eu haelodau yn adnabod ei gilydd

3.4 cyfranogwyr sydd ag anghenion penodol mewn perthynas â'r gweithgaredd

3.5 unigolion

3.6 grwpiau

4. Cydweithwyr

4.1 staff ar lefel uwch

4.2 gweithio ar yr un lefel

4.3 gweithio mewn swyddogaethau ategol

5. Eraill

5.1. cleientiaid

5.2 rhieni

5.3 aelodau'r cyhoedd (sy'n gweithio mewn lleoliadau cyhoeddus neu sydd â hawliau tramwy cyhoeddus)

5.4 oedolion eraill fel arweinwyr partïon

6. Wedi paratoi ac yn barod i gymryd rhan

6.1 presennol ac wedi gwisgo'n barod ar gyfer y gweithgaredd/rôl

6.2 wedi paratoi yn gorfforol

6.3 wedi paratoi yn feddyliol/o ran agwedd

7. Cydweithiwr Cyfrifol

7.1 rheolwr llinell

7.2 cydweithiwr hŷn

7.3 oedolyn arall

8. Materion staffio

8.1 technegol

8.2 ymddygiadol


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau

Rhestrir isod y prif sgiliau a'r priodoleddau generig sy'n gymwys i'r dasg o gyflwyno Rhaglenni Awyr Agored.

  1. Empathi

  2. Gwrando'n weithredol

  3. Hyfforddi

  4. Cyfathrebu

  5. Ymgynghori

  6. Dylanwadu a pherswadio

  7. Dirprwyo

  8. Diplomyddiaeth

  9. Galluogi

  10. Hwyluso

  11. Dilyn

  12. Arwain drwy esiampl

  13. Rheoli ymddygiad heriol

  14. Mentora

  15. Ysgogi

  16. Trafod a chyfaddawdu

  17. Sicrhau adborth

  18. Cynllunio a gwerthuso

  19. Darparu adborth

  20. Pennu amcanion

  21. Gwerthfawrogi a chefnogi eraill


Geirfa

Amgylchedd(au)

Y lleoliadau nesaf a chyfagos a neu estynedig lle cynhelir gweithgareddau.

Trefniadau domestig

Mae hyn yn cynnwys pecynnau bwyd, diodydd, ffurflenni meddygol a meddyginiaeth a chyfleusterau sy'n gysylltiedig â lles.

Trefniadau Logisteg

Y prosesau sydd eu hangen er mwyn i'r gweithgaredd ddigwydd yn llwyddiannus: mae hyn yn cynnwys cludiant e.e. bysiau mini, trelars, tanwydd a chynaladwyedd, ynghyd ag amserau a lleoliadau sy'n gysylltiedig â'r rhain.


*

Rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

Yn nodweddiadol, bydd y dogfennau hyn yn gosod y safonau, gweithdrefnau a'r gofynion ar gyfer cyflwyno'r gweithgaredd.  Gallant gynnwys rhestri cyfarpar, amlinelliad o gynlluniau sesiwn, pwyntiau a gweithdrefnau diogelwch.  Gallant hefyd gyfeirio at gyrff llywodraethol Cenedlaethol (CLlC) penodol neu gyrff gweithgarwch cenedlaethol eraill perthnasol yn nhermau gwybodaeth a chanllawiau sy'n ymwneud â gweithgareddau.  Gall y dogfennau hefyd gyfeirio at lefelau staffio a safonau yn nhermau cymarebau, cymwysterau a'r hyfforddiant/asesiad yr ymgymerwyd ag e, a gall fod ynghlwm wrth CLlC, ymgynghorwyr technegol a nodweddion allanol neu fewnol eraill.

*
 *

Presennol ac yn barod i gymryd rhan

Mae hyn yn cynnwys parodrwydd corfforol a meddyliol i gymryd rhan yn y gweithgareddau – rhaid i'r hyfforddwyr a neu'r arweinwyr sicrhau eu bod nhw a phawb arall yn bresennol ac yn gwbl barod, a hynny mewn ffordd sy'n berthnasol i'r gweithgaredd a'r cynlluniau penodol ar gyfer y sesiwn.

Person cyfrifol

Pwy bynnag sydd â'r cyfrifoldeb cyffredinol dros y risg dynodedig - gall fod yn rheolwr y ganolfan, rheolwr cyfleusterau, rheolwr adnoddau, prif hyfforddwr, hyfforddwr ar ddyletswydd neu bennaeth yr adran weithgaredd.

Materion staffio

Yn cynnwys cymarebau, presenoldeb staff, proffesiynoldeb, ymddygiad, medrusrwydd.


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r safon hon yn cyplysu â SKAOP1, SKAOP3, SKAOP4 a SKAOP5


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAB25

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Hamdden; teithio a thwristiaeth, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

awyr agored; pobl; adnoddau; rhaglenni; cyfranogwyr; rhaglenni; hunan