Cefnogi cyfranogwyr sydd ag anableddau i gymryd rhan mewn gweithgareddau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â galluogi cyfranogwyr sydd ag anableddau corfforol, anawsterau dysgu neu amhariadau synhwyraidd i gymryd rhan mewn gweithgareddau. Bydd hyn fel arfer yn digwydd yng nghyd-destun datblygu chwaraeon neu addysg awyr agored, hamdden neu hyfforddiant datblygu. Mae'r safon hon yn canolbwyntio ar y cymwysterau sydd eu hangen ar gyfer gweithio gyda chyfranogwyr anabl.
Gallai mai diben y galluogi yw ymdrin ag: anableddau corfforol, anawsterau dysgu, amhariadau synhwyraidd.
Mae'r safon hon yn cynnwys tri phrif ddeilliant, sef:
adnabod anghenion cyfranogwyr anabl ar gyfer y gweithgaredd
addasu gweithgareddau i gyd-fynd ag anghenion cyfranogwyr anabl
gweithio gyda chyfranogwyr anabl
Mae'r safon hon wedi ei bwriadu ar gyfer aelodau staff sy'n gweithio gyda chyfranogwyr anabl naill ai mewn cyd-destun chwaraeon a hamdden neu awyr agored. Rhaid i chi fod wedi eich hyfforddi ac yn brofiadol yn y gweithgareddau rydych yn eu harwain ac mewn gweithio gyda chyfranogwyr anabl.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
**Adnabod anghenion cyfranogwyr anabl ar gyfer y gweithgaredd
1. casglu **gwybodaeth am anghenion y cyfranogwr
gwirio bod y wybodaeth yn fanwl gywir
lle bo angen, cael help cymwys i ddehongli'r wybodaeth
cofnodi'r wybodaeth i'w defnyddio yn y dyfodol
llunio asesiad o allu'r cyfranogwr mewn perthynas â'r gweithgaredd
adnabod y newidiadau i'r gweithgaredd a'r gefnogaeth y bydd ei hangen o bosib ar y cyfranogwr a gwirio'r rhain gyda **phobl eraill
**Addasu gweithgareddau i gyd-fynd ag anghenion cyfranogwyr anabl
7. sicrhau bod y cyrchnodau arfaethedig ar gyfer y gweithgaredd yn ddiogel ac yn realistig yn achos y **cyfranogwr, a'u bod ar yr un pryd yn dal i roi cyfleoedd ar gyfer sialens a datblygiad
strwythuro'r gweithgaredd a'r paratoi ar gyfer y gweithgaredd fel ei fod yn cyfarfod ag anghenion y cyfranogwr, gan roi ystyriaeth i reoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
rhoi cyfarwyddyd llawn am natur y gweithgaredd a'i gyrchnodau i gydweithwyr ac eraill
sicrhau bod y cyfranogwr yn gallu cael mynediad diogel i'r amgylchedd lle bydd y gweithgaredd yn digwydd
sicrhau bod unrhyw gefnogaeth i anghenion personol, meddygol a chyfathrebu'r cyfranogwr ar gael
gosod a threfnu cyfarpar fel ei fod yn ddiogel i'r cyfranogwr
ceisio cymorth pan fydd problemau y tu hwnt i lefel eich gallu chi yn codi
**Gweithio gyda chyfranogwyr anabl
14. cyfathrebu gyda'r **cyfranogwr mewn ffordd sy'n cyfarfod â'i anghenion
gwirio lefel dealltwriaeth y cyfranogwr ar bob prif bwynt yn ystod y gweithgaredd
darparu cymorth uniongyrchol yn ystod y gweithgaredd ond dim ond os yw'r cyfranogwr yn cytuno
darparu lefel o oruchwyliaeth drwy gydol y gweithgaredd sy'n cyfarfod â gofynion diogelwch, lles a meddygol y cyfranogwr
sicrhau bod y cyfranogwr yn derbyn cefnogaeth ar gyfer anghenion personol a meddygol yn ôl y galw
adolygu gyda'r cyfranogwr ac eraill pa mor dda y mae'r gweithgaredd a'r trefniadau wedi cyfarfod â'u hanghenion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
**Adnabod anghenion cyfranogwyr anabl ar gyfer y gweithgaredd
**1. pwysigrwydd adnabod pa wybodaeth y bydd angen i chi o bosib ei chasglu am anghenion y cyfranogwr
sut i gasglu gwybodaeth gan gymryd i ystyriaeth anghenion y cyfranogwr a hynny mewn ffordd sensitif
sut i wirio gwybodaeth am fedrau'r cyfranogwr a dehongli'r goblygiadau
pam y gall fod yn angenrheidiol cael help cymwys i ddehongli'r wybodaeth a sut i wneud hyn
ffynonellau cymorth wrth ddehongli gwybodaeth am anableddau
gweithdrefnau ar gyfer cofnodi'r wybodaeth i'w defnyddio yn y dyfodol
sut i lunio asesiad o allu'r cyfranogwr mewn perthynas â'r gweithgaredd
y mathau o anableddau mwyaf cyffredin y byddwch o bosib yn dod ar eu traws a goblygiadau'r rhain o safbwynt y gweithgaredd
sut i adnabod yr addasiadau i'r gweithgaredd, y gefnogaeth y bydd ei hangen o bosib ar y cyfranogwr a gweithdrefnau ar gyfer gwirio'r addasiadau hyn gydag eraill
**Addasu gweithgareddau i gyd-fynd ag anghenion cyfranogwyr anabl
**10. sut i sicrhau bod y cyrchnodau arfaethedig ar gyfer y gweithgaredd yn ddiogel ac yn realistig yn achos y cyfranogwr, a'u bod ar yr un pryd yn dal i roi cyfleoedd ar gyfer sialens a datblygiad
gwerth gweithgareddau chwaraeon a hamdden i gyfranogwyr anabl a phwysigrwydd eu cynnwys hyd eithaf eu gallu
sut i strwythuro'r gweithgaredd a'r paratoi ar gyfer y gweithgaredd fel ei fod yn cwrdd ag anghenion y cyfranogwr gan ddilyn rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad ar yr un pryd
pam ei bod yn bwysig rhoi cyfarwyddyd llawn am natur y gweithgaredd a'i gyrchnodau i gydweithwyr ac eraill
sut i sicrhau bod y cyfranogwr yn gallu cael mynediad diogel i'r amgylchedd lle bydd y gweithgaredd yn digwydd
pam ei bod yn bwysig sicrhau bod unrhyw gefnogaeth ar gyfer anghenion meddygol, personol a chyfathrebu'r cyfranogwr ar gael a sut i wneud hyn
sut i osod cyfarpar fel ei fod yn ddiogel i'r cyfranogwr
pam ei bod yn bwysig ceisio cymorth pan fydd problemau y tu hwnt i lefel eich gallu chi yn codi
**Gweithio gyda chyfranogwyr anabl
**18. sut i gyfathrebu gyda'r cyfranogwr mewn ffordd sy'n cyfarfod â'i anghenion
pam ei bod yn bwysig gwirio lefel dealltwriaeth y cyfranogwr ar bob prif bwynt yn ystod y gweithgaredd a sut i wneud hyn
pam ei bod yn bwysig cael y cyfranogwr i gytuno wrth ddarparu cymorth uniongyrchol yn ystod y gweithgaredd
sut i ddarparu lefel o oruchwyliaeth drwy gydol y gweithgaredd sy'n cwrdd â gofynion diogelwch a meddygol y cyfranogwyr
sut i sicrhau bod y cyfranogwr wedi derbyn cefnogaeth ar gyfer anghenion personol a meddygol
pam ei bod yn bwysig adolygu gyda'r cyfranogwr ac eraill pa mor dda mae'r gweithgaredd a'r trefniadau wedi cyfarfod â'u hanghenion a sut i wneud hyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. **Gwybodaeth
**1.1 natur yr anabledd
1.2 beth mae'r cyfranogwr yn gallu ei wneud
1.3 gofynion ar gyfer mynediad
1.4 cyfarpar arbennig a ddefnyddir
1.5 dulliau cyfathrebu dewisol
1.6 gofynion diogelwch
1.7 gofynion lles
1.8 gofynion meddygol
1.9 hanes cyfranogaeth flaenorol
2. Cyfranogwyr
2.1 oedolion
2.2 plant a phobl ifanc
2.3 grwpiau nad yw eu haelodau'n adnabod ei gilydd
2.4 cyfranogwyr sydd ag anghenion penodol mewn perthynas â'r gweithgaredd
2.5 unigolion
2.6 grwpiau
3. Cymorth cymwys
3.1 cymorth gan gydweithwyr
3.2 cymorth gan gyfranogwyr os yn hŷn ac yn abl
3.3 cymorth o'r tu allan i'r sefydliad
4. Cydweithwyr
4.1 staff ar lefel uwch
4.2 gweithio ar yr un lefel
4.3 y rhai hynny sy'n gweithio mewn swyddogaethau ategol
4.4 cydweithwyr annibynnol
4.5 cydweithwyr o sefydliadau eraill
5. Eraill
5.1 staff cymorth allanol
5.2 gofalwr personol
5.3 staff cymorth mewnol
5.4 rhieni
5.5 arweinwyr grŵp
5.6 asiantaethau eraill
6. * *Cyrchnodau
6.1 addysgol
6.2 adloniadol
6.3 datblygiadol
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gweithgareddau
Sesiynau ymarferol sy'n cynnwys rhyw elfen o ymdrech gorfforol a neu sgìl a neu ddatrys problem. Gall y gweithgareddau fod â chyswllt â chwaraeon cydnabyddedig, e.e. canŵio, hwylio, badminton, pêl-droed neu gellir eu haddasu er mwyn cyfarfod ag amcanion penodol. Yng nghyd-destun yr awyr agored yn arbennig gallant o bosib gynnwys elfen o fenter gydnabyddedig.
Cyfranogwyr Anabl
Cyfranogwyr sydd ag amhariadau sy'n wynebu rhwystrau wrth geisio mynediad i gyfleusterau prif ffrwd. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd ag amhariadau corfforol a synhwyraidd, anawsterau dysgu a chyfathrebu, cyflyrau meddygol, anghenion heriol a chymhleth all fod yn barhaol neu dros dro.
Amgylchedd
Yr ardal lle cynhelir y gweithgaredd; bydd hyn yn tueddu bod yn gyfleustra awyr agored neu'n amgylchedd awyr agored naturiol, ond mewn rhai achosion gall fod o natur dan do sy'n cynrychioli'r awyr agored e.e. waliau dringo dan do a chanŵio mewn pwll.
Gofynion Iechyd a Diogelwch
Dylai'r rhain fodoli ar sawl lefel; yn gyntaf, ceir deddfwriaeth megis y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a Thrwyddedu Gweithgareddau Anturus; yn ail, bydd gan y sefydliad lle'r ydych yn gweithio bolisïau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch fel rhan o reoliadau a gweithdrefnau cyffredinol y sefydliad; yn drydydd, gall fod gan adrannau neu unedau unigol mewn sefydliadau mawr bolisïau ychwanegol. Mae asesiadau risg generig a phenodol yn cynnwys pob agwedd ar weithrediadau'r sefydliad ac mae'r rhain yn cyfarwyddo Gweithdrefnau Gweithredu Safonol y sefydliad, gweithdrefnau y mae'n rhaid i chi fod yn gyfarwydd â nhw. (Sylwer: gall rhai termau a theitlau penodol fod yn wahanol).
Anawsterau Dysgu
Yn y cyd-destun hwn, cyflyrau tymor hir sy'n gallu cael effaith sylweddol ar allu'r cyfranogwr i ddysgu beth sydd ei angen er mwyn cymryd rhan mewn gweithgaredd; gall enghreifftiau gynnwys pob sy'n dioddef o Syndrom Down, pobl sydd wedi dioddef anafiadau i'r ymennydd sy'n cael effaith ar eu gallu i ddysgu, rhwystrau hollgynhwysol neu ddysgu penodol.
Anghenion Meddygol
Yr angen am feddyginiaeth, trefniadau arbennig gogyfer â gorffwys neu ailosod a threfniadau ar gyfer cael mynediad i gymorth arbenigol.
**Addasiadau i'r gweithgaredd
**Mae unrhyw beth sy'n cynorthwyo cyfranogwyr i gymryd rhan yn llawn (ac yn ddiogel) yn y gweithgareddau a'u rhaglen yn beth da. Daw addasiadau mewn nifer o wahanol ffyrdd, o gyfarpar a safle'r gweithgaredd i'r broses a'r ffordd y caiff gweithgaredd ei weithredu.
**Rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
**Yn nodweddiadol, bydd y dogfennau hyn yn gosod y safonau, y gweithdrefnau a'r gofynion ar gyfer cyflwyno gweithgaredd. Gallant gynnwys rhestri cyfarpar, amlinelliad o gynlluniau sesiwn, pwyntiau a gweithdrefnau diogelwch. Gallant hefyd gyfeirio at gyrff llywodraethol Cenedlaethol (CLlC) penodol neu gyrff gweithgarwch cenedlaethol eraill perthnasol yn nhermau gwybodaeth a chanllawiau sy'n ymwneud â gweithgareddau. Gall y dogfennau hefyd gyfeirio at lefelau staffio a safonau yn nhermau cymarebau, cymwysterau a'r hyfforddiant/asesiad yr ymgymerwyd ag e, a gall gyplysu â CLlC, ymgynghorwyr technegol a nodweddion allanol neu fewnol eraill. Mae i ddogfennau o safon dda sawl defnydd ac efallai y bydd ar amrywiaeth o bartïon mewnol ac allanol a budd-ddeiliad eu hangen. Mae'r dogfennau o gymorth i gyflwyno gwybodaeth glir a chyson i aelodau staff ac eraill.
Anghenion personol a lles
Ystod eang o anghenion penodol fel personol a hylendid a threfniadau mynd i'r tŷ bach, gofynion deietegol ac anghenion lles a chymdeithasol.
Anableddau corfforol
Anableddau allai effeithio ar allu'r cyfranogwyr i gymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Mae'r safon hon yn cyplysu â SKAOP3, SKAOP6, SKAOP8 a SKAOP10