Cyfrannu at atal a rheoli ymddygiad camdriniol, ymosodol a heriol
Trosolwg
Ar gyfer y safon hon mae angen i chi gyfrannu at atal a rheoli ymddygiad camdriniol, ymosodol a heriol. O fewn fframweithiau statudol ac asiantaethol fel ei gilydd, pan fydd ymddygiad camdriniol, ymosodol a heriol yn digwydd, mae angen ichi allu rheoli a chefnogi adolygu'r digwyddiadau. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon hon sicrhau bod arfer yn adlewyrchu gwybodaeth a pholisïau cyfredol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cyfathrebu gydag eraill mewn ffordd:
1.1 sy'n briodol iddyn nhw
1.2 yn annog cyfnewid barn a gwybodaeth yn agored
1.3 lleihau unrhyw gyfyngiadau ar gyfathrebu
1.4 sy'n rhydd o wahaniaethu a gormes
1.5 sy'n cydnabod hawliau pawb sy'n bresennol ac sy'n gefnogol i'r hawliau hynny
cynnal a chadw'r amgylchedd mewn ffordd sy'n annog rhyngweithio ystyrlon
cymryd camau i hybu amgylchedd digynnwrf a diogel sy'n lleihau unrhyw gyfyngu ar symud ac nad yw'n gwrthod hawliau pobl
cymryd camau priodol i adnabod a lleihau'r tebygrwydd o danio'r pethau hynny sy'n rhoi bod i ymddygiad difrïol, ymosodol neu heriol ac i alluogi unigolion i ddod o hyd i ffyrdd arall o fynegi eu teimladau
cymryd camau gweithredu adeiladol i leihau a diffiwsio ymddygiad difrïol, ymosodol neu heriol sy'n gyson ag:
5.1 unrhyw risgiau cynhenid
5.2 cynnal a chadw cydberthynas weithio effeithiol
5.3 polisi a gweithdrefnau'r asiantaeth
5.4 tystiolaeth o arfer effeithiol
cydnabod diddordebau croes a chymryd camau gweithredu adeiladol er mwyn mynd i'r afael â'r rhain
cymryd camau ar unwaith er mwyn gwarchod y rhai hynny y mae'r ymddygiad difrïol, ymosodol neu heriol wedi ei anelu ato/ati
galw'n ddiymdroi am unrhyw gymorth a chefnogaeth angenrheidiol
gweithredu mewn ffordd sy'n debygol o hybu tawelwch ac sy'n cynnig cysur a gwneud hyn yn glir i bawb sydd a wnelo â'r mater
rheoli ymddygiad sy'n gorfforol ymosodol mewn ffyrdd sy'n gyson â gofynion statudol ac asiantaethol a defnyddio'r dulliau mwyaf diogel posib yn achos:
10.1 yr unigolyn
10.2 chi
10.3 eraill
annog y rhai hynny fu'n ymwneud â digwyddiadau i gyfrannu at adolygu'r digwyddiad
cynnig amser, lle a chefnogaeth fel bod pawb sydd a wnelo â'r mater yn gallu mynegi eu teimladau ac archwilio eu hymddygiad
archwilio mewn ffordd adeiladol gyda phawb sydd a wnelo â'r mater y rhesymau dros, a chanlyniadau'r ymddygiad difrïol, ymosodol neu heriol
trefnu atgyfeiriadau at y bobl briodol os oes angen cymorth arbenigol
cyfrannu'n glir ac adeiladol at drafodaethau tîm ynglŷn ag achosion o ymddygiad difrïol, ymosodol a heriol ac arfer yr asiantaeth wrth ymdrin â nhw
rheoli eich teimladau personol yn sgil y digwyddiad mewn ffordd sy'n cydnabod eich hawl i brofi teimladau o'r fath ac sy'n cydnabod nad oes modd atal pob digwyddiad
cwblhau cofnodion yn fanwl gywir a chlir a'u storio yn unol â gofynion y sefydliad
rhoi gwybodaeth fanwl gywir a chlir i eraill fel bod modd mynd i'r afael ag unrhyw broblemau ac anghenion
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. gofynion cyfreithiol, trefniadaethol a pholisi sy'n berthnasol i'ch rôl a'r gweithgareddau sydd ar waith
unrhyw ffactorau sy'n ymwneud â pholisïau ac arferion yr asiantaeth sydd wedi cael effaith ar y gwaith a wnaed
sut i werthuso eich gallu personol pan fyddwch yn y gwaith a phenderfynu pryd y mae angen cefnogaeth ac arbenigedd pellach
sut i addasu dulliau cyfathrebu mewn ffyrdd sy'n cyfarfod ag anghenion, cryfderau a medrusrwydd yr unigolyn
sut y bydd unigolion yn cyfathrebu drwy ymddygiad yn ogystal â thrwy iaith a sut y gellir dehongli gwahanol fathau o ymddygiad
cyfyngiadau ar gyfathrebu effeithiol
dulliau o greu a chynnal cyswllt sy'n debygol o fwyafu ymwneud cynhyrchiol a lleihau ymwneud di-fudd gydag unigolion
sut i adnabod yr elfennau hynny sy'n tanio ymddygiad difrïol, ymosodol a heriol a'r camau gweithredu priodol i'w cymryd os cyfyd sefyllfaoedd sydd y tu hwnt i ffiniau eich ymarfer
sut y gall teimladau blin a rhwystredigaeth gael eu symud o'u ffynhonnell wreiddiol tuag at y rhai mewn awdurdod a sut i ddelio â hyn
y gwahaniaeth rhwng ymosodedd a phendantrwydd
y rhesymau posib pam bod gwahanol fathau o ymddygiad yn digwydd, yn enwedig y rhai y gellir eu hystyried fel ymosodol, difrïol neu heriol
eich cyfrifoldeb a'ch atebolrwydd dros les unigolion
effeithiau posib eich ymddygiad ar eraill a sut efallai y bydd eich ymddygiad yn cael ei ddehongli a'r effaith ar eraill
sut y gall diwylliant a rhyw yr unigolyn ddylanwadu ar eich arfer
egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth ac arferion gwrth-wahaniaethol a sut i'w defnyddio
sut y gall stereoteipio a gwahaniaethu o bosib effeithio ar asesu risg a sut i wylio rhag i hyn ddigwydd
egwyddor cyfrinachedd a'r goblygiadau mewn perthynas â'ch arfer
pwysigrwydd cadw cofnodion llawn a manwl gywir, a sut i wneud hynny yn unol â gofynion y sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Rhestrir isod y prif sgiliau a'r priodoleddau generig sy'n gymwys i'r dasg o gyflwyno Rhaglenni Awyr Agored.
Empathi
Gwrando'n weithredol
Hyfforddi
Cyfathrebu
Ymgynghori
Dylanwadu a pherswadio
Dirprwyo
Diplomyddiaeth
Galluogi
Hwyluso
Dilyn
Arwain drwy esiampl
Rheoli ymddygiad heriol
Mentora
Ysgogi
Trafod a chyfaddawdu
Sicrhau adborth
Cynllunio a gwerthuso
Darparu adborth
Pennu amcanion
Gwerthfawrogi a chefnogi eraill
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
SKAOP2, SKAOP5, SKAOP7, SKAOP9, SKAOP11, SKAOP12, SKAOP20
Cysylltiadau Allanol
Mae'r safon hon yn cyplysu â'r dimensiynau canlynol oddi mewn i Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau'r GIG (Hydref 2004):
Dimensiwn: Craidd 4 Gwella gwasanaeth