Trefnu profiadau preswyl
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â goruchwylio darparu cyfleusterau a gwasanaethau preswyl i gyfranogwyr, fel rhan o addysg awyr agored, hyfforddiant neu brofiad hamdden fel arfer.
Mae'r safon hon yn cynnwys pedwar deilliant, sef
goruchwylio amser cyrraedd cyfranogwyr
goruchwylio trefniadau dyddiol cyfranogwyr
trefnu trefniadau cysgu cyfranogwyr
goruchwylio amser ymadael cyfranogwyr
Mae'r safon hon ar gyfer staff profiadol sy'n gweithio yn yr awyr agored ac sy'n gallu gweithio heb unrhyw oruchwyliaeth uniongyrchol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
**Goruchwylio amser cyrraedd cyfranogwyr
1. casglu'r wybodaeth angenrheidiol am y **cyfranogwyr ac eraill, eu hanghenion a'u rhaglen
cadarnhau bod y trefniadau llety ac arlwyo yn cyfarfod ag anghenion gwybyddus y cyfranogwyr ac eraill
sicrhau bod y staff, y cyfleusterau a'r cyfarpar angenrheidiol yn barod erbyn y bydd y cyfranogwyr ac eraill yn cyrraedd
sicrhau bod y broses gyrraedd yn dilyn rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
datrys ymholiadau a phroblemau a godwyd gan eraill a'r cyfranogwyr gan ddilyn rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
crisialu gydag eraill unrhyw faterion dadleuol a gwrthdrawiadol
ceisio adborth gan y cyfranogwyr ac eraill am eu bodlonrwydd â'r cyfleusterau a'r trefniadau
holi unigolion ymhellach am ddigwyddiadau a phroblemau, gan ddilyn rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
**Goruchwylio trefniadau dyddiol cyfranogwyr
9. sicrhau bod trefniadau ac adnoddau sy'n ymwneud ag **anghenion preswyl dyddiol y cyfranogwyr ac eraill ar gael a'u bod yn cwrdd â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
sicrhau bod y staff a'r cyfranogwyr ac eraill yn deall y trefniadau a'u bod yn cael cyfle i ofyn cwestiynau a chynnig adborth
sicrhau bod anghenion bob dydd y cyfranogwyr ac eraill yn cael eu bodloni
ymdrin ag ymholiadau a newidiadau i'r trefniadau y gofynnwyd amdanynt gan ddilyn rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
cynnal a chadw gofal cwsmeriaid drwy gydol y broses yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau eich sefydliad
**Trefnu trefniadau cysgu cyfranogwyr
14. sicrhau bod y **cyfranogwyr ac eraill yn deall y trefniadau cysgu
goruchwylio trefnu'r trefniadau cysgu gyda'r cyfranogwyr, eraill a chydweithwyr gan ddilyn rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
sicrhau bod trefniadau diogeledd ar gael ar gyfer y cyfranogwyr ac eraill dan sylw
rheoli unrhyw faterion sy'n codi yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
ceisio adborth gan eraill a'r cyfranogwyr ynglŷn â'r trefniadau cysgu
ymateb i'r adborth yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad ac amcanion y rhaglen
**Goruchwylio amser ymadael cyfranogwyr
19. sicrhau bod gan **eraill y wybodaeth berthnasol am amser ymadael arfaethedig y cyfranogwyr
sicrhau bod y cyfranogwyr yn deall y trefniadau a'r gweithdrefnau ar gyfer ymadael, gan gynnwys pwysigrwydd peidio gadael eiddo ar eu hôl
sicrhau bod y cyfranogwyr, eraill a'r cyfleusterau a'r cyfarpar yn barod ar gyfer ymadael
sicrhau bod yr ymadael yn mynd yn unol â'r trefniadau
datrys unrhyw ymholiadau a phroblemau a godwyd gan y cyfranogwyr ac eraill gan ddilyn rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
ceisio adborth gan y cyfranogwyr ynglŷn â'u bodlonrwydd â'r trefniadau ymadael
holi unigolion ymhellach am ddigwyddiadau a phroblemau, gan ddilyn rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
**Goruchwylio amser cyrraedd cyfranogwyr
**1. pam ei bod yn bwysig sicrhau bod amser cyrraedd y cyfranogwyr yn mynd yn hwylus
pa wybodaeth sydd ei hangen cyn ac yn ystod amser cyrraedd y cyfranogwyr
y trefniadau llety ac arlwyo sy'n addas ar gyfer ystod o wahanol fathau o gyfranogwyr a rhaglenni
anghenion penodol all fod gan gyfranogwyr mewn perthynas â llety ac arlwyo
y cyfleusterau a'r cyfarpar all fod eu hangen ar gyfer amser cyrraedd y cyfranogwyr
pam ei bod yn bwysig cynnal a chadw gweithdrefnau'r sefydliad wrth oruchwylio amser cyrraedd
y mathau o broblemau dadleuol a gwrthdrawiadol all ddigwydd a phryd i geisio eglurhad
pam ei bod yn bwysig ceisio adborth gan y cyfranogwyr ynglŷn â'r trefniadau a'r cyfleusterau
y mathau o ddigwyddiadau a phroblemau all godi yn ystod yr amser cyrraedd a sut i ddelio â'r rhain gan ddilyn gweithdrefnau perthnasol y sefydliad
**Goruchwylio trefniadau dyddiol cyfranogwyr
**10. pwysigrwydd dilyn polisïau a gweithdrefnau'r sefydliad mewn perthynas â goruchwylio cyfranogwyr ac eraill
sut i sicrhau bod trefniadau ac adnoddau sy'n gysylltiedig ag anghenion preswyl dyddiol y cyfranogwyr ar gael
y mathau o anghenion preswyl all fod gan gyfranogwyr
sut i sicrhau bod y cyfranogwyr ac eraill yn deall y trefniadau a'u bod yn cael cyfle i ofyn cwestiynau a chynnig adborth
pwysigrwydd parhau i oruchwylio trefniadaeth ddyddiol y cyfranogwyr
sut i sicrhau bod anghenion preswyl dyddiol y cyfranogwyr yn cael eu bodloni
y mathau o newidiadau y gofynnwyd amdanynt a all ddigwydd a sut i ddelio â'r rhain
pwysigrwydd amserau noswylio a threfniadau cysgu a'r elfennau sensitif sy'n gysylltiedig â'r rhain fel prif agwedd y profiad preswyl
sut i gynnal a chadw gofal cwsmeriaid drwy gydol y broses
egwyddorion gofal cwsmeriaid mewnol ac allanol o safon
**Trefnu trefniadau cysgu cyfranogwyr
**20. pwysigrwydd dilyn gweithdrefnau'r sefydliad a gofynion cyfreithiol mewn perthynas â threfniadau cysgu
pwysigrwydd darparu trefniadau cysgu sy'n cyfarfod ag anghenion y cyfranogwyr a'r rhaglen
sut i drefnu trefniadau cysgu ar gyfer cyfranogwyr
pwysigrwydd cadw at drefniadau diogeledd ar gyfer cyfranogwyr, yn arbennig plant a phobl ifanc
pam ei bod yn bwysig sicrhau bod y cyfranogwyr yn ymwybodol o'r trefniadau cysgu
y mathau o geisiadau am newidiadau i drefniadau cysgu y gellir eu gweithredu, y rhesymau dros y rhain a sut i ddelio â nhw yn unol ag amcanion y rhaglen
pwysigrwydd goruchwylio trefniadau cysgu a sut i wneud hyn gyda sensitifrwydd, yn unol â'r gwahanol fathau o gyfranogwyr
problemau a all godi a sut i ddelio â'r rhain
pwysigrwydd ceisio adborth ar y profiad preswyl
**Goruchwylio amser ymadael cyfranogwyr
**29. pam ei bod yn bwysig sicrhau bod yr amser ymadael yn mynd yn hwylus a phwysigrwydd cadw at reoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
pam ei bod yn bwysig cadw trosolwg o'r amser ymadael a sut i wneud hynny
pa wybodaeth sy'n berthnasol i gyfranogwyr ac eraill ar fater yr amser ymadael arfaethedig
sut i sicrhau bod gan y cyfranogwyr ac eraill y wybodaeth sydd ei hangen arnynt ar fater yr amser ymadael arfaethedig
pam ei bod yn bwysig sicrhau bod y cyfranogwyr ac eraill yn deall y trefniadau a'r gweithdrefnau ar gyfer ymadael, gan gynnwys pwysigrwydd peidio gadael eiddo ar eu hôl
cyfleusterau a chyfarpar y gall fod angen eu trefnu ar gyfer yr amser ymadael
sut i sicrhau bod yr amser ymadael yn mynd yn unol â'r trefniadau
sut i ddatrys ymholiadau a phroblemau a godwyd gan gyfranogwyr ac eraill
sut i geisio adborth gan y cyfranogwyr ac eraill ynglŷn â'u bodlonrwydd â'r trefniadau ymadael
sut i ddadansoddi ac ymateb i adborth gan y cyfranogwyr ac eraill ar eu bodlonrwydd â'r profiad preswyl
sut i holi unigolion ymhellach am ddigwyddiadau a phroblemau, gan ddilyn rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Cyfranogwyr
1.1 oedolion
1.2 plant a phobl ifanc
1.3 grwpiau nad yw eu haelodau'n adnabod ei gilydd
1.4 cyfranogwyr sydd ag anghenion penodol mewn perthynas â'r gweithgaredd
1.5 unigolion
1.6 grwpiau
2. Cydweithwyr
2.1 staff ar lefel uwch
2.2 gweithio ar yr un lefel
2.3 y rhai hynny sy'n gweithio mewn swyddogaethau atodol
3. Eraill
3.1 cleientiaid
3.2 rhieni
3.3 oedolion eraill fel arweinwyr partïon
4. Anghenion
4.1 llety
4.2 bwyd a diod
4.3 anghenion deietegol arbennig
4.4 cefnogaeth bersonol
4.5 diwylliannol a chrefyddol
5. Trefniadau cysgu
5.1 tu mewn
5.2 awyr agored
5.3 sengl
5.4 rhannu
5.5 oddi ar y safle
5.6 amseru
6. Digwyddiadau a materion
6.1 eiddo coll
6.2 personau ar goll
6.3 cwynion
6.4 awgrymiadau
7. Adborth
7.1 ffurfiol
7.2 anffurfiol
7.3 cadarnhaol
7.4 negyddol
7.5 awgrymiadau ar gyfer gwella
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
**Cwsmeriaid mewnol ac allanol
**Cwsmeriaid mewnol yw pobl sy'n gweithio'n uniongyrchol yn eich sefydliad neu'n anuniongyrchol o bosib mewn sefydliadau partner neu is-gontractwr. Cwsmeriaid allanol fel arfer yw'r rhai hynny sydd wedi talu, neu yr hoffech eu trin fel pe baent wedi talu.
**Rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
**Yn nodweddiadol, bydd y dogfennau hyn yn gosod y safonau, y gweithdrefnau a'r gofynion ar gyfer cyflwyno gweithgaredd. Gallant gynnwys rhestri cyfarpar, amlinelliad o gynlluniau sesiwn, pwyntiau a gweithdrefnau diogelwch. Gallant hefyd gyfeirio at gyrff llywodraethol Cenedlaethol (CLlC) penodol neu gyrff gweithgarwch cenedlaethol eraill perthnasol yn nhermau gwybodaeth a chanllawiau sy'n ymwneud â gweithgareddau. Gall y dogfennau hefyd gyfeirio at lefelau staffio a safonau yn nhermau cymarebau, cymwysterau a'r hyfforddiant/asesiad yr ymgymerwyd ag e, a gall gyplysu â CLlC, ymgynghorwyr technegol a nodweddion allanol neu fewnol eraill. Mae i ddogfennau o safon dda sawl defnydd ac efallai y bydd ar amrywiaeth o bartïon mewnol ac allanol a budd-ddeiliad eu hangen. Mae'r dogfennau o gymorth i gyflwyno gwybodaeth glir a chyson i aelodau staff ac eraill