Ymateb i bryderon ynghylch problemau diogeledd posib
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â delio'n ddiogel ac effeithiol gyda phryderon ynghylch problemau diogeledd posib gyda golwg ar blant ac oedolion sy'n agored i niwed (cyfranogwyr).
Gall mai diben y gefnogaeth yw delio gyda:
pryderon ynghylch cam-drin corfforol
pryderon ynghylch bwlio
pryderon ynghylch esgeulustod
pryderon ynghylch cam-drin emosiynol
pryderon ynghylch cam-drin rhywiol
Mae'r safon yn cynnwys dau brif ddeilliant.
Mae'r rhan gyntaf yn disgrifio'r pethau canlynol sy'n rhaid i chi eu gwneud:
adnabod arwyddion cam-drin posib
ymateb i ddadleniad gan gyfranogwr am achos o gam-drin
dilyn polisïau a gweithdrefnau gogyfer ag adrodd am gam-drin posib
Mae'r safon wedi ei hanelu at aelodau staff sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda phlant a neu oedolion sy'n agored i niwed. Argymhellir eich bod yn cael hyfforddiant mewn gwarchod a dylech fod yn gyfarwydd â rheoliadau a gweithdrefnau eich sefydliad gogyfer â delio â materion gwarchod, gan gynnwys cam-drin posib
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
**Adnabod arwyddion cam-drin posib
1. nodi unrhyw **arwyddion a dangosyddion o gam-drin posib
cymryd camau yn unol ag arwyddocâd yr arwyddion a'r dangosyddion a gofynion a gweithdrefnau eich sefydliad
dilyn rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
**Ymateb i ddadleniad gan gyfranogwr am achos o gam-drin
4. ymateb i **ddadleniad gan gyfranogwr am achos o gam-drin yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
egluro wrth y cyfranogwr y bydd rhaid i eraill gael gwybod am hyn
tawelu meddwl a rhoi cefnogaeth i'r cyfranogwr
cyfathrebu ar gyflymdra'r cyfranogwr
**Dilyn polisïau a gweithdrefnau gogyfer ag adrodd am gam-drin posib
8. cofnodi'r holl fanylion am **gam-drin posib yn gwbl ffeithiol ac yn unol â gweithdrefnau rheoli'r sefydliad
sicrhau bod eich manylion yn fanwl gywir
dilyn gweithdrefnau rheoli eich sefydliad wrth ymateb i geisiadau am adroddiadau ar ddigwyddiadau, dadleniad neu amheuon o gam-drin
nodi'r gwahaniaeth yn eich adroddiadau rhwng tystiolaeth a welwyd yn uniongyrchol a gwybodaeth a roddwyd gan eraill
cyflwyno eich adroddiadau i'r person cyfrifol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
**Adnabod arwyddion cam-drin posib
**1. sut i sicrhau bod eich arsylwadau o gyflwr corfforol ac ymddygiad y cyfranogwr yn sensitif i'r cyfranogwr a'r amgylchiadau
arwyddion a dangosyddion cyffredin o gam-drin corfforol, emosiynol, rhywiol, esgeulustod a bwlio mewn plant
pam ei bod yn bwysig nodi unrhyw arwyddion a dangosyddion o gam-drin posib
sut i gymryd camau yn unol ag arwyddocâd yr arwyddion a'r dangosyddion a gofynion a gweithdrefnau eich sefydliad
**Ymateb i ddadleniad gan gyfranogwr am achos o gam-drin
**5. pwysigrwydd ymateb ar unwaith ac yn ddigyffro i ddadleniad o gam-drin a'r technegau priodol o wneud hynny
pam ei bod yn bwysig egluro bod rhaid i eraill gael gwybod am unrhyw gam-drin posib
pam ei bod yn bwysig tawelu meddwl a rhoi cefnogaeth yn ystod dadleniad am achos o gam-drin a sut i wneud hynny
pam ei bod yn bwysig cyfathrebu ar gyflymdra'r plentyn neu'r oedolyn sy'n agored i niwed ac i beidio rhoi pwysau ar y plentyn neu'r oedolyn sy'n agored i niwed i ddadlennu mwy nag y mae e/hi yn ei ddymuno
dulliau sy'n cynorthwyo gyda chyfathrebu ar gyflymdra'r plentyn neu'r oedolyn sy'n agored i niwed a heb fod yn rhoi pwysau arno/arni
**Dilyn polisïau a gweithdrefnau gogyfer ag adrodd am gam-drin posib
**10. pwysigrwydd cofnodi a chyflwyno'r holl fanylion am gam-drin posib yn gwbl ffeithiol ac yn unol â gweithdrefnau rheoli'r sefydliad
pwysigrwydd dilyn gweithdrefnau rheoli'r sefydliad wrth ymateb i geisiadau am adroddiadau ar ddigwyddiadau, dadleniad neu amheuon o **gam-drin
sut i nodi'r gwahaniaeth yn eich adroddiadau rhwng tystiolaeth a welwyd yn uniongyrchol a gwybodaeth a roddwyd gan eraill
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Arwyddion a dangosyddion
1.1 corfforol
1.2 ymddygiadol
2. Cam-drin
2.1 corfforol
2.2 bwlio
2.3 esgeulustod
2.4 emosiynol
2.5 rhywiol
3. Dadleniad
3.1 llawn
3.2 rhannol
4. Adroddiadau
4.1 llafar
4.2 ysgrifenedig
4.3 proforma barod
5. Cyfranogwyr
5.1 plant
5.2 oedolion sy'n agored i niwed
**6. Eraill
**6.1 cleientiaid
6.2 rhieni
6.3 aelodau'r cyhoedd (sy'n gweithio mewn lleoliadau cyhoeddus neu sydd â hawl dramwy gyhoeddus)
6.4 oedolion eraill fel arweiniwyd partïon
6.5 cydweithwyr
7. Person cyfrifol
7.1 rheolwr llinell
7.2 uwch gydweithiwr
7.3 oedolyn arall
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Rhestrir isod y prif sgiliau a'r priodoleddau generig sy'n gymwys i'r dasg o gyflwyno Rhaglenni Awyr Agored.
Empathi
Gwrando'n weithredol
Hyfforddi
Cyfathrebu
Ymgynghori
Dylanwadu a pherswadio
Dirprwyo
Diplomyddiaeth
Galluogi
Hwyluso
Dilyn
Arwain drwy esiampl
Rheoli ymddygiad heriol
Mentora
Ysgogi
Trafod a chyfaddawdu
Sicrhau adborth
Cynllunio a gwerthuso
Darparu adborth
Pennu amcanion
Gwerthfawrogi a chefnogi eraill
Geirfa
**Rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
**Yn nodweddiadol, bydd y dogfennau hyn yn gosod y safonau, y gweithdrefnau a'r gofynion ar gyfer cyflenwi gweithgaredd. Gallant gynnwys rhestri cyfarpar, amlinelliad o gynlluniau sesiwn, pwyntiau a gweithdrefnau diogelwch. Gallant hefyd gyfeirio at gyrff llywodraethol Cenedlaethol (CLlC) penodol neu gyrff gweithgarwch cenedlaethol eraill perthnasol yn nhermau gwybodaeth a chanllawiau sy'n ymwneud â gweithgareddau. Gall y dogfennau hefyd gyfeirio at lefelau staffio a safonau yn nhermau cymarebau, cymwysterau a'r hyfforddiant/asesiad yr ymgymerwyd ag e, a gall gyplysu â CLlC, ymgynghorwyr technegol a nodweddion allanol neu fewnol eraill. Mae i ddogfennau o safon dda sawl defnydd ac efallai y bydd ar amrywiaeth o bartïon mewnol ac allanol a budd-ddeiliad eu hangen. Mae'r dogfennau o gymorth i gyflwyno gwybodaeth glir a chyson i aelodau staff ac eraill.
**Arwyddion a dangosyddion
**Mae'n bosib y bydd cyfranogwyr sydd wedi dioddef cam-drin o ryw fath yn arddangos arwyddion a dangosyddion (heblaw am siarad yn uniongyrchol am broblem) all fod yn achos pryder.
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon hon yn cyplysu â SKAOP3.