Trefnu ac arolygu teithio
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â threfnu a goruchwylio teithio i blant, pobl ifanc ac oedolion. Gall y teithio hyn for 'ar liwt yr unigolyn', e.e. cerdded neu ar feic, mewn cerbyd sy'n eiddo i'r unigolyn neu gerbyd wedi ei logi, neu ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae'r safon hon yn cynnwys dau ddeilliant, sef
gwneud trefniadau teithio
goruchwylio teithio
Mae'r safon hon ar gyfer pobl sy'n trefnu teithio sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc ac sy'n cynnwys oedolion.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gwneud trefniadau teithio
* *
cynllunio trefniadau teithio sy'n cyfarfod ag anghenion y daith ac anghenion y cyfranogwyr
cynllunio trefniadau teithio sy'n cydbwyso effeithlonrwydd, cost-effeithiolrwydd, cyfforddusrwydd a gofal am yr amgylchedd
cynllunio ar gyfer hapddigwyddiadau oddi mewn i'ch cynlluniau teithio
cynllunio trefniadau teithio sy'n ddiogel ac sy'n rhoi ystyriaeth i'r amodau yn ystod y daith
rhoi gwybodaeth gywir a chyfredol am y trefniadau teithio i'r cyfranogwyr, cydweithwyr a phobl eraill
sicrhau bod y cyfranogwyr, cydweithwyr a'r bobl eraill yn gwbl barod ar gyfer y daith
dilyn holl reoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer y daith
Arolygu teithio
cymryd camau i sicrhau bod y cyfranogwyr, cydweithwyr a'r bobl eraill yn gadael ac yn cyrraedd mewn pryd
cynnal a chadw diogelwch y cyfranogwyr, cydweithwyr a'r bobl eraill yn ystod y daith
sicrhau bod cyfarpar, eiddo ac unrhyw ddogfennau teithio yn ddiogel ac yn saff yn ystod y daith
arolygu trin cyfarpar ac eiddo er mwyn osgoi niwed a difrod
sicrhau bod cerbydau ac atodion sydd dan eich rheolaeth a gweithrediad y cerbydau hyn yn cydymffurfio â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
delio gydag unrhyw anawsterau yn ystod y daith mewn ffordd sy'n cynnal ac yn cadw diogelwch, diogeled, cyfforddusrwydd y cyfranogwr, cydweithwyr a phobl eraill
cadw'r cofnodion teithio angenrheidiol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwneud trefniadau teithio
* *
sut i gynllunio trefniadau teithio sy'n cyfarfod â gofynion y daith a gofynion y cyfranogwyr
adnoddau a threfniadau ychwanegol all fod eu hangen ar gyfer pobl anabl
sut i gynllunio trefniadau teithio sy'n cydbwyso effeithlonrwydd, cost-effeithiolrwydd, cyfforddusrwydd a gofal am yr amgylchedd
pa fath hapddigwyddiadau all ddigwydd a pha gynlluniau i'w gwneud er mwyn rhoi ystyriaeth i'r rhain
sut i gynllunio trefniadau teithio sy'n ddiogel ac sy'n rhoi ystyriaeth i'r amodau yn ystod y daith
pwysigrwydd rhoi gwybodaeth gywir a chyfredol am y trefniadau teithio mewn da bryd i'r cyfranogwyr, cydweithwyr a phobl eraill: beth all fynd o'i le os na wneir hyn
sut i roi gwybodaeth gywir a chyfredol am y trefniadau teithio i'r cyfranogwyr, cydweithwyr a phobl eraill
y paratoadau y byddai'n rhaid i'r cyfranogwyr, cydweithwyr a phobl eraill fel ei gilydd wneud ar gyfer y dewis o deithiau
sut i sicrhau bod y cyfranogwyr, cydweithwyr a'r bobl eraill yn gwbl barod ar gyfer y daith
y gofynion trefniadaethol a chyfreithiol sy'n rheoli trefnu teithio ar gyfer cyfranogwyr
Arolygu teithio
pa gamau i'w cymryd i sicrhau bod cyfranogwyr yn gadael ac yn cyrraedd mewn pryd
pwysigrwydd sicrhau diogelwch a lles cyfranogwyr yn ystod y daith a sut i wneud hynny
dulliau o annog ymddygiad positif a delio gydag ymddygiad annerbyniol
sut i sicrhau bod cyfarpar, eiddo ac unrhyw ddogfennau teithio yn ddiogel ac yn saff yn ystod y daith
sut i arolygu trin a thrafod cyfarpar ac eiddo er mwyn osgoi niwed a difrod
sut i sicrhau bod cerbydau ac atodion sydd dan eich rheolaeth yn cydymffurfio â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
y mathau o anawsterau all godi yn ystod y daith a sut i ddelio â'r rhain mewn ffordd sy'n cynnal ac yn cadw diogelwch, diogeledd, cyfforddusrwydd y cyfranogwyr
pa gofnodion sydd angen eu cadw a phwysigrwydd gwneud hyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Cyfranogwyr
1.1 oedolion
1.2 plant a phobl ifanc
1.3 grwpiau nad yw eu haelodau'n adnabod ei gilydd
1.4 cyfranogwyr sydd ag anghenion penodol mewn perthynas â'r gweithgaredd
1.5 unigolion
1.6 grwpiau
2. Cydweithwyr
2.1 staff ar lefel uwch
2.2 gweithio ar yr un lefel
2.3 y rhai hynny sy'n gweithio mewn swyddogaethau atodol
*
*
3. * *Pobl eraill
3.1 cleientiaid
3.2 rhieni
3.3 oedolion eraill fel arweinwyr partïon
*
*
4. Trefniadau teithio
4.1 dull teithio
4.2 llwybr teithio
4.3 amserau gadael a chyrraedd
4.4 camau'r daith
4.5 bwyd a diod
4.6 cyfforddusrwydd a hylendid
4.7 llety dros nos
4.8 goruchwyliaeth a chefnogaeth
4.9 cludo cyfarpar ac eiddo
4.10 gofynion diogelwch
5. Siwrneiau
5.1 ar eich liwt eich hun
5.2 mewn cerbyd sefydliad/ar log
5.3 cludiant cyhoeddus
*
*
6. Anawsterau
6.1 ymddygiad yn achosi niwed corfforol
6.2 ymddygiad yn achosi niwed emosiynol
6.3 ymddygiad yn achosi difrod
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Rhestrir isod y prif sgiliau a'r priodoleddau generig sy'n gymwys i'r dasg o gyflwyno Rhaglenni Awyr Agored.
Empathi
Gwrando'n weithredol
Hyfforddi
Cyfathrebu
Ymgynghori
Dylanwadu a pherswadio
Dirprwyo
Diplomyddiaeth
Galluogi
Hwyluso
Dilyn
Arwain drwy esiampl
Rheoli ymddygiad heriol
Mentora
Ysgogi
Trafod a chyfaddawdu
Sicrhau adborth
Cynllunio a gwerthuso
Darparu adborth
Pennu amcanion
Gwerthfawrogi a chefnogi eraill
Geirfa
Plant a phobl ifanc
Plant a phobl ifanc sydd heb fod yn anabl a'r rhai sydd yn anabl yn yr ystod oedran 4 – 16 oed (er mewn rhai achosion mae hyn hyd at 18 oed), yn ferched a bechgyn fel ei gilydd, o bob diwylliant a chefndir.
*
*
Hapddigwyddiadau
Darpariaeth a wnaed ar gyfer digwyddiadau all ddigwydd: y tywydd, damwain ac achos brys a newidiadau anorfod. Gall hefyd gynnwys cynllunio ar gyfer materion ymddygiadol neu les gyda chyfranogion neu staff eraill.
Cyfranogwyr Anabl
Cyfranogwyr ag amhariadau sy'n wynebu rhwystrau wrth geisio cael mynediad i gyfleusterau prif ffrwd. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd ag amhariadau corfforol a synhwyraidd, anawsterau dysgu a chyfathrebu, cyflyrau meddygol, anghenion heriol a chymhleth all fod yn rhai parhaol neu dros dro.
Ar liwt yr unigolyn
Cerdded neu ar feic neu ganŵ
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon hon yn cyplysu â SKOP2, SKAOP3 a SKAOP13