Rhoi arweiniad mewn chwaraeon a hamdden egnïol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rhoi arweiniad ac annog diwylliant cydweithrediadol oddi mewn i leoliad chwaraeon a hamdden egnïol. Mae'n canolbwyntio ar yr angen am ddiwylliant sy'n annog, yn ysgogi ac yn cefnogi cydweithwyr a budd-ddeiliaid eraill i gyflawni'r weledigaeth a'r amcanion yn eich maes gwaith. Gallai 'maes gwaith' yn y cyd-destun hwn fod yn sefydliad neu gallai fod yn fenter neu'n brosiect partneriaethol.
Mae'r safon hon ar gyfer rheolwyr llinell flaen a rheolwyr canol yn y sector chwaraeon a hamdden egnïol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
annog ymrwymiad i nodau ac amcanion cyfrannol oddi mewn i gyfyngiadau presennol
rhannu strategaethau cytunedig gyda chydweithwyr ac eraill er mwyn sicrhau bod nodau ac amcanion cyfrannol yn cael eu cyflawni
arwain yn eich maes cyfrifoldeb fel bod y nodau a'r amcanion cytunedig yn cael eu cyflawni gan oresgyn sialensiau, datblygu atebion a manteisio ar gyfleoedd ar yr un pryd
annog a dathlu creadigrwydd, newyddbethau, amrywiaeth a chynhwysiad oddi mewn i'ch maes cyfrifoldeb
defnyddio dulliau arwain sy'n dwyn perthynas â chyfranogwyr ac â sefyllfaoedd
defnyddio amrywiaeth o ddulliau er mwyn cyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill
rhoi cefnogaeth a chyngor i'ch cydweithwyr ac eraill yn eich maes cyfrifoldeb pan fydd angen hynny arnynt, yn enwedig yn ystod cyfnodau anodd o anawsterau a newid
cyfrannu at ddiwylliant o welliant parhaus
galluogi cydweithwyr i ddatblygu eu dulliau personol o weithio a gwneud eu penderfyniadau eu hunain oddi mewn i derfynau cytunedig
annog a rhoi cyfleoedd i gydweithwyr ac eraill i arwain yn eu meysydd arbenigol personol a dangos parodrwydd i ddilyn yr arweiniad hwn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
agweddau canmoliaethus arwain, rheoli, hyfforddi a mentora a'r defnydd effeithiol ohonynt
gwahanol dechnegau ar gyfer gosod cyfeiriad a phennu amcanion a chreu strategaethau
dulliau o gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill
technegau ar gyfer gwella perfformiad wrth arwain
methodolegau ar gyfer gwella cynllunio
technegau ar gyfer hwyluso creadigrwydd a dyfeisgarwch
gofynion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiad a sut i gyfarfod â'r rhain wrth arwain tîm
technegau gogyfer ag annog eraill i arwain a dulliau o gyflawni hyn
gwahanol ffyrdd o fynd ati i ddatblygu timau a chyfranogwyr
eich gwerthoedd, cymhelliant, gweledigaeth, cryfderau personol a meysydd i'w gwella wrth weithio mewn tîm
cryfderau cydweithwyr ac eraill a'u meysydd i'w gwella
gweledigaeth ac amcanion yn sefydliad cyfan
gweledigaeth, amcanion, diwylliant a'r cynlluniau gweithredol ar gyfer eich maes cyfrifoldeb
diwylliant arwain ar draws y sefydliad a'ch steil bersonol chi o arwain
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Cyfranogwyr
1.1 oedolion
1.2 plant a phobl ifanc
1.3 grwpiau nad yw eu haelodau'n adnabod ei gilydd
1.4 cyfranogwyr sydd ag anghenion penodol mewn perthynas â'r gweithgaredd
1.5 unigolion
1.6 grwpiau
2. Cydweithwyr
2.1 staff ar lefel uwch
2.2 gweithio ar yr un lefel
2.3 y rhai hynny sy'n gweithio mewn swyddogaethau ategol
*
*
3. Eraill
3.1 cleientiaid
3.2 rhieni
3.3 budd-ddeiliaid
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Rhestrir isod y prif sgiliau a'r priodoleddau generig sy'n gymwys i'r dasg o gyflwyno Rhaglenni Awyr Agored.
Empathi
Gwrando'n weithredol
Hyfforddi
Cyfathrebu
Ymgynghori
Dylanwadu a pherswadio
Dirprwyo
Diplomyddiaeth
Galluogi
Hwyluso
Dilyn
Arwain drwy esiampl
Rheoli ymddygiad heriol
Mentora
Ysgogi
Trafod a chyfaddawdu
Sicrhau adborth
Cynllunio a gwerthuso
Darparu adborth
Pennu amcanion
Gwerthfawrogi a chefnogi eraill
Geirfa
Rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
Yn nodweddiadol, bydd y dogfennau hyn yn gosod y safonau, gweithdrefnau a'r gofynion ar gyfer cyflwyno'r gweithgaredd. Gallant gynnwys rhestri cyfarpar, amlinelliad o gynlluniau sesiwn, pwyntiau a gweithdrefnau diogelwch. Gallant hefyd gyfeirio at gyrff llywodraethol Cenedlaethol (CLlC) penodol neu gyrff gweithgarwch cenedlaethol eraill perthnasol yn nhermau gwybodaeth a chanllawiau sy'n ymwneud â gweithgareddau. Gall y dogfennau hefyd gyfeirio at lefelau staffio yn nhermau cymarebau, cymwysterau a'r hyfforddiant/asesiad yr ymgymerwyd ag e, a gall fod ynghlwm wrth CLlC, ymgynghorwyr technegol a nodweddion allanol neu fewnol eraill.
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon hon yn cyplysu â SKAOP2, SKAOP5 a SKAOP12