Rheoli defnyddio adnoddau’n effeithlon
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli'r adnoddau rydych chi'n gyfrifol amdanynt. Gall y rhain fod naill ai'n adnoddau ariannol ar lun cyllideb neu adnoddau materol fel cyfarpar a nwyddau traul. Mae'r safon yn cynnwys adnoddau cymeradwy er mwyn i chi a'ch tîm gyfarfod â'u hamcanion. Mae'r safon hefyd yn cynnwys monitro a rheoli sut y caiff adnoddau eu defnyddio.
Y safon hon yw:
- rheoli defnyddio adnoddau'n effeithlon
* *
Mae'r safon hon wedi ei hanelu at staff sydd â chyfrifoldebau sylweddol dros gyfarpar a nwyddau traul.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Rheoli defnyddio adnoddau'n effeithlon
*
*
rhoi cyfle i gydweithwyr gyflwyno gwybodaeth am yr adnoddau sydd eu hangen ar y tîm
casglu gwybodaeth oddi wrth gydweithwyr am yr adnoddau sydd eu hangen ar y tîm
cynnig argymhellion sy'n ystyried tueddiadau a datblygiadau ac arferion da presennol sy'n debygol o gael effaith ar y defnydd a wneir o adnoddau
cynnig argymhellion sy'n gyson ag amcanion y tîm, rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad a materion amgylcheddol
cynnig argymhellion sy'n nodi'r manteision posib a ddisgwylir o wneud defnydd bwriadus o adnoddau
cyflwyno argymhellion i gydweithwyr
rhoi cyfleoedd i gydweithwyr gymryd cyfrifoldeb unigol dros ddefnyddio adnoddau'n effeithlon pan fydd angen
monitro'r defnydd effeithlon o adnoddau oddi mewn i'ch maes cyfrifoldeb
sicrhau bod defnyddio adnoddau gan y tîm yn rhoi ystyriaeth i'r effaith posib ar yr amgylchedd
monitro safon yr adnoddau a sicrhau cysondeb o ran cynnyrch a chyflwyno gwasanaeth
adnabod ar unwaith unrhyw broblemau gydag adnoddau, a chynnig argymhellion i gydweithwyr ar gamau cywirol cyn gynted â phosib
cynnig argymhellion ar wella'r defnydd o adnoddau yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau eich sefydliad
sicrhau bod cofnodion sy'n ymwneud â defnyddio adnoddau yn cael eu cwblhau yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau eich sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Rheoli defnyddio adnoddau'n effeithlon
*
*
sut i roi cyfle i gydweithwyr i gyflwyno gwybodaeth am yr adnoddau sydd eu hangen ar y tîm
sut i gasglu gwybodaeth oddi wrth gydweithwyr am yr adnoddau sydd eu hangen ar y tîm
sut i gynnig argymhellion ar gyfer defnyddio'r adnoddau'n effeithlon gan ystyried tueddiadau a datblygiadau ac arferion da presennol sy'n debygol o gael effaith ar y defnydd a wneir o adnoddau
sut i gynnig argymhellion sy'n gyson ag amcanion y tîm, rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad a materion amgylcheddol
sut i gynnig argymhellion sy'n nodi'r manteision posib a ddisgwylir o wneud defnydd bwriadus o adnoddau
sut i gyflwyno argymhellion i gydweithwyr
sut i roi cyfleoedd i gydweithwyr gymryd cyfrifoldeb unigol dros ddefnyddio adnoddau'n effeithlon pan fydd angen
sut i fonitro'r defnydd effeithlon o adnoddau oddi mewn i'ch maes cyfrifoldeb
sut i fonitro a rheoli defnyddio adnoddau er mwyn amlhau effeithlonrwydd i'r eithaf, gan gynnal a chadw safon y cynhyrchion a'r gwasanaethau ar yr un pryd
pwysigrwydd rheoli adnoddau'n effeithiol i berfformiad y sefydliad
sut i sicrhau bod defnyddio adnoddau gan y tîm yn rhoi ystyriaeth i'r effaith posib ar yr amgylchedd
sut i fonitro safon yr adnoddau a sicrhau cysondeb o ran cynnyrch a chyflenwi gwasanaeth
sut i adnabod ar unwaith unrhyw broblemau gydag adnoddau, a chynnig argymhellion i gydweithwyr ar gamau cywirol cyn gynted â phosib
sut i gynnig argymhellion ar wella'r defnydd o adnoddau yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau eich sefydliad
pwysigrwydd sicrhau bod cofnodion sy'n ymwneud â defnyddio adnoddau yn cael eu cwblhau yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Cydweithwyr
1.1 staff ar lefel uwch
1.2 gweithio ar yr un lefel
1.3 y rhai hynny sy'n gweithio mewn swyddogaethau ategol
1.4 cydweithwyr annibynnol
1.5 cydweithwyr o sefydliadau eraill
2. Argymhellion
2.1 tymor byr
2.2 tymor canolig
3. Camau cywirol
3.1 newid gweithgareddau
3.2 addasu'r defnydd o adnoddau
3.3 ffocyswr – trafod dyrannu adnoddau
4. Adnoddau
4.1 pobl
4.2 cyfarpar
4.3 dillad
4.4 amgylchedd
4.5 trefniadau domestig
4.6 trefniadau logistaidd
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Rhestrir isod y prif sgiliau a'r priodoleddau generig sy'n gymwys i'r dasg o gyflwyno Rhaglenni Awyr Agored.
Empathi
Gwrando'n weithredol
Hyfforddi
Cyfathrebu
Ymgynghori
Dylanwadu a pherswadio
Dirprwyo
Diplomyddiaeth
Galluogi
Hwyluso
Dilyn
Arwain drwy esiampl
Rheoli ymddygiad heriol
Mentora
Ysgogi
Trafod a chyfaddawdu
Sicrhau adborth
Cynllunio a gwerthuso
Darparu adborth
Pennu amcanion
Gwerthfawrogi a chefnogi eraill
Geirfa
Arfer da presennol
Bod yn ymwybodol o safonau'r sector ynghyd ag adnoddau newydd ac effeithiol a dulliau o'u defnyddio yn y sector ehangach yn gyffredinol.
Rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
Yn nodweddiadol, bydd y dogfennau hyn yn gosod y safonau, gweithdrefnau a'r gofynion ar gyfer cyflwyno'r gweithgaredd. Gallant gynnwys rhestri cyfarpar, amlinelliad o gynlluniau sesiwn, pwyntiau a gweithdrefnau diogelwch. Gallant hefyd gyfeirio at gyrff llywodraethol Cenedlaethol (CLlC) penodol neu gyrff gweithgarwch cenedlaethol eraill perthnasol yn nhermau gwybodaeth a chanllawiau sy'n ymwneud â gweithgareddau. Gall y dogfennau hefyd gyfeirio at lefelau staffio yn nhermau cymarebau, cymwysterau a'r hyfforddiant/asesiad yr ymgymerwyd ag e, a gall fod ynghlwm wrth CLlC, ymgynghorwyr technegol a nodweddion allanol neu fewnol eraill. Mae sawl defnydd i *ddogfennau o safon dda ac o bosib bydd eu hangen ar amrywiaeth o *bartïon a budd-ddeiliaid mewnol ac allanol. Mae'r dogfennau yn cynorthwyo i gyfleu gwybodaeth gyson a chlir i aelodau staff ac eraill.
Adnoddau
Mae hyn yn cael ei weld yn bennaf fel rhywbeth sy'n gysylltiedig â chyflenwi gweithgaredd yn nhermau cyfarpar/cyflenwadau, ond hefyd gallai fod yn gysylltiedig â'r staff sy'n ymwneud â'r gweithgareddau.
Tueddiadau a datblygiadau
Bod yn ymwybodol o ffyrdd newydd o wneud pethau ac adnoddau a chyfarpar cysylltiedig yn eich meysydd cyfrifoldeb.
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon hon yn cyplysu â SKAOP2 a SKAOP12