Dyrannu a monitro cynnydd eich gwaith yn eich maes cyfrifoldeb
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â sicrhau bod y gwaith sydd ei angen yn eich maes cyfrifoldeb chi yn cael ei gynllunio'n effeithiol a'i ddyrannu'n deg i unigolion a/neu dimau. Mae hefyd yn gofyn am fonitro cynnydd a safon gwaith unigolion a/neu dimau er mwyn sicrhau bod y lefel angenrheidiol neu safon y perfformiad yn cael ei gyrraedd ac adolygu a diweddaru cynlluniau gwaith yng ngoleuni datblygiadau.
Gall maes y cyfrifoldeb fod yn gangen neu'n adran neu'n ardal weithredol neu'n safle gweithredu oddi mewn i sefydliad, er enghraifft.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Dyrannu a monitro cynnydd eich gwaith yn eich maes cyfrifoldeb
*
*
archwilio ffyrdd eraill o lanw swyddi gwag
cadarnhau gyda'ch rheolwr y gwaith sydd ei angen yn eich maes cyfrifoldeb a cheisio eglurder, lle bydd angen, ar unrhyw bwyntiau a materion sydd heb eu penderfynu.
cynllunio sut y bydd y gwaith yn cael ei wneud, gan geisio barn pobl yn eich maes cyfrifoldeb, adnabod unrhyw flaenoriaethau neu weithgareddau pwysig a gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd ar gael.
sicrhau bod gwaith yn cael ei ddyrannu'n deg i unigolion a/neu dimau gan roi ystyriaeth i sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth, profiad a llwyth gwaith a'r cyfle i ddatblygu.
sicrhau bod unigolion a/neu dimau yn derbyn cyfarwyddyd ar waith sydd wedi ei ddyrannu, gan ddangos sut mae hynny'n cyd-fynd â'r weledigaeth a'r amcanion gogyfer â'r maes a'r sefydliad yn gyffredinol, a safon neu lefel y perfformiad disgwyliedig.
annog unigolion a/neu dimau i ofyn cwestiynau, cynnig awgrymiadau a cheisio eglurhad mewn perthynas â gwaith sydd wedi'i ddyrannu.
monitro cynnydd a safon gwaith unigolion a/neu dimau a hynny'n rheolaidd ac yn deg yn erbyn safon neu lefel y perfformiad disgwyliedig a rhoi adborth prydlon ac adeiladol.
cefnogi unigolion a/neu dimau er mwyn canfod ac ymdrin â phroblemau a digwyddiadau annisgwyl.
ysgogi unigolion a/neu dimau i gwblhau'r gwaith sydd wedi ei ddyrannu iddynt a, lle bydd cais wedi ei wneud a lle bydd hynny'n bosib, rhoi unrhyw gefnogaeth a/neu adnoddau ychwanegol er mwyn helpu i'w gwblhau.
monitro eich maes am wrthdaro, gan ganfod yr achos(ion) pan fydd hynny'n digwydd ac ymdrin â'r mater yn brydlon ac effeithiol.
adnabod perfformiad annerbyniol neu wael, trafod yr achos(ion) a chytuno ar ffyrdd o wella perfformiad gydag unigolion a/neu dimau.
cydnabod pan fydd unigolion a/neu dimau wedi cwblhau darnau sylweddol o waith neu weithgareddau gwaith yn llwyddiannus
defnyddio gwybodaeth a gasglwyd am berfformiad unigolion a/neu dimau mewn unrhyw werthusiadau perfformiad ffurfiol
adolygu a diweddaru cynlluniau gwaith ar gyfer eich maes, gan adrodd yn glir am unrhyw newidiadau wrth y rhai fydd yn cael eu heffeithio.
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Dyrannu a monitro cynnydd eich gwaith yn eich maes cyfrifoldeb
*
*
sut i ddewis a chymhwyso'r gwahanol ddulliau o gyfathrebu â phobl ar draws maes cyfrifoldeb, a hynny'n llwyddiannus
pwysigrwydd cadarnhau/crisialu'r gwaith sydd ei angen yn eich maes cyfrifoldeb gyda'ch rheolwr a sut i wneud hyn yn llwyddiannus
sut i adnabod a rhoi sylw dyladwy i faterion iechyd a diogelwch yn y dasg o gynllunio, dyrannu a monitro gwaith
sut i lunio cynllun gwaith ar gyfer eich maes cyfrifoldeb, gan gynnwys sut i adnabod unrhyw flaenoriaethau neu weithgareddau hanfodol a'r adnoddau sydd ar gael
pwysigrwydd gofyn am farn pobl sy'n gweithio yn eich maes a sut i ystyried eu safbwyntiau wrth lunio cynllun gwaith
pam ei bod yn bwysig dyrannu gwaith i unigolion a/neu dimau a hynny mewn ffordd deg a sut i wneud hynny'n effeithiol
pam ei bod yn bwysig bod unigolion a/neu dimau yn derbyn cyfarwyddyd ar waith sydd wedi ei ddyrannu a safon neu lefel y perfformiad disgwyliedig a sut i wneud hynny'n effeithiol
pwysigrwydd dangos i unigolion a/neu dimau sut mae eu gwaith yn cyd-fynd â gweledigaeth ac amcanion y maes a gweledigaeth ac amcanion y sefydliad
dulliau o annog unigolion a/neu dimau i ofyn cwestiynau a/neu geisio eglurhad mewn perthynas â gwaith sydd wedi ei ddyrannu iddynt.
dulliau effeithiol o fonitro'n rheolaidd ac yn deg gynnydd a safon gwaith unigolion a/neu dimau yn erbyn y safonau neu lefel y perfformiad disgwyliedig
sut i roi adborth prydlon ac adeiladol i unigolion a/neu dimau
pam ei bod yn bwysig monitro eich maes am wrthdaro a sut i adnabod achos(ion) gwrthdaro pan fydd yn digwydd a sut i ymdrin â'r mater yn brydlon ac effeithiol
pam ei bod yn bwysig adnabod perfformiad annerbyniol neu wael gan unigolion a/neu dimau a sut i drafod yr achosion a chytuno gyda nhw ar ffyrdd o wella perfformiad
y mathau o broblemau a digwyddiadau annisgwyl all ddigwydd a sut i gefnogi unigolion a/neu dimau wrth ymdrin â nhw
y gefnogaeth a/neu adnoddau ychwanegol y bydd unigolion a/neu dimau eu hangen o bosib i'w helpu i gwblhau eu gwaith a sut i gynorthwyo gyda darparu hyn
sut i ddewis a chymhwyso'n llwyddiannus wahanol ffyrdd o annog, ysgogi a chefnogi unigolion a/neu dimau er mwyn iddynt gwblhau'r gwaith sydd wedi ei ddyrannu iddynt, gwella eu perfformiad ac er mwyn cydnabod eu llwyddiannau
sut i gofnodi gwybodaeth ar berfformiad parhaus unigolion a/neu dimau a defnyddio'r wybodaeth hon at ddibenion gwerthuso perfformiad ffurfiol
pwysigrwydd adolygu a diweddaru cynlluniau gwaith ar gyfer eich maes yng ngoleuni datblygiadau, sut i ail-ddyrannu gwaith ac adnoddau gan adrodd yn glir am unrhyw newidiadau wrth y rhai fydd yn cael eu haffeithio
gofynion y diwydiant/sector ar gyfer datblygu neu gynnal a chadw gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau
deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau, codau ymarfer penodol y diwydiant/sector mewn perthynas â chyflawni gwaith
yr unigolion a/neu dimau yn eich maes cyfrifoldeb
y weledigaeth a'r amcanion ar gyfer eich maes cyfrifoldeb
gweledigaeth ac amcanion y sefydliad cyffredinol
y gwaith sydd ei angen yn eich maes cyfrifoldeb
yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer gwneud y gwaith angenrheidiol
y cynllun gwaith ar gyfer eich maes cyfrifoldeb
27 atganiad polisi ysgrifenedig y sefydliad ar fater iechyd a diogelwch a gwybodaeth a gofynion cysylltiedig
polisi a gweithdrefnau eich sefydliad yn nhermau datblygiad personol
safonau neu lefel perfformiad disgwyliedig y sefydliad
polisïau a gweithdrefnau'r sefydliad gogyfer â delio â pherfformiad gwael
polisïau a gweithdrefnau cwyno a disgyblu'r sefydliad
systemau gwerthuso perfformiad y sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Rhaid i chi ddangos eich bod yn gyson yn:
Adnabod yn brydlon unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau ac addasu cynlluniau a gweithgareddau yn unol â hynny.
Blaenoriaethu amcanion a chynllunio gwaith er mwyn gwneud y defnydd gorau o amser ac adnoddau.
Sicrhau eich bod yn neilltuo amser i gefnogi eraill.
Cymryd cyfrifoldeb personol dros beri i bethau'n digwydd.
Dangos ymwybyddiaeth o'ch gwerthoedd, cymhellion ac emosiynau personol.
Dangos gonestrwydd, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau.
7 .Cytuno'n glir â'r hyn a ddisgwylir gan eraill a'u dal yn atebol.
Ceisio deall anghenion a chymhellion pobl.
Ymfalchïo yn y dasg o gyflwyno gwaith o safon uchel.
Bod yn effro i risgiau a pheryglon posib.
Annog a chefnogi eraill i wneud y defnydd gorau o'u doniau.
Defnyddio amrywiaeth o ddulliau arwain sy'n briodol i bobl a sefyllfaoedd gwahanol.
Sgiliau
Rhestrir isod y prif sgiliau a'r priodoleddau generig sy'n gymwys i'r dasg o gyflwyno Rhaglenni Awyr Agored.
Empathi
Gwrando'n weithredol
Hyfforddi
Cyfathrebu
Ymgynghori
Dylanwadu a pherswadio
Dirprwyo
Diplomyddiaeth
Galluogi
Hwyluso
Dilyn
Arwain drwy esiampl
Rheoli ymddygiad heriol
Mentora
Ysgogi
Trafod a chyfaddawdu
Sicrhau adborth
Cynllunio a gwerthuso
Darparu adborth
Pennu amcanion
Gwerthfawrogi a chefnogi eraill