Hwyluso hamdden awyr agored
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â darparu profiadau hamdden yn yr awyr agored.
Mae'r safon hon yn cynnwys tri phrif ddeilliant:
Cadarnhau sylfeini'r gweithgaredd hamdden
Hwyluso profiadau awyr agored er mwyn cyfarfod ag anghenion hamdden y cyfranogwyr
Rheoli lles corfforol ac emosiynol y cyfranogwyr
Mae'r safon hon ar gyfer staff sydd â rhywfaint o brofiad o weithio yn yr awyr agored ac sy'n gallu gweithio heb unrhyw oruchwyliaeth uniongyrchol. Cyd-destunau posib – gweithio'n uniongyrchol gydag oedolion a phobl ifanc, er enghraifft mewn canolfan gweithgareddau gwyliau neu yn ystod gwyliau teithio yn y DU neu dramor er mwyn darparu deilliannau hamdden.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Cadarnhau sylfaeni'r gweithgaredd hamdden
* *
rhyngweithio â'r cyfranogwyr yn unol â gofynion y gweithgaredd a rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
sicrhau bod y cyfranogwyr yn deall sut i ddefnyddio'r cyfarpar a'r dillad darparu lleoliad ac adnoddau sy'n cyfarfod ag anghenion y cyfranogwyr, rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
annog y cyfranogwyr i gael y mwyaf o'r profiad hamdden
tawelu meddwl y cyfranogwyr ynglŷn ag unrhyw agweddau ar y profiad sydd, o bosib, yn peri pryderu iddyn nhw
Hwyluso profiadau awyr agored er mwyn cyfarfod ag anghenion hamdden y cyfranogwyr
cwblhau dadansoddiad anghenion mewn perthynas â'r cyfranogwyr
pennu nodau realistig ar gyfer y cyfranogwyr
darparu gweithgareddau heriol ar gyfer y cyfranogwyr
cefnogi, rheoli ac annog y cyfranogwyr er mwyn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu bodloni
rhoi'r cyfle i'r cyfranogwyr adolygu'r profiad hamdden
rhoi gwybodaeth i'r cyfranogwyr am sut i barhau â'r gweithgaredd yn y dyfodol
Rheoli lles corfforol ac emosiynol y cyfranogwyr
* *
dilyn rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad mewn perthynas â'r gweithgaredd
rheoli risg er mwyn cadw'r gweithgaredd mor ddiogel ag sydd angen gan roi ystyriaeth i fanteision mentro
monitro ar gyfer dechreuad perygl corfforol ac emosiynol, gan gynnwys amodau anffafriol
annog y cyfranogwyr i fod yn gyfrifol am eu diogelwch personol a diogelwch y grŵp
annog ymddygiad positif ac ymdrin yn effeithiol gydag ymddygiad annerbyniol
ymyrryd yn ôl y galw er mwyn arbed neu gyfyngu ar niwed
adnabod a rheoli terfynau corfforol ac emosiynol cyfranogwyr a'u galluogi i gadw eu hurddas a'u hunan-barch
cynnal a chadw ac amrywio rheolau sylfaenol yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad a gofynion y cyfranogwyr
ymateb i ddigwyddiadau ac achosion brys yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cadarnhau sylfaeni'r gweithgaredd hamdden
* *
y cyfarpar a'r dillad i gyd-fynd â'r profiad
sut i greu amgylchfyd gwrando effeithiol sy'n annog cyfranogwyr i leisio eu barn
y mathau o agwedd ac ymddygiad sy'n annog hwyl a mwynhad o fewn terfynau diogelwch
pam ei bod yn bwysig sicrhau bod y cyfranogwyr yn deall sut i ddefnyddio'r cyfarpar a'r dillad gan amlhau i'r eithaf y profiad hamdden ar yr un pryd
sut i annog y cyfranogwyr i gael y mwyaf o'r profiad hamdden
pam fod angen i'r cyfranogwyr fod wedi cael cyfarwyddyd llawn ynghylch y profiad ynghyd â'i nodau a'i amcanion
y rheolau sylfaenol angenrheidiol, iechyd a diogelwch, gofynion rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad sy'n eu tanategu gan gynnwys:
sut i dawelu meddwl y cyfranogwyr ynglŷn ag unrhyw agweddau ar y profiad sydd, o bosib, yn peri pryder iddyn nhw a pham ei bod yn bwysig gwneud hyn
pam ei bod yn bwysig cwblhau asesiad cychwynnol o anghenion cyfranogwyr
technegau ysgogi
Hwyluso profiadau awyr agored er mwyn cyfarfod ag anghenion hamdden y cyfranogwyr
* *
y broses a'r drefn gofnodi berthnasol ar gyfer asesu angen
sut i bennu cyrchnodau realistig ar gyfer y cyfranogwyr a'r sgiliau sydd eu hangen i'w cyflawni
gweithgareddau heriol, ond sydd heb fod yn fygythiol
ymatebion nodweddiadol unigolion sydd dan bwysau
technegau rheoli grŵp
pam ei bod yn bwysig rhoi cyfle i'r cyfranogwyr adolygu'r profiad hamdden a sut i wneud hyn
pa wybodaeth i'w rhoi i gyfranogwyr am sut i barhau â'r gweithgaredd yn y dyfodol
Rheoli lles corfforol ac emosiynol cyfranogwyr
pam ei bod yn bwysig dilyn rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad ar gyfer y digwyddiad a sut i wneud hyn
offer a thechnegau asesu risg
sut i fonitro ar gyfer dechrau perygl corfforol ac emosiynol, gan gynnwys amodau anffafriol
pam ei bod yn bwysig annog cyfranogwyr i fod yn gyfrifol am eu diogelwch personol a diogelwch y grŵp a sut i wneud hyn
manteision annog ymddygiad positif ac o ddelio'n effeithiol gydag ymddygiad annerbyniol
sut i ymyrryd yn ôl yr angen i atal neu gyfyngu ar niwed
sut i adnabod a rheoli terfynau corfforol ac emosiynol cyfranogwyr a'u galluogi i gadw eu hurddas a'u hunan-barch
sut i gynnal a chadw ac amrywio rheolau sylfaenol yn unol â gofynion iechyd a diogelwch a gofynion y cyfranogwyr
newid i 'y gweithdrefnau gogyfer ag ymateb i ddigwyddiadau ac achosion brys yn unol â gofynion iechyd a diogelwch'
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Cyfranogwyr
1.1 oedolion
1.2 plant a phobl ifanc
1.3 grwpiau nad yw eu haelodau'n adnabod ei gilydd
1.4 pobl sydd ag anghenion penodol mewn perthynas â'r gweithgaredd
- unigolion
1.6 grwpiau
2. Amodau anffafriol
2.1 tir anodd
2.2 amodau dŵr anodd
2.3 tywydd
*
*
3. Ymddygiad positif
3.1 cyfathrebu
3.2 cymryd rhan
3.3 cefnogaeth y naill i'r llall
3.4 datrys problemau
3.5 tanio brwdfrydedd
*
*
4. Ymddygiad annerbyniol
4.1 ymddygiad yn achosi niwed corfforol
4.2 ymddygiad yn achosi niwed emosiynol
4.3 ymddygiad yn achosi niwed difrod
5. Nodau
5.1 llwyddiant unigolyn
5.2 llwyddiant grŵp
6. Dadansoddi anghenion
6.1 agwedd ac ymddygiad
6.2 sgiliau gweithgaredd
6.3 sgiliau cyfathrebu
7. Profiad
7.1 un sesiwn
7.2 sawl diwrnod
7.3 yn gofyn am lety dros nos
7.4 cydaddysgol
7.5 sgiliau cyfathrebu
Gwybodaeth Cwmpas
1. Iechyd a diogelwch
1.1 deddfwriaeth sy'n berthnasol i iechyd a diogelwch
1.2 gweithdrefnau a gofynion y sefydliad
1.3. egwyddorion dyletswydd gofal
1.4 diogelu
1.5 iechyd emosiynol/seicolegol
1.6 rheolau trwyddedu ar gyfer gweithgareddau/canolfannau
1.7 canllawiau gwneuthurwyr cyfarpar
1.8 gwybodaeth dechnegol
1.9 y mathau o hapddigwyddiadau
1.10 gweithdrefnau achosion brys safonol
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Rhestrir isod y prif sgiliau a'r priodoleddau generig sy'n gymwys i'r dasg o gyflwyno Rhaglenni Awyr Agored.
Empathi
Gwrando'n weithredol
Hyfforddi
Cyfathrebu
Ymgynghori
Dylanwadu a pherswadio
Dirprwyo
Diplomyddiaeth
Galluogi
Hwyluso
Dilyn
Arwain drwy esiampl
Rheoli ymddygiad heriol
Mentora
Ysgogi
Trafod a chyfaddawdu
Sicrhau adborth
Cynllunio a gwerthuso
Darparu adborth
Pennu amcanion
Gwerthfawrogi a chefnogi eraill
Geirfa
Hapddigwyddiadau
Darpariaeth a wnaed ar gyfer digwyddiadau all godi: y tywydd, damwain ac achos brys a newidiadau anorfod. Gall hefyd gynnwys cynllunio ar gyfer materion ymddygiadol neu les gyda chyfranogion neu staff eraill.
Rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
Yn nodweddiadol, bydd y dogfennau hyn yn gosod y safonau, gweithdrefnau a'r gofynion ar gyfer cyflwyno'r gweithgaredd. Gallant gynnwys rhestri cyfarpar, amlinelliad o gynlluniau sesiwn, pwyntiau a gweithdrefnau diogelwch. Gallant hefyd gyfeirio at gyrff llywodraethol Cenedlaethol (CLlC) penodol neu gyrff gweithgarwch cenedlaethol eraill perthnasol yn nhermau gwybodaeth a chanllawiau sy'n ymwneud â gweithgareddau. Gall y dogfennau hefyd gyfeirio at lefelau staffio yn nhermau cymarebau, cymwysterau a'r hyfforddiant/asesiad yr ymgymerwyd ag e, a gall fod ynghlwm wrth CLlC, ymgynghorwyr technegol a nodweddion allanol neu fewnol eraill. Mae sawl defnydd i *ddogfennau o safon dda ac o bosib bydd eu hangen ar amrywiaeth o *bartïon a budd-ddeiliaid mewnol ac allanol. Mae'r dogfennau yn cynorthwyo i gyfleu gwybodaeth gyson a chlir i aelodau staff ac eraill.
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon hon yn cyplysu â SKAOP10 a SKAOP12