Datblygu rhaglenni hamdden awyr agored

URN: SKAOP10
Sectorau Busnes (Suites): Rhaglenni Awyr Agored
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2014

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu rhaglenni awyr agored sy'n cyfarfod ag anghenion hamdden unigolion a grwpiau, e.e. hwyl a mwynhad, profiadau newydd ac antur a sialens.

Mae'r safon hon yn cynnwys dau ddeilliant, sef:

1.adnabod anghenion a dyheadau hamdden cyfranogwyr

  1. datblygu rhaglen hamdden awyr agored

Mae'r safon hon ar gyfer staff sydd â rhywfaint o brofiad o weithio yn yr awyr agored ac sy'n gallu gweithio heb unrhyw oruchwyliaeth uniongyrchol.  Cyd-destunau posib – gweithio'n uniongyrchol neu drwy gydweithwyr, gydag oedolion a phobl ifanc er enghraifft mewn canolfan gweithgareddau gwyliau neu yn ystod gwyliau teithio yn y DU neu dramor er mwyn darparu deilliannau hamdden.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Adnabod anghenion a dyheadau hamdden cyfranogwyr


*

  1. casglu gwybodaeth am anghenion a dyheadau'r cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau trefniadaethol a hynny cyn cynllunio'r rhaglen

  2. sicrhau bod anghenion a dyheadau hamdden y cyfranogwyr yn unol â rheoliadau agweithdrefnau'r sefydliad gan gynnwys y gofynion iechyd a diogelwch

  3. crisialu unrhyw geisiadau penodol gyda'r cyfranogwyr a phobl eraill

  4. adnabod anawsterau posib wrth geisio cyfarfod â'r anghenion a'r dyheadau a fynegwyd, a dilyn rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad i ddatrys y problemau hyn 

Datblygu rhaglen hamdden awyr agored

  1. cynllunio'r rhaglen fel ei bod yn cyfarfod ag anghenion a dyheadau cytunedig y cyfranogwyr ynghyd â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

  2. cynllunio ar gyfer hapddigwyddiadau posib

  3. archwilio'r rhaglen gyda chydweithwyr er mwyn sicrhau ei bod yn gyson â gofynion y cleient, yr adnoddau sydd ar gael a gweithgareddau arfaethedig eraill

  4. tywys y cyfranogion ar lafar drwy'r rhaglen, a rhoi cyfle iddynt holi cwestiynau a chael eglurhad

  5. ymdrin ag unrhyw newidiadau i'r rhaglen y gofynnwyd amdanynt yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Adnabod anghenion a dyheadau hamdden cyfranogwyr


*

  1. pwysigrwydd casglu gwybodaeth am anghenion a dyheadau hamdden y cyfranogwyr cyn trefnu'r rhaglen

  2. yr anghenion a'r dyheadau hamdden arferol sydd gan gyfranogwyr

  3. y gofynion iechyd a diogelwch perthnasol, gan gynnwys safonau a gweithdrefnau'r sefydliad, gofynion cyfreithiol a'r rhai sy'n gysylltiedig â'r corff llywodraethu a sut i gael at y rhain

  4. y mathau o geisiadau penodol ac anarferol y byddai angen eu gwirio gyda'r cyfranogwyr a pham

  5. y mathau o anawsterau posib all godi wrth geisio cyfarfod â dyheadau ac anghenion cyfranogwyr

  6. y gweithdrefnau i'w dilyn er mwyn datrys anawsterau posib o'r math hyn

Datblygu rhaglen hamdden awyr agored

  1. sut i gynllunio'r rhaglen fel ei bod yn cwrdd ag anghenion a dyheadau cytunedig y cyfranogwyr ynghyd â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

  2. rhaglenni cyhoeddedig, pamffledi a gwybodaeth ar y wefan

  3. rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad ac iechyd a diogelwch gan gynnwys egwyddorion gofal cwsmeriaid wrth gyd-drafod rhaglenni gyda chyfranogwyr

  4. yr amrywiaeth o hapddigwyddiadau posib

  5. pwysigrwydd archwilio'r rhaglen gyda chydweithwyr er mwyn sicrhau ei bod yn gyson â gofynion y cleient, adnoddau sydd ar gael a gweithgareddau arfaethedig eraill

  6. pwysigrwydd tywys y cyfranogwyr ar lafar drwy'r rhaglen, a rhoi cyfle iddynt i holi cwestiynau a chael eglurhad.

  7. y mathau o faterion y gall y cyfranogwyr eu codi yn ystod sesiynau cyfarwyddo a sut i ymdrin â'r rhain

  8. sut i ymdrin ag unrhyw geisiadau am newidiadau i'r rhaglen, yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

1. Anghenion a dyheadau

1.1 hwyl a mwynhad

1.2 profiadau newydd

1.3 antur a sialens

2. Cyfranogwyr


*

2.1 oedolion

2.2 plant a phobl ifanc

2.3 grwpiau nad yw eu haelodau'n adnabod ei gilydd

2.4 cyfranogwyr sydd ag anghenion penodol mewn perthynas â'r gweithgaredd

2.5 unigolion

2.6 grwpiau


*

3. Rhaglenni

3.1 undydd

3.2 sawl diwrnod

3.3 yn gofyn am lety dros nos

3.4 cydaddysgol

4. Pobl eraill

* *

4.1 cleientiaid

4.2 rhieni

4.3 oedolion eraill fel arweinwyr partïon

4.4 asiantaethau a budd-ddeiliaid sy'n ariannu

**

  1. Cydweithwyr**

5.1 staff ar lefel uwch

5.2 gweithio ar yr un lefel

5.3 y rhai hynny sy'n gweithio mewn swyddogaethau ategol

5.4 cydweithwyr annibynnol

5.5 cydweithwyr o sefydliadau eraill

  1. Adnoddau

6.1 staff

6.2 cyllideb

6.3 cyfarpar

6.4 llenyddiaeth ategol


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Hapddigwyddiadau

Darpariaeth a wnaed ar gyfer digwyddiadau lle gall anawsterau godi: y tywydd, damwain ac achos brys, newidiadau anorfod a sut i gynllunio ar gyfer y rhain.  Gall hefyd gynnwys cynllunio ar gyfer materion ymddygiadol neu les gyda chyfranogion neu staff eraill.

Gofynion iechyd a diogelwch

Dylai'r rhain fodoli ar sawl lefel; yn gyntaf ceir deddfwriaeth megis y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a Thrwyddedu Gweithgareddau Anturus; yn ail, polisïau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch y sefydliad; yn drydydd, adrannau neu rannau unigol.

Rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad

Yn nodweddiadol, bydd y dogfennau hyn yn gosod y safonau, gweithdrefnau a'r gofynion ar gyfer cyflwyno'r gweithgaredd.  Gallant gynnwys rhestri cyfarpar, amlinelliad o gynlluniau sesiwn, pwyntiau a gweithdrefnau diogelwch.  Gallant hefyd gyfeirio at gyrff llywodraethol Cenedlaethol (CLlC) penodol neu gyrff gweithgarwch cenedlaethol eraill perthnasol yn nhermau gwybodaeth a chanllawiau sy'n ymwneud â gweithgareddau.  Gall y dogfennau hefyd gyfeirio at lefelau staffio a safonau yn nhermau cymarebau, cymwysterau a'r hyfforddiant/asesiad yr ymgymerwyd ag e, a gall fod ynghlwm wrth CLlC, ymgynghorwyr technegol a nodweddion allanol neu fewnol eraill.  Mae sawl defnydd i *ddogfennau o safon dda ac o bosib bydd eu hangen ar amrywiaeth o *bartïon a budd-ddeiliaid mewnol ac allanol.  Mae'r dogfennau yn cynorthwyo i gyfleu gwybodaeth gyson a chlir i aelodau staff ac eraill.

Ceisiadau arbennig

Gall y rhain fod yn geisiadau penodol gan arweinydd parti neu riant (neu gleient arall) all ddod cyn yr ymweliad neu gallant ddod ar ddechrau neu hyd yn oed yn ystod yr ymweliad.

Argaeledd adnoddau

Mae hyn yn cael ei weld yn bennaf fel rhywbeth sy'n gysylltiedig â chyflwyno gweithgaredd yn nhermau cyfarpar/cyflenwadau, ond hefyd gallai fod yn gysylltiedig â'r staff sy'n ymwneud â'r gweithgareddau.  Gall hefyd ymwneud ag argaeledd canolfannau gweithgaredd neu le mewn lleoliadau, ynghyd â chyfarpar ategol e.e. yr hyn sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth.


Dolenni I NOS Eraill

​Mae'r safon hon yn cyplysu â SKAOP3, SKAOP10 a SKAOP12.


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

29 Ebr 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAB24

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Hamdden; teithio a thwristiaeth, Chwaraeon; hamdden ac adloniant, Galwedigaethau Chwaraeon a Ffitrwydd

Cod SOC


Geiriau Allweddol

awyr agored; cynllunio; hamdden; rhaglenni; sialensiau; cyfranogwyr; adnabod anghenion