Gwella arferion personol a chyfrannu at berfformiad y sefydliad
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag edrych ar eich arferion a pherfformiad eich sefydliad a dod o hyd i ffyrdd o wella
Mae'r safon hon yn cynnwys tri deilliant, sef:
monitro eich perfformiad chi eich hun oddi mewn i'ch maes cyfrifoldeb
cyfrannu at werthuso a gwella perfformiad y sefydliad
cyfrannu at eich datblygiad personol chi eich hun
Mae'r safon hon ar gyfer staff sydd â rhywfaint o brofiad ac sy'n debygol o fod wedi bod yn gweithio yn yr awyr agored ers o leiaf dymor neu ddau. Gallant fod yn ymarferwyr e.e. hyfforddwyr, arweinwyr neu gallant fod yn ymarferwyr sydd hefyd â rhywfaint o gyfrifoldeb dros waith pobl eraill.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
**Monitro eich perfformiad chi eich hun oddi mewn i faes eich cyfrifoldeb
**
monitro eich perfformiad chi eich hun yn unol â'ch rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
monitro perfformiad eich maes cyfrifoldeb oddi mewn i'r sefydliad yn unol â
rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
annog adborth gan gydweithwyr a chyfranogwyr
ymateb i adborth
Cyfrannu at werthuso a gwella perfformiad y sefydliad
dadansoddi eich arsylwadau personol ac adborth gan gydweithwyr a chyfranogwyr ar berfformiad y sefydliad
cymharu eich dadansoddiad gydag amcanion, safonau a gwerthoedd y sefydliad
ymchwilio ac adnabod gwelliannau posib
rhannu eich gwerthusiad gyda chydweithwyr
cydweithio er mwyn cytuno ar a gweithredu gwelliannau
monitro a gwerthuso pa mor effeithiol y bu'r gwelliannau
Cyfrannu at eich datblygiad personol chi eich hun
dadansoddi eich arsylwadau chi eich hun o'ch perfformiad personol ac adborth gan gydweithwyr a chyfranogwyr
gweithio gyda chydweithwyr er mwyn gwerthuso eich gwaith
gwerthuso eich gwaith yn erbyn rheoliadau a gweithdrefnau proffesiynol a rhai'r sefydliad
cytuno ar, a blaenoriaethu meysydd i'w datblygu
datblygu a chytuno ar gynllun datblygu personol
dewis gweithgareddau datblygu sy'n ffitio eich dulliau dysgu dewisol a'ch amgylchiadau
gweithredu eich cynllun datblygu personol gan ei gyplysu â'ch cyrchnodau gyrfa
adolygu a diweddaru eich cynllun datblygu yn unol â chynnydd ac amgylchiadau sy'n newid
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Monitro eich perfformiad chi eich hun a pherfformiad y sefydliad
sut i fonitro eich perfformiad chi eich hun yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau eich sefydliad
pwysigrwydd monitro eich perfformiad chi eich hun a pherfformiad y sefydliad
sut i fonitro perfformiad eich maes cyfrifoldeb oddi mewn i'r sefydliad yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau eich sefydliad
sut i annog adborth o bob math gan gyfranogwyr a chydweithwyr
sut i ymateb yn adeiladol i adborth
pam ei bod yn bwysig croesawu adborth ac ymateb yn adeiladol i'r adborth hwnnw a pheidio â bod yn amddiffynnol
pwysigrwydd cadw cofnodion o'ch arsylwadau chi eich hun ac o adborth gan eraill
Cyfrannu at werthuso a gwella perfformiad y sefydliad
sut i ddadansoddi eich arsylwadau chi eich hun ac adborth gan eraill er mwyn adnabod y prif oblygiadau i'r sefydliad
sut i gymharu eich dadansoddiad gydag amcanion a safonau'r sefydliad
ffynonellau gwybodaeth am welliannau posib, gan gynnwys gwaith sefydliadau tebyg
sut i adnabod gwelliannau posib ym mherfformiad y sefydliad
gyda phwy y dylech rannu eich gwerthusiadau yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad
pwysigrwydd ystyried safbwyntiau a phrofiadau pobl eraill wrth werthuso perfformiad y sefydliad
pwysigrwydd monitro a gwerthuso gwelliannau
Cyfrannu at eich datblygiad personol chi eich hun
gyda phwy y dylech weithio er mwyn gwerthuso eich perfformiad personol
sut i werthuso eich perfformiad personol yn erbyn safonau proffesiynol a rhai'r sefydliad
sut i gytuno ar, a blaenoriaethu meysydd i'w datblygu gan roi ystyriaeth i'ch cyrchnodau gyrfa chi eich hun
pwysigrwydd dewis gweithgareddau datblygu sy'n ffitio eich dull dysgu dewisol a'r amgylchiadau
sut i weithredu eich cynllun datblygu personol gan ei gyplysu â'ch cyrchnodau gyrfa
sut i adolygu a diweddaru eich cynllun datblygu yn unol â chynnydd ac amgylchiadau sy'n newid
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
1. Perfformiad
1.1 cynllunio
1.2 cyflenwi
1.3 cydberthynas ag eraill
1.4 iechyd a diogelwch
1.5 amgylchedd lle y cyflwynir y gwasanaeth
* *
2. Adborth
2.1 ffurfiol
2.2 anffurfiol
2.3 cadarnhaol
2.4 negyddol
2.5 awgrymiadau ar gyfer gwella
* *
3. Cydweithwyr
3.1 staff ar lefel uwch
3.2 gweithio ar yr un lefel
3.3 y rhai hynny sy'n gweithio mewn swyddogaethau ategol
3.4 cydweithwyr annibynnol
3.5 cydweithwyr o gyrff eraill
* *
4. Cyfranogwyr
4.1 oedolion
4.2 plant a phobl ifanc
4.3 grwpiau nad yw eu haelodau yn adnabod ei gilydd
4.4 cyfranogwyr sydd ag anghenion arbennig mewn perthynas â'r gweithgaredd
4.5 unigolion
4.6 grwpiau
5. Gwelliannau
5.1 i wasanaethau
5.2 i weithdrefnau
5.3 i ddulliau gweithio
5.4 i adnoddau dynol
5.5 i adnoddau materol
5.6 i gydberthynas weithio
* *
6. Meysydd i'w datblygu
6.1 tymor byr
6.2 tymor canolig
6.3 tymor hir
* *
7. Gweithgareddau datblygu
7.1 ffurfiol
7.2 anffurfiol
7.3 yn y gwaith
7.4 o'r gwaith
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Rhestrir isod y prif sgiliau a'r priodoleddau generig sy'n gymwys i'r dasg o gyflwyno Rhaglenni Awyr Agored.
Empathi
Gwrando'n weithredol
Hyfforddi
Cyfathrebu
Ymgynghori
Dylanwadu a pherswadio
Dirprwyo
Diplomyddiaeth
Galluogi
Hwyluso
Dilyn
Arwain drwy esiampl
Rheoli ymddygiad heriol
Mentora
Ysgogi
Trafod a chyfaddawdu
Sicrhau adborth
Cynllunio a gwerthuso
Darparu adborth
Pennu amcanion
Gwerthfawrogi a chefnogi eraill
Geirfa
**Meysydd i'w datblygu
**Yn nhermau eich datblygiad chi eich hun, gallai hyn ymwneud â nifer o wahanol themâu: gwybodaeth, sgiliau ac ymagweddau. Gyda'i gilydd mae'r rhain yn creu medrusrwydd a gallu yng nghyd-destun gwaith. Gellir isrannu'r rhain ymhellach yn agweddau sy'n ymwneud yn fwy uniongyrchol â'ch swyddogaeth a sut y byddwch yn cyflenwi'r rôl honno. Mae angen gwybodaeth a sgiliau caled, ond mae sgiliau meddal hefyd yn hanfodol ac yn ganolog. Mae adnabod mewn beth rydych chi'n rhagori a beth hoffech chi ei wella yn bwysig er mwyn helpu gwella a datblygu'n gyffredinol.
Adborth
Gall ddod o amrywiaeth o ffynonellau: cydweithwyr, rheolwyr llinell/staff uwch, cyfranogwyr ac athrawon/oedolion eraill. Gall y sefydliad gasglu adborth yn systematig e.e. ffurflenni ymateb a/neu ar lefel anecdotaidd "yn lleol".
*
Dulliau dysgu*
Egwyddor gadarn sydd wedi'i datblygu'n helaeth ym maes dysgu (addysg, hyfforddiant a datblygiad) yw bod gan unigolion ddull dysgu dewisol neu brif ddull dysgu - ffordd sy'n eu siwtio nhw orau. Ceir sawl model o sut y mae'r dulliau dysgu hyn wedi eu strwythuro a'u trefnu. Ymhlith y dulliau dysgu sy'n cael eu cydnabod yn gyffredinol mae Damcaniaeth Dysgu Profiadol Kolb (Experiential Learning Theory) a'r model Cynllunio-Gweithredu-Adolygu.
*
Amcanion*
Set o ddeilliannau sy'n ymwneud â'r gweithgaredd arfaethedig i chi, eich sefydliad neu gyfranogwyr.
*
Rheoliadau a gweithdrefnau'r sefydliad*
Yn nodweddiadol, bydd y dogfennau hyn yn gosod y safonau, gweithdrefnau a'r gofynion ar gyfer cyflwyno'r gweithgaredd. Gallant gynnwys rhestri cyfarpar, amlinelliad o gynlluniau sesiwn, pwyntiau a gweithdrefnau diogelwch. Gallant hefyd gyfeirio at gyrff llywodraethol Cenedlaethol (CLlC) penodol neu gyrff gweithgarwch cenedlaethol eraill perthnasol yn nhermau gwybodaeth a chanllawiau sy'n ymwneud â gweithgareddau. Gall y dogfennau hefyd gyfeirio at lefelau staffio a safonau yn nhermau cymarebau, cymwysterau a'r hyfforddiant/asesiad yr ymgymerwyd ag e, a gall fod ynghlwm wrth CLlC, ymgynghorwyr technegol a nodweddion allanol neu fewnol eraill.
Cynllun datblygu personol
Cynllun strwythuredig sy'n eich galluogi i adnabod meysydd ac agweddau ar eich perfformiad a enwyd gennych fel rhai yr hoffech neu sydd angen i chi weithio arnynt a'u gwella a neu eu datblygu.