Rheoli’r defnydd effeithlon o adnoddau
URN: SKAODP9
Sectorau Busnes (Suites): Rhaglenni Awyr Agored
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae'r safon yma'n ymwneud â rheoli adnoddau yr ydych yn gyfrifol amdanynt . Gall y rhain fod naill ai'n adnoddau ariannol mewn ffurf cyllideb neu adnoddau ffisegol megis cyfarpar a nwyddau traul. Mae'r safon yn ymwneud ag adnoddau a gaiff eu hargymell i chi a'ch tïm i gwrdd â'u hancanion. Mae hefyd yn ymwneud â monitro a rheoli'r ffordd caiff adnoddau eu defnyddio.
Anelir y safon yma at staff sydd â chyfrifoldebau sylweddol am reoli adnoddau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. rhoi cyfle i gydweithwyr ddarparu gwybodaeth ar yr adnoddau mae’r tîm eu hangen
2. cydgasglu gwybodaeth gan gydweithwyr am yr adnoddau mae’r tîm eu hangen
3. gwneud argymhellion sy’n cymryd i ystyriaeth y tueddiadau a’r datblygiadau a’r arfer orau gyfredol sy’n debygol o effeithio ar y defnydd o adnoddau
4. gwneud argymhellion sy’n gyson ag amcanion y tîm, rheoliadau a gweithdrefnau cyfundrefnol a materion amgylcheddol
5. rhoi cyfle i gydweithwyr gymryd cyfrifoldeb unigol dros y defnydd effeithlon o adnoddau pan fo gofyn iddynt
6. monitro’r defnydd effeithlon o adnoddau o fewn maes eich cyfrifoldeb
7. gwneud yn siwr bod y defnydd o adnoddau gan y tîm yn cymryd yr effaith bosibl ar yr amgylchedd i ystyriaeth
8. monitro ansawdd adnoddau a sicrhau bod cysondeb yn y modd caiff cynnyrch a gwasanaeth eu cyflenwi
9. gweithredu’n gywirol ac yn amserol i ddelio ag unrhyw anghysonderau arwyddocaol rhwng yr hyn gaiff ei gynllunio o ran defnyddio adnoddau a’r hyn sy’n digwydd
10. gwneud yn siwr bod cofnodion sy’n ymwneud â’r defnydd o adnoddau yn cael eu cwblhau yn unol â’ch rheoliadau a gweithdrefnau cyfundrefnol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy’n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt
2. sut i roi cyfle i gydweithwyr i ddarparu gwybodaeth am yr adnoddau mae’r tîm eu hangen
3. sut i gydgasglu gwybodaeth gan gydweithwyr am yr adnoddau mae’r tîm eu hangen
4. sut i wneud argymhellion ar gyfer y defnydd effeithiol o’r adnoddau gan gymryd i ystyriaeth dueddiadau a datblygiad ac arfer orau gyfredol sy’n debygol o effeithio ar y defnydd o adnoddau
5. sut i wneud argymhellion sy’n gyson ag amcanion y tîm, rheoliadau a gweithdrefnau cyfundrefnol a materion amgylcheddol
6. sut i ddarparu cyfleoedd i gydweithwyr gymryd cyfrifoldeb unigol dros eu defnydd effeithlon o adnoddau pan fo gofyn iddynt
7. sut i fonitro’r defnydd effeithlon o adnoddau o fewn maes eich cyfrifoldeb
8. sut i fonitro a rheoli’r defnydd o adnoddau er mwyn sicrhau cymaint o effeithlonrwydd â phosibl, tra’n cadw at ansawdd cynnyrch a gwasanaethau
9. pwysigrwydd rheolaeth effeithiol o adnoddau i berfformiad y sefydliad
10. sut i wneud yn siwr bod y defnydd o adnoddau gan y tîm yn cymryd i ystyriaeth yr effaith bosibl ar yr amgylchedd
11. sut i fonitro ansawdd yr adnoddau a sicrhau cysondeb wrth gyflenwi’r cynnyrch a’r gwasanaeth
12. y mathau o weithredu cywirol gellwch chi ei wneud os bydd anghysonderau arwyddocaol rhwng yr hyn gaiff ei gynllunio o ran defnyddio adnoddau a’r hyn sy’n digwydd
13. pwysigrwydd sicrhau bod cofnodion sy’n ymwneud â’r defnydd o adnoddau yn cael eu cwblhau yn unol â’ch rheoliadau a gweithdrefnau cyfundrefnol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Adnoddau
1. ariannol
2. pobl
3. ffisegol/cyfarpar
Gweithredu cywirol
*
*
*
1. newid gweithgareddau
2. addasu’r defnydd o adnoddau
3. negodi’r dyraniad o adnoddau
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
SKAODP12
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
SkillsActive
URN gwreiddiol
SKAOP13
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfarwyddwr, Rheolwr, Hyfforddi Chwaraeon
Cod SOC
6211
Geiriau Allweddol
rheoli; adnoddau