Hwyluso a chynnal rhaglenni awyr agored

URN: SKAODP8
Sectorau Busnes (Suites): Rhaglenni Awyr Agored
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma'n ymwneud â hwyluso a chynnal rhaglenni awyr agored. Mae'r safon yma'n cynnwys, cychwyn, monitro, cefnogi a thywys y sawl sy'n cymryd rhan drwy'r profiad awyr agored.

Mae gan y safon yma bum deilliant:

  1. cychwyn y rhaglen awyr agored
  2. monitro, cefnogi a thywys y sawl sy'n cymryd rhan drwy'r rhaglen awyr agored
  3. rheoli lles corfforol ac emosiynol y sawl sy'n cymryd rhan
  4. cwblhau ac adolygu rhaglenni awyr agored

Mae'r safon yma ar gyfer staff sydd â pheth profiad o weithio yn yr awyr agored sy'n gallu gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol. Cyd-destunau nodweddiadol fydd gweithio gydag oedolion, plant a phobl ifanc yn y meysydd canlynol:

  • dibenion adloniant
  • profiadau anturus
  • dibenion addysgol
  • anghenion cyfundrefnol

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cychwyn y rhaglen awyr agored *
1. sefydlu eich swyddogaeth eich hun gyda’r grŵp 
2. negodi rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad
3. rhyngweithio gyda’r sawl sy’n cymryd rhan yn unol â gofynion y rhaglen a’r rheoliadau a gweithdrefnau cyfundrefnol.
4. addasu eich ymddygiad eich hun i gwrdd ag anghenion y sawl sy’n cymryd rhan a diben y profiad 
5. dewis, gwirio a pharatoi’r amgylchedd a’r cyfarpar ar gyfer y profiad
6. sicrhau bod y sawl sy’n cymryd rhan yn deall sut i ddefnyddio’r cyfarpar yn unol â rheoliadau, deddfwriaethau a gweithdrefnau cyfundrefnol 
7. gwneuwd yn siwr bod ffiniau effeithiol ond hyblyg wedi eu sefydlu yn dilyn rheoliadau, deddfwriaethau a gweithdrefnau cyfundrefnol.

Monitro, cefnogi a thywys y sawl sy’n cymryd rhan drwy’r rhaglen awyr agored 
8. cydbwyso eich swyddogaethau eich hun er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau i’r sawl sy’n cymryd rhan 
9. monitro’n barhaus y lefel o her ac antur mewn perthynas â throthwyon antur y sawl sy’n cymryd rhan a’u gallu i ymdopi.
10. amrywio gweithgareddau i gwrdd ag anghenion y sawl sy’n cymryd rhan
11. cyfathrebu gyda’r sawl sy’n cymryd rhan mewn modd sy’n cwrdd â’u hanghenion, y sefyllfa ac amcanion y profiad 
12. cynnig adborth pan fo hyn yn cefnogi’r holl amcan 
13. paratoi’r sawl sy’n cymryd rhan i ddelio ag amgylchiadau a regwelir a rhai na ellir mo’u rhagweld 
14. cadw sylw’r sawl sy’n cymryd rhan at beryglon, ffiniau diogelwch a chytuno ar gyfrifoldebau dros y profiad a’r lleoliad

Rheoli lles corfforol ac emosiynol y sawl sy’n cymryd rhan 
15. dilyn rheoliadau cyfundrefnol, deddfwriaethau a gweithdrefnau ar gyfer y gweithgaredd 
16. rheoli risg er mwyn cadw’r gweithgaredd yn ddiogel gan ddilyn rheoliadau a gweithdrefnau cyfundrefnol, gan gymryd manteision cymryd risgiau i ystyriaeth
17. monitro ar gyfer dechreuad perygl corfforol ac emosiynol, gan cynnwys *amodau anffafriol *
18. annog y sawl sy’n cymryd rhan i warchod diogelwch yr unigolyn a’r grŵp 
19. annog ymddygiad cadarnhaol a delio’n effeithiol gydag ymddygiad annerbyniol
20. ymyrryd er mwyn rhwystro niwed neu ei gyfyngu
21. cydnabod a diogelu cyfyngiadau corfforol ac emosiynol y sawl sy’n cymryd rhan a’u galluogi i gadw eu hurddas a’u hunan barch.
22. cynnal ac amrywio rheolau sylfaenol yn unol â rheoliadau, deddfwriaethau a gweithdrefnau cyfundrefnol 
23. ymateb i ddigwyddiadau ac argyfyngau yn unol â rheoliadau, deddfwriaethau a gweithdrefnau cyfundrefnol.
24. monitro gweithredoedd ac ymddygiadau’r bobl eraill sy’n ymwneud â’r gweithgaredd.

Cwblhau ac adolygu rhaglenni awyr agored *
25. annog y sawl sy’n cymryd rhan i asesu prun ai yw’r profiad a’r amgylchedd wedi cyflawni eu hamcanion 
26. gwerthuso effeithiolrwydd y rhaglen a rhannu eich canfyddiadau gyda’r sawl sy’n cymryd rhan 
27. galluogi’r sawl sy’n cymryd rhan i roi adborth i’w helpu i ddysgu o’u profiad, i atgyfnerthu cynnydd a chadw morâl.
28. nodi unrhyw bwyntiau dysgu ar gyfer gweithredu yn y dyfodol 
29. rhannu gwybodaeth a chyngor am gyfleoedd ar gyfer rhaglenni yn y dyfodol 



Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


Cychwyn y rhaglen awyr agored
1. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy’n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt 
2. amrediad a chyfyngiadau eich gallu, cyfrifoldebau ac atebolrwydd fel ag y mae’n berthnasol i’ch swydd 
3. sut i sefydlu eich swyddogaeth eich hun o fewn y grŵp gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau a dulliau o gyfathrebu 
4. pam ei bod yn bwysig negodi rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad
5. pam ei bod yn bwysig annog y sawl sy’n cymryd rhan i rannu cyfrifoldeb dros eu dysgu fel unigolion ac ar gyfer y grŵp a sut i wneud hynny
6. dulliau o nodi nodau’r rhaglen, fel y maent yn gysylltiedig ag anghenion, galluoedd a photensial y sawl sy’n cymryd rhan 
7. sut i lunio’r rhaglen er mwyn cwrdd â’r nodau, a herio gallu’r sawl sy’n cymryd rhan, ond heb fynd y tu hwnt i hynny
8. pam ei bod yn bwysig gwneud yn siwr bod y rhaglen yn cydfynd â gofynion iechyd a diogelwch.
9. sut i ddewis, gwirio a pharatoi’r cyfarpar a’r amgylchedd  ar gyfer y rhaglen yn unol â rheoliadau, deddfwriaethau a gweithdrefnau.
10. pwysigrwydd nodi’r dylanwadau a pheryglon allanol i’r rhaglen
11. pam ei bod yn bwysig gwneud yn siwr bod y rhaglen o fewn eich gallu i’w rheoli
12. sut i wneud yn siwr bod ffiniau effeithiol ond hyblyg wedi eu sefydlu.
 
Monitro, cefnogi a thywys y sawl sy’n cymryd rhan drwy’r rhaglen awyr agored
13. sut i gydbwyso eich swyddogaethau eich hun er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau i’r sawl sy’n cymryd rhan 
14. amrywiaeth o weithgareddau a thechnegau i gwrdd ag anghenion y sawl sy’n cymryd rhan 
15. offer a thechnegau cyfathrebu fydd yn cefnogi’r sawl sy’n cymryd i gwrdd â’u hanghenion
16. dulliau o roi adborth fydd yn cefnogi amcanion y sawl sy’n cymryd rhan 
17. sut i baratoi’r sawl sy’n cymryd rhan i ddelio ag amgylchiadau a regwelir a rhai na ellir mo’u rhagweld, ac i ddatrys problemau wrth eu hunain 
18. cytuno gyda’r sawl sy’n cymryd rhan ynglŷn â chyfrifoldeb y sawl sy’n cymryd rhan a chydweithwyr dros adrodd am beryglon, damweiniau a damweiniau a osgowyd o drwch blewyn, a thros asesu a rheoli risg.
19. sicrhau bod y sawl sy’n cymryd rhan yn dilyn y gweithdrefnau argyfwng 

Rheoli lles corfforol ac emosiynol y sawl sy’n cymryd rhan *
20. dulliau o reoli risg er mwyn cadw’r rhaglen mor ddiogel â sydd angen, gan gymryd manteision cymryd risgiau a gofynion iechyd a diogelwch i ystyriaeth 
21. pam ei bod yn bwysig monitro ar gyfer dechreuad perygl corfforol ac emosiynol ac amodau anffafriol 
22. dulliau o annog ymddygiad cadarnhaol a delio’n effeithiol gydag ymddygiad annerbyniol, a sut i wnenud hynny
23. sut i ymyrryd er mwyn rhwystro niwed neu ei gyfyngu
24. ffyrdd o gydnabod gwahanol gyfyngiadau corfforol ac emosiynol y sawl sy’n cymryd rhan a’u hannog i gadw eu hurddas a’u hunan barch 

Cwblhau ac adolygu rhaglenni awyr agored*
25. sut i annog y sawl sy’n cymryd rhan i asesu prun ai yw’r profiad a’r amgylchedd wedi cyflawni eu hamcanion corfforol neu eraill 
26. sut i alluogi’r sawl sy’n cymryd rhan i roi adborth i’w helpu i ddysgu o’u profiad, i atgyfnerthu cynnydd a chadw morâl 
27. sut i nodi unrhyw bwyntiau dysgu ar gyfer gweithredu yn y dyfodol.
28. y mathau o gyngor, cymorth a gwybodaeth am gyfleoedd ar gyfer rhaglenni yn y dyfodol
 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Amodau anffafriol
*
*
1. Tirwedd anodd
2. amodau dŵr anodd
3. tywydd


Gwybodaeth Cwmpas


Anghenion
*
*
1. hwyl a mwynhad
2. profiadau newydd
3. antur a her
4. datblygiad personol a chymdeithasol
5. cael gwybodaeth/sgil newydd
6. ymwybyddiaeth a dealltwriaeth amgylcheddol
7. ffocws cwricwlaidd a thraws-gwricwlaidd
8. manteision iechyd meddyliol


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​SKAODP7


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAOP7

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr, Hyfforddi Chwaraeon, Cyfarwyddwr;

Cod SOC

6211

Geiriau Allweddol

hwyluso; cyflawni; monitro; rheoli; cwblhau; awyr agored; rhaglenni; gweithgareddau; addysg; antur