Datblygu rhaglenni awyr agored
URN: SKAODP7
Sectorau Busnes (Suites): Rhaglenni Awyr Agored
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae’r safon yma’n ymwneud â datblygu rhaglenni awyr agored sy’n cwrdd ag anghenion y sawl sy’n cymryd rhan.
Mae gan y safon yma ddau ddeilliant:
1. nodi anghenion y sawl sy’n cymryd rhan
2. datblygu rhaglenni sy’n cwrdd ag anghenion y sawl sy’n cymryd rhan
Mae’r safon yma ar gyfer staff sydd â pheth profiad o weithio yn yr awyr agored sy’n gallu gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol. Cyd-destunau nodweddiadol fydd gweithio gydag oedolion, plant a phobl ifanc yn y meysydd canlynol:
1. dibenion adloniant
2. profiadau anturus
3. dibenion addysgol
4. anghenion cyfundrefnol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. casglu gwybodaeth am anghenion y sawl sy’n cymryd rhan gan ddefnyddio dulliau cyfundrefnol cyn llunio’r rhaglen.
2. cadarnhau a blaenoriaethu anghenion drwy ymgynghoriad gyda’r sawl sy’n cymryd rhan a chydweithwyr.
3. sefydlu lefelau o gytundeb ar gyfer cymryd risgiau corfforol, seicolegol ac emosiynol
4. nodi a chytuno ar yr hoff ddewisiadau o strategaethau dysgu a throsglwyddo gyda chydweithwyr a’r sawl sy’n cymryd rhan
5. datblygu’r rhaglen fel ei bod yn cwrdd ag anghenion y sawl sy’n cymryd rhan fel ag y cytunwyd
6. llunio heriau sy’n cwrdd ag anghenion y sawl sy’n cymryd rhan
7. cynllunio ar gyfer cynnydd a throsglwyddo dysgu mewn cyd-destunau eraill yn seiliedig ar ddeilliannau’r rhaglen
8. cynllunio ar gyfer digwyddiadau annisgwyl posibl
9. cytuno ar y rhaglen gyda phobl eraill er mwyn gwneud yn siwr ei bod yn gyson ag anghenion y sawl sy’n cymryd rhan, yr adnoddau sydd ar gael, yr amgylchedd a gweithgareddau eraill sydd wedi eu cynllunio.
10. cynllunio cyfleoedd i adfyfyrio, adolygu a gwerthuso deilliannau’r rhaglen
11. sicrhau bod y rhaglen y gyson ac yn unol â’r holl ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy’n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt
2. cwampas a chyfyngiadau eich gallu, cyfrifoldebau ac atebolrwydd fel ag y mae’n berthnasol i’ch swydd
3. pwysigrwydd casglu gwybodaeth am anghenion y sawl sy’n cymryd rhan cyn y rhaglen
4. sut i ddadansoddi anghenion y sawl sy’n cymryd rhan drwy ymgynghoriad â chydweithwyr
5. sut i sefydlu lefelau o gytundeb ar gyfer cymryd risgiau corfforol, seicolegol
6. sut i nodi a chytuno ar yr hoff ddewisiadau o strategaethau dysgu a throsglwyddo gyda’r sawl sy’n cymryd rhan a chydweithwyr
7. athroniaeth sylfaenol rhaglenni awyr agored, a pham bod ei egwyddorion a’i werthoedd yn bwysig
8. sut i lunio heriau sy’n cwrdd ag anghenion, galluoedd, potensial a dulliau dysgu’r sawl sy’n cymryd rhan a’r cleient
9. sut i ddewis gweithgareddau a’r amgylcheddau sy’n cwrdd â’r anghenion, galluoedd potensial a dulliau dysgu
10. ffactorau i’w cadw mewn cof pan yn dewis gweithgareddau sy’n herio’r sawl sy’n cymryd rhan a sut i ddewis gweithgareddau o’r fath
11. sut i gynllunio ar gyfer cynnydd a throsglwyddo dysgu mewn cyd-destunau eraill yn seiliedig ar ddeilliannau’r rhaglen
12. sut i gynllunio cyfleoedd i adfyfyrio, adolygu a gwerthuso deilliannau’r rhaglen
13. sut i gynllunio ar gyfer digwyddiadau annisgwyl wrth lunio’r rhaglen
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth
*
1. hanes meddygol
2. ffordd o fyw
3. nodau personol
4. hoff ddewis o weithgaredd
5. cyfarpar
6. lleoliad
7. amseriadau
8. amodau tywydd
Adnoddau
1. staff
2. cyllideb
3. cyfarpar
4. llenyddiaeth gefnogol
Anghenion
*
1. hwyl a mwynhad
2. profiadau newydd
3. antur a her
4. datblygiad personol a chymdeithasol
5. cael gwybodaeth/sgil newydd
6. ymwybyddiaeth a dealltwriaeth amgylcheddol
7. ffocws cwricwlaidd a thraws-gwricwlaidd
8. manteision iechyd meddyliol
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
SKAODP8
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
SkillsActive
URN gwreiddiol
SKAOP6
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwr, Hyfforddi Chwaraeon, Cyfarwyddwr;
Cod SOC
6211
Geiriau Allweddol
awyr agored; rhaglenni; gweithgareddau; datblygu; adloniant; antur