Creu rhaglenni a gweithgareddau awyr agored arloesol i gwrdd ag anghenion ac amcanion cleientiaid
URN: SKAODP6
Sectorau Busnes (Suites): Rhaglenni Awyr Agored
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae'r safon yma'n disgrifio'r gallu sydd ei angen i ddatblygu a chytuno
ar raglenni awyr agored gyda chleientiaid, cydweithwyr a budd-ddeiliaid allweddol. Mae hyn yn debygol o ddilyn cyfarfod cychwynnol i drafod anghenion a nodau'r rhaglen.
Caiff yr uned yma ei hargymhell i reolwyr ac ymarferwyr uwch yn y sector awyr agored, sydd â chyfrifoldeb i greu rhaglenni addas er mwyn cyd-fynd ag anghenion a nodau cleientiaid a'r sawl sy'n cymryd rhan.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. nodi amcanion sy’n gyson â nodau’r rhaglen y cytunwyd arni
2. ymchwilio i a nodi gwahanol weithgareddau a chyfuniadau/ dilyniannau o weithgareddau sy’n gyson â’r canlynol:
2.1 anghenion, galluoedd a photensial y sawl sy’n cymryd rhan
2.2 lefelau o risgiau corfforol, seicolegol ac emosiynol a gymerir
2.3 dull o ddysgu y cytunwyd arno a strategaethau trosglwyddo dysgu
2.4 cyfleoedd ar gyfer cynnydd, adfyfyrio, adolygu a gwerthusiad
2.5 gwerthusiad ac unrhyw angen i ddilyn wedyn
2.6 rhwystrau gweithredol, adnoddau sydd ar gael ac arbenigedd
2.7 beth ydych chi wedi ei ddysgu o brofiad blaenorol ac adfyfyrio
2.8 tueddiadau a datblygiadau cynyddol amlwg
2.9 digwyddiadau annisgwyl posibl
3. ymgynghori â ffynonellau perthnasol o wybodaeth ac arbenigedd a’u cymryd i ystyriaeth
4. datblygu dewisiadau rhaglen posibl ar gyfer y cleient sy’n cyfuno protocolau profedig gydag atebion arleosol
5. sicrhau bod pob dewis o raglen yn gyson â deddfwriaeth, canllawiau a gofynion perthnasol
6. gweithio gyda’r cleient i ddewis a mireinio dewisiadau rhaglen sy’n gyson â’u hanghanion
7. datblygu a chofnodi manylion llawn y rhaglen, gan ddarparu lefel briodol o hyblygrwydd
8. cadarnhau’r rhaglen derfynol gyda’r cleient, gan wneud unrhyw newidiadau fel bo angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy’n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt
2. y broses o ddatblygu rhaglenni awyr agored
3. pwysigrwydd datblygu amcanion i raglen a sut i ddatblygu amcanion o nodau a gytunwyd
4. pwysigrwydd gallu cysyniadu’r broses ddysgu
5. sut i ddatblygu gweithgreddau a chyfuniadau/ dilyniannau o weithgareddau o fewn rhaglen awyr agored fel sy’n briodol i nodau, anghenion a gofynion perthnasol eraill
6. sut i ddatblygu gweithgareddau sy’n cynnig her a chynnydd o fewn lefelau o gymryd risgiau emosiynol a chorfforol y cytunwyd arnynt
7. swyddogaeth a phwysigrwydd adfyfyrio ac adolygu o fewn rhaglenni awyr agored
8. pwysigrwydd gwerthusiad a sut i ddatblygu strategaethau gwerthuso
9. pwysigrwydd ymgynghori â chydweithwyr perthnasol gan gymryd eu safbwyntiau a’u profiadau i ystyriaeth
10. pwysigrwydd datblygu dewisiadau rhaglen i’r cleient
11. sut i adeiladu ar brofiad y gorffennol tra’n datblygu atebion sy’n newydd ac yn arleosol
12. pwysigrwydd cael rhywfaint o hyblygrwydd i raglenni
13. gwerthoedd ac egwyddorion tri phrif faes y sector awyr agored, a sut dylai’r rhain gael eu rhoi ar waith pan yn llunio rhaglenni a gweithio gyda chleientiaid
14. goblygiadau deddfwriaeth, canllawiau a gofynion perthnasol ar gyfer llunio rhaglenni a gweithgareddau awyr agored
15. y mathau o ddigwyddiadau annisgwyl sy’n debygol o ddigwydd a’r cynlluniau sydd angen eu rhoi mewn lle i fynd i’r afael â’r digwyddiadau posibl hyn
16. polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad eich hun mewn perthynas â datblygu rhaglenni awyr agored
17. maint eich cyfrifoldebau chi eich hun o ran datblygu a chytuno ar raglenni awyr agored gyda chleientiaid a chydweithwyr
18. budd-ddeiliaid eraill all fod â diddordeb mewn rhaglenni awyr agored
19. sut mae eich swydd yn gysylltiedig â swyddi eraill o fewn eich sefydliad mewn perthynas â datblygu rhaglenni awyr agored
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
SKAODP5
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
SkillsActive
URN gwreiddiol
SKAB244
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfarwyddwr, Rheolwr, Hyfforddi Chwaraeon
Cod SOC
6211
Geiriau Allweddol
awyr agored; rhaglenni; gweithgareddau; nodau; anghenion; cleientaid