1. y gwerthoedd hollgyffredinol ar gyfer eich sefydliad a maes eich gwaith, yn cynnwys tegwch, a ddylai hysbysu datblygiad strategaeth a’i werthusiad
2. y gwerthoedd a’r cysyniadau allweddol sy’n sail i waith yn eich sector
3. natur, hyd a lled a strwythur eich sector
4. y manteision cymdeithasol ac economaidd allweddol mae eich sector yn ei gyfrannu i gymdeithas
5. rolau a swyddogaethau prif rannau eich sector (gan gynnwys y dimensiynau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol) a sut mae nhw’n cysylltu â’i gilydd
6. amcanion a gweithrediadau’r prif fathau o sefydliadau yn eich sector a’u budd-ddeiliaid
7. y cysyniad o wasanaeth, y gymysgfa cynnyrch/gwasanaeth a swyddogaeth a phwysigrwydd datblygu cynnyrch/gwasanaeth
8. pynciau cyfoes yn eich sector, gan gynnwys effaith polisïau’r llywodraeth
9. beth yw strategaeth a pholisi a pham bod sefydliadau eu hangen
10. natur gylchynnol datblygu strategaeth
11. egwyddorion ac offer rheolaeth sy’n berthnasol i ddatblygiad strategaeth
12. strategaeth a pholisi eich sefydliad fel mae’n effeithio ar faes eich gwaith a beth mae’r rhain yn ceisio ei gyflawni
13. llinellau cyfathrebu ac atebolrwydd o fewn eich sefydliad ar faterion strategol
14. pam fod ymwybyddiaeth o yrwyr newid yn arbennig o bwysig wrth ddatblygu strategaeth
15. y gyrwyr newid mewnol ac allanol sy’n effeithio ar ddatblygiad strategaeth a pholisi, yn cynnwys agendâu cenedlaethol a chyd-destunau lleol/cymunedol
16. sut i gadw i fyny ar strategaeth a pholisi
17. sut i nodi goblygiadau strategaeth a pholisi ar gyfer maes eich gwaith a pham bod hyn yn bwysig
18. sut mae gwahanol agweddau o strategaeth a pholisi yn gysylltiedig â’i gilydd
19. y ffynonellau cyfundrefnol, cenedlaethol a lleol/cymunedol allwch chi eu defnyddio i nodi a gwerthuso gyrwyr newid
20. sut i ymchwilio a dadansoddi gwybodaeth am yrwyr newid a nodi’r goblygiadau i’ch sefydliad a maes eich gwaith
21. y gwahaniaeth rhwng gwybodaeth ansoddol a meintiol a dulliau ymchwil priodol
22. sut i ddefnyddio cynllunio ar gyfer senario
23. pwysigrwydd trafod a chytuno ar newid strategol gyda chydweithwyr, y sawl sy’n gwneud penderfyniadau a budd-ddeiliaid
24. sut i wneud argymhellion ar gyfer newid
25. sut i lunio achos ar gyfer newid sy’n argyhoeddi a dylanwadu ar y sawl sy’n gwneud penderfyniadau a negodi gyda hwy
26. sut i ddylanwadu ar agendâu am newid a’u negodi
27. pwysigrwydd cael gweledigaeth anogol ar gyfer maes eich cyfrifoldeb a sut i ddatblygu
28. sut i nodi’r nodau allweddol sy’n cefnogi eich gweledigaeth
29. pwysigrwydd cael polisïau a gwerthoedd fydd yn arwain gwaith eich cydweithwyr a sut i ddatblygu’r rhain
30. pwysigrwydd dysgu o brofiad y gorffennol a bod yn arloesol wrth ddatblygu strategaeth
31. rhwystrau posibl i newid strategol a sut i fynd i’r afael â’r rhain
32. pwysigrwydd sicrhau cefnogaeth i’ch strategaeth a sut i wneud hynny
33. sut i asesu a rheoli risg pan yn datblygu strategaeth
34. pwysigrwydd monitro a gwerthuso newid strategol
35. y gwahaniaeth rhwng allbynnau a deilliannau
36. sut i ddatblygu mesurau perfformiad a dulliau monitro/gwerthuso
37. sut i ddadansoddi gwybodaeth am fesurau perfformiad allweddol ac adnabod gwelliannau i berfformiad