Hwyluso ymchwiliad o’r amgylchedd gan y sawl sy’n cymryd rhan

URN: SKAODP15
Sectorau Busnes (Suites): Rhaglenni Awyr Agored
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma'n ymwneud â galluogi pobl i gasglu, coladu, dadansoddi, cyflwyno a dehongli data ynglŷn â'r amgylchedd fiolegol a daearyddol. Fel arfer caiff hyn ei gwblhau drwy fynd â'r sawl sy'n cymryd rhan ar deithiau cyfyngedig, yn aml ar droed, drwy ardal gyfarwydd a chymharol ddiogel. Mae'r sawl sy'n cymryd rhan yn debygol o fod yn blant a phobl ifanc sy'n gwneud astudiaethau maes.

Mae tri phrif deilliant i'r safon yma. Y rhain yw:

  1. paratoi ar gyfer ymchwiliad amgylcheddol
  2. paratoi'r sawl sy'n cymryd rhan ar gyfer ymchwiliad a dealltwriaeth amgylcheddol
  3. datblygu sgiliau ymchwilio'r sawl sy'n cymryd rhan a'u dealltwriaeth o'r amgylchedd

Mae’r safon yma ar gyfer staff profiadol sy’n gweithio yn yr awyr agored ac sy’n gallu gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol. Golyga cyd-destunau nodweddiadol weithio gyda phlant a phobl ifanc ar ddeilliannau addysgol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


1. adnabod nodau ac amcanion dysgu’r ymchwiliad amgylcheddol gan gymryd cynaliadwyedd i ystyriaeth 
2. gwneud yn siwr bod yr ymchwiliad yn gwneud y defnydd gorau o’r dewisiadau sydd ar gael ac yn cwrdd ag anghenion y sawl sy’n cymryd rhan
3. gwneud yn siwr bod cyd-destun a chefndir yr ymchwiliad yn gysylltiedig â’r dysgu a ddymunir
4. gwneud yn siwr bod yna ffiniau diogelwch sy’n dilyn rheoliadau a gweithdrefnau cyfundrefnol  
5. gwirio a chytuno ar bob agwedd o’r ymchwiliad amgylcheddol gyda chydweithiwr cyfrifol 
6. egluro ffocws a nodau’r archwiliad amgylcheddol gyda’r sawl sy’n cymryd rhan 
7. cyfathrebu cefndir a chyd-destun yr ymchwiliad gyda’r sawl sy’n cymryd rhan
8. hyrwyddo gwerth ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o faterion amgylcheddol a chynaliadwyedd i’r sawl sy’n cymryd rhan
9. annog y sawl sy’n cymryd rhan i gymryd perchnogaeth o’r ymchwiliad amgylcheddol eu hunain, tra’n gwneud yn glir beth yw’r ffiniau diogelwch 
10. pwysleisio pwysigrwydd arsylwi’r amgylchedd yn ystod yr ymchwiliad a rhannu’r arsylwadau hynny ag eraill 
11. annog y sawl sy’n cymryd rhan i ofyn cwestiynau ac ymateb yn briodol
12. gwneud y sawl sy’n cymryd rhan yn ymwybodol o’r amrediad o dechnegau gwaith maes a sut cant eu defnyddio mewn gwahanol amgylcheddau 
13. rheoli, casglu a choladu’r data
14. cynorthwyo’r sawl sy’n cymryd rhan i gyflwyno, dadansoddi a dehongli canfyddiadau 
15. ymyrryd pan fydd hyn yn cefnogi amcanion dysgu’r ymchwiliad
16. gwneud defnydd o’r amodau cyffredinol, digwyddiadau heb eu cynllunio, y safle a galluoedd sawl sy’n cymryd rhan 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


1. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy’n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt 
2. amrediad a chyfyngiadau eich gallu, cyfrifoldebau ac atebolrwydd fel maent yn berthnasol i’ch swydd 
3. sut i adnabod nodau ac amcanion dysgu’r ymchwiliad amgylcheddol a’u perthynas â chwricwla a meysydd llafur penodol 
4. gwerth ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o faterion amgylcheddol a chynaliadwedd i’r sawl sy’n cymryd rhan a’r mathau o ymchwiliadau a gweithgareddau sy’n annog hyn
5. pam ei bod yn bwysig nodi anghenion y sawl sy’n cymryd rhan a sut i wneud hynny 
6. y dewisiadau sydd ar gael yn yr ardal leol ar gyfer ymchwiliad amgylcheddol 
7. sut i ddewis ymchwiliad sy’n gwneud y dewis gorau o’r dewisiadau sydd ar gael ac sy’n cwrdd ag anghenion y dysgwyr a’u cryfderau dysgu 
8. pwysigrwydd sicrhau bod cyd-destun a chefndir yr ymchwiliad y gysylltiedig â’r dysgu a ddymunir 
9. y ffiniau diogelwch a’r gofynion iechyd a diogelwch sy’n sicrhau diogelwch y sawl sy’n cymryd rhan ac sy’n galluogi nodau’r gweithgaredd a gytunwyd i gael eu cyflawni 
10. manteision gwirio a chytuno ar bob agwedd o’r ymchwiliad amgylcheddol gyda chydweithiwr cyfrifol 
11. pam ei bod yn bwysig egluro ffocws a nodau’r archwiliad amgylcheddol gyda’r sawl sy’n cymryd rhan  
12. pwysigrwydd cyfathrebu cefndir a chyd-destun yr ymchwiliad i’r sawl sy’n cymryd rhan
13. yr amgylcheddau lleol a chyd-destun yr ymchwiliad
14. pwysigrwydd hwyluso dealltwriaeth y sawl sy’n cymryd rhan o ymwybyddiaeth o’r amgylchedd a chynaliadwyedd
15. pam ei bod yn bwysig i’r sawl sy’n cymryd rhan i gymryd perchnogaeth o’r ymchwiliad amgylcheddol eu hunain.
16. pam bod cael digon o egwyddorion ar gyfer yr ymchwiliad yn bwysig ar gyfer hwyluso dealltwriaeth drwy ddysgu effeithiol
17. pam ei bod yn bwysig bod y sawl sy’n cymryd rhan yn arsylwi drostynt eu hunain ac yn rhannu’r arsylwadau hynny ag eraill
18. sut i annog y sawl sy’n cymryd rhan i ofyn cwestiynau ac ymateb yn briodol i eraill
19. ffynonellau eraill y gall y sawl sy’n cymryd rhan eu defnyddio
20. y cysyniadau amgylcheddol allweddol sy’n sail i’r ymchwiliad 
21. technegau gwaith maes sylfaenol a sut ellir cymhwyso’r rhain i amrywiaeth o amgylcheddau
22. nodweddion allweddol yr amgylcheddau lleol, gan gynnwys  fflora a ffawna, daeareg gyffredinol, geomorffoleg, hinsawdd, mathau o bridd a defnydd tir
23. safleoedd lleol a pham maent yn ddiddorol, pam maent yn fregus a sut i’w gwarchod
24. casglu a choladu technegau data
25. sut i gynorthwyo’r sawl sy’n cymryd rhan i gyflwyno, dadansoddi a dehongli’r canfyddiadau yn gywir
26. sut i ymyrryd pan fydd hyn yn cefnogi amcanion dysgu’r ymchwiliad
27. sut i wneud defnydd o’r amodau cyffredinol, digwyddiadau heb eu cynllunio, y safle a galluoedd sawl sy’n cymryd rhan



Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Ffiniau diogelwch
*
*
1. ffiniau ffisegol
2. meini prawf ar gyfer rhoi’r gorau i’r profiad
3. rheolau diogelwch y sawl sy’n cymryd rhan
4. canllawiau perthnasol ar gyfer gweithgareddau o’r math yma


Gwybodaeth Cwmpas


Technegau
*
1. yn ymwneud â gweithio gyda phlanhigion
2. yn ymwneud â gweithio gydag anifeiliaid
3. yn ymwneud â gweithio gyda daearyddiaeth ddynol
4. yn ymwneud â gweithio gyda daearyddiaeth ffisegol

Amgylcheddol

*
1. trefol
2. gwledig
3. ucheldirol
4. arfordirol
5. cynefinoedd wedi eu henwi /ecosystem


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​SKAODP14


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAOP21

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfarwyddwr, Rheolwr, Hyfforddi Chwaraeon

Cod SOC

6211

Geiriau Allweddol

awyr agored; amgylchedd; ymchwiliad; astudiaethau maes; cynaliadwyedd