Trefnu adnoddau a phobl ar gyfer rhaglenni awyr agored

URN: SKAODP13
Sectorau Busnes (Suites): Rhaglenni Awyr Agored
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma'n ymwneud â threfnu'r adnoddau rydych eu hangen ar gyfer rhaglen awyr agored yn cynnwys y bobl, cyfarpar, amgylchedd a'r trefniadau domestig. Mae'r safon hefyd yn cynnwys paratoi chi eich hun, staff eraill a'r sawl sy'n cymryd rhan ar gyfer y rhaglen.

Mae tri deilliant i'r safon yma. Y rheiny yw:

  1. trefnu adnoddau ar gyfer y rhaglen
  2. paratoi eich hun, y sawl sy'n cymryd rhan ac eraill ar gyfer y rhaglen
  3. delio gydag adnoddau ar ôl eu defnyddio

Mae’r safon yma ar gyfer staff profiadol sy’n gweithio yn yr awyr agored sy’n gallu gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol.  


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Trefnu adnoddau ar gyfer y rhaglen

1. sicrhau adnoddau i gwrdd â nodau ac amcanion y rhaglen 
2. gwneud yn siwr bod adnoddau’n cwrdd ag anghenion y sawl sy’n cymryd rhan 
3. gwneud yn siwr bod adnoddau’n cwrdd â rheoliadau a gweithdrefnau cyfundrefnol 
4. gwneud yn siwr bod yr adnoddau ar gael pan fo’u hangen
5. rhoi cynlluniau argyfwng a rhai wrth gefn mewn lle ar gyfer y rhaglen

Paratoi eich hun, y sawl sy’n cymryd rhan ac eraill ar gyfer y rhaglen *
6. rhoi gwybodaeth i gydweithwyr am y rhaglen, y sawl sy’n cymryd rhan ac adnoddau 
7. darparu’r sawl sy’n cymryd rhan ac eraill â gwybodaeth am y rhaglen 
8. ymateb i geisiadau ac awgrymiadau er mwyn cwrdd ag anghenion y sawl sy’n cymryd rhan ac anghenion cyfundrefnol 
9. sicrhau eich bod chi, eraill a’r sawl sy’n cymryd rhan wedi eich paratoi ac yn barod i gymryd rhan yn y rhaglen 

Delio gydag adnoddau ar ôl eu defnyddio*
10. annog y sawl sy’n cymryd rhan i adael yr amgylchedd yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau cyfundrefnol 
11. nodi a chael gwared o adnoddau anniogel ac annefnyddiadwy ac adrodd amdanynt i’r cydweithiwr cyfrifol 
12. gwneud yn siwr bod adnoddau’n cael eu cadw yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau cyfundrefnol 
13. dilyn gweithdrefnau er mwyn sicrhau bod ansawdd yr adnoddau yn cael ei gadw a bod digon ohonynt ar gael 
14. gweithio’n ddiogel bob amser ac yn unol â’r holl deddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau 
15. dilyn rheoliadau a gweithdrefnau cyfundrefnol ar gyfer delio â materion staffio sy’n digwydd yn ystod y gweithgaredd 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Trefnu adnoddau ar gyfer y rhaglen

1. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy’n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac sydd raid i chi gadw atynt 
2. y mathau o adnoddau sydd eu hangen ar gyfer amrywiaeth o wahanol fathau o raglenni 
3. sut i sicrhau bod yr adnoddau’n cwrdd ag anghenion y sawl sy’n cymryd rhan a’r rhaglen
4. y gofynion cyfreithiol, technegol a chyfundrefnol ynglŷn â’r adnoddau yr ydych yn gyfrifol amdanynt
5. gweithdrefnau cyfundrefnol ar gyfer cael gafael ar adnoddau
6. pam ei bod yn bwysig cynllunio ar gyfer argyfwng a phethau annisgwyl 

Paratoi eich hun, y sawl sy’n cymryd rhan ac eraill ar gyfer y  rhaglen
7. pam ei bod yn bwysig rhoi gwybodaeth i gydweithwyr ac eraill a sut i wneud hynny 
8. y mathau o wybodaeth dylech chi ei rhoi i gydweithwyr am y sawl sy’n cymryd rhan, y rhaglen a’r adnoddau fyddant yn eu defnyddio 
9. y mathau o wybodaeth dylai’r sawl sy’n cymryd rhan dderbyn a pham bod hyn yn bwysig 
10. y mathau o geisiadau ac awgrymiadau gellwch chi eu derbyn gan gydweithwyr, y sawl sy’n cymryd rhan ac eraill, a sut i ymateb i’r rhain mewn modd adeiladol
11. pam ei bod yn bwysig i gydweithwyr, y sawl sy’n cymryd rhan a chi eich hun fod yn barod ar gyfer y rhaglen yn feddyliol, yn gorfforol ac o ran agwedd 

Delio gydag adnoddau ar ôl eu defnyddio 
12. pam ei fod yn bwysig gadael yr amgylchedd yn unol â pholisi neu weithdrefnau cynaliadwyedd eich sefydliad ar ôl ei ddefnyddio 
13. sut i wneud yn siwr bod yr adnoddau yn cael eu cadw yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau cyfundrefnol 
14. y gweithdrefnau cyfundrefnol ar gyfer sicrhau bod ansawdd yr adnoddau yn cael ei gadw a bod digon ohonynt ar gael
15. y rheoliadau a gweithdrefnau cyfundrefnol ar gyfer delio â materion staffio sy’n digwydd yn ystod y gweithgaredd


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad

Adnoddau

  1. pobl
  2. cyfarpar
  3. dillad
  4. amgylchedd

Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​SKAODP7, SKAODP8


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAOP2

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr, Hyfforddi Chwaraeon, Cyfarwyddwr;

Cod SOC

6211

Geiriau Allweddol

awyr agored; rhaglenni; adnoddau; y sawl sy’n cymryd rhan; paratoi