Neilltuo a monitro cynnydd eich gwaith ym maes eich cyfrifoldeb

URN: SKAODP10
Sectorau Busnes (Suites): Rhaglenni Awyr Agored
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma'n ymwneud â sicrhau bod y gwaith sydd ei angen ym maes eich cyfrifoldeb yn cael ei gynllunio mewn modd effeithiol a'i neilltuo'n deg i unigolion a/neu dimau. Golyga hefyd fonitro cynnydd ac ansawdd gwaith unigolion a/neu dimau er mwyn, sicrhau bod y lefel a/neu'r safon o berfformiad angenrheidiol yn cael ei gwrdd ac adolygu a diweddaru cynlluniau gwaith yng ngoleuni datblygiadau.

Er enghraifft, gall  'maes cyfrifoldeb' fod yn: gangen neu adran; maes swyddogaethol; neu safle weithredol o fewn sefydliad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cadarnhau’r gwaith sydd ei angen ym maes eich cyfrifoldeb gyda’ch rheolwr a cheisio eglurhad, lle bo angen, o unrhyw bwyntiau neu faterion heb eu penderfynu 

2. cynllunio’r gwaith fydd yn cael ei wneud, cael  barn gan bobl ym maes eich cyfrifoldeb, gan nodi unrhyw flaenoriaethau neu weithgareddau hanfodol a gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael 
3. sicrhau bod gwaith yn cael ei neilltuo i unigolion a/neu dimau mewn modd teg gan gymryd i ystyriaeth sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth, profiad a llwythau gwaith a’r cyfle ar gyfer datblygiad 
4. sicrhau bod unigiolion unigolion a/neu dimau yn cael gwybodaeth am y gwaith a neilltuwyd, gan ddangos sut mae’n gweddu gyda’r weledigaeth a’r amcanion ar gyfer y maes a’r holl sefydliad, a’r safon neu’r lefel o berfformiad a ddisgwylir
5. annog unigolion ac/neu aelodau’r tîm i ofyn cwestiynau, gwneud awgrymiadau a cheisio eglurhad mewn perthynas â gwaith wedi ei neilltuo  
6. monitro cynnydd ac ansawdd gwaith unigolion a/neu dimau yn rheolaidd ac yn deg, yn erbyn y safon neu’r lefel perfformiad disgwyliedig a chynnig adborth buan ac adeiladol.
7. cefnogi unigolion a/neu dimau pan yn nodi a delio gyda phroblemau a digwyddiadau na ellir mo’u rhaglweld 
8. cymhell unigolion a/neu dimau i gwblhau’r gwaith a neilltuwyd iddynt a darparu, lle gofynnir am hynny a lle bo hynny’n bosibl, unrhyw gefnogaeth ychwanegol a/neu adnoddau i’w helpu i’w gwblhau.
9. monitro eich maes am wrthdaro, gan nodi’r achos(ion) pan mae’n digwydd a delio ag ef yn sydyn ac yn effeithiol 
10. nodi perfformiad annerbyniol neu wael, trafod yr achos(ion) a ffyrdd o wella perfformiad gydag unigolion a/neu dimau 
11. rhoi cydnabyddiaeth pan fo darnau arwyddocaol o waith yn cael eu cwblhau’n llwyddiannus gan unigolion a/neu dimau 
12. defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd ar berfformiad unigolion a/neu dimau yn ystod unrhyw werthusiadau perfformiad ffurfiol 
13. adolygu a diweddaru cynlluniau ar gyfer gwaith yn eich maes, gan gyfathrebu’n glir unrhyw newidiadau i’r sawl a effeithir 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. sut i ddewis gwahanol ddulliau ar gyfer cyfathrebu gyda phobl ar draws maes eich cyfrifoldeb a’u defnyddio’n llwyddiannus 

2. pwysigrwydd cadarnhau/egluro’r gwaith y gofynnir amdano gyda’ch rheolwr, a sut i wneud hynny mewn modd effeithiol 
3. sut i nodi a chymryd i ystyriaeth ddyledus faterion iechyd a diogelwch wrth gynllunio, neilltuo a monitro gwaith 
4. sut i greu cynllun ar gyfer gwaith ym maes eich cyfrifoldeb, yn cynnwys sut i nodi unrhyw flaenoriaethau neu weithgareddau hanfodol, a’r adnoddau sydd ar gael 
5. pwysigrwydd ceisio safbwyntiau pobl sy’n gweithio yn eich maes a sut i gymryd y safbwyntiau hynny i ystyriaeth pan yn creu’r cynllun ar gyfer y gwaith  
6. pam ei bod yn bwysig neilltuo gwaith i unigolion a/neu dimau mewn modd teg a sut i wneud hynny’n effeithiol 
7. pan ei bod yn bwysig fod unigolion a/neu dimau yn cael gwybodaeth am waith a neilltuwyd iddynt a’r safon neu lefel o berfformiad a ddisgwylir, a sut i wneud hynny’n effeithiol 
8. pwysigrwydd dangos i unigolion a/neu dimau sut mae eu gwaith yn ffitio i mewn i weledigaeth ac amcanion y maes, a rhai’r sefydliad 
9. ffyrdd o annog unigolion a/neu dimau i ofyn cwestiynau, a/neu geisio eglurhad mewn perthynas â’r gwaith sydd wedi ei neilltuo iddynt.
10. ffyrdd effeithiol o fonitro cynnydd ac ansawdd gwaith unigolion a/neu dimau yn rheolaidd ac yn deg, yn erbyn y safonau neu’r lefel o berfformiad a ddisgwylir 
11. sut i ddarparu adborth buan ac adeiladol i unigolion a/neu dimau 
12. pam ei fod yn bwysig monitro eich maes am wrthdaro, a sut i nodi achos(ion) y gwrthdaro pan mae’n digwydd a delio ag ef yn sydyn ac yn effeithiol 
13. pam ei fod yn bwysig nodi perfformiad annerbyniol neu wael gan unigolion a/neu dimau a sut i drafod yr achos(ion) a chytuno ar ffyrdd o wella perfformiad gyda hwy 
14. y mathau o broblemau a digwyddiadau na ellir mo’u rhagweld a all ddigwydd a sut i gefnogi unigolion a/neu dimau wrth ddelio â hwy 
15. y gefnogaeth a/neu adnoddau ychwanegol y gall  unigolion a/neu dimau fod eu hangen i gwblhau eu gwaith a sut i gynorthwyo i ddarparu hyn 
16. sut i ddewis a defnyddio’n llwyddiannus wahanol ddulliau o annog, cymhell a chefnogi unigolion a/neu dimau i gwblhau’r gwaith a neilltuwyd iddynt, gwella eu perfformiad a rhoi cydnabyddiaeth i’w gorchestion 
17. sut i gofnodi gwybodaeth am berfformiad parhaus unigolion a/neu dimau a sut i ddefnyddio’r wybodaeth yma at ddibenion gwerthusiad perfformiad ffurfiol 
18. pwysigrwydd adolygu a diweddaru cynlluniau ar gyfer gwaith yn eich maes yng ngoleuni datblygiadau, a sut i ail-neilltuo gwaith ac adnoddau a chyfathrebu’r newidiadau mewn modd clir i’r sawl sy’n cael eu heffeithio 
19. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau cyfredol sy’n berthnasol i’ch arfer gwaith ac mae’n rhaid i chi gadw atynt 
20. yr unigolion a/neu’r timau ym maes eich cyfrifoldeb 
21. y weledigaeth a’r amcanion ar gyfer maes eich cyfrifoldeb a’ch sefydliad 
22. yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer gwneud y gwaith sydd ei angen 
23. y cynllun gwaith ar gyfer maes eich cyfrifoldeb
24. polisi a gweithdrefnau eich sefydliad pan ddaw i ddatblygiad personol 
25. safonau cyfundrefnol neu lefel disgwyliedig o berfformiad 
26. polisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol ar gyfer cwynion a disgyblu 
27. systemau gwerthuso perfformiad cyfundrefnol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKAOP12

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfarwyddwr, Rheolwr, Hyfforddi Chwaraeon

Cod SOC

6211

Geiriau Allweddol

monitro; cynnydd; rheoli; awyr agored; gweithgar; hamdden