Cyfrannu tuag at weithdrefnau ar gyfer gwarchod y sawl sy’n cymryd rhan ac yn fregus a’u rhoi ar waith
URN: SKAODP1
Sectorau Busnes (Suites): Rhaglenni Awyr Agored
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar:
30 Maw 2021
Trosolwg
Mae’r safon yma’n ymwneud â delio’n ddiogel ac yn effeithiol gyda phryderon ynglŷn â materion diogelu posibl mewn perthynas â phlant ac oedolion bregus (y sawl sy’n cymryd rhan).
Mae gan y safon yma dri phrif amcan:
1. adnabod arwyddion o gamdrin posibl
2. ymateb i ddatguddiad o gamdrin gan y sawl sy’n cymryd rhan
3. dilyn polisïau a gweithdrefnau ar gyfer cofnodi ac adrodd am gamdrin posibl
Anelir y safon yma at staff sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a/neu oedolion bregus. Mae’n orfodol i chi gael hyfforddiant mewn diogelu a chael dealltwriaeth glir o reoliadau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio gyda materion diogelu, gan gynnwys camdrin posibl.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Nodi arwyddion o gamdrin posibl *
1. nodi’r gofynion deddfwriaethol allweddol a’r polisïau a’r gweithdrefnau cyfundrefnol mewn perthynas â diogelu.
2. adnabod unrhyw *arwyddion a dangoswyr o gamdrin posibl, gan gynnig cyfleoedd i’r sawl sy’n cymryd rhan i ddatguddio a chael eu clywed
3. gweithredu yn unol ag arwyddocad yr arwyddion a’r dangoswyr a gofynion a gweithdrefnau eich sefydliad
4. dilyn polisïau a gweithdrefnau ar gyfer cofnodi ac adrodd am gamdrin posibl gan gynnwys chwythu’r chwiban i’ch cadw eich hun yn ddiogel rhag honiadau posibl
Ymateb i ddatguddiad o gamdrin gan rywun sy’n cymryd rhan *
5. ymateb i ddatguddiad o gamdrin gan rywun sy’n cymryd rhan yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau cyfundrefnol
6. cefnogi’r unigolyn i ddeall pryd a pham y gall fod angen i chi rannu gwybodaeth gydag eraill.
7. cynnig tawelwch meddwl a chefnogaeth i’r un sy’n cymryd rhan
8. cyfathrebu mewn modd ac ar gyflymdra sy’n briodol i anghenion yr un sy’n cymryd rhan
Dilyn polisïau a gweithdrefnau ar gyfer adrodd am gamdrin posibl*
9. cofnodi’n ffeithiol yr holl wybodaeth ynglŷn â chamdrin posibl, yng ngeiriau’r unigolyn ei hun ac yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau gan sicrhau ei fod wedi cael ei lofnodi a’i ddyddio gan yr unigolyn
10. sicrhau bod eich gwybodaeth yn gywir
11. dilyn gweithdrefnau eich sefydliad pan yn ymateb i geisiadau am adroddiadau am ddigwyddiadau, datguddiad neu amheuaeth o gamdrin
12. gwahaniaethu yn eich adroddiadau rhwng tystiolaeth sydd wedi cael ei gweld yn uniongyrchol a gwybodaeth gan eraill
13. cyflwyno eich adroddiadau yn briodol i’r arweinydd diogelu enwebiedig a neu’r asiantaeth briodol
14. ymyrryd fel bo’n briodol pan nad yw polisïau a gweithdrefnau yn cael eu dilyn, drwy fod yn ymwybodol o’r weithdrefn chwythu chwiban a dilyn os oes angen
15. sicrhau bod canlyniadau yn cael eu cofnodi mewn modd effeithiol
16. annog eraill i adrodd am unrhyw amheuaeth sydd ganddynt am gamdrin posibl yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
17. cefnogi eraill i gadw at reoliadau a gweithdrefnau cyfundrefnol heb gydgynllwynio gyda’r person hwnnw
18. gwneud yn siwr bod y staff sy’n ymwneud ag achosion lle mae amheuaeth o gamdrin yn cael y gefnogaeth a argymhellir
19. casglu adborth gan eraill am pa mor dda mae gweithdrefnau’n gweithio
20. defnyddio’r adborth yma i wella gweithdrefnau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Nodi arwyddion o gamdrin posibl
1. y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy’n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac mae’n rhaid i chi gadw atynt
2. y diffiniadau o’r categorïau o gamdrin fel ag y’u diffinir gan asiantaethau perthnasol
3. sut i wneud yn siwr bod eich arsylwad o gyflwr corfforol ac ymddygiad yr un sy’n cymryd rhan yn sensitif i’r un sy’n cymryd rhan a’r amgylchiadau
4. yr arwyddion a’r dangoswyr cyffredin o gamdrin ac esgeulusdra corfforol, emosiynol a rhywiol
5. sut i weithredu yn unol ag arwyddocad yr arwyddion a’r dangoswyr
Ymateb i ddatguddiad o gamdrin gan rywun sy’n cymryd rhan
6. pwysigrwydd ymateb yn sydyn ac yn ddigyffro i ddatguddiad o gamdrin a’r technegau priodol o wneud hynny
7. sut i sicrhau nad oes cwestiynau arweiniol yn cael eu gofyn i rai sy’n cymryd rhan ac nad yw staff yn defnyddio iaith awgrymog
8. pam ei bod yn bwysig gwneud yn glir bod rhaid rhoi gwybod i eraill am gamdrin posibl;
9. pam ei bod yn bwysig cynnig tawelwch meddwl a chefnogaeth yn ystod datguddiad o gamdrin a sut i wneud hynny
10. pam ei bod yn bwysig cyfathrebu ar gyflymdra’r plentyn neu’r oedolyn bregus a pheidio â rhoi pwysau ar y plentyn neu’r oedolyn bregus i ddatguddio mwy nag y mae nhw’n ei ddymuno
*Dilyn polisïau a gweithdrefnau ar gyfer adrodd am gamdrin posibl *
11. pwysigrwydd cofnodi’n ffeithiol yr holl wybodaeth ynglŷn â chamdrin posibl ac yn unol â rheoliadau a gweithdrefnau cyfundrefnol
12. pwysigrwydd dilyn rheoliadau a gweithdrefnau eich sefydliad pan yn ymateb i geisiadau am adroddiadau am ddigwyddiadau, datguddiad neu amheuaeth o gamdrin
13. sut i wahaniaethu yn eich adroddiadau rhwng tystiolaeth sydd wedi cael ei gweld yn uniongyrchol a gwybodaeth achlust gan eraill
14. y gefnogaeth sydd ar gael i staff
15. dulliau o gasglu adborth gan randdeiliaid am pa mor effeithiol mae gweithdrefnau’n gweithio
16. sut i ddefnyddio adborth i wella gweithdrefnau a pham ei bod hi’n bwysig gwneud hynny
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Arwyddion a dangoswyr
*
1. corfforol
2. ymddygiadol ac emosiynol
Camdrin
*
1. corfforol
2. esgeulusdra
3. emosiynol
4. rhywiol
5. hunan niweidio
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
SKAOP16
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
SkillsActive
URN gwreiddiol
SKAOP16
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfarwyddwr, Rheolwyr, Hyfforddi Chwaraeon
Cod SOC
6211
Geiriau Allweddol
gwarchod; bregus; sawl sy’n cymryd rhan; gweithdrefnau