Gwella a chynnal ewinedd drwy ddefnyddio syanacrylad
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 *Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol* *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. **Mae'r safon yma ar gyfer rhywun proffesiynol ym maes Ewinedd sy'n darparu gwasaneth i'r ewin i wella, cynnal a thrwsio gwelliannau syanacrylad i'r ewin. Mae'r gwasanaeth gwella'r ewin gyda syanacrylad yn cynnwys paratoi'r ewinedd, siapio'r ewinedd, gwaith ar y glasgroen ac ymestyn yr ewin naturiol drwy ddodi gorchudd gwella'r ewin syanacrylad. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr o'r safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.
Y prif ddeilliannau yw:
- Gwella'r ewinedd drwy ddodi gorchudd syanacrylad ar y blaenau
- Dodi gorchudd syanacrylad er mwyn trwsio'r ewin naturiol
- Dodi powdr polymer
4.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn
cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau
trafod a sefydlu amcanion, pryderon, disgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno er mwyn hysbysu'r cynllun gwasanaeth syanacrylad, i gynnwys:
3.1 y dewis o liw i'r powdr polymer
3.2 ffordd o fyw
3.3 dewisiadau triniaeth amgen
- cadarnhau a chytuno gyda'r unigolyn, ei fod wedi deall y gwasanaeth syanacrylad arfaethiedig, i gynnwys:
4.1 gwrth-weithredoedd
4.2 adweithiau niweidiol
4.3 teimlad corfforol ar haen yr ewin a'r croen o amgylch
sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn wedi ei hysbysu ar gyfer y gwasanaeth syanacrylad
paratoi man triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol gwasanaeth syanacrylad*, *i gynnwys:
6.1 cael gwared o unrhyw gynnyrch sy'n bodoli o'r ewin yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- gwneud dadansoddiad o'r ewin a'r croen, i gynnwys:
7.1 cyflwr yr ewin
7.2 cyflwr y croen
7.3 hyd a siap yr ewin
trafod a chytuno ar y gwasanaeth hylif monomer a'r powdr polymer yn unol â'r protocol gwasanaeth syanacrylad
cadarnhau gyda'r unigolyn yr hyd a'r siap i'r ewin y mae'n ei ddymuno
clipio a siapio'r ewinedd er mwyn sicrhau min rhydd esmwyth yn unol â'r protocol gwasanaeth syanacrylad
paratoi'r glasgroen yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
defnyddio offer i gael gwared o lasgroen o blât gweledig yr ewin heb niweidio'r croen o amgylch
paratoi plat yr ewin ar gyfer gorffeniad yr hylif monomer a'r powdr polymer, yn unol â'r protocol gwasanaeth syanacrylad
*Dodi'r gorchudd hylif monomer a phowdr polymer ar ewinedd naturiol i'w trwsio *
14. dodi resin gan adael ymyl yn rhydd o'r croen o amgylch, a'i adael i drin yn unol â'r protocol gwasanaeth syanacrylad
- addasu, ffitio a dodi'r ffabrig/troch'r powdr polymer i'r ewin er mwyn sicrhau bod y cynnyrch y siap ac yn y lleoliad cywir, gan adael ymyl rhydd o gwmpas y croen o amgylch yn unol â'r protocol gwasanaeth syanacrylad, i gynnwys:
15.1 asesu'r angen i ddodi stribyn straen
dodi gan adael ymyl rhydd a gwmpas y croen o amgylch a'I adael i drin yn unol â'r protocol gwasanaeth syanacrylad Dodi blaenau a gorchuddion gwella ewin* syanacrylad*
dewis ac addasu blaenau'r ewin i gyd-fynd ag ewin naturiol yr unigolyn yn unol â'r protocol gwasanaeth syanacrylad
cysylltu blaen yr ewin gyda'r ewin naturiol gan ddefnyddio glud i'r ewin yn unol â'r protocol gwasanaeth syanacrylad, i gynnwys:
18.1 torri a siapio ymyl rhydd y blaenau
18.2 ymdoddi'r blaenau i mewn i'r ewin naturiol os oes angen fel na fydd modd sylwi arnynt gan sicrhau na fydd difrod i'r ewin naturiol
dodi resin gan adael ymyl rhydd o amgylch y croen o gwmpas a'i adael i drin yn unol â'r protocol gwasanaeth syanacrylad
addasu, ffitio ffabrig/trochi'r powdr polymer i'r ewin er mwyn sicrhau bod y cynnyrch y siap ac yn y lleoliad cywir, gan adael ymyl rhydd o gwmpas y croen o amgylch yn unol â'r protocol gwasanaeth syanacrylad,
dodi resin gan adael ymyl rhydd o amgylch y croen o gwmpas a'i adael i sychu yn unol â'r protocol gwasanaeth Technegau Gorffen
defnyddio technegau ffeilio er mwyn creu'r cydbwysedd, yr hyd a'r siap y gofynnir amdano
defnyddio technegau caboli er mwyn creu wyneb a sglein esmwyth a gwastad
monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth syanacrylad
gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol
cwblhau'r gwasanaeth yn unol â'r protocol gwasanaeth syanacrylad, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
cwblhau cofnodion gwasanaeth yr unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data
28. defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r gwasanaeth syanacrylad a gweithredu'n briodol
rhoi *cyfarwyddiadau *a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y gwasanaeth
cofnodi canlyniad a gwerthusiad o'r gwasanaeth syanacrylad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn darparu'r gwasanaethau syanacrylad, a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
- pam fod rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad
- pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau diweddaraf
4. yr *anatomeg a'r ffisioleg *sy'n berthnasol i'r safon yma
- y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r driniaeth ewinedd, i gynnwys:
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol
- pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd amheus ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd
7. diben, y defnydd o a chyfyngiadau gwasanaethau syanacrylad, mewn perthynas â:
7.1 hanes meddygol o'r gorffennol a chyfredol
7.2 cyflwr yr ewin a'r croen
7.3 ffactorau perthnasol sy'n ymwneud â'r ffordd o fyw
7.4 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol
7.5 disgwyliadau'r unigolyn
y gwahanol fathau o gyflyrau'r ewin a'r croen y gellir eu trin
pwysigrwydd gwneud dadansoddiad o'r ewin a'r croen er mwyn penderfynu ar gynllun gwasanaeth syanacrylad
10 pwysigrwydd cadw at y protocol gwasanaeth syanacrylad
11. y technegau a ddefnyddir i wneud gwelliannau i'r ewin gan ddefnyddio syanacrylad, i gynnwys:
11.1 sut i addasu'r gwelliant syanacrylad i'r ewin er mwyn cwrdd ag anghenion yr unigolyn
y mathau o ffeiliau a chlustogau a'u heffeithiau
y mathau o flaenau'r ewin, a thechnegau o'u dodi a'u cyfuno
14. manteision a chyfyngiadau blaenau sydd wedi eu cyfuno a heb eu cyfuno
sut i ddodi gwelliannau i'r ewin er mwyn sicrhau eu bod cyn gryfed ac yn parhau cyhyd â phosib
16. y rhesymau dros adael ymyl rhydd o amgylch y croen o gwmpas
cyfansoddiad cemegol syanacrylad, actifayddion, powdrau polymer a'r adwaith gemegol sy'n digwydd yn ystod y broses o drin
yr effaith gaiff syanacrylad ar ffabrigau naturiol
y rhesymau dros a phwysigrwydd osgoi adwaith ecsothermig
sut mae *cynnrych gwella ewinedd syanacrylad * yn wahanol i gynnyrch gwella ewinedd eraill
y mathau o systemau trochi powdr polymer a ffabrigau sydd ar gael a'u manteision
sut i ddodi ffabrig a chynnyrch trochi powdr polymer i welliannau i'r ewin
y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
mathau o, manteision a chyfyngiadau cynnyrch a chyfarpar yr ewinedd a ddefnyddir mewn gwasanaethau gwella ewinedd syanacrylad
sut i baratoi, defnyddio a chynnal a chadw cynnyrch, offer a chyfarpar, yn unol â'r protocol gwasanaeth syanacrylad, i gynnwys
26. pam ei fod yn bwysig glanhau a sychu'r ewin naturiol cyn dodi system gwella'r ewin, i gynnwys:
26.1 y rhesymau dros ddefnyddio cynnyrch cyn triniaeth er mwyn sychu plat yr ewin
y rhesymau dros ddodi cynnyrch wedi triniaeth yn dilyn dodi'r deunydd syanacrylad i wella'r ewin
technegau trwsio ewinedd naturiol
technegau trwsio gwelliannau i'r ewinedd
30. y mathau o ddulliau cynnal a chadw a ddefnyddir i adfer gwelliannau i'r ewin, sut a phryd i'w cyflawni
y rhesymau pam fod gwelliant i'r ewin yn dioddef colled neu ddifrod annisgwyl a chynamserol yn dilyn gwasanaeth gwella'r ewin
yr adweithiau niweidiol a gysylltir gyda gwasanaeth syanacrylad a sut i ymateb iddynt
y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod, ac ar ôl y gwasanaeth syanacrylad, i gynnwys:
33.1 pwysigrwydd echdynnu ac awyriant digonol pan yn defnyddio cynnyrch gwella'r ewin
- y rhesymau pam fod angen cynllun wrth gefn ar gyfer cael gwared o'r gwelliant i'r ewin mewn modd diogel, i gynnwys :
34.1. y ffyrdd gall cynllun wrth gefn fod yn effeithiol ac yn fodd o gadw iechyd a diogelwch yr unigolyn
35. pwysigrwydd defnyddio cynnyrch sydd wedi cael eu cymeradwyo'n gosmetig
pwysigrwydd cadw at gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr er mwyn atal anghydnawsedd cynnyrch a risgiau i iechyd
y mathau a'r risgiau cysylltiedig o gynnyrch i'r ewinedd sy'n gysylltiedig â natur wenwynig
pam ei fod yn bwysig trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon, disgwyliadau, y canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun gwasanaeth syanacrylad
39. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau i'r ewinedd i blant dan oed ac oedolion bregus
- y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth
41. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer gwasanaeth syanacrylad
- pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
43. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol cydsyniol o fan triniaeth yr unigolyn, a’u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth a rhai deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol
- y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion o wasanaeth syanacrylad yr unigolyn
45. canlyniadau disgwyliedig gwasanaethau syanacrylad
diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol
pwysigrwydd cofnodi canlyniad a gwerthusiad o'r gwasanaeth
48. y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth syanacrylad
Cwmpas/ystod
Adwaith niweidiol
adwaith alergaidd
afliwiad o'r cynnyrch
afliwiad o blât yr ewin
afliwiad o haen yr ewin
plât yr ewin yn teneuo
toriadau a chrafiadau
cleisio
goroleuad
adwaith ecsothermig
10. codi'r cynnyrch
11. colli'r gwelliant yn rhy gynnar
12. haint
Protocol gwasanaeth syanacrylad
amgylchedd waith
iechyd a diogelwch
atal a rheoli haint
cynllun gwasnaeth
cydsyniad gwybodus
rheoli data
cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
archwilio ac atebolrwydd
cyfarwyddiadau a chyngor
10. cynaliadwyedd
11. rheoli gwastraff
12. ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
13. ymarfer adfyfyriol
Cyflwr yr ewin
**1. cnoi ewinedd
afliwiad
wedi ystumio
hollt uwchben yr hyponychium
llinellau beau
llinellau hydredol a llorweddol gwrymiog
sych
onychorrhexis
onycholysis
Hyd a siap yr ewin
hir
hyd canolig
byr
crwn
hirgrwn
sgwar
sgwofal
arch
almon
10. stileto
Cyfarwyddiadau
hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd
cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
gwasanaethau yn y dyfodol
Anatomeg a ffisioleg
strwythur a swyddogaeth systemau'r corff a'u cyd- ddibyniaeth ar ei gilydd o fewn y dwylo a'r traed
y gwrtharwyddion a'r patholegau sy'n perthyn i'r uned ewinedd, tŵf yr ewinedd a'r croen
strwythur a swyddogaethau'r ewinedd a thŵf yr ewinedd
Cynnyrch gwella ewinedd syanacrylad
**1. gwydr ffeibr
2. sidan
3. ffabrig
4. trochydd powdr polymer
Cynnyrch wedi triniaeth
**1. hufenau
- Olewon
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwrtharwydd llwyr
Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni a gall fod angen iddo gael ei gyfeirio.
Adwaith niweidiol**
Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth, e.e. llewygu
Gwrth weithred
Gwrth weithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn,
e.e. erythema
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth
orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb ac ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.
Gwrtharwydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.
Gwenwyndra
Penderfynir gwenwyndra gan adwaith rhywun i wahanol ddognau gemegolyn. Gall gwenwyndra neu adweithiau niweidiol ddigwydd o ganlyniad i anghydnawsedd gyda chymysgedd anghywir o gemegolion.
Dolenni I NOS Eraill
SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABN1, SKABN2, SKABN3, SKANT2, SKANT3, SKANT4, SKANT5, SKANT6, SKANT7, SKANT9