Gwella a chynnal ewinedd drwy ddefnyddio cynnyrch ewin wedi ei drin
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. * *Mae'r safon yma ar gyfer rhywun proffesiynol ym maes Ewinedd sy'n darparu gwasanaethau ewin i wella, cynnal a thrwsio gwelliannau cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV. Mae'r gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV yn cynnwys paratoi'r ewinedd, siapio'r ewinedd, gwaith ar y glasgroen ac ymestyn yr ewin naturiol drwy gerfio'r ewin gan ddefnyddio cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV gan ddodi blaenau i'r ewin gyda gorchudd cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.
Y prif ddeilliannau yw:
- Gwella'r ewinedd drwy ddodi cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV wedi ei gerfio
- Gwella'r ewinedd drwy ddodi blaenau gyda gorchudd cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
- Dodi gorchudd cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV arf yr ewin naturiol
- Cynnal a thrwsio gwelliannau i'r ewin drwy fewnlenwi ac aildafoli
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn
cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau
trafod a sefydlu amcanion, pryderon a disgwyliadau'r unigolyn a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno er mwyn hysbysu'r cynllun gwasanaeth, i gynnwys:
3.1 gorffeniad i'r ewin wedi ei drin ag UV
3.2 ffordd o fyw
3.3 dewisiadau triniaeth amgen
- cadarnhau a chytuno gyda'r unigolyn, eu bod wedi deall y
gwasanaeth arfaethedig, i gynnwys:
4.1 gwrth-weithredoedd
4.2 adweithiau niweidiol
4.3 teimlad corfforol ar haen yr ewin a'r croen o amgylch
5. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y gwasanaeth
- paratoi man triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol gwasanaeth*,* y gynnwys:
6.1 cael gwared o unrhyw gynnyrch sy'n bodoli o'r ewin yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- gwneud dadansoddiad o'r ewin a'r croen, i gynnwys:
7.1 cyflwr yr ewin
7.2 cyflwr y croen
7.3 hyd a siap yr ewin
trafod a chytuno ar y gwasanaeth yn unol â'r protocol
cadarnhau gyda'r unigolyn yr hyd a'r siap i'r ewin y mae'n ei ddymuno
10. clipio a siapio'r ewinedd er mwyn sicrhau min rhydd yn unol â'r protocol gwasanaeth
paratoi'r glasgroen yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
defnyddio offer i gael gwared o lasgroen o blât gweledig yr ewin heb niweidio'r croen o amgylch
13. paratoi plat yr ewin ar gyfer gorffeniad yr ewin wedi ei drin ag UV yn unol â'r protocol gwasanaeth
- paratoi'r cyfarpar UV yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol
Dodi gorchudd cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
15. dewis y cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV yn unol â'r protocol gwasanaeth
- dodi'r gorchudd cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV i blât yr ewin gan adael ymyl rydd o'r croen o amgylch yn unol â'r protocol gwasanaeth
Cerfio gan ddefnyddio cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
- addasu a ffitio'r ffurf cerfio er mwyn sicrhau'r gosodiad a'r siap iawn ar gyfer y cynnyrch
18. dewis y cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV yn unol â'r protocol gwasanaeth
dodi'r gorchudd cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV i blât yr ewin gan adael ymyl rydd o'r croen o amgylch yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, i gynnwys
dodi'r gorchudd cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV i blât yr ewin gan adael ymyl rydd o'r croen o amgylch yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, i gynnwys:
20.1 creu strwythur ewin artiffisial yn unol â'r protocol gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
Dodi blaenau a gorchuddion cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
21. dewis ac addasu blaenau i'r ewin i gydweddu ag ewinedd naturiol yr unigolyn cysylltu blaen yr ewin gyda'r ewin naturiol gan ddefnyddio glud i'r ewin yn unol â'r protocol gwasanaeth, i gynnwys:
21.1 clipio a siapio ymyl rhydd y blaenau
21.2 ymdoddi'r blaenau i mewn i'r ewin naturiol os oes angen fel na fydd modd sylwi arnynt gan sicrhau na fydd difrod i'r ewin naturiol
22.dewis y cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV yn unol â'r protocol gwasanaeth
dewis y cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV yn unol â'r protocol gwasanaeth
dodi'r gorchudd cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV a gadael ymyl yn rhydd o'r croen o amgylch, yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
Trin
- trin y cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV gan ddefnyddio'r cyfarpar UV hyd y diwedd, yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
Cynnal a chadw a thrwsio
- nodi unrhyw waith cynnal a chadw a/neu ddifrod annisgwyl i
welliannau'r ewin i gynnwys:
26.1 nodi achos y difrod annisgwyl
26.2 trwsio'r gwelliant i'r ewin sydd wedi ei ddifrodi neu ei ddodi yn ôl
- defnyddio technegau cynnal yr ewin er mwyn adfer gwelliant yr ewin i'w gyflwr gwreiddiol
Technegau gorffen
cael gwared o'r haen ataliad o'r cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
defnyddio technegau ffeilio er mwyn creu'r cydbwysedd, siap a'r hyd sy'n ofynnol
30. dodi côt uwch i amddiffyn gorffeniad yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y gwasanaeth
gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol
cwblhau'r gwasanaeth yn unol â'r protocol gwasanaeth, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
cwblhau cofnodion gwasanaeth yr unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data
defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r gwasanaeth a gweithredu'n briodol
rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y gwasanaeth
37. cofnodi canlyniad a gwerthusiad o'r gwasanaeth a’r gwerthusiad ohono
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn darparu'r gwasanaethau a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
- pam bod rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad
pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau diweddaraf
yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma
y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r gwasanaeth ewinedd, i gynnwys:
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis chyfeirio meddygol
pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd
diben, y defnydd o a chyfyngiadau gwasanaethau cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV mewn perthynas â:
7.1 hanes meddygol o'r gorffennol a chyfredol
7.2 cyflwr yr ewin a'r croen
7.3 ffactorau perthnasol sy'n ymwneud â'r ffordd o fyw
7.4 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol
7.5 disgwyliadau'r unigolyn
- y gwahanol fathau o gyflyrau'r croen a'r ewin y gellir eu trin
9. sut i wneud dadansoddiad o'r ewin a'r croen
- pwysigrwydd gwneud dadansoddiad o'r ewin a'r croen er mwyn penderfynu ar y cynllun gwasanaeth
11. pwysigrwydd cadw at y protocol gwasanaeth
12. y cyfarpar a ddefnyddir wrth ddodi cynnyrch ewin wedi ei drin, i gynnwys:
12.1 y gofynion ar gyfer cynnal a chadw, defnyddio a diogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol
13. y broses bolymereiddio
y sbectrwm electromagnetig a'r tonfeddi UV
sut i drin cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV mewn modd effeithiol, i gynnwys:
15.1 y rhesymau dros i gynnyrch ewin wedi ei drin ag UV gael ei drin rhy ychydig a/neu ei drin yn ormodol
16. pwysigrwydd defnyddio cyfarpar UV gyda'r donfedd, tywyniad a'r amseriad ar gyfer cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
- y technegau llaw a ddefnyddir wrth wneud gwelliannau i'r ewin gan ddefnyddio cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV, i gynnwys:
17.1 sut i addasu gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV er mwyn cwrdd ag anghenion yr unigolyn
18. y mathau o ffeiliau a chlustogau a'u heffeithiau
y mathau o flaenau'r ewin, a thechnegau o'u trin a'u cyfuno
manteision a chyfyngiadau blaenau sydd wedi eu cyfuno a heb eu cyfuno
21. y gwahaniaethau rhwng cyfryngau clymu alcalinaidd ac asidaidd
pryd a pham y caiff cyfryngau clymu eu defnyddio
sut i ddodi gwelliannau i'r ewin er mwyn sicrhau eu bod cyn gryfed ac yn parhau cyhyd â phosibl
24. y gwahanol fathau o ffurfiau cerfio sydd ar gael a sut i'w defnyddio nhw
- y gwahanol fathau o orffeniadau ewin wedi eu trin ag UV, i gynnwys:
25.1 systemau cryfhau ewin wedi ei drin ag UV
25.2 systemau hybrid wedi eu trin ag UV
26. mathau o, manteision a chyfyngiadau cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV i gynnwys:
26.1 sut i gael cynnyrch gel lliw sy'n cydweddu gyda dosbarthiad naturiol croen yr unigolyn
27. y rhesymau dros adael ymyl rydd o amgylch y croen o gwmpas
28 cyfansoddiad cemegol y broses trin cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV, i gynnwys:
28.1 sut y gall yr amser trin amrywio
sut y gall gwelliannau i'r ewin gyda chynnyrch ewin wedi ei drin ag UV fod yn wahanol i gynnyrch gwella ewin eraill
y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
sut i baratoi, defnyddio a chynnal a chadw cynnyrch, offer a chyfarpar yn unol â'r protocol gwasanaeth
32. pam ei bod yn bwysig glanhau a sychu'r ewin naturiol cyn dodi system gwella ewin i gynnwys:
32.1 y rhesymau dros ddefnyddio cynnyrch cyn triniaeth er mwyn sychu plat yr ewin
33. pam y ceir gwared o'r haen ataliad yn dilyn dodi cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
y rhesymau dros ddodi cynnyrch wedi triniaeth yn dilyn dodi cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
technegau trwsio ewinedd naturiol
technegau trwsio gwelliannau i'r ewinedd
37. y mathau o ddulliau cynnal a ddefnyddir i adfer gwelliannau i'r ewin, sut a phryd i'w cyflawni
y rhesymau pam bod gwelliant i'r ewin yn dioddef colled neu ddifrod annisgwyl a chynamserol yn dilyn gwasanaeth gwella'r ewin
yr adweithiau niweidiol a gysylltir gyda gwasanaeth cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV a sut i ymateb
40. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth:.
40.1 pwysigrwydd echdynnu ac awyriant digonol pan yn defnyddio cynnyrch gwella ewinedd
- y rhesymau pam bod angen cynllun wrth gefn ar gyfer cael safe gwared o'r gwelliant i'r ewin mewn modd diogel, i gynnwys:
41.1 y ffyrdd y gall cynllun wrth gefn fod yn effeithiol ac yn fodd o gadw iechyd a diogelwch yr unigolyn
pwysigrwydd defnyddio cynnyrch sydd wedi cael eu cymeradwyo'n gosmetig
pwysigrwydd cadw at gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr er mwyn atal anghydnawsedd cynnyrch a risgiau i iechyd
y mathau a'r risgiau cysylltiedig o gynnyrch i'r ewinedd sy'n gysylltiedig â natur wenwynig
pam ei bod hi'n bwysig trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon, disgwyliadau, y canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun gwasanaeth
46. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau i'r ewinedd i blant dan oed ac oedolion bregus
47. y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth
48. gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi'i lofnodi ar gyfer y gwasanaeth
pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a'u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol
y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion o wasanaeth yr unigolyn
52. canlyniadau disgwyliedig gwasanaethau cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
- diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol
54. pwysigrwydd cofnodi canlyniad y gwasanaeth a gwerthusiad ohono
55. y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth
Cwmpas/ystod
Gorffeniad cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
- tywyll
- pinc a gwyn
- lliw
- tywyll sy'n cydweddu â'r croen
****Adwaith niweidiol****
- adwaith alergaidd
- afliwiad o'r cynnyrch
- afliwiad o blât yr ewin
- afliwiad o haen yr ewin
- plât yr ewin yn teneuo
- toriadau a chrafiadau
- cleisio
- goroleuad
- adwaith ecsothermig
- codi'r cynnyrch
- colli'r gwelliant yn rhy gynnar
- haint
- trin yn ormodol
****Protocol gwasanaeth****
- amgylchedd waith
- iechyd a diogelwch
- atal a rheoli haint
- cynllun gwasnaeth
cydsyniad gwybodus
rheoli data
- cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- archwilio ac atebolrwydd
- cyfarwyddiadau a chyngor
- cynaliadwyedd
- rheoli gwastraff
- ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
- ymarfer adfyfyriol
*
*
Cyflwr yr ewin*
**
cnoi ewinedd
afliwiad
- wedi ystumio
- hollt uwchben yr hyponychium
- llinellau beau
- llinellau hydredol a llorweddol gwrymiog
- sych
- onychorhecsis
- onycholysis
*Hyd a siap yr ewin*
- hir
- hyd canolig
- byr
- crwn
- hirgrwn
- sgwar
- sgwofal
- arch
- almon
- stileto
****Cyfarpar****
- UV CFL
- UV LED
****Technegau cynnal yr ewin****
- mewnlenwi
- aildafoli
- ôl-lenwad
- ailosod y gorchudd
- trwsio'r gorchudd
*
**Cyfarwyddiadau*
- hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd
- cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
- cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
- gwasanaethau yn y dyfodol
**Anatomeg a ffisioleg**
- strwythur a swyddogaeth systemau'r corff a'u cyd- ddibyniaeth ar ei gilydd o fewn y dwylo a'r traed
- y gwrtharwyddion a'r patholegau sy'n perthyn i'r uned ewinedd, tŵf yr ewinedd a'r croen
- strwythur a swyddogaethau'r ewinedd a thŵf yr ewinedd
*
Cynnyrch wedi'r driniaeth*
- hufennau
- olewon
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cynnyrch wedi'r driniaeth
Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.
Adwaith niweidiol
Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn a gwasanaeth, e.e. llewygu
Gwrth weithred
Gwrth weithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn, e.e. erythema
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb ac ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.
Gwrtharwydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.
Gwenwyndra
Penderfynir gwenwyndra gan adwaith rhywun i wahanol ddognau o gemegolyn. Gall gwenwyndra neu adweithiau niweidiol ddigwydd o ganlyniad i anghynawsedd gyda chymysgedd anghywir o gemegolion.
Cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV
Mae cynnyrch ewin wedi ei drin ag UV yn ffurfiau o gel caled a medal sy'n gofyn am driniaeth gan ddefnyddio cyfarpar UV wedi ei galibro.
Cyfarpar UV
Mae yna ddau fath o gyfarpar allyrru UV. Cant eu hadnabod fel Lamp Fflworoleuol Gywasgedig (CFL) lamp UV neu lamp UV Ddeuod Allyrru (LED) UV.
Dolenni I NOS Eraill
SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABN1, SKABN2, SKABN3,
SKANT1, SKANT2, SKANT3, SKANT4, SKANT5, SKANT7, SKANT9