Creu, cynnal a gorffen gorchuddion gwella ewin gan ddefnyddio E-ffeil
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 *Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol* *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. ** Mae'r safon yma ar gyfer rhywun proffeslynol ym maes ewinedd sy'n defnyddio E-ffeil er mwyn lleihau hyd, siap, mireinio wynebau, teneuo. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys creu dyluniad celf i'r ewinedd, paratoi'r ewin, teneuo yr ymyl rhydd a chaboli gwelliannau i'r ewin. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.
Y prif ddeilliannau yw:
- Lleihau gwelliannau i lwyth a siap ewinedd gan ddefnyddio E-ffeil
- Mireinio a chaboli gwelliannau i'r ewinedd gan ddefnyddio E-ffeil
- Cael gwared o sglein gel Uwch Fioled o welliannau i'r ewinedd gan ddefnyddio E-ffeil
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn
2. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau, i gynnwys:
2.1 sicrhau bod echdynnu llwch priodol yn cael ei defnyddio mewn modd sy'n gyson â gofynion yr awdurdod lleol
3. sefydlu amcanion, disgwyliadau'r unigolyn a'r canlyniadau a ddymunir er mwyn hysbysu cynllun gwasanaeth y E-ffeil
- cadarnhau a chytuno gyda'r unigolyn, ei fod wedi deall y gwasanaeth E-ffeil arfaethedig, i gynnwys:
4.1 gwrth-weithredoedd
4.2 adweithiau niweidiol
4.3 teimlad corfforol ar y croen oddi tan yr ewin ac o’i amgylch 5. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y gwasanaeth E-ffeil
- paratoi man triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol gwasanaeth E-ffeil*, *i gynnwys:
6.1 cael gwared o unrhyw gynnyrch sy'n bodoli o'r ewin yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
cadarnhau gyda'r unigolyn yr hyd a'r siap a ddymunir i'r ewin
lleihau gwelliannau i lwyth a siap yr ewinedd gan ddefnyddio E-ffeil er mwyn cyflawni'r strwythur, siap a hyd sydd wedi ei gytuno, yn unol â'r protocol gwasanaeth E-ffeil, i gynnwys:
8.1 defnyddio technegau sy'n cadw'r risg o ddifrod i'r ewin naturiol a'r croen o'i amgylch mor isel â phosibl
8.2 defnyddio atodiad E-ffeil ewin 'I ffwrdd'* a'r *technegau E-ffeilio a ofynnir amdano
8.3 symud yr E-ffeil ar gyflymder a phwysedd sydd eu hangen ar gyfer y technegau E-ffeilio
8.4 symud yr E-ffeil mewn un cyfeiriad ar draws yr ewin
8.5 defnyddio atodiad E-ffeil ewin 'I ffwrdd' gan gylchdroi yn y cyfeiriad sy'n gyferbyniol i'r hyn yr ydych chi'n ei weithio
8.6 sicrhau symudiad parhaus o'r ffeil er mwyn rhwystro gwres rhag cronni ar blât yr ewin
8.7 cylchdroi bys yr unigolyn er mwyn sicrhau bod y ffeil yn wastad yn erbyn y gwelliant i'r ewinnedd
9. mireinio a chaboli gwelliannau i'r ewinedd er mwyn cyflawni'r gorffeniad terfynol i welliant yr ewinedd yn unol â'r protocol gwasanaeth E-ffeil, i gynnwys:
9.1 defnyddio ffeil er mwyn cyflawni wyneb cytbwys esmwyth a sglein
10. monitro iechyd a lles yr unigolyn drwy gydol y gwasaneth E-ffeil
gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol
cwblhau'r gwasanaeth yn unol â'r protocol gwasanaeth E-ffeil, deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
13. cwblhau cofnodion gwasanaeth yr unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data
defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r gwasanaeth celf i'r ewinedd a gweithredu'n briodol
rhoi *cyfarwyddiadau *a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y gwasanaaeth
16. cofnodi canlyniad y gwasanaeth E-ffeil a'r gwerthusiad ohono
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn cyflawni'r gwasanaethau E-ffeil a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
- pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn y gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad
3. pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, y polisïau, gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am arfer orau ddiweddaraf
yr *anatomeg a'r ffisioleg *sy'n berthnasol i'r safon yma
y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r driniaeth ewinedd, i gynnwys:
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol
pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd amheus ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd
diben, y defnydd o a chyfyngiadau gwasanaethau E-ffeil, mewn perthynas â:
7.1 hanes meddygol blaenorol a chyfredol
7.2 cyflwr yr ewin a'r croen
7.3 meddyginiaethau a chyflyrau meddygol
7.4 disgwyliadau'r unigolyn
pwysigrwydd cadw at y protocol gwasanaeth E-ffeil
y rhesymau pam na ddylech ddarparu gwasanaethau E-ffeil ar ewinedd naturiol, i gynnwys: 9.1 pwysigrwydd amddiffyn meinwe'r croen byw yn cynnwys corlan agosaf yr ewin
10 y mathau o a'r defnydd o gyfarpar E-ffeilio ac atodiadau* *E-ffeil ewin 'I ffwrdd'
y technegau E-ffeilio, yn cynnwys teneuo'r gorchuddion, caboli, cael gwared o'r sglein gel Uwch Fioled a defnydd ar wahanol gyflymderau o gylchdroi
sut i safleoli a chefnogi bys yr unigolyn tra'n cyflawni gwasanaeth E-ffeil
pam ei bod yn bwysig cadw tri phwynt cyswllt tra'n cyflawni gwasanaeth E-ffeil
sut i addasu'r cyfarpar ar gyfer ei ddefnyddio gyda'r llaw dde a'r chwith
y rhesymau dros weithio mewn un cyfeiriad dros y gorchudd gwella ewinedd
pam ei bod yn bwysig gweithio yn y cyfeiriad sy'n wrthwyneb i gylchdroad atodiad y ffeil
sut i gadw cydbwysedd, siap a safle'r pig yr ewin pan yn E-ffeilio
y difrod a achosir gan ddefnydd amhriodol neu gamddefnydd o e-ffeiliau
sut i rwystro gwres rhag cronni pan yn defnyddio E-ffeil
manteision, y defnydd y gellir ei wneud ohonynt a chyfyngiadau ffeil llaw ac E-ffeil
y rhesymau pam na ddylid byth ddefnyddio E-ffeiliau ar gyfer cymysgu blaen yr ewin
pwysigrwydd cynnal a chadw e-ffeil ar gyfer defnydd diogel ac effeithlon, i gynnwys:
22.1 dulliau glendid ar gyfer atodiadau E-ffeil
y rhesymau dros ddefnyddio cynnyrch wedi triniaeth yn dilyn gwasanaeth E-ffeil
yr adweithiau niweidiol a gysylltir gyda gwasanaeth E-ffeilio, a sut i ymateb
y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth E-ffeilio, i gynnwys:
25.1 pwysigrwydd echdynnu digonol drwy gydol y gwasanaeth E-ffeilio
pam ei bod hi'n bwysig trafod ac adnabod amcanion, pryderon, disgwyliadau yr unigolyn a'r canlyniadau y mae'n ei ddymuno a chytuno ar y cynllun gwasanaeth E-ffeilo
y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau i'r ewinedd i blant dan oed ac oedolion bregus
y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth
29. gofynion deddwriaethol a digollediad ar gyfer sicrhau cydsyniad gwybodus wedi'i lofnodi ar gyfer y gwasanaeth E-ffeilio
pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a'u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, a'r rhai deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol
y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a cadw cofnodion o wasanaeth E-ffeilio'r unigolyn
canlyniadau disgwyliedig y gwasanaethau E-ffeilio
34. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol
pwysigrwydd cofnodi canlyniad cofnodi canlyniad y gwasanaeth E-ffeilio a'r gwerthusiad ohono
y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth E-ffeilio
Cwmpas/ystod
Adwaith niweidiol
- plât yr ewin yn teneuo
- toriadau a chrafiadau
- cleisio
- adwaith ecsothermig
- codi'r cynnyrch
- colli'r gwelliant yn rhy gynnar
- haint
- onycholysis
Protocol Gwasanaeth E-ffeilio
- amgylchedd waith
- iechyd a diogelwch
- atal a rheoli haint
- cynllun gwasnaeth
cydsyniad gwybodus
rheoli data
- cyfarwyddiadau's gwneuthurwr
- archwilio ac atebolrwydd
- cyfarwyddiadau a chyngor
- cynaliadwyedd
- rheoli gwastraff
- ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
- ymarfer adfyfyriol
Atodiad Ewin 'I ffwrdd'
1. carbid 2. darn diamwnt 3. darn ôl-lenwad 4. rhwymyn ebill a thaenu tywod 5. glanhawr dan yr ewin 6. darn gloywi*
**
**
*Technegau E-ffeilio
- lleihau llwyth gorchudd
- lleihau hyd
- mireinio wynebau
- teneuo'r ymyl rhydd
- cael gwared o'r sglein gel Uwch Fioled o'r gwelliannau i'r ewinedd
- caboli
- ailsafleoli'r man gwyn
- ailsafleoli'r lliw
Cyfarwyddiadau
- hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd
- cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
- cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
- gwasanaethau yn y dyfodol
Anatomeg and ffisioleg
- strwythur a swyddogaeth systemau'r corff a'u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd o fewn y dwylo a'r traed
- y gwrtharwyddion a'r patholegau sy'n perthyn i'r uned ewinedd, tŵf yr ewinedd a'r croen
- strwythur a swyddogaethau'r ewinedd a thŵf yr ewinedd
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwrtharwydd llwyr
Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni a gall fod angen iddo gael ei gyfeirio.
Adwaith niweidiol
Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth, e.e. llewygu
Gwrth weithred
Gwrth weithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn, gwasanaeth i.e. erythema
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb ac ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.
Gwrtharwydd cymharo*l*
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.
Dolenni I NOS Eraill
SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABN1, SKABN2, SKABN3, SKANT1, SKANT2, SKANT3, SKANT5, SKANT6, SKANT7, SKANT9