Pyrmio a niwtraleiddio’r gwallt
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol a SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma'n ymwneud â rhywun proffesiynol o faes trin gwallt sy'n darparu gwasanaethau i ychwanegu maint, tonnau a chyrls i wallt. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.
Y prif ddeilliannau yw:
- Pyrmio a niwtraleiddio'r gwallt
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cwmpas/ystod
Dosbarthiad cyrls y gwallt1. syth2. tonnog3. cyrliog4. cyrls tynn5. cyfuniad
Nodweddion y gwallt
1. dwysedd y gwallt2. gwëad y gwallt3. hydwythedd y gwallt4. mandylledd y gwallt5. patrymau tŵf y gwallt
Stad y gwallt
1. gwallt sydd heb ei drin yn gemegol2. gwallt sydd wedi ei drin yn rhannol â chemegion3. gwallt sydd wedi ei drin yn gemegol
Profion
1. hydwythedd2. mandylledd3. anghydnawsedd4. prawf gyrl cyn pyrm5. prawf cyrl6. prawf croen
Cynnyrch
1. hufen rhwystro2. triniaeth cyn pyrmio3. ad-drefnydd cemegol4. toddiant pyrmio5. toddiant niwtraleiddio6. triniaeth ar ôl pyrmio
*
Protocol gwasanaeth pyrmio
1. amgylchedd waith2. iechyd a diogelwch3. atal a rheoli haint4. cynllun gwasanaeth5. cydsyniad gwybodus6. cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr7. canlyniadau profion8. rheoli data9. archwilio ac atebolrwydd10. cyfarwyddiadau a chyngor11. cynaliadwyedd12. rheoli gwastraff13. ymarfer wedi’i seilio ar dystiolaeth14. ymarfer adfyfyriol
Technegau rhannu a chordeddu
1. sylfaenol2. cyfeiriol3. bric
Cyfarwyddiadau
1. hawliau cyfreithiol a chyfrifoldebau yr unigolyn a’r ymarferydd2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth3. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig4. triniaethau yn y dyfodol
Anatomeg a ffisioleg
1. strwythur a swyddogaeth y gwallt a thŵf y gwallt2. strwythur a swyddogaeth y croen3. strwythur anatomegol sylfaenol y pen, gwddf a’r ysgwyddau4. gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig
Patrymau tŵf y gwallt*
1. llyfiad buwch2. troell3. coron ddwbl4. pigyn gweddw5. cynffon hwyaden
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwrtharwydd llwyr
Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio
Adwaith niweidio
**Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn
gwasanaeth e.e. llewygu
Gwrth weithred
Gwrth weithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth,
e.e. erythema
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth
orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael
Cymorth Cyntaf
**Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol
Dosbarthiad cyrls y gwallt
Gellir cyfeirio at ddosbarthiad cyrls y gwallt fel Math 1 – 4.
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer gorau a
chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
Gwrtharwydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.
Dolenni I NOS Eraill
SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKAHDBR1, SKAHD1, SKAHD2 SKAHDBR2, SKAHDBR3, SKAHDBR4, SKAHDBR5,SKAHDBR6, SKAHDBR7, SKAHDBR8, SKAHDBR9, SKAHDBR11, SKAHDBR12, SKAHDBR13, SKAHDBR14, SKAHDBR15,SKAHDB16, SKAHDB19, SKAHDB20, SKAHDB21, SKABR5