Creu dyluniadau celfyddyd i'r ewin a'u rhoi ar waith
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 *Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol* *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. **Mae'r safon yma ar gyfer rhywun proffesiynol ym meysydd Harddwch neu Ewinedd sy'n darparu gwasanaethau celf ewinedd. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys creu dyluniad celf i'r ewinedd, paratoi'r ewin, a gorffen y dyluniad celf i'r ewinedd a'i roi ar waith. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.
Y prif ddeilliannau* *yw:
- Creu dyluniadau celfyddyd i'r ewin a'u rhoi ar waith
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn
- cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau
- trafod a sefydlu amcanion, pryderon, disgwyliadau yr unigolyn a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno er mwyn hysbysu'r cynllun gwasanaeth celf i'r ewinedd, i gynnwys:
3.1 dewisiadau triniaeth amgen - edrych ar amrywiaeth o ddyluniadau celf i'r ewinedd gan ddefnyddio cymhorthion gweledol gyda'r unigolyn
- cadarnhau a chytuno gyda'r unigolyn, eu bod wedi deall y
gwasanaeth celf i'r ewinedd arfaethedig, i gynnwys:
5.1 gwrth-weithredoedd
5.2 adweithiau niweidiol **sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus wedi'i lofnodi yr unigolyn ar gyfer y gwasanaeth celfyddyd yr ewin
paratoi wyneb yr ewin ar gyfer dylunio celf yr ewinedd yn unol â'r protocol gwasanaeth celfyddyd yr ewin**
- dewis a pharatoi offer a chynnyrch celfyddyd yr ewin yn unol â'r protocol gwasanaeth celfyddyd yr ewin
- rhoi celfyddyd yr ewinedd ar waith gan ddefnyddio technegau'*r ewinedd* er mwyn cyflawni dyluniad celfyddyd yr ewinedd yn unol â'r protocol gwasanaeth celfyddyd yr ewin
- gorffen dylunio'r ewinedd, gan adael y glasgroen a wal yr ewin yn rhydd o gynnyrch
- sicrhau bod y canlyniad wrth fodd yr unigolyn ac yn cwrdd â'r cynllun dylunio a gytunwyd arno
- monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol gwasanaeth celfyddyd yr ewin
- gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol
- cwblhau'r gwasanaeth yn unol â phrotocol gwasanaeth yr ewin, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
- cwblhau cofnodion gwasanaeth yr unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data
- defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r gwasanaeth celfyddyd i'r ewinedd a gweithredu'n briodol
- rhoi *cyfarwyddiadau *a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y gwasanaeth
- cofnodi canlyniad y gwasanaeth celfyddyd i'r ewin a'r gwerthusiad ohono
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn cyflawni'r gwasanaeth celfyddyd i'r ewinedd a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeiladpwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am arfer orau ddiweddaraf
- yr *anatomeg a'r ffisioleg *sy'n berthnasol i'r safon yma
- y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r driniaeth ewin, i gynnwys:
5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol - pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd
- diben, y defnydd o a chyfyngiadau gwasanaethau celfyddyd i'r ewin, mewn perthynas â'r canlynol:
7.1 cyflwr yr ewin a'r croen
7.2 hyd a siap yr ewin
7.3 ffactorau perthnasol sy'n ymwneud â'r ffordd o fyw
7.4 disgwyliadau'r unigolyn - siapiau *naturiol yr ewin *a sut gallant effeithio ar wasaneth celfyddyd i'r ewin
- pwysigrwydd cadw at y protocol gwasanaeth celfyddyd i'r ewin
- y dulliau a ddefnyddir i baratoi'r ewinedd ar gyfer rhoi celfyddyd i'r ewin ar waith
- y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- mathau o, manteision a chyfyngiadau cynnyrch celfyddyd i'r ewinedd a'r offer a ddefnyddir mewn gwasanaethau celfyddyd i'r ewinedd, i gynnwys:
12.1 y risgiau sy'n gysylltiedig ag alergenau a chynhwysion a all achosi niwed
12.2 y rhesymau dros ddefnyddio cynnyrch sydd wedi cael eu cymeradwyo yn gosmetig yn unig - y triniaethau y gellir eu rhoi ar y cyd gyda gwasanaeth i'r ewinedd
sut i baratoi a defnyddio cynnyrch ac offer celfyddyd i'r ewinedd yn unol â'r protocol gwasanaethcelfyddyd i'r ewinedd
pam ei bod hi'n bwysig glanhau a sychu'r ewin naturiol cyn rhoi'r gorffeniad ar yr ewin
- yr adweithiau niweidiol sy'n gysylltiedig gyda'r gwasanaeth i'r ewin a sut i ymateb
- y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, , ystod ac ar ôl y gwasanaeth celfyddyd i'r ewin
- pam ei bod hi'n bwysig trafod ac adnabod amcanion, pryderon disgwyliadau yr unigolyn a'r canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun celfyddyd i'r ewin
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau i'r ewin i blant dan oed ac oedolion bregus
- y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth
gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau, cydsyniad gwybodus wedi'i lofnodi ar gyfer gwasanaeth celf i’r ewin
pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth
- y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a'u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, a'r rhai deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol
- y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion o wasanaeth celf i'r ewinedd yr unigolyn
- canlyniadau disgwyliedig y gwasanaethau celf i'r ewinedd
- diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol
pwysigrwydd cofnodi canlyniad y gwasanaeth celf uwch i’r ewinedd a'r gwerthusiad ohono
y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth
Cwmpas/ystod
Adweithiau niweidiol
- adwaith alergaidd
- afliwiad o'r cynnyrch
- afliwiad o blât yr ewin
- afliwiad o haen yr ewin
- plât yr ewin yn teneuo
- toriadau a chrafiadau
- goroleuad
- codi'r cynnyrch
Protocol gwasanaeth celfyddyd i'r ewin
- amgylchedd waith
- iechyd a diogelwch
- atal a rheoli haint
- cynllun gwasnaeth
cydsyniad qwybodus
rheoli data
- cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- archwilio ac atebolrwydd
- cyfarwyddiadau a chyngor
- cynaliadwyedd
- rheoli gwastraff
- ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
- ymarfer adfyfyriol
- trosluniau a decalau
- cotiau
- disgleirdeb a phigmentau
- addurniadau
- marmori
- streipio
- dotio
- llawrydd
- ffoiliau
- plât stampio
- stampio gyda sglein ewinedd
- defnydd o gynnyrch celf i'r ewinedd sy'n seiliedig ar ddŵr
* *
Cyfarwyddiadau
- hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd
- cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
- cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
- gwasanaethau yn y dyfodol
Anatomeg a ffisioleg
- strwythur a swyddogaethau'r croen
- strwythur a swyddogaethau'r ewin
- anatomeg a ffisioleg y dwylo a'r traed
- gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig
Hyd a siap yr ewin
- hir
- hyd canolig
- byr
- crwn
- hirgrwn
- sgwar
- scowfal
- almon
Siapiau naturiol i'r ewin
- ffan
- bachyn
- llwy
- hirgrwn
- sgwar
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwrtharwydd llwyr
Adwaith niweidiol
Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth, e.e. llewygu
Gwrth weithred
Gwrth weithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth
e.e. erythema
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.
Gwrtharwydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.
Dolenni I NOS Eraill
SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABN1, SKABN2, SKABN3, SKANT2, SKANT3, SKANT4, SKANT5, SKANT6, SKANT7, SKANT9