Cynllunio, dylunio a chreu celf i’r ewinedd ar lefel uwch

URN: SKANT 2
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Ewinedd
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKAHDBRBNST1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol *a *SKAHDBRBNS1 Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gwasanaethau Gwallt, Barbro, Harddwch, Ewinedd, Lles a Holistig. Mae'r safon yma ar gyfer rhywun proffesiynol ym maes Ewinedd sy'n creu celf i'r ewinedd gan ddefnyddio cynnyrch, offer, a chyfarpar ar gyfer gwella ewinedd a thechnegau uwch. Bydd gofyn i'r defnyddiwr ymchwilio a chynllunio eu dyluniad. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau. Cynghorir defnyddwyr y safon yma i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio gyda gofynion cymorth cyntaf yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.

Y prif ddeilliannau yw:

  1. Cynllunio, dylunio a chreu celf i'r ewinedd ar lefel uwch

Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn

  2. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau

  3. trafod a sefydlu amcanion, pryderon, disgwyliadau a chanlyniadau disgwyliedig yr unigolyn er mwyn hysbysu'r cynllun gwasanaeth celf uwch i'r ewinedd

4. dod o hyd i wybodaeth er mwyn ymchwilio i syniadau am themau ar gyfer y dyluniad

  1. edrych ar amrywiaeth o ddyluniadau celf i'r ewinedd, i gynnwys:

5.1 paratoi  portffolio celf i'r ewinedd er mwyn arddangos dewisiadau ar gyfer celf yr ewinedd i unigolion

  1. creu cynllun dylunio i'w gyflwyno i'r unigolyn

  2. cadarnhau a chytuno ar y dyluniad celf uwch i'r ewinedd gyda'r unigolyn, eu bod wedi deall y gwasanaeth celf uwch i'r ewinedd arfaethiedig, i gynnwys:

7.1 gwrth-weithredoedd

7.2 adweithiau niweidiol

  1. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y gwasanaeth celf uwch i'r ewinedd 

  2. paratoi wyneb yr ewin ar gyfer dylunio celf yr ewinedd yn unol â'r protocol gwasanaeth celf uwch i'r ewinedd

10 dewis a pharatoi offer a chynnyrch celf yr ewinedd yn unol â'r protocol gwasanaeth celf uwch i'r ewinedd

  1. defnyddio cynnyrch celf i'r ewinedd gan ddefnyddio technegau celf yr ewinedd yn unol â'r protocol gwasanaeth celf yr ewinedd uwch

  2. gorffen dylunio celf yr ewinedd, gan adael y croen o amgylch yn rhydd o'r cynnyrch

  3. sicrhau bod y canlyniad with fodd yr unigolyn ac yn cwrdd â'r cynllun dylunio a gytunwyd

  4. monitro iechyd, lles ac adwaith croen drwy gydol gwasanaeth celf uwch yr ewinedd

  5. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol

  6. cwblhau'r gwasanaeth yn unol â'r protocol gwasanaeth celf uwch yr ewinedd, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol

17. cwblhau cofnodion gwasanaeth yr unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data*                                                           **                     * 18. defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r gwasanaeth celf uwch i'r ewinedd a gweithredu'n briodol

  1. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y gwasanaeth

20. cofnodi canlyniad a gwerthusiad o'r gwasanaeth celf i'r ewinedd a’r gwerthusiad ohono


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn cyflawni'r gwasanaeth celf uwch i'r ewinedd a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu

  1. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:

2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad

  1. pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am yr arfer orau ddiweddaraf

  2. yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma

  3. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i'r driniaeth ewinedd, i gynnwys:

5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol

  1. pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd

  2. diben, y defnydd o a chyfyngiadau gwasanaethau celf i'r ewinedd, mewn perthynas â:

7.1 cyflwr yr ewin a'r croen

7.2 hyd a siap yr ewin

7.3 ffactorau perthnasol sy'n ymwneud â'r ffordd o fyw

7.4 disgwyliadau'r unigolyn

  1. pwysigrwydd cadw at y protocol gwasanaeth celf uwch i'r ewinedd

  2. y dulliau a ddefnyddir i baratoi'r ewinedd ar gyfer rhoi celf i'r ewinedd ar waith

  3. y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  4. mathau o, manteision a chyfyngiadau cynnyrch celf i'r ewinedd a'r offer a ddefnyddir mewn gwasanaethau celf i'r ewinedd

  5. y triniaethau y gellir eu rhoi ar y cyd gyda gwasanaeth celf i'r ewinedd

13. sut i baratoi, cynnal a chadw a defnyddio cynnyrch ac offer celf i'r ewinedd yn unol â'r protocol gwasanaeth celf i'r ewinedd

  1. yr adweithiau niweidiol sy'n gysylltiedig gyda'r gwasanaeth celf ewinedd a sut i ymateb

15. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod, ac ar ôl y gwasanaeth celf uwch i'r ewinedd, i gynnwys:

15.1 pwysigrwydd echdynnu ac awyriant digonol pan yn defnyddio cynnyrch gwella ewinedd

  1. pwysigrwydd defnyddio cynnyrch sydd wedi cael eu cymeradwyo yn gosmetig yn unig

  2. pwysigrwydd cadw at gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr er mwyn atal anghydnawsedd cynnyrch a risgiau i iechyd

  3. y mathau a'r risgiau cysylltiedig o gynnyrch i'r ewinedd sy'n gysylltiedig â natur wenwynig

  4. pam ei bod yn bwysig trafod ac adnabod amcanion yr unigolyn, ei ddisgwyliadau, y canlyniadau y mae'n eu dymuno a chytuno ar y cynllun celf uwch i'r ewinedd

  5. y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu gwasanaethau i'r ewinedd i blant dan oed ac oedolion bregus

  6. y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth

  7. gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi'i lofnodi ar gyfer gwasanaeth celf i'r ewinedd

23. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y gwasanaeth

  1. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a'u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, a'r rhai deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol

  2. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion o wasanaeth celf i'r ewinedd yr unigolyn

26. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol

  1. pwysigrwydd cofnodi canlyniad y gwasanaeth celf uwch i'r ewinedd a gwerthusiad ohono

  2. y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y gwasanaeth celf uwch i'r ewinedd


Cwmpas/ystod

Adweithiau niweidiol

  1. adwaith alergaidd
  2. afliwiad o'r cynnyrch
  3. afliwiad o blât yr ewin
  4. afliwiad o haen yr ewin
  5. plât yr ewin yn teneuo
  6. toriadau a chrafiadau
  7. goroleuad
  8. codi'r cynnyrch
****Protocol gwasanaeth celf uwch i'r ewin****
  1. amgylchedd waith
  2. iechyd a diogelwch
  3. atal a rheoli haint
  4. cynllun gwasnaeth
  5. cydsyniad wedi ei hysbysu
  6. rheoli data
  7. cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
  8. archwilio ac atebolrwydd
  9. cyfarwyddiadau a chyngor
  10. cynaliadwyedd
  11. rheoli gwastraff
  12. ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
  13. ymarfer adfyfyriol


*
*
*Hyd a siap yr ewin*
**

  1. hir
  2. hyd canolig
  3. byr
  4. crwn
  5. hirgrwn
  6. sgwar
  7. scowfal
  8. arch
  9. almon
  10. stileto

*Cynnyrch celf yr ewin*

  1. monomer hylifol a phowdr polymer
  2. cynnyrch ewin UV wedi ei drin
  3. chwistrell baent

*
*
*Technegau celf i'r ewin*

  1. ombr
  2. brithwaith
  3. 2d a 3d
  4. ychwanegu disgelirdeb i'r llinellau o bowdr lliw
  5. ychwanegu disgelirdeb i'r gel lliw uv golau wedi ei drin
  6. llawrydd
  7. argraffnodi
  8. ymgrynhoi
  9. plannu
  10. siapiau ewin eithafol
  11. haenu
  12. sgleiniog a di-sglein

  13. technegau paentio un trawiad

****Cyfarwyddiadau****
  1. hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd
  2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
  3. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
  4. gwasanaethau yn y dyfodol
****Anatomeg a ffisioleg****
  1. strwythur a swyddogaethau'r croen
  2. strwythur a swyddogaethau'r ewin
  3. anatomeg a ffisioleg y dwylo a'r traed
  4. gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau cysylltiedig

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwrtharwydd llwyr

Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni a gall fod angen ei gyfeirio.

Adwaith niweidiol

Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth, e.e. llewygu

Gwrth weithred

Gwrth weithred yw adwaith neu ganlyniad  'disgwyliedig' yn dilyn  gwasanaeth, e.e. erythema

Ymgrynhoi – blychu cynnyrch dylunio mewn Hylif a Phowdr neu gynnyrch Gel UV.

Plannu – yw dodi cynnyrch mewn haen o un ai hylif neu bowdr neu gel UV sydd heb ei orchuddio.

Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth

orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.

Cymorth Cyntaf

Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.

Protocol

Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

Gwrtharwydd cymharol

Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.

Gwenwyndra

Penderfynir gwenwyndra gan adwaith rhywun i wahanol ddognau o gemegolyn. Gall gwenwyndra neu adweithiau niweidiol ddigwydd o ganlyniad i anghynawsedd gyda chymysgedd anghywir o gemegolion.


Dolenni I NOS Eraill

​SKAHDBRBNST1, SKAHDBRBNS1, SKABN1, SKABN2, SKABN3, SKANT1, SKANT3, SKANT4, SKANT5, SKANT6, SKANT7, SKANT9


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKANS13

Galwedigaethau Perthnasol

Technegydd ewinedd

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

celfyddyd i’r ewin ar lefel uwch; technegau celfyddyd i’r ewin ar lefel uwch; dyluniadau celfyddyd i’r ewin, ymgrynhoi, chwistrellu, gel wedi ei drin ag UV, hylif Monomer a Phowdr Polymer