1. pwysigrwydd cydweithredu gyda phobl broffesiynol gymwys er mwyn cefnogi arferion gwaith effiethiol a diogel
2. eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau pan yn darparu triniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
3. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol
4. pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, y polisïau, y wybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am arfer orau ddiweddaraf
5. yr anatomeg a’r ffisioleg sy’n berthnasol i’r safon yma
6. y broses heneiddio gronolegol o’r croen a’r berthynas gyda ffactorau cynhenid ac anghynenid
7. y raddfa pH a’i berthnasedd i sensitifrwydd y croen
8. gweithred crynoadau asid ac alcalin ar y croen
9. sut a pham mae swyddogaeth rwystro’r croen yn cael ei llesteirio yn dilyn triniaeth plicio croen gradd ganolig i gynnwys:
9.1 y risg cynyddol o oleusensitifrwydd a ffyrdd o warchod y croen
10. y mathau o, fformiwleiddiadau, y defnydd o a chyfyngiadau cyfryngau plicio croen gradd ganolig gan gymryd y canlynol i ystyriaeth:
10.1 dosbarthiad y croen
10.2 cyflwr y croen
10.3 amcanion yr unigolyn
11. effeithiau, manteision a chyfyngiadau unigol a chyfunol cyfryngau plicio croen gradd ganolig yn ôl y canlynol:
11.1 effeithiau ffisiolegol
11.2 cryfder mewn canran
11.3 pH
11.4 pKa
11.5 gludiogrwydd
12. gwahaniaethiad a dosbarthiad plisg croen gradd ganolig a’u gallu i achosi niwed
13. y cyfryngau plicio cemegol sydd ond yn addas ar gyfer defnydd meddygol a pham
14. canfod, cadw, trin, defnyddio a chael gwared o gyfryngau plicio croen o ddyfnder canolig yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol i gynnwys:
14.1 enw’r cynnyrch
14.2 rhif y llwyth
14.3. cadw
14.4 dalennau data’r deunyddiau
14.4 dyddiad daw i ben
14.5 rheolaeth gwastraff
15. y rhesymau dros ddodi’r holl fformiwleiddiadau plicio croen gradd ganolig ar fyrder, ei amseriad a chael gwared ohonynt
16. yr adweithiau niweidiol sy’n gysylltiedig â’r driniaeth plicio croen gradd ganolig a sut i ymateb iddynt
17. y cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth plicio croen gradd ganolig
18. pam ei bod yn bwysig trafod ac adnabod amcanion, pryderon, disgwyliadau’r unigolyn a’r canlyniadau a ddymunir a chytuno ar y cynllun triniaeth cosmetig nad yw’n llawfeddygol
19. pwysigrwydd defnyddio cymhorthion gweledol i hysbysu’r unigolyn o’r effeithiau corfforol
20. y strwythurau taliadau a’r dewisiadau ar gyfer triniaeth
21. y triniaethau y gellir eu cyflawni ar y cyd â’r driniaeth plicio croen gradd ganolig neu ar ei hôl a’r risgiau cysylltiedig
22. y mathau o raglenni preimio’r croen a’u perthnasedd i lwyddiant y driniaeth plicio croen gradd ganolig
23. y mathau o feddyginiaethau argroenol sydd ond ar gael ar bresgripsiwn a ragnodir gan rywun proffesiynol ym maes iechyd a sut mae’n effeithio a/neu’n cefnogi rhaglen preimio’r croen a sut y gall wella iachad y croen
24. y gofynion deddfwriaethol a digollediad ar gyfer sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer y driniaeth plicio croen gradd ganolig
25. pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth plicio croen gradd ganolig *
26. y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
27. y rhesymau dros weithio’n systematig er mwyn mynd dros y cyfan o fan triniaeth yr unigolyn, yn unol â’r protocol triniaeth plicio croen gradd ganolig i gynnwys:
27.1 yr addasiadau o fformiwleiddiadau a’u dodi yn ôl y gwahanol barthau
28. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y driniaeth plicio croen gradd ganolig
29. y mathau o gynnyrch wedi triniaeth, ynghŷd â’u manteision a’u defnydd ar gyfer cynyddu prosesau iachau ac adnewyddu’r croen
30. manteision a’r defnydd o atalyddion tyrosinas er mwyn osgoi gorliwiad llidiol pan yn trin dosbarthiad Fitzpatrick classification, graddfa 4-6
31. y mathau o gyfryngau cemegol nad ydynt angen eu niwtraleiddio
32. y rhesymau dros adfer lefelau pH y croen yn dilyn dodi cyfryngau plicio croen gradd ganolig
33. y gofynion deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol ynglŷn â chymryd a chadw delweddau gweledol o fan triniaeth yr unigolyn
34. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnod o driniaeth plicio croen gradd ganolig yr unigolyn
35. canlyniadau disgwyliedig triniaeth plicio croen gradd ganolig
36. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae’n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol
37. sut i goladu, dadansoddi, crynhoi a chofnodi adborth gwerthusol mewn modd clir a chryno
38. pwysigrwydd cofnodi canlyniad y driniaeth plicio croen gradd ganolig a’r gwerthusiad ohoni
39. y *cyfarwyddiadau a’r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth plicio croen gradd ganolig