Darparu triniaeth dermaplaneg er mwyn digroeni ac annog adnewyddiad o’r croen
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKANSC1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol yn ystod gweithdrefnau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol. a SKANSC2: Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gweithdrefnau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol o fewn yr amgylchedd waith. Mae'r safon yma ar gyfer ymarferwyr esthetig sy'n darparu triniaeth dermaplaneg ddiogel ac effeithiol i ddigennu ac annog adnewyddiad o'r croen neu fel paratoad ar gyfer triniaethau pellach. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Rhaid i'r ymarferydd esthetig gael cymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gweithle neu ei gyffelyb a gallu cyflawni'r swyddogaethau o fewn SFHCHS36: Cefnogaeth bywyd sylfaenol a gallu cael gafael ar gyfarpar cefnogi bywyd fel sydd wedi ei nodi yn y cynllun rheoli cymhlethdodau. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr wyneb yn wyneb gyda’r unigolyn a chadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth dermaplaneg
2. trafod er mwyn sefydlu amcanion yr unigolyn, ynghŷd â’i bryderon, disgwyliadau a chanlyniadau disgwyliedig yr unigolyn er mwyn hysbysu’r cynllun triniaeth dermaplaneg i gynnwys:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cwmpas/ystod
Gwybodaeth Ychwanegol
*
Man triniaeth
1. rhych yr wyneb a'r safn
2. corff
Anatomeg a ffisioleg
- strwythur a swyddogaeth systemau'r corff a'u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd
2. strwythur a swyddogaeth y croen ac atodiadau'r croen
3. afiechydon, anhwylderau a chyflyrau'r croen
4. proses heneiddio'r croen yn cynnwys effeithiau geneteg, ffordd o fyw ac amgylchedd
5. swyddogaeth rhwystro ar gyfer croen sydd mewn perygl a phrosesau adnewyddu'r croen
6. y broses o ddigroeni, diblisgiad ac arwynebu'r croen
Adweithiau niweidiol
*1. haint
2. anafiadau
3. chwydd gwyn
4. creithio gordyfol ac atroffig
5.mwy o adwaith goleusensitifedd
Cymhorthion gweledol
*1. Delweddau esboniadol
2. Diagramau esboniadol
Protocol triniaeth dermaplaneg
1. amgylchedd waith
2. iechyd a diogelwch
3. cynllun rheoli risg
4. atal a rheoli haint
5. rheoli cymhlethdodau
6. cynllun triniaeth
7. cydsyniad gwybodus
8. rheoli data
9. archwiliad ac atebolrwydd
10. cyfarwyddiadau a chyngor
*
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Rhagofalon cyffredinol a rhagofalon safonol
Mae rhagofalon cyffredinol yn berthnasol os yw'r ymarferydd yn dod i gysylltiad â gwaed a/neu rywfaint o hylif corfforol. Cyfrifoldeb yr ymarferydd yw rhoi mesurau atal a rheoli haint ar waith er mwyn atal dod i gysylltiad â phathogenau neu Ddeunyddiau Eraill all fod yn Heintus (OPIM).
Rhagofalon safonol yw'r lefel sylfaenol o reoli haint ddylai gael ei ddefnyddio bob amser o fewn yr amgylchedd waith, megis glendid dwylo, cyfarpar amddiffyn personol, atal anafiadau gan nodwyddau neu declynnau miniog, asesiad risg, glendid anadlol ac ymddygiad safonol ynghylch pesychu, glanhau amgylcheddol a chael gwared o wastraff.
Delweddau gweledol
Delweddau gweledol yw tystiolaeth sydd wedi'i chynhyrchu drwy ffotograffau neu fideo
Amgylchedd waith
Dylai gofynion am yr amgylchedd waith gydymffurfio â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a bod yn unol â'r canllawiau sydd wedi cael eu gosod allan naill ai gan eich awdurdod lleol neu gorff llywodraethu.
Dylid gwneud asesiadau risg, a dylai dulliau rheoli gael eu rhoi ar waith a'u cofnodi, a'u diweddaru yn rheolaidd a/os oes newidiadau yn digwydd. Dylai'r amgylchedd waith fod yn lanwaith ac yn addas i'w diben er mwyn i driniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol gael eu cwblhau mewn modd diogel ac effeithiol gan ddefnyddio technegau aseptic. Mae angen i weithdrefnau i atal a rheoli haint gadw'r risg o heintio a throsglwyddo meicrobau mor isel â phosibl. Rhaid i gyfarpar amddiffyn personol fod yn addas i'w ddiben ac ar gael. Rhaid i gyfarpar a chynnyrch gael eu cynnal a'u cadw yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol.
Mae'n ddoeth creu cynllun ar gyfer rheoli cymhlethdodau a/neu argyfwng ar gyfer pob triniaeth gosmetig nad yw'n llawfeddygol os bydd adwaith neu ddigwyddiad niweidiol.
Dolenni I NOS Eraill
SKANSC1, SKANSC2, SKANSC3, SKANSC4, SKANSC5, SKANSC6, SKANSC7, SKANSC9