Dileu neu leihau nodweddion amherffaith o’r croen gan ddefnyddio electroserio uwch

URN: SKANSC7
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch,Triniaethau Cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKANSC1 Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol yn ystod gweithdrefnau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol. a SKANSC2: Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gweithdrefnau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol o fewn yr amgylchedd waith. Mae'r safon yma ar gyfer ymarferwyr esthetig sy'n gyfrifol am ddileu neu leihau amrywiaeth o frychau neu nodweddion amherffaith o'r croen gan ddefyddio technegau electroserio uwch. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Y mae'n arfer orau i'r ymarferydd esthetig gael cymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gweithle neu ei gyffelyb a gallu cyflawni'r swyddogaethau o fewn SFHCHS36: Cefnogaeth bywyd sylfaenol a gallu cael gafael ar gyfarpar cefnogi bywyd fel sydd wedi ei nodi yn y cynllun rheoli cymhlethdodau. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda’r unigolyn a chadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth electroserio uwch 

2. trafod, cyfeirio a gofyn i’r unigolyn geisio a chael diagnosis meddygol ysgrifenedig ar gyfer gwrtharwydd a amheuir os oes angen 
3. trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, ei bryderon, disgwyliadau a’r canlyniadau a ddymunir, er mwyn cael y wybodaeth ar gyfer y cynllun triniaeth electroserio uwch, i gynnwys:
3.1 dewisiadau triniaeth amgen
4. ailadrodd, cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, eu bod wedi deall y driniaeth electroserio uwch arfaethedig i gynnwys:
4.1 gwrth-weithredoedd 
4.2 adweithiau niweidiol
5. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y driniaeth electroserio uwch a rheoli poen, gan ganiatau amserlen ddigonol i’r unigolyn wneud dewis gwybodus 
6. taflu goleuni ar fan triniaeth yr unigolyn a’i chwyddo a’i baratoi 
7. dewis cynnyrch paratoi glendid effeithiol i gwrdd ag anghenion yr unigolyn yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, 
8. paratoi man triniaeth yr unigolyn yn unol â’r protocol triniaeth electroserio uwch 
9. dewis y fath o nodwydd a’i maint, ei dodi mewn modd aseptig a’I defnyddio yn unol â’r protocol triniaeth electroserio uwch a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr 
10. dewis cyfarpar, moddolrwydd, dwysedd a pharhad yn unol â’r protocol triniaeth electroserio uwch a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr 
11. dilyn y protocol triniaeth electroserio uwch er mwyn cael gwared o nodweddion amherffaith o’r croen gan ddefnyddio ceulad, serio neu  ddysychiad i gynnwys:
11.1 cefnogi’r croen â llaw
11.2 addasu technegau ar gyfer man triniaeth yr unigolyn 
12. monitro iechyd, lles ac adwaith y croen drwy gydol y driniaeth electroserio uwch 
13. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol 
14. cwblhau’r driniaeth yn unol â’r protocol triniaeth electroserio uwch, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol 
 15. cymryd a chadw delweddau gweledol cydsyniol o fan triniaeth yr unigolyn yn unol â gofynion yswiriant, polisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol 
16. cwblhau cofnodion triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol yr unigolyn a’u cadw’n unol â deddfwriaeth data 
17. defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso’r driniaeth electroserio uwch a gweithredu’n briodol 
18. rhoi a chael cadarnhad o dderbyn y cyfarwyddiadau geiriol ac ysgrifenedig a’r cyngor a roddir i’r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth 
19. cofnodi’r canlyniad y driniaeth electroserio uwch a’r gwerthusiad ohoni er mwyn cytuno ar a darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau’r dyfodol 
20. trafod a chytuno gyda’r unigolyn ar driniaethau ar gyfer y dyfodol 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​1. pwysigrwydd cydweithredu gyda phobl broffesiynol gymwys er mwyn cefnogi arferion gwaith effeithiol a diogel 

2. eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau pan yn darparu triniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu

3. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol
4. pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, y polisïau, y wybodaeth, gweithdrefnau a chyfarwyddyd am arfer orau ddiweddaraf 
5. yr anatomeg a’r ffisioleg sy’n berthnasol i’r safon yma
6. y broses heneiddio gronolegol o’r croen a’r berthynas gyda ffactorau cynhenid ac anghynenid
7. y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol 
8. diben, triniaethau electroserio uwch, ynghŷd â’u defnydd a’u cyfyngiadau mewn perthynas â’r canlynol:
8.1 hanes meddygol o’r gorffennol a chyfredol
8.2 ffactorau perthnasol sy’n ymwneud â’r ffordd o fyw
8.3 meddyginiaethau a chyflyrau meddygol wedi eu gwrtharwyddo
8.4 addasrwydd corfforol a seicolegol yr unigolyn ar gyfer y driniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol
8.5 disgwyliadau’r unigolyn
8.6 rheoli ymateb gorimiwnedd
9. y mathau o reolaeth poen a’r risgiau cysylltiedig
10. yr adweithiau niweidiol sy’n gysylltiedig â driniaeth electroserio uwch a sut i ymateb iddynt 
11. y cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth electroserio uwch 
12. pam ei bod yn bwysig trafod a sefydlu amcanion, pryderon, disgwyliadau’r unigolyn a’r canlyniadau y mae’n ei ddymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol 
13. pwysigrwydd defnyddio cymhorthion gweledol i hysbysu’r unigolyn o’r effeithiau corfforol 
14. y strwythurau taliadau a’r dewisiadau ar gyfer triniaeth
 15. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer y driniaeth electroserio uwch 
16. cadw a thrin cyfarpar electroserio uwch a nodwyddau diheintiedig a ddefnyddir unwaith ynghŷd â’u defnydd a chael gwared ohonynt gan ddilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol 
17. pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth electroserio uwch *
18. pwysigrwydd taflu goleuni ar chwyddo man triniaeth yr unigolyn, taflu goleuni arno a’i baratoi 
19. y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr 
20. yr amrywiaeth o dechnegau a ddefnyddir i ddileu neu leihau pob nodwedd amherffaith o’r croen 
21. y mathau o nodwyddau a chyfarpar sydd ar gael 
22. sut i baratoi’r cyfarpar yn unol â’r protocol triniaeth electroserio uwch 
23. sut i ddewis a dodi’r nodwydd mewn modd aseptig er mwyn dileu neu leihau nodweddion amherffaith y croen mewn modd diogel 
24. effeithiau gwahanol gerynt ar y croen 
25. sut i gefnogi’r croen â llaw er mwyn sicrhau canlyniadau effeithiol i’r driniaeth
26. y rhesymau dros weithio’n systematig gan adael bylchau’n gywir ar draws man yr unigolyn sydd i’w drin 
27. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y driniaeth
28. sut i gael gwared o weddillion croen o’r nodwydd yn ystod y driniaeth, pam fod angen a phryd i gael un newydd 
29. y gofynion deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol ynglŷn â chymryd a chadw delweddau gweledol o fan triniaeth yr unigolyn 
30. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnod o driniaeth electroserio uwch yr unigolyn 
31. canlyniadau disgwyliedig dileu neu leihau nodweddion amherffaith o’r croen gan ddefnyddio technegau electroserio uwch 
32. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae’n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol
33. sut i goladu, dadansoddi, crynhoi a chofnodi adborth gwerthusol mewn modd clir a chryno
34. pwysigrwydd cofnodi canlyniad y driniaeth electroserio uwch a’r gwerthusiad ohoni
35. y *cyfarwyddiadau a’r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth electroserio uwch


Cwmpas/ystod

Gwybodaeth ychwanegol

Disgwylir bod yr ymarferydd estheteg sy'n ymgeisio am y safon yma eisoes â'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ymddygiadau a nodir o fewn canllawiau triniaeth yr ymarferydd estheteg a'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol cosmetig nad yw'n llawfeddygol.

Disgwylir i'r ymarferydd fod eisoes yn gallu dangos gallu mewn penderfynu'r gwrtharwyddion cymharol (cyfyngol) **a llwyr (ataliol) ar gyfer y triniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol. Yn ogystal â hyn, dylai'r ymarferydd esthetig allu adnabod adweithiau neu ddigwyddiadau niweidiol a gweithredu ar fyrder i'w cywiro fel ag y cytunwyd o fewn y cynllun rheoli cymhlethdodau.

Disgwylir i'r safon yma gael ei defnyddio ar y cyd â SKANSC1: Rhoi arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol ar waith a'u cynnal yn ystod triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol a SKANSC2: Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol.

Dylai tystiolaeth ar gyfer eitemau a restrir o fewn yr amrediad/rhychwant gael ei ddangos yn unol â'r math penodol o driniaeth gosmetig nad yw'n llawfeddygol sy'n cael ei chyflawni.

Nodweddion amherffaith o’r croen
*
1. caleden o’r sebwm
2. defaid ar y plân
3. verruca vulgaris
4. mannau geni
5. dermatosis papulosa nigra
6. gordyfiant ar y sebwm
7. xanthelasma
8. uwchliwiad
9. syringoma
10. poikiloderma

Anatomeg a ffisioleg

1. strwythur a swyddogaeth systemau’r corff a’u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd
2. strwythur a swyddogaeth y croen
3. afiechydon, anhwylderau a chyflyrau’r croen
4. patholeg nodweddion amherffaith o’r croen 
5. gwybodaeth sylfaenol o dermoscopeg
6. swyddogaeth rhwystro ar gyfer croen sydd mewn perygl
7. strwythur a swyddogaeth drwyadl y gwaed a’r system gylchredol
8. ffisioleg ceulad y gwaed, serio a dysychiad y meinwe  
9. y broses heneiddio gronolegol o’r croen a’r berthynas gyda ffactorau cynhenid ac anghynenid

Cymhorthion gweledol

1. Delweddau esboniadol
2. Diagramau esboniadol

Protocolau triniaethau electroserio uwch

1. amgylchedd waith
2. iechyd a diogelwch
3. cynllun rheoli risg
4. atal a rheoli haint
5. rheoli cymhlethdodau
6. cynllun triniaeth
7. cydsyniad gwybodus
8. rheoli data
9. archwiliad ac atebolrwydd
10. cyfarwyddiadau a chyngor
11. rheoli gwastraff
12. ymarfer sy’n seiliedig a’r dystiolaeth ac sy’n adfyfyriol

Cyfarwyddiadau*

1. hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a’r ymarferydd esthetig 
2. rheoli cymhlethdodau
2. disgwyliadau wedi’r driniaeth ac amserlenni cysylltiedig
3. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
4. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
5. triniaethau yn y dyfodol
6. gweithdrefn cwynion neu brotocol pryderon



Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Man triniaeth

Gellir hefyd gyfeirio at y fan fynegol sydd i'w thrin fel safle'r driniaeth neu'r enw anatomegol.

Rhagofalon cyffredinol a rhagofalon safonol

Mae rhagofalon cyffredinol yn berthnasol os yw'r ymarferydd yn dod i gysylltiad â gwaed a/neu rywfaint o hylif corfforol. Cyfrifoldeb yr ymarferydd yw rhoi mesurau atal a rheoli haint ar waith er mwyn atal dod i gysylltiad â phathogenau a drosglwyddir drwy'r gwaed neu Ddeunyddiau Eraill all fod yn Heintus (OPIM).

 Rhagofalon safonol yw'r lefel sylfaenol o reoli haint ddylai gael ei ddefnyddio bob amser o fewn yr amgylchedd waith, megis glendid dwylo, cyfarpar amddiffyn personol, atal anafiadau gan nodwyddau neu declynnau miniog, asesiad risg, glendid anadlol ac ymddygiad safonol ynghylch pesychu, glanhau amgylcheddol a chael gwared o wastraff.

Delweddau gweledol

Delweddau gweledol yw tystiolaeth sydd wedi'i chynhyrchu drwy ffotograffau neu fideo.

Amgylchedd waith

Dylai gofynion am yr amgylchedd waith gydymffurfio â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a bod yn unol â'r canllawiau sydd wedi cael eu gosod allan naill ai gan eich awdurdod lleol neu gorff llywodraethu.

Dylid gwneud asesiadau risg, a dylai dulliau rheoli gael eu rhoi ar waith a'u cofnodi, a'u diweddaru yn rheolaidd a/os oes newidiadau yn digwydd. Dylai'r amgylchedd waith fod yn lanwaith ac yn addas i'w diben er mwyn i driniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol gael eu cwblhau mewn modd diogel ac effeithiol gan ddefnyddio technegau aseptig. Mae angen i weithdrefnau i atal a rheoli haint gadw'r risg o heintio a throsglwyddo meicrobau mor isel â phosibl. Rhaid i gyfarpar amddiffyn personol fod yn addas i'w ddiben ac ar gael. Rhaid i gyfarpar a chynnyrch gael eu cynnal a'u cadw yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol.

Mae'n ddoeth creu cynllun ar gyfer rheoli cymhlethdodau a/neu argyfwng ar gyfer pob triniaeth gosmetig nad yw'n llawfeddygol os bydd adwaith neu ddigwyddiad niweidiol.


Dolenni I NOS Eraill

​SKANSC1, SKANSC2, SKANSC3, SKANSC4, SKANSC5, SKANSC6, SKANSC8, SKANSC9


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKANSC7

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch, Estheteg Harddwch, Ymarferydd Estheteg

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

electroserio uwch, dileu neu leihau nodweddion amherffaith neu frychau o’r croen, caleden o’r sebwm, defaid ar y plân, verruca vulgaris, mannau geni, dermatosis papulosa nigra, gordyfiant ar y sebwm, xanthelasma, gorliwiad, syringoma, poikiloderma