Cyflawni adnewyddiad, adfywiad a/neu welliant o’r croen gan ddefnyddio triniaethau llenwad croenol
Trosolwg
Mae'r safon yma'n cydfodoli â, SKANSC1: Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol yn ystod gweithdrefnau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol a SKANSC2: Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau cosmetig dewisiol nad ydynt yn llawfeddygol o fewn yr amgylchedd waith. Mae'r safon yma ar gyfer ymarferwyr esthetig uwch sy'n cyflawni triniaethau. Mae'r safon yma ar gyfer ymarferwyr esthetig uwch sy'n cyflawni triniaethau si'n defnyddio llenwadau croenol er mwyn cuddio arwyddion o heneiddio, diwygio cymesureddau a strwythurau'r wyneb. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Rhaid i'r ymarferydd esthetig gael cymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gweithle neu ei gyffelyb a gallu cyflawni'r swyddogaethau o fewn SFHCHS36: Cefnogaeth bywyd sylfaenol a gallu cael gafael ar gyfarpar cefnogi bywyd fel sydd wedi ei nodi yn y cynllun argyfwng. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr wyneb yn wyneb gyda’r unigolyn a cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth llenwad croenol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. pwysigrwydd cydweithio gyda phobl broffesiynol gymwys er mwyn cefnogi arferion gwaith effeithiol a diogel
Cwmpas/ystod
Gwybodaeth Ychwanegol
Disgwylir bod yr ymarferydd estheteg sy'n ymgeisio am y safon yma eisoes â'r sgiliau, yr wybodaeth a'r ymddygiadau a nodir o fewn canllawiau triniaeth yr ymarferydd estheteg a'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol cosmetig nad yw'n llawfeddygol.
Disgwylir i'r ymarferydd fod eisoes yn gallu dangos gallu mewn penderfynu'r gwrtharwyddion cymharol (cyfyngol) **a llwyr (ataliol) ar gyfer y triniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol. Yn ogystal â hyn, dylai'r ymarferydd esthetig allu adnabod adweithiau neu ddigwyddiadau niweidiol a gweithredu ar fyrder i'w cywiro fel ag y cytunwyd o fewn y cynllun argyfwng.
Disgwylir i'r safon yma gael ei defnyddio ar y cyd â SKANSC1: Rhoi arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol ar waith a'u cynnal yn ystod triniaethau cosmetig dewisiol nad ydynt yn llawfeddygol a SKANSC2: Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau cosmetig dewisiol nad ydynt yn llawfeddygol.
Dylai tystiolaeth ar gyfer eitemau a restrir o fewn yr amrediad/rhychwant gael ei ddangos yn unol â'r math penodol o driniaeth gosmetig nad yw'n llawfeddygol sy'n cael ei chyflawni.
Amcanion yr unigolyn
*
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
SKANSC1, SKANSC2, SKANSC3, SKANSC5, SKANSC6, SKANSC7, SKANSC8, SKANSC9