Cyflawni triniaethau ymlacio cyhyr gan ddefnyddio tocsin botwliniwm math A

URN: SKANSC3
Sectorau Busnes (Suites): Therapi Harddwch,Triniaethau Cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​​Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKANSC1.2: Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol yn ystod triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol. a SKANSC2: Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol o fewn yr amgylchedd waith, yn dilyn ymgynghoriad a gwerthusiad wyneb yn wyneb gyda rhagnodwr annibynnol sy'n cael ei reoleiddio. Y mae'r safon yma ar gyfer ymarferwyr esthetig sy'n defnyddio tocsin botwliniwm math A er mwyn ymlacio cyhyrau i gelu arwyddion o heneiddio dros dro. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ac adfyfyrio wedi'r driniaeth er mwyn gwelliant parhaus. Mae'n rhaid i'r ymarferwr esthetig gael cymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gwaith neu ei gyffelyb a gallu cyflawni'r swyddogaethau o fewn: Cynnal bywyd sylfaenol a chael mynediad at gyfarpar cynnal bywyd fel y nodir yn y cynllun argyfwng. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. canfod a thrafod canlyniadau a dogfennau'r unigolyn ar gyfer y driniaeth tocsin botwliniwm math A gan y rhagnodwr annibynnol sy'n cael ei reoleiddio i gynnwys:

1.1 cynllun triniaeth yr unigolyn i gynnwys y mannau sydd i gael eu trin

1.2 cyngor, cefnogaeth a chyfarwyddyd

1.3 cynllun argyfwng

1.4 polisi rheoli moddion

1.5 strategaeth rheoli poen

  1. cytuno ar a chael y presgripsiwn ar gyfer y tocsin botwliniwm math A gan ragnodwr annibynnol sy'n cael ei reoleiddioi, yn unol â'r protocol tocsin botwliniwm math *A*, gofynion deddwriaethol rheoleiddiol, polisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol

  2. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn a chadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth tocsin botwliniwm math A

4. trafod amcanion yr unigolyn, ei bryderon, disgwyliadau a'r canlyniadau y mae'n ei ddymuno er mwyn hysbsu'r cynllun triniaeth tocsin botwliniwm math A i gynnwys:

4.1 dewisiadau triniaeth amgen

  1. penderfynu ar y cynllun triniaeth tocsin botwliniwm math A yn unol â'r gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol

  2. ailadrodd, cadarnhau a chytuno gyda'r unigolyn, ei fod wedi deall y driniaeth tocsin botwliniwm math A a rheoli poen arfaethedig, i gynnwys:

6.1 gwrth-weithredoedd
**6.2 adweithiau niweidiol

7. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y  tocsin botwlinwm math A, gan ganiatau amserlen ddigonol i'r unigolyn wneud dewis gwybodus

  1. adolygu'r cydsyniad gwybodus ysgrifenedig ar gyfer y driniaeth tocsin botwliniwm math A a rheoli poen

  2. casglu cydsyniad gwybodus yr unigolyn, a phresgripsiwn wedi ei gwblhau gan fferyllydd, i gynnwys:

9.1 cyfarwyddyd sy'n benodol i'r claf

9.2 toddiannau ail gyfuniad halwynog

9.3 dyfais â nodwydd 

9.4 cyfarwyddiadau ynglŷn â chadw

9.5 protocol ar gyfer cael gwared o wastraff

10. dewis cynnyrch paratoi glendid effeithiol er mwyn cwrdd ag anghenion yr unigolyn yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr 
11. paratoi man triniaeth yr unigolyn yn unol â’r protocol triniaeth tocsin botwliniwm math A a’r strategaethau cysylltiedig ar gyfer osgoi risg, i gynnwys:
11.1 gwneud marciau cyn triniaeth sy’n berthnasol 
12. chwistrellu toddiant tocsin botwliniwm math A drwy’r croen gyda nodwydd ddiheintiedig a gaiff ei defnyddio unwaith, yn unol â phrotocol triniaeth y tocsin botwliniwm math A, i gynnwys:
12.1 addasu technegau chwistrellu, dyfnder a lleoliad 
12.2 yn unol â’r marciau cyn y driniaeth os yn briodol 
13. monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y driniaeth tocsin botwliniwm math A, yn unol â gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol 
14. os oes yna adwaith neu ddigwyddiad niweidiol, fod yr ymarferydd esthetig yn cymryd camau i’w gywiro ar fyrder, fel sydd wedi ei amlinellu o fewn y cynllun argyfwng i gynnwys:
14.1 ceisio a gweithredu ymyrraeth feddygol ar unwaith gan yr unigolyn proffesiynol ym maes iechyd sydd wedi ei nodi a’i hyfforddi i ddelio gyda chymhlethdodau fel sydd wedi eu hamlinellu o fewn y cynllun argyfwng pan fod angen meddyginiaeth na ellir ei gael ond ar bresgripsiwn 
15. cwblhau’r driniaeth yn unol â phrotocol triniaeth y tocsin botwliniwm math A, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol, i gynnwys:
15.1 cael gwared o unrhyw farciau cyn triniaeth, os yn briodol 
16. cymryd a chadw delweddau gweledol cydsyniol o fan triniaeth yr unigolyn yn unol â gofynion yswiriant, polisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
17. cwblhau a chadw cofnodion triniaeth gosemtig yr unigolyn heb fod yn llawfeddygol yn unol â deddfwriaeth data 
18. defnyddio arfer adfyfryiol i werthuso’r driniaeth tocsin  botwliniwm math A a gweithredu’n briodol
19. rhoi a chael cadarnhad o dderbyn y cyfarwyddiadau geiriol ac ysgrifenedig a’r cyngor a roddir i’r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth i gynnwys:
19.1 manylion cyswllt y rhagnodwyr annibynnol sy’n cael eu rheoleiddio 
19.2 cynllun argyfwng
19.3 cynllun wrth gefn os bydd rhywun yn absennol
20. trafod, gwerthuso a chofnodi’r canlyniadau gyda’r rhagnodwr annibynnol sy’n cael ei reoleiddio a chytuno ar weithredu pellach a thriniaethau a wneir yn y dyfodol 
21. trafod y canlyniadau a chytuno ar driniaethau yn y dyfodol gyda’r unigolyn


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


1. pwysigrwydd cydweithio gyda phobl broffesiynol gymwys er mwyn cefnogi arferion gwaith effeithiol a diogel
2. swyddogaethau a chyfrifoldebau’r rhagnodwr annibynnol sy’n cael ei reoleiddio 
3. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio ag arferiol moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol 
4. pwysigrwydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth wedi eu diweddaru, gweithdrefnau a chanllawiau arfer 
5. yr anatomeg a’r ffisioleg sy’n berthnasol i’r safon yma
6. y mathau o, cyfansoddiad ac effeithiau ffarmacolegol y cyfansoddion cemegol mewn toddiadau tocsin botwliniwm, i gynnwys:
6.1 sut gall crefydd a chredo rwystro triniaeth tocsin botwliniwm math A
7. yr effaith ffisiolegol gaiff toddiant tocsin botwliniwm math A ar strwythurau cyhyr yr wyneb sydd o amgylch ac a gaiff eu targedu I gynnwys:
7.1 mabwysiadu technegau chwistrellu
7.2 addasu dyfnder a lleoiad
8. diben, defnydd a chyfyngiadau’r triniaethau tocsin botwliniwm math A , mewn perthynas â’r canlynol:
8. hanes meddygol o’r gorffennol a chyfredol 
8.2 hanes trinaethau cosmetig blaenorol nad oeddynt yn llawfeddygol a neu driniaethau deintyddol 
8.3 ffactorau perthnasol sy’n ymwneud â’r ffordd o fyw
8.4 meddyginiaethau a chyflyrau meddygol wedi eu gwrtharwyddo 
8.5 addasrwydd corfforol a seicolegol yr unigolyn ar gyfer y driniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol 
8.6 disgwyliadau’r unigolyn
9. yr adweithiau niweidiol sy’n gysylltiedig â’r driniaeth tocsin botwliniwm math A
10. sut i gymryd y camau cywir os bydd yna adwaith neu ddigwyddiad niweidiol i gynnwys:
10.1 pam a pha bryd mae angen ymyrraeth feddygol 
11. strategaethau ar gyfer osgoi risg
12. y gofynion rheoleiddiol a deddfwriaethol ar gyfer meddyginiaethau na ellir ond eu cael ar bresgripsiwn i gynnwys:
12.1 y defnydd ellir ei wneud o’r cynnrych gyda a heb drwydded 
13. y defnydd trwyddedig dynodedig o feddyginiaethau na ellir ond eu cael ar brescripsiwn a phryd y gellir eu defnyddio heb drwydded, gan ystyried:
13.1 diogelwch
13.2 man triniaeth
13.3 addasrwydd
13.4 cytundeb gyda’r rhagnodwr annibynnol sy’n cael ei reoleiddio
14. y mathau o ddulliau rheoli poen a risgiau cysylltiedig 
15. y gofynion deddfwriaethol a chyfyngiadau ar gyfer canfod, cadw a defnyddio anesthetigion argroenol wedi eu trwyddedu 
16. y cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth tocsin botwliniwm math A 
17. pwysigrwydd cael a thrafod y canlyniadau ymgynghori gyda’r rhagnodwr annibynnol sy’n cael ei reoleiddio 
18. pwysigrwydd derbyn a dilyn cyfarwyddiadau gan y rhagnodwr annibynnol sy’n cael ei reoleiddio yn unol â’r polisi rheoli meddyginiaethau, cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol, i gynnwys:
18.1 mynediad
18.2 defnydd
18.3 cadw
18.4 pa mor hir fyddant yn cadw a phryd fyddant yn dod i ben
18.5 polisi cael gwared o wastraff
18.6 archwilio ac atebolrwydd
19. sut mae canlyniadau ymgynghori’r rhagnodwr sy’n cael ei reoleiddio yn hysbysu’r cynllun triniaeth tocsin botwliniwm math A 
20. pam ei bod yn bwysig trafod ac adnabod amcanion, pryderon, disgwyliadau’r unigolyn a’r canlyniadau y mae’n ei ddymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth botwliniwm math A 
21. pwysigrwydd defnyddio cymhorthion gweledol i hysbysu’r unigolyn o’r effeithiau corfforol
22. y strwythurau taliadau a dewisiadau ar gyfer triniaeth
23. pam ei bod yn bwysig rhoi amser i’r unigolyn i ystyried cyn cadarnhau a chytuno i dderbyn triniaeth gosmetig ddewisol nad yw’n llawfeddygol 
24. pwysigrwydd cael cydsyniad gwybodus ysgrifenedig ar gyfer triniaeth tocsin botwliniwm math A a rheoli poen 
25. y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad wedi’i lofnodi a gwybodus ar gyfer triniaeth gosmetig ddewisol nad yw’n llawfeddygol 
26. y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr 
27. pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth tocsin botwliniwm math A 
28. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y driniaeth 
29. pwysigrwydd cadw at y cynllun argyfwng os bydd yna adwaith niweidiol 
30. y gofynion deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol ar gyfer cymryd a chadw delweddau gweledol o fan triniaeth yr unigolyn 
31. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion meddygol yr unigolyn a’i driniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol 
32. canlyniadau disgwyliedig y driniaeth tocsin botwliniwm math A 
33. pwysigrwydd trafod, adfyfyrio, gwerthuso a chofnodi’r canlyniadau gyda’r rhagnodwr annibynnol sy’n cael ei reoleiddio er mwyn cael gwybodaeth ar gyfer camau pellach a thriniaethau yn y dyfodol 
34. sut i goladu, dadansoddi, crynhoi a chofnodi adborth gwerthuso mewn modd clir a chryno 
35. pwysigrwydd cofnodi canlyniad y driniaeth tocsin botwliniwm math A a’r gwerthusiad ohoni
36. cyfarwyddiadau a’r cyngor cyn ac ar ôl y driniaeth tocsin botwliniwm math A


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth ychwanegol
Disgwylir bod yr ymarferydd estheteg sy’n ymgeisio am y safon yma eisoes â’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ymddygiadau a nodir o fewn canllawiau triniaeth yr ymarferydd estheteg a’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol cosmetig nad yw’n llawfeddygol.

Disgwylir i’r rhagnodwr annibynnol sy’n cael ei reoleiddio fod wedi cyflawni’r cymwysterau perthnasol sy’n cwrdd â’r gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol. Rhaid i’r cymwysterau llawn gael eu harddangos yn cynnwys y rhif pin a’r cyrff rheoleiddiol.

Disgwylir i’r ymarferydd fod eisoes yn gallu dangos gallu mewn penderfynu’r gwrtharwyddion cymharol (cyfyngol) a llwyr (ataliol) ar gyfer y triniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol. Yn ogystal â hyn, dylai’r ymarferydd esthetig allu adnabod adweithiau neu ddigwyddiadau niweidiol a gweithredu ar fyrder i’w cywiro fel ag y cytunwyd o fewn cynllun argyfwng y rhagnodwr annibynnol sy’n cael ei reoleiddio.
Disgwylir i’r safon yma gael ei defnyddio ar y cyd â SKANSC1: Rhoi arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol ar waith a’u cynnal yn ystod triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol a SKANSC2: Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol.
Dylai tystiolaeth ar gyfer eitemau a restrir o fewn yr amrediad/rhychwant gael ei ddangos yn unol â’r math penodol o driniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol sy’n cael ei chyflawni.

Protocol triniaeth tocsin Botwliniwm math A
1. amgylchedd waith
2. iechyd a diogelwch
3. cynllun rheoli risg
4. rhwystro a rheoli haint
5. canlyniadau ymgynghori gan y rhagnodwr annibynnol sy’n cael ei reoleiddio
6. cynllun argyfwng
7. rheoli meddyginiaeth
8. cynllun triniaeth
9. cydsyniad gwybodus
10. pobl broffesiynol briodol
11. rheoli data
12. archwilio ac atebolrwydd
13. cyfarwyddiadau a chyngor
14. rheoli gwastraff
15. ymarfer adfyfyriol ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth


Amcanion yr unigolyn
1. ymlacio’r cyhyrau
2. cosmetig


Gwrth weithredoedd
1. hyperemia
2. mân anafiadau
3. cleisio
4. chwydd gwyn


Anatomeg a ffisioleg
1. strwythur a swyddogaeth holl systemau’r corff a’u cyd-ddibynniaeth ar ei gilydd
2. patholegau’r croen a systemig
3. patholegau digwyddiad niweidiol difrifol
4. gwybodaeth sylfaenol am ffarmacoleg a gwyddorau
5. yr effeithiau caiff meddyginiaethau ar y croen a’r cyhyrau 
6. astudiaeth o broses heneiddio’r croen a’r meinwe oddi tano/effeithiau adamsugnad yr asgwrn a dealltwriaeth o anatomeg cymhleth yr wyneb a cyflenwad gwythiennol a rhedwelïol o’r gwaed

 
Adweithiau niweidiol
1. ptosis
2. haint
3. cyfog
4. adwaith alergaidd
5. anaffylacsis
6. botwliaeth
7. aflonyddiadau i’r golwg
8. anafiadau i’r llygad
9. anafiadau wedi eu hachosi gan nodwyddau
10. anallu i lyncu/ parlys o’r gwddf
11. necrosis
12. cur pen
13. hematoma
14. emboledd yr ysgyfaint
15. anaf gwythiennol, rhedwelïol a nerfol
16. newidiadau yn y llais
17. trafferth anadlol


Strategaethau i osgoi risg
1. cynllun argyfwng
2. asesiad(au) risg
3. cynllun(iau) triniaeth
4. mannau triniaeth cyfyngedig
5.  cyfarwyddiadau a chyngor cyn ac ar ôl
6. osgoi defnyddio heb drwydded
7. brechiadau
8. cymhwyster cymorth cyntaf yn y gwaith a chefnogaeth bywyd sylfaenol neu ei gyffelyb 
9. arferion gwaith iechyd a diogelwch cyffredinol
10. atal a rheoli haint
11. amgylchedd waith
12. ymgynghoriad gyda rhywun proffesiynol ym maes gofal iechyd, rhagnodwr annibynnol wedi ei reoleiddio
13. protocol presgripsiwn deddfwriaethol
14. rheoli meddyginiaeth
15. cydsyniad gwybodus
16. cydweithredu gyda phobl personel broffesiynol berthnasol 
17. rheoli data 
18. archwilio ac atebolrwydd
19. protocol presgripsiwn
20. dealltwriaeth o’r ffarmacoleg
21. gwybodaeth weithio o anatomeg yr wyneb a’r gwddf
22. rheoli gwastraff
23. asesiad o les corfforol ac emosiynol yr unigolyn 

Cymhorthion gweledol
1. Delweddau esboniadol
2. Diagramau esboniadol
3. marciau cyn triniaeth


Cyfarwyddiadau
1. hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol y rhagnodwr annibynnol wedi ei reoleiddio unigol a’r ymarferydd esthetig 
2. manylion cyswllt y rhagnodwr annibynnol sydd wedi ei reoleiddio 
3. cynllun wrth gefn y rhagnodwr annibynnol sydd wedi ei reoleiddio os bydd absenoldeb
4. cynllun argyfwng
5. disgwyliadau ar ôl triniaeth ac amserlenni cysylltiedig 
6. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl triniaeth
7. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
8. cynnyrch wedi gofal a thriniaethau yn y dyfodol 
9. gweithdrefn cwynion neu brotocol pryderon


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Adweithiau niweidiol *
Caiff adweithiau niweidiol hefyd eu hadnabod fel digwyddiadau niweidiol neu risgiau cysylltiedig. Adwaith niweidiol yw adwaith gorfforol neu ffisiolegol annisgwyl i driniaeth sy’n cael ei chyflawni.

Gwrth-weithred 
Gwrth weithred yw adwaith dros dro ddisgwyliedig o driniaeth.

Wedi’i Wrtharwyddo  
Sefyllfa benodol lle na ddylid defnyddio cyffur, triniaeth neu lawdriniaeth oherwydd y gall fod yn niweidiol i’r person.

Cynllun Argyfwng 
Cyfrifoldeb y rhagnodwr annibynnol wedi ei reoleiddio yw’r cynllun argyfwng. Y mae’r cynllun argyfwng yn cynnwys yr ymateb priodol ar y safle, y broses gyfeirio gofal iechyd a gallu cael gafael ar becyn argyfwng sy’n addas ar gyfer delio gydag adweithiau neu ddigwyddiadau niweidiol. Mae gan y rhagnodwr annibynnol sy’n cael ei reoleiddio ddyletswydd o ofal tuag at ei gleifion ac i ddilyn y canllawiau rheoleiddiol a osodir allan gan eu Corff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiedig.

Cyfarwyddyd sy’n benodol i’r claf 
Presgripsiwn sy’n benodol i’r unigolyn a’r driniaeth sydd i gael ei gwneud.

Marciau cyn triniaeth 
Dylid gwneud marciau cyn triniaeth drwy ddefnyddio pen ysgrifennu lawfeddygol ddiheintiedig a ddefnyddir unwaith. Defnyddir marciau cyn triniaeth er mwyn creu canllawiau ar gyfer nodi mannau i roi pigiadau fel ag sydd wedi ei osod allan yn y cynllun triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol.

Rhagnodwr Annibynnol sy’n cael ei reoleiddio*
Caiff rhagnodwyr annibynnol sy’n cael eu rheoleiddio, eu rheoleiddio gan y Cyrff Rheoleiddiol Proffesiynol Statudol. Bydd gan ragnodwyr annibynnol sy’n cael eu rheoleiddio y cymwysterau perthnasol i dderbyn eu cofrestriad a’u rhif pin. Cyfrifoldeb y rhagnodwyr annibynnol sy’n cael eu rheoleiddio a sydd yn cydweithredu gyda phobl eraill i wneud y triniaethau tocsin botwliniwm math A yw sicrhau bod yr ymarferydd esthetig wedi cael yr hyfforddiant a’r profiad digonol i roddi meddyginiaethau na ellir ond eu rhoi ar bresgripsiwn.

Rhagofalon cyffredinol a rhagofalon safonol

Mae rhagofalon cyffredinol yn berthnasol os yw'r ymarferydd yn dod i gysylltiad â gwaed a/neu rywfaint o hylif corfforol. Cyfrifoldeb yr ymarferydd yw rhoi mesurau atal a rheoli haint ar waith er mwyn atal dod i gysylltiad â phathogenau neu Ddeunyddiau Eraill all fod yn Heintus (OPIM).

Rhagofalon safonol yw'r lefel sylfaenol o reoli haint ddylai gael ei ddefnyddio bob amser o fewn yr amgylchedd waith, megis glendid dwylo, cyfarpar amddiffyn personol, atal anafiadau gan nodwyddau neu declynnau miniog, asesiad risg, glendid anadlol ac ymddygiad safonol ynghylch pesychu, glanhau amgylcheddol a chael gwared o wastraff.

Delweddau* gweledol*

Delweddau gweledol yw tystiolaeth sydd wedi'i chynhyrchu drwy ffotograffau neu fideo.

Amgylchedd waith

Dylai gofynion am yr amgylchedd waith gydymffurfio â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a bod yn unol â'r canllawiau sydd wedi cael eu gosod allan naill ai gan eich awdurdod lleol neu gorff llywodraethu.

Dylid gwneud asesiadau risg, a dylai dulliau rheoli gael eu rhoi ar waith a'u cofnodi, a'u diweddaru yn rheolaidd a/os oes newidiadau yn digwydd. Dylai'r amgylchedd waith fod yn lanwaith ac yn addas i'w diben er mwyn i driniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol gael eu cwblhau mewn modd diogel ac effeithiol gan ddefnyddio technegau aseptic.

Mae angen i weithdrefnau i atal a rheoli haint gadw'r risg o heintio a throsglwyddo meicrobau mor isel â phosibl. Rhaid i gyfarpar amddiffyn personol fod yn addas i'w ddiben ac ar gael. Rhaid i gyfarpar a chynnyrch gael eu cynnal a'u cadw yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol.

Mae'n ddoeth creu cynllun ar gyfer rheoli cymhlethdodau a/neu argyfwng ar gyfer pob triniaeth gosmetig nad yw'n llawfeddygol os bydd adwaith neu ddigwyddiad niweidiol.



Dolenni I NOS Eraill

​SKANSC1, SKANSC2, SKANSC4, SKANSC5, SKANSC6, SKANSC7,SKANSC8 and SKANSC9


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKANSC3

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch, Estheteg Harddwch, Ymarferydd Estheteg

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

tocsin botulinwm math A, deunyddiau chwistrelladwy, technegau chwistrellu, rheoli poen, rhagnodwr annibynnol sy’n cael ei reoleiddio, triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol, polisi rheoli moddion, cynllun argyfwng, meddyginiaethau na ellir