Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol
Trosolwg
Mae'r safon yma ar gyfer ymarferwyr esthetig sy'n gwneud yr ymgynghoriad, yr asesiad, y cynllunio a'r paratoi ar gyfer triniaethau dewisiol cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol. Mae'r safon yn rhan o'r set safonau galwedigaethol cenedlaethol cosmetig nad yw'n llawfeddygol, sy'n cynnwys safonau sy'n ymwneud â thocsin botwliniwm math A i drin gor-chwysu, y defnydd o ddyfeisiadau plasma, triniaethau cryotherapi i'r wyneb a thriniaethau dwysedd uchel egni uwchsain wedi ei ffocysu er mwyn adnewyddu croen. Bydd yn rhaid i chi ddilyn y protocol triniaeth cosmetig nad yw'n llawfeddygol, gofynion deddfwriaethol, rheoleiddiol a chyfundrefnol er mwyn nodi, asesu a rhoi ar waith arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol. Rhaid i'r ymarferydd esthetig gael cymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gweithle neu ei gyffelyb a gallu cyflawni'r swyddogaethau o fewn SFHCHS36: Cefnogaeth bywyd sylfaenol a gallu cael gafael ar gyfarpar cefnogi bywyd fel sydd wedi ei nodi yn y cynllun rheoli cymhlethdodau a/neu argyfwng
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cynnal ymgynghoriad cosmetig nad yw'n llawfeddygol sy'n gryno a
chynhwysfawr gan gymryd i ystyriaeth:
1.1 yr hanes meddygol mae'r unigolyn wedi ei ddatgan a'i statws meddygol cyfredol
1.2 hanes triniaethau yr unigolyn
1.3 dosbarthiad, cyflwr a sensitifrwydd croen yr unigolyn a gallu'r man triniaeth i wella
1.4 pryderon, disgwyliadau a chanlyniadau disgwyliedig yr unigolyn
1.5 addasrwydd corfforol a seicolegol yr unigolyn ar gyfer triniaeth gosmetig nad yw'n llawfeddygol
1.6 y gwrtharwyddion a'r cyfyngiadau cymharol a llwyr sydd wedi eu datgan
2. cydnabod, ymateb a chyfeirio'n briodol mewn ymateb i gyflyrau wedi eu datgelu yn unol â deddfwriaeth data
- trafod amcanion, pryderon, disgwyliadau a chanlyniadau disgwyliedig yr unigolyn er mwyn hysbysu'r cynllun triniaeth gosmetig nad yw'n llawfeddygol i gynnwys:
3.1 dewisiadau amgen ar gyfer triniaeth
4. trafod y strwythurau tâl ac egluro sut gall hyn effeithio ar ddewis yr unigolyn o driniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol
trafod a chytuno ar raglen preimio'r croen neu'r argymhellion sydd eu hangen cyn y driniaeth gosmetig nad yw'n llawfeddygol
cyfathrebu gyda'r unigolyn er mwyn penderfynu ar ei allu i roi cydsyniad wedi ei hysbysu
asesu, trafod, cytuno a chofnodi'r ymgynghoriad cosmetig nad yw'n llawfeddygol a chanlyniadau disgwyliedig a'r risgiau cysylltiedig gyda'r unigolyn
8. hysbysu a darparu gwybodaeth i'r unigolyn am ei hawliau
cymryd a chadw cyfryngau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn yn unol â gofynion yswiriant, polisïau cyfundrefnol a gweithdrefnau
trafod gyda'r unigolyn y teimlad corfforol all ddigwydd yn ystod y driniaeth gosmetig nad yw'n llawfeddygol gan ddilyn y protocol triniaeth
trafod y dewisiadau ar gyfer rheoli poen
datblygu'r cynllun triniaeth gosmetig nad yw'n llawfeddygol
13. darparu a chael cadarnhad bod y cyfarwyddiadau llafar ac ysgrifenedig a'r cyngor a roddwyd i'r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth wedi eu derbyn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. pwysigrwydd cydweithredu gyda phobl broffesiynol gymwys er mwyn cefnogi arferion gwaith effeithiol a diogel
pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio ag arferion moesegol a gweithio o fewn y gofynion deddfwriaethol
pwysigrwydd ymwneud â, a chofnodi eich datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, gwybodaeth gyfredol ac wedi ei diweddaru, polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau arfer orau
yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon
y gwrtharwyddion neu'r amodau cyflwyno i gynnwys:
5.1. y rhesymau dros beidio ag enwi gwrtharwyddion os ydynt y tu allan i'ch maes cymwys neu'ch cylch gwaith
5.2 sut a phryd i gyfeirio at bobl broffesiynol eraill ym maes gofal iechyd a thu allan i faes gofal iechyd
y rhesymau pam y gall cyflyrau meddygol fynd yn groes i'r driniaeth gosmetig nad yw'n llawfeddygol
y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol
pwysigrwydd cyfathrebu gyda'r unigolyn mewn modd proffesiynol
y ffactorau i'w hystyried pan yn creu cynllun triniaeth gosmetig nad yw'n llawfeddygol sydd wedi ei theilwrio
pam ei bod yn rhaid i chi ddatblygu a chytuno ar gynllun triniaeth gosmetig nad yw'n llawfeddygol i gynnwys:
10.1 statws meddygol cyfredol wedi ei ddatgan
10.2 hanes triniaethol
10.3 gwrtharwyddion cymharol a llwyr
10.4 dosbarthiad y croen, a'i gyflwr a'i sensitifrwydd
10.5 gallu'r croen i iachau
10.6 disgwyliadau'r unigolyn
10.7 addasrwydd corfforol a seicolegol yr unigolyn ar gyfer triniaeth gosmetig nad yw'n llawfeddygol
y berthynas rhwng anghenion cymdeithasol, corfforol, seicolegol a ffisiolegol ac amcanion y driniaeth
effaith dylanwadau cymdeithasol, y cyfryngau a thueddiadau
sut gall eich datblygiad proffesiynol parhaus chi eich hun gefnogi'r unigolyn i wneud dewis wedi ei hysbysu
13.1 dewisiadau amgen ar gyfer triniaeth
- perthnasedd sefydlu'r gweithgareddau cyn triniaeth sy'n berthnasol i amcanion y driniaeth
15. pwysigrwydd asesu, trafod, cytuno ar, adolygu a chofnodi canlyniadau'r ymgynghoriad cosmetig nad yw'n llawfeddygol
pwysigrwydd egluro proses y driniaeth, y canlyniadau disgwyliedig a'r risgiau cysylltiedig
manteision defnyddio cymhorthion gweledol yn ystod ymgynghoriad
18. sut i reoli disgwyliadau'r unigolyn
y gofynion deddfwriaethol a digollediad ar gyfer cael cydsyniad wedi ei lofnodi a'i hysbysu ar gyfer y drinaieth gosmetig nad yw'n llawfeddygol
y gofynion deddfwriaethol ar gyfer sicrhau, cofnodi, cadw gwarchod a dal data'r unigolyn
pam bod triniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol wedi eu gwahardd neu eu cyfyngu ar gyfer pobl dan oed
yr oed pan mae rhywun yn cael ei ystyried dan oed a sut mae hyn yn amrywio yn genedlaethol
y gofynion deddfwriaethol sy'n pennu hawliau'r unigolyn a'r ymarferydd
pwysigrwydd egluro'r teimlad corfforol sy'n cael ei greu i'r unigolyn gan y driniaeth i gynnwys:
24.1 sut mae'r trothwy poen a sensitifrwydd yn amrywio o unigolyn i unigolyn
y mathau o ddulliau reoli poen a'r risgiau cysylltiedig
y gofynion deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol ar gyfer cymryd a chadw cyfryngau gweledol o fan triniaeth yr unigolyn
y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion triniaeth gosmetig yr unigolyn nad yw'n llawfeddygol
28. y rhesymau dros ddarparu a chael cadarnhad eich bod wedi derbyn gan yr unigolyn y cyfarwyddiadau llafar ac ysgrifenedig a chyngor cyn ac ar ôl y driniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol
Cwmpas/ystod
Cyflyrau wedi eu datgelu**
- gwrtharwyddion
- anhwylderau dysmorffig y corff
- cyflwr corfforol, a seicolegol
- diogelu
*
*Hawliau
- amser i adfyfyrio/cyfnod i wneud dewis wedi ei hysbysu
cydsyniad gwybodus
cytundeb ariannol/ ar gontract
- cefnogaeth ac adolygiad wedi triniaeth
- yr hawl i ofyn am gymwysterau, hyfforddiant ac yswiriant digollegiad yr ymarferydd
Cyfryngau gweledol
- ffotograffaidd
- fideo
Anatomeg a Ffisioleg
- strwythur a swyddogaeth systemau'r corff a'u cyd-ddibynniaeth ar ei gilydd
- ffactorau cynhenid ac anghynhenid y croen
- protocol osgoi risg cysylltiedig neu ardaloedd **perygl
Dosbarthiad croen
- Graddfa Fitzpatrick
- Difrod-ffoto Glogau
Cyfarwyddiadau
- hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd esthetig
- cefnogaeth a chyngor sydd ar gael ar unwaith ac yn barhaus
- rheoli cymhlethdodau a/neu gynllun argyfwng
- disgwyliadau wedi triniaeth ac amserlenni cysylltiedig
- cyfarwyddiadau a gofal cyn ac wedi triniaeth
- cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
- triniaethau yn y dyfodol
- gweithdrefn cwynion neu brotocol pryderon
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Delweddau gweledol *
*
Dolenni I NOS Eraill
SKANSC1.2, SKANSC10, SKANSC11, SKANSC12, SKANSC13