Cyflawni meicrosclerotherapi er mwyn cael gwared o/lleihau telangiecstasia ar y coesau
Trosolwg
Mae’r safon yma’n cyd-fodoli â, SKANSC1: Rhoi arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol ar waith a’u cynnal yn ystod triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol, SKANSC2: Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol, SKANSC15 Rheoli cymhlethdodau gyda thriniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol. Mae’r safon yma ar gyfer ymarferwyr esthetig sy’n cyflawni triniaethau gan ddefnyddio meicrosclerotherapi er mwyn cael gwared o/lleihau telangiecstasia o’r coesau. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ôl-driniaethol ac adfyfyrio ar gyfer gwelliant parhaus. Rhaid i’r ymarferydd esthetig gael cymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gweithle neu ei gyffelyb a gallu cyflawni’r swyddogaethau o fewn SFHCHS36: Cefnogaeth bywyd sylfaenol a gallu cael gafael ar gyfarpar cefnogi bywyd fel sydd wedi ei nodi yn y cynllun argyfwng. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon yma sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu’r diweddaraf o ran gwybodaeth, polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau am arfer orau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cwblhau ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr wyneb yn wyneb â’r unigolyn
2. cadw at eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth meicrosclerotherapi
3. trafod i sefydlu amcanion, pryderon a disgwyliadau yr unigolyn a’r canlyniadau mae’n ei ddymuno er mwyn hysbysu’r cynllun triniaeth meicrosclerotherapi i gynnwys:
· 3.1 dewisiadau ar gyfer triniaeth amgen
· 3.2 difrifoldeb y cyflwr
4. datblygu cynllun argyfwng gyda’r person proffesiynol perthnasol ym maes iechyd sydd wedi’i hyfforddi i ddelio gydag effeithiau anffafriol meicrosclerotherapi
5. sefydlu’r cynllun trinaeth meicrosclerotherapi yn unol â gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau i gynnwys:
· 5.1 rt a chanllawiau
· 5.2 cynllun argyfwng
· 5.3 strategaeth rheoli poen
6. ailadrodd, cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, eu bod wedi deall y driniaeth meicrosclerotherapi arfaethedig a rheoli poen i gynnwys:
· 6.1 gwrth weithredoedd
· 6.2 adweithiau anffafriol
· 6.3 canlyniadau disgwyliedig
· 6.4 amlder y driniaeth
7. sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi gan yr unigolyn ar gyfer y driniaeth
meicrosclerotherapi a rheoli poen, gan ganiatau amserlen ddigonol i’r unigolyn wneud dewis gwybodus
8. dethol cynnyrch glanwaith effeithiol i gwrdd ag anghenion yr unigolyn yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
9. paratoi man triniaeth yr unigolyn yn unol â’r protocol triniaeth meicrosclerotherapi a’r strategaethau osgoi risg cysylltiedig i gynnwys:
· 9.1 nodi marciau cyn-driniaethol os yn briodol
10. cael gafael ar y cyfrwng/toddiad caledol, er mwyn cwrdd ag anghenion yr unigolion a’r man sydd i’w drin, gan gynnwys risgiau cysylltiedig
11.chwistrellu’r cyfrwng/toddiad caledol gyda nodwydd ddiheintiedig yn unol â’r protocol triniaeth i gynnwys:
· 11.1 addasu technegau chwistrellu, eu dyfnder a sut mae’n eu dodi
· 11.2 yn unol â’r marciau cyn-driniaethol os yn berthnasol
12. monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y driniaeth meicrosclerotherapi yn unol â gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
13. os bydd adwaith neu ddigwyddiad anffafriol, cymryd camau cywirol ar fyrder fel sydd wedi'i nodi yn y cynllun argyfwng i gynnwys:
· 13.1 ceisio a rhoi ar waith ymyrraeth feddygol ar unwaith gan rywun proffesiynol ym maes iechyd sydd wedi ei nodi a’i hyfforddi i ddelio gyda chymhlethdoddau fel sydd wedi eu nodi yn y cynllun argyfwng
14. cwblhau’r driniaeth yn unol â’r protocol triniaeth meicrosclerotherapi, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
15. cymryd a chadw delweddau gweledol cydsyniol o fan triniaeth yr unigolyn yn unol â gofynion yswiriant, polisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
16. cwblhau cofnodion y claf ar gyfer y driniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol a’u cadw’n unol â deddfwriaeth gwybodaeth
17. defnyddio arfer adfyfyriol i werthuso’r driniaeth meicrosclerotherapi a chymryd camau priodol
18. darparu cyfarwyddiadau a chyngor i’r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth a chael cadarnhad o’u derbyn i gynnwys:
· 18.1 manylion cyswllt yr ymarferwyr esthetig
· 18.2 cynllun argyfwng
· 18.3 cynllun wrth gefn os bydd argyfwng
19. cofnodi canlyniad a gwerthusiad o’r driniaeth meicroscelrotherapi a chytuno ar driniaethau yn y dyfodol a’u hysbysu’r triniaethau hynny
20. trafod a chytuno ar driniaethau yn y dyfodol gyda’r unigolyn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd cydweithrediad rhwng pobl broffesiyniol fedrus er mwyn cefnogi arferion gwaith effeithiol a diogel
- eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau o ran cyflawni triniaethau cosmetig and ydynt yn llawfeddygol a phwysigrwydd gweithio o fewn terfynau eich medrusrwydd
- pam bod rhaid i chi gydymffurfio ag arfer foesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol i gynnwys:
· 3.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu’r awdordod lleol are ich cyfer eich hunan a’ch safle - pwysigrwydd ymwneud â datblygiad proffesiynol parhaus a’i gofnodi i gynnwys, polisïau gwybodaeth wedi’u diweddaru a chanllawiau am arfer orau
- yr anatomeg a’r ffisioleg sy’n berthnasol i’r safon yma
- y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy’n berthnasol i’r driniaeth, i gynnwys:
· 6.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer sicrhau diagnosis a chyfeirio meddygol - pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd ar y croen ac anafiadau, a chyfeirio’r rheiny at berson proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd
- y mathau, cyfansoddiad ac effeithiau ffarmacolegol y cyfansoddion cemegol toddiadau meicrosclerotherapi i gynnwys:
· 8.1. effaith ffisiolegol y cyfrwng/toddiad caledol ar anatomeg y corff, meinwe’r croen a chyflenwad y gwaed
· 8.2 rhyngweithio posibl cyffuriau gyda chyflyrau gwaelodol - sut i addasu technegau chwistrellu er mwyn dodi cyfrwng/toddiad caledol yn ddiogel islaw meinwe’r croen i mewn i strwythurau gwaelodol
10. yr adweithiau anffafriol sy’n gysylltiedig â’r driniaeth meicrosclerothrapi i gynnwys:
· 10.1 gwybod am fannau peryglus a sut i’w hosgoi
· 10.2 risg, cymhlethdodau, a sgil effeithiau - sut i weithredu yn y modd cywir os bydd adwaith neu ddigwyddiad anffafriol i gynnwys:
· 11.1 pam a phryd mae angen ymyrraeth feddygol ar unwaith
12. y strategaethau osgoi risg
13. pwysigrwydd derbyn a dilyn cyfarwyddiadau gan berson proffesiynol ym maes gofal iechyd wedi’i nodi os bydd adwaith anffafriol
14. diben, defnydd a chyfyngiadau triniaethau meicrosclerotherapi mewn perthynas â:
· 14.1 hanes meddygol y gorffennol a chyfredol
· 14.2 triniaethau blaenorol llawfeddygol a rhai nad ydynt yn llawfeddygol
· 14.3 ffactorau perthnasol sy’n ymwneud â ffordd o fyw
· 14.4 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol wedi’u gwrtharwyddo
· 14.5 pha mor addas yw’r unigolyn yn gorfforol ac yn seicolegol ar gyfer triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol a chydymffurfiad ag ôl-ofal
· 14.6 disgwyliadau’r unigolyn
· 14.7 rheoli ymateb gorimiwnaidd
· 14.8 rheoli goradweithiau - y gofynion rheoleiddiol a deddfwriaethol ar gyfer dyfeisiadau meddygol
- y gofynion rheoleiddiol a deddfwriaethol ar gyfer cael gafael ar, cofnodi a rhoi cyfrwng/toddiad caledol i gynnwys:
· 16.1 enw’r cynnyrch
· 16.2 rhif swp
· 16.3 dyddiad dod i ben
· 16.4 taflenni data’r deunyddiau
· 16.5 cadw
· 16.6 gwaredu
· 16.7 archwiliad ac atebolrwydd - y mathau o reolaeth poen a’r risgiau cysylltiedig
- y gofynion deddfwriaethol a’r cyfyngiadau o ran cael gafael ar anesthetigion lleol trwyddedig, eu cadw a’u defnyddio
- y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth meicrosclerotherapi
- y gofynion cyfreithiol ar gtyfer darparu triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol i rai dan oed ac oedolion bregus
- pam ei bod yn bwysig trafod a sefydlu amcanion, pryderon, disgwyliadau’r unigolyn a’r canlyniadau y mae’n ei ddymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol
- pwysigrwydd defnyddio cymhorthion gweledol i hysbysu’r unigolyn o’r effeithiau corfforol
- y strwythurau taliadau a’r dewisiadau ar gyfer triniaeth
- y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer y driniaeth meicrosclerotherapi a strategaeth rheoli poen
- pam ei bod yn bwysig caniatau amser i’r unigolyn adfyfyrio cyn cadarnhau a chytuno i dderbyn y driniaeth ddewisiol gosmetig nad yw’n llawfeddygol
- y mathau o gynnyrch glanwaith ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth meicrosclerotherapi i
- pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y driniaeth
- pwysigrwydd cadw at y cynllun argyfwng os bydd adwaith anffafriol
- y gofynion deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol ynglŷn â chymryd a chadw delweddau gweledol o fan triniaeth yr unigolyn
- y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnod o driniaeth gosmetig yr unigolyn nad yw’n llawfeddygol
- canlyniadau disgwyliedig triniaeth meicrosclerotherapi
- diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae’n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol
- sut i gyfosod, dadansoddi, crynhoi a chofnodi adborth gwerthusol mewn modd clir a chryno
- y cyfarwyddiadau cyn ac ar ôl y driniaeth meicrosclerotherapi
Cwmpas/ystod
Gwrth-weithredoedd
1. hyperemia
2. anafiadau
3. cleisio
4. chwydd gwyn
5. cochni
6. Mannau coch wedi codi
7. Cosi / Pruritus
8. Teimlad o groen poeth
Technegau chwistrellu
1. perifasgiwlaidd
2. rhyngfasciwlaidd
3. meicro-bapwlaidd
Strategaethau osgoi risg
1. cynllun argyfwng
2. asesiad(au) risg
3. hanes meddygol caffaeledig
4. cynllun(iau) triniaeth
5. mannau triniaeth cyfyngedig
6. cyfarwyddiadau a chyngor cyn ac ar ôl triniaeth
7. osgoi defnyddio heb drwydded
8. brechiadau
9. atal a rheoli haint
10. amgylchedd waith
11. cymhwyster cymorth cyntaf yn y gwaith a chefnogaeth bywyd sylfaenol neu ei gyffelyb
12. arferion gwaith iechyd a diogelwch cyffredinol
13. cydweithrediad gyda phobl broffesiynol ym maes gofal iechyd/pobl broffesiynol briodol
14. protocol rhagnodi deddfwriaethol
15. rheolaeth meddyginiaethau
16. cydsyniad gwybodus
17. rheolaeth data
18. archwiliad ac atebolrwydd
19. dealltwriaeth o’r ffarmacoleg
20. gwybodaeth waith o anatomeg y goes
21. rheolaeth gwastraff
22. asesiad o addasrwydd corfforol ac emosiynol yr unigolyn
Anatomeg a ffisioleg
1. strwythur a swyddogaeth systemau’r corff a’u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd
2. patholegau’r croen a systemig
3. patholegau digwyddiad anffafriol difrifol
4. gwybodaeth sylfaenol o ffarmacoleg
5. effeithiau meddyginiaethau ar y croen
6. effeithiau adamsugniad yr esgyrn a dealltwriaeth o anatomeg cymhleth y corff a chyflenwad gwythienol a rhydwelïol y gwaed
Adweithiau anffafriol
1. haint
2. afreoleidd-drau lliwiad
3. cyfog
4. adwaith alergaidd
5. creithio
6. diffrwythdra neu gosi dros dro
7. byrder anadl neu boenau yn y fron
8. y ddanadfrech
9. chwyddo
10. swigod angheuol os yw nwyon yn mynd i mewn i lestr gwaed neu wythïen
11. briw/bothell yn cael ei ffurfio
12. llinoriad gangrenosum
13. poen
14. ceulo gwaed
15. thrombofflebitis arwynebol
16. thrombosis gwythïen ddofn
17. necrosis croenol
18. anaf i’r nerf
19. creithio/Pitting
20. difrod i’r meinwe
21. atblygiad fasofagol neu lewygu
22. meigryn
23. ffolicwlitis
24. trawiad epileptig
25. ddim yn ymateb
26. ymddangosiad cosmetig yn gwaethygu
Cynorthwyion Gweledol
1. Delweddau esboniadol
2. Diagramau esboniadol
3. marciau cyn triniaeth
Protocol triniaeth meicrosclerotherapi
1. amgylchedd waith
2. iechyd a diogelwch
3. cynllun rheolaeth risg
4. atal a rheoli haint
5. person proffesiynol ym maes gofal iechyd wedi ei nodi
6. cynllun argyfwng
7. cynllun triniaeth
8. cydsyniad gwybodus
9. rheolaeth data
10. archwiliad ac atebolrwydd
11. cyfarwyddiadau a chyngor
12. rheolaeth gwastraff
13. ymarfer adfyfyriol ac wedi’i seilio ar dystiolaeth
Cyfarwyddiadau
1. hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn, person proffesiynol ym maes iechyd a’r ymarferydd esthetig
2. cynllun argyfwng
3. disgwyliadau ôl-driniaethol ac amserlenni cysylltiedig
4. cyfarwyddiadau cyn ac ar ôl y driniaeth
5. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
6. triniaethau yn y dyfodol
7. gweithdrefn cwynion neu brotocol pryderon
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Adweithiau anffafriol
Gelwir adweithiau anffafriol hefyd yn ddigwyddiadau anffafriol neu risgiau cysylltiedig.
Adwaith niweidiol hefyd yw adwaith gorfforol neu ffisiolegol annisgwyl i driniaeth sy’n cael ei chyflawni.
Gwrth weithred
Gwrth weithred yw adwaith dros dro ddisgwyliedig o driniaeth.
Cynllun argyfwng
Cyfrifoldeb yr ymarferydd esthetig yw’r cynllun argyfwng sy’n cynnwys y defnydd o gyfarpar argyfwng a gallu cael gafael ar hwnnw. Bydd person proffesiynol ym maes gofal iechyd sydd wedi’i nodi yn gweithredu fel y rhagnodwr annibynnol wedi’i reoleiddio os oes angen meddyginiaeth y gellir ond ei roddi ar brescripsiwn os bydd adwaith anffafriol. Mae gan y rhagnodwr annibynnol sy’n cael ei reoleiddio ddyletswydd o ofal tuag at ei gleifion ac i ddilyn y canllawiau rheoleiddiol a osodir allan gan eu Corff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiedig.
Marciau cyn y driniaeth
Man triniaeth. Dylid gwneud marciau cyn triniaeth drwy ddefnyddio pen ysgrifennu lawfeddygol ddiheintiedig a ddefnyddir unwaith. Defnyddir marciau cyn triniaeth er mwyn creu canllawiau ar gyfer nodi mannau i roi pigiadau fel ag sydd wedi ei osod allan yn y cynllun triniaeth cosmetig nad yw’n llawfeddygol. Gellir hefyd cyfeirio at y fan nodedig sydd i’w drin fel safle’r driniaeth neu’r enw anatomegol.
.
Rhagofalon cyffredinol a rhagofalon safonol
Mae rhagofalon cyffredinol yn berthnasol os yw’r ymarferydd yn dod i gysylltiad â gwaed a/neu rywfaint o hylif corfforol. Cyfrifoldeb yr ymarferydd yw rhoi mesurau atal a rheoli haint ar waith er mwyn atal dod i gysylltiad â phathogenau neu Ddeunyddiau Eraill all fod yn Heintus (OPIM).
Rhagofalon safonol yw’r lefel sylfaenol o reoli haint ddylai gael ei ddefnyddio bob amser o fewn yr amgylchedd waith, megis glendid dwylo, cyfarpar amddiffyn personol, atal anafiadau gan nodwyddau neu declynnau miniog, asesiad risg, glendid anadlol ac ymddygiad safonol ynghylch pesychu, glanhau amgylcheddol a chael gwared o wastraff.
Delweddau gweledol
Delweddau gweledol yw tystiolaeth sydd wedi’i chynhyrchu drwy ffotograffau neu fideo.
Dolenni I NOS Eraill
SKANSC1, SKANSC2, SKANSC3, SKANSC4, SKANSC5, SKANSC6, SKANSC7, SKANSC8, SKANSC9, SKANSC10, SKANSC11, SKANSC12, SKANSC13, SKANSC15, SKANSC16, SKANSC18, SKANSC19, SKANSC20, SKANSC21, SKANSC22, SKANSC23