Darparu triniaethau demabreiddio i’r wyneb a/neu’r corff
Trosolwg
Mae’r safon yma’n cydfodoli â, SKANSC1: Rhoi arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol ar waith a’u cynnal yn ystod triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol, SKANSC2: Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol, a SKANSC15 Rheoli cymhlethdodau gyda thriniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol. Mae’r safon yma ar gyfer ymarferydd esthetig sy’n darparu triniaethau dermabreiddio gan ddefnyddio’r technolegau canlynol, ocsigen, toddydd halwynol, dŵr, tipiau deiamwnt a chrisialau i wella a chynnal cyflwr y croen. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ôl-driniaethol ac adfyfyrio ar gyfer gwelliant parhaus. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon yma sicrhau bod eu hymarfer yn adlewyrchu’r diweddaraf o ran gwybodaeth, polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau am arfer orau. Caiff defnyddwyr y safon yma eu cynghori i fod yn ymwybodol o, a chydymffurfio â, gofynion cymorth cyntaf, yn unol â deddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cwblhau ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr wyneb yn wyneb â’r unigolyn
2. cadw at eich cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth dermabreiddio
3. trafod i sefydlu amcanion, pryderon a disgwyliadau yr unigolyn a’r canlyniadau mae’n eu ddymuno er mwyn hysbysu’r cynllun triniaeth i gynnwys:
· 3.1 hanes triniaethol
· 3.2 trefn gofalu am y croen
· 3.3 ffordd o fyw
· 3.4 dewisiadau ar gyfer triniaeth amgen
4. trafod a chytuno ar raglen preimio’r croen neu argymhellion sydd eu hangen, cyn y driniaeth dermabreiddio
5. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, eu bod wedi deall y driniaeth dermabreiddio arfaethedig, i gynnwys:
· 5.1 canlyniadau disgwyliedig
· 5.2 gwrth-weithredoedd
· 5.3 adweithiau anffafriol
· 5.4 y gofynion cyn ac ar ôl y driniaeth
· 5.5 ymdeimlad corfforol ac o ran sŵn y protocol triniaeth dermabreiddio
6. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y driniaeth dermabreiddio yn unol â gofynion cyfundrefnol ac yswiriant
7. gwneud prawf/profion cyn y driniaeth er mwyn penderfynu sensitifrwydd y croen
8. paratoi a glanhau man triniaeth yr unigolyn yn unol â’r protocol triniaeth dermabreiddio
9. taflu goleuni ar fan triniaeth yr unigolyn a’i chwyddo yn unol â’r protocol triniaeth dermabreiddio
10. gwneud dadansoddiad o’r croen a’r corff, i gynnwys:
- 10.1 dosbarthiad y croen
- 10.2 cyflwr y croen
- 10.3 y math o groen
10.4 nodweddion y math o gorff
- dethol offer a chyfarpar yn unol â’r protocol triniaeth dermabreiddio, i gynnwys:
11.1profi’r offer a’r cyfarpar yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol
- dethol offer a chyfarpar yn unol â’r protocol triniaeth dermabreiddio, i gynnwys:
cyflawni’r driniaeth dermabreiddio yn unol â’r protocol triniaeth dermabreiddio i gynnwys:
12.1 ailgyfleu ymdeimlad y driniaeth a’r sŵn gaiff ei greu gan y cyfarpar i’r unigolyn
12.2 defnyddio ac addasu’r cyfarpar, offer a hyd y driniaeth yn unol â’r protocol triniaeth dermabreiddio
- monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y driniaeth
dermabreiddio yn unol â gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol - cymryd y camau cywir os bydd adwaith anffafriol
- cwblhau’r driniaeth yn unol â’r protocol triniaeth dermabreiddio, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
16. cwblhau a chadw cofnodion triniaeth yn unol â deddfwriaeth gwybodaeth
17. defnyddio arfer adfyfyriol i werthuso’r driniaeth dermabreiddio a gweithredu’n briodol
18. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i’r unigolyn, cyn ac ar ôl y driniaeth
19. cofnodi canlyniad y driniaeth dermabreiddio a’r gwerthusiad ohoni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau pan fyddwch yn darparu triniaethau dermabreiddio a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
- pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio ag arfer foesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol i gynnwys:
2.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu’r awdurdod lleol ar eich cyfer chi eich hun a’ch adeilad - pwysigrwydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, y polisïau, y wybodaeth, gweithdrefnau a chanllawiau am arfer orau ddiweddaraf
- yr anatomeg a’r ffisioleg sy’n berthnasol i’r safon yma
- y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy’n berthnasol i’r driniaeth, i gynnwys:
· 5.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer sicrhau diagnosis a chyfeirio meddygol - pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd ac anafiadau o’r croen, a chyfeirio at berson proffesiynol ym maes gofal iechyd
- y mathau o dechnolegau dermabreiddio a ddefnyddir mewn triniaethau i’r wyneb a’r corff a’r effeithiau ffisiolegol ar y croen i gynnwys:
7.1 y risgiau a sut i ymateb - diben, defnydd a chyfyngiadau triniaethau dermabreiddio mewn perthynas â:
8.1 hanes meddygol y gorffennol a chyfredol
8.2 hanes triniaethau
8.3 cyflwr y croen
8.4 ffactorau perthnasol sy’n ymwneud â ffordd o fyw
8.5 meddyginiaeth a chyflyrau meddygol o
8.6 disgwyliadau’r unigolyn - sut gall rhaglen preimio’r croen ac argymhellion cyn triniaeth fod o fudd i ganlyniadau’r driniaeth dermabreiddio
- yr adweithiau anffafriol a gysylltir â thriniaethau dermabreiddio a sut i ymateb iddynt
- y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth dermabreiddio
- y gofynion cyfreithiol ar gyfer darparu triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol i rai dan oed ac oedolion bregus
- pam ei bod yn bwysig trafod a sefydlu amcanion, pryderon, disgwyliadau’r unigolyn a’r canlyniadau y mae’n ei ddymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth dermabreiddio
- y strwythurau taliadau a’r dewisiadau ar gyfer triniaeth
- y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer y driniaeth dermabreiddio a strategaeth rheoli poen
- pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth dermabreiddio
- sut i wneud profion cyn triniaeth a’u dehongli
- pwysigrwydd chwyddo, goleuo a pharatoi man triniaeth yr unigolyn pan fyddwch yn gwneud dadansoddiad o’r croen
- pwysigrwydd gwneud dadansoddiad o’r croen er mwyn penderfynu ar y cynllun triniaeth a’r cyfarpar dermabreiddio sydd i’w ddefnyddio
- y mathau o gynnyrch glanwaith ar gyfer eich croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
- y cynnyrch a ddefnyddir ar y cyd â thriniaethau dermabreiddio a’r risgiau cysylltiedig
- sut i baratoi a defnyddio cynnyrch a chyfarpar yn unol â’r protocol triniaeth dermabreiddio
- y mathau o driniaethau gellir eu rhoi ar y cyd â, neu ar ôl, triniaethau dermabreiddio
- pam ei bod yn bwysig egluro proses y driniaeth, sŵn y cyfarpar a’r ymdeimlad i’r unigolyn
- pwysigrwydd dodi cynnyrch ar ôl y driniaeth, i gynnwys:
· 25.1 pryd a pham bod cynnyrch ffactor gwarchod rhag yr haul, ar ôl y driniaeth, yn cael ei ddefnyddio - pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn ac ar ôl y driniaethy rhesymau dros gymryd delweddau gweledol cydsyniol o fan triniaeth yr unigolyn a’u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth a rhai deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol,
- y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnod o driniaeth dermabreiddio yr unigolyn
- canlyniadau disgwyliedig triniaethau dermabreiddio
- diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae’n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol
- pwysigrwydd cofnodi canlyniad y driniaeth dermabreiddio a’r gwerthusiad ohoni
- y cyfarwyddiadau a’r cyngor cyn ac ar ôl y driniaeth dermabreiddio
Cwmpas/ystod
Gwrth-weithredoedd
1. cochni
2. sychder dros dro
3. gorsensitifrwydd dros dro
Adweithiau anffafriol
1. gormodedd o waed
2. cleisio
3. llid
4. alergedd
5. gorliwiad/tanliwiad
6. chwydd gwyn
7. anaf i’r llygad
Protocol triniaeth dermabreiddio
1. amgylchedd waith
2. iechyd a diogelwch
3. atal a rheoli haint
4. cynllun gwasanaeth
5. cydsyniad gwybodus
6. rheolaeth data
7. canlyniadau profion
8. cyfarwyddiadau gwneuthurwyr
9. archwiliad ac atebolrwydd
10. cyfarwyddiadau a chyngor
11. cynaliadwyedd
12. rheolaeth gwastraff
13. ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
14. ymarfer adfyfyriol
Dosbarthiad y croen
1. Graddfa Fitzpatrick
2. Ffenotip a genoteip
3. Graddfa Lancer
4. Graddfa Glogau
5. Graddfa Rubins
6. Graddfa ffyrder croen Monk
Cyflwr y croen
1. hydwythedd llac
2. gorliwio a thanliwio
3. gorddwys
4. llinorog
5. bregus
6. asgwlaidd
7. sensiteiddiedig
8. sensitif
9. wedi sychu
10. ffoto-sensitif
11. wedi’i niweidio gan olau
12. wedi dylu
Math o groen
1. sych
2. olewog
3. cyfuniad
4. cytbwys
Dosbarthiad y math o gorff
1. endomorff
2. mesomorff
3. ectomorff
Nodweddion y math o gorff
1. ffyrder y cyhyrau
2. tyndra’r cyhyrau
3. dwysedd y gwallt
4. cylchrediad araf
5. dosbarthiad y croen
6. cyflwr y croen
7. hydwythedd llac
8. ystum
Cyfarwyddiadau
1. hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a’r ymarferydd
2. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
3. cyfyngiadau a risgiau cysyslltiedig
4. triniaethau yn y dyfodol
Anatomeg a ffisioleg
1. strwythur a swyddogaeth y meinweoedd, celloedd, organau a systemau’r corff a’u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd
2. y gwrtharwyddion cymharol a llwyr a’r patholegau cysylltiedig
3. ffactorau cynhenid ac anghynhenid sy’n effeithio ar gyflwr y croen
4. meini prawf ar gyfer graddio plorod
5. swyddogaeth rhwystro’r croen
6. effeithiau corfforol, ffisiolegol a seicolegol triniaethau dermabreiddio
Technolegau dermabreiddio
- ocsige
- toddiad halwynog
3. dŵr
4. blaenau deimwnt
5. crisialau
Yr wyneb a’r corff
1. dadansoddiad o’r croen
2. dadansoddiad o’r corff
3. cyngor am y croen a chynnyrch gofal y croen
4. triniaeth dermabreiddio
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwrtharwydd llwyr
Gwrtharwydd llwyr yw cyflwr sy’n atal y gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cyfeirio.
Adwaith anffafriol
Adwaith anffafriol yw adwaith neu ganlyniad ‘annisgwyl’ yn dilyn gwasanaeth, e.e.
llewygu
Anatomeg a Ffisioleg
Y ffordd mae’r systemau sgerbydol, cyhyrog cylchredol, lymffatig, resbiradol, ysgarthol, treuliol, endocrinaidd a nerfol yn rhyngweithio gyda’i gilydd a sut mae nhw’n effeithio ar yr unigolyn, y gwasanaeth a’r canlyniadau.
Dosbarthiad y math o gorff
Adwaenir y mathau o gorff fel dosbarthiadau endomorff, mesomorgg ac ectomorff.
Gwrth weithred
Gwrth weithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth
e.e. cochni
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith
neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer gorau a
chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau’r
gwneuthurwr.
Gwrtharwydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy’n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau
Cyflwr croen sensitif
Cyflwr genetig lle mae cynnydd mewn adweithedd capilaraidd a newid yn y swyddogaeth rhwystro gan arwain at freuder uwchgroenol cynhenid.
Cyflwr croen sensiteiddiedig
Mae cyflwr croen sensiteiddiedig yn digwydd o ganlyniad I ffactorau amgylcheddol neu yn y ffordd o fyw sydd un ai yn cynyddu cytocinau llidiol a modylyddion neu’n llesteirio rhwystr y croen.
Swyddogaeth rhwystro’r croen
Y rhwystr adnewyddadwy, biogemegol sy’n gwarchod ein systemau mewnol rhag ymosodwyr a phathogenau amgylcheddol, ac sy’n helpu rhwystro colli dŵr traws-uwchgroenol. Mae’n cynnwys celloedd wedi’u cornio, ffactorau naturiol sy’n lleithio, lipidau rhwystrol a microbiomau’r croen.
Dosbarthiad y croen
Gellir cyfeirio at raddfeydd dosbarthu’r croen fel graddfa fitzpatrick, graddfa lancer a ffenoteip a genoteip, graddfa glogau, graddfa rubins a graddfa ffyrder croen Monk.
Rhaglen preimio’r croen
Rhaglen preimio’r croen yw cyfres o gyfgarwyddiadau gall yr unigolyn eu gwneud cyn y driniaeth er mwyn cael y canlyniadau gorau.
Dolenni I NOS Eraill
SKANSC1, SKANSC2, SKANSC3, SKANSC4, SKANSC5, SKANSC6, SKANSC7, SKANSC8, SKANSC9, SKANSC10, SKANSC11, SKANSC12, SKANSC13, SKANSC15, SKANSC16, SKANSC17, SKANSC18, SKANSC19, SKANSC20, SKANSC21, SKANSC22, SKANSC23, SKABS1, SKABS2