Rheoli cymhlethdodau gyda thriniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol
Trosolwg
Mae’r uned yma’n cyd-fodoli â, SKANSC1 Rhoi arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol ar waith a’u cynnal yn ystod triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol SKANSC2: Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol a’r holl driniaethau yn y gyfres triniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol. Mae’r safon yma ar gyfer ymarferwyr esthetig er mwyn rheoli cymhlethdodau mewn triniaethau nad ydynt yn llawfeddygol. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ôl-driniaethol ac adfyfyrio ar gyfer gwelliant parhaus. Bydd angen i ddefnyddwyr y safon yma sicrhau bod eu harferion yn adlewyrchu’r diweddaraf o ran gwybodaeth, polisïau, gweithdrefnau, rheoliadau a chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr. Bydd rhaid i chi nodi, asesu a rhoi ar waith ddulliau rheoli mewn perthynas â chi eich hun, yr amgylchedd waith yn cynnwys offer, cyfarpar a chynnyrch, yr unigolyn a’r man i gael ei drin, cyn i’r driniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol i gael ei chyflawni. Rhaid i’r ymarferydd esthetig gael cymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gweithle neu ei gyffelyb a gallu cyflawni’r swyddogaethau o fewn SFHCHS36: Cefnogaeth bywyd sylfaenol a gallu cael gafael ar gyfarpar cefnogi bywyd fel sydd wedi ei nodi yn y cynllun rheoli cymhlethdodau a/neu argyfwng.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. sicrhau bod yna brotocolau mewn lle i ddelio gyda’r rhychwant o argyfyngau/cymhlethdodau
2. gwirio addasrwydd ac effeithiolrwydd y systemau a’r protocolau sydd eu hangen er mwyn atal a delio gydag argyfyngau sy’n gysylltiedig â thriniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol
3. dadansoddi’r angen am ddulliau o fonitro cyfathrebu ar ôl triniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol a rhoi cyfarwyddiadau wedyn i unigolion
4. nodi arwyddion a symptomau o’r risgiau a’r cymhlethdodau posibl gyda thriniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol a chyfeirio at y cynllun argyfwng gan gynnwys:-
· 4.1 gwneud arsylwadau, archwiliadau corfforol a holi ar lafar er mwyn cwblhau asesiad ar gyfer penderfynu ar gymhlethdod posibl.
· 4.2 dosbarthu risg er mwyn dewis y protocolau priodol ar gyfer rheoli risg.
5. rheoli’r risgiau a’r cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â thriniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol gan gynnwys:-
· 5.1 dadansoddi’r dewisiadau sydd ar gael os bydd adwaith anffafriol yn dilyn y driniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol
· 5.2 argymhell strategaethau ar gyfer delio â sgil effeithiau cyffredin o driniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol
6. rheoli argyfyngau pan yn cyflawni triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol
7. sicrhau monitro parhaus o’r unigolyn yn ystod ac yn syth ar ôl y driniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol.
8. Cwblhau’r cofnodion o driniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol yr unigolyn a’u cadw’n unol â deddfwriaeth gwybodaeth
9. os bydd adwaith neu ddigwyddiad anffafriol, cymryd camau cywirol ar fyrder fel sydd wedi ei osod allan yn y cynllun argyfwng i gynnwys:
· 9.1 ceisio cael a rhoi ar waith ymyrraeth feddygol ar unwaith gan rywun proffesiynol o faes gofal iechyd sydd wedi’i hyfforddi i ddelio gyda chymhlethdodau fel sydd wedi ei osod allan yn y cynllun argyfwng
10. Adrodd a chofnodi gan ddefnyddio’r systemau/peirianweithiau sydd wedi eu cytuno
11. adolygu protocolau a dogfennau ar gyfer risgiau a chymhlethdodau drwy ymarfer adfyfyriol ac archwiliad
12. Darparu’r holl wybodaeth a’r cyfarwyddiadau pan fyddwch yn trosglwyddo gofal i rywun proffesiynol arall
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. yr anatomeg a’r ffisioleg sy’n berthnasol i’r safon yma
2. arwyddion a symptomau o gymhlethdodau tymor byr, tymor canol a thymor hir sy’n codi o driniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol
3. y mathau o gymhlethdodau all godi a’r camau i’w cymryd
4. yr amrywiaeth o bobl broffesiynol ym maes iechyd sydd ar gael a’r cymhlethdodau maent wedi eu hyfforddi i ddelio â hwy
5. sut i leihau risg a chymhlethdodau sy’n gysylltiedig â thriniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol drwy ddethol ac asesiad unigol drwy ymgynghoriad, asesiad a hanes meddygol
6. arferion gwaith diogel er mwyn cyfyngu ar risg
7. ymadweithiau cyffuriau sydd wedi eu rhagnodi a heb eu rhagnodi, rhai llysieuol ac ategol gyda thriniaethau cosmetig a meddyginiaethau argyfwng
8. cyflyrau meddygol (corfforol, cymdeithasol ac sy’n ymwneud ag iechyd meddwl) sydd eisoes yn bodoli all gynyddu’r risg a’r cymhlethdodau ac effeithio ar roddi meddyginiaethau argyfwng ac ymyriadau
9. gwybodaeth a chyngor ôl-ofal wedi ei lunio er mwyn cadw risg a chymhlethdodau cyn lleied â phosibl
10. sut i reoli’r risgiau a’r cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â thriniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol
11. pam bod rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth
12. pwysigrwydd cydweithredu gyda phobl broffesiynol fedrus er mwyn cefnogi arferion gwaith effeithiol a diogel
13. sut i reoli argyfyngau pan fyddwch yn cyflawni triniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol
14. y protocolau a’r camau i’w cymryd os bydd argyfwng meddygol sy’n peryglu bywyd
15. y protocolau a’r camau i’w cymryd os bydd argyfwng meddygol nad yw'n peryglu bywyd
16. pwysigrwydd derbyn a dilyn cyfarwyddiadau gan rywun proffesiynol o faes gofal iechyd sydd wedi'i nodi os bydd adwaith anffafriol
17. pwysigrwydd cyfeirio ac adrodd am y cymhlethdod i rywun proffesiynol o faes gofal iechyd, cyflenwr a gwneuthurwr
18. sut a phryd i chwilio am gyngor a chefnogaeth bellach y tu allan i faes yr ymarferydd
19. pwysigrwydd trafod, adfyfyrio a chofnodi’r canlyniadau gyda rhywun proffesiynol o faes gofal iechyd wedi’i reoleiddio er mwyn cael gwybodaeth am gamau pellach a thriniaethau yn y dyfodol
20. eich cyfrifoldeb a’r gweithdrefnau ar gyfer adrodd am gamymddwyn sy’n cael ei amau
21. pwysigrwydd cadw at y cynllun argyfwng os bydd adwaith anffafriol
22. y gofynion deddfwriaethol, yswiriant a chyfundrefnol a gyfer cymryd a chadw delweddau gweledol o fan triniaeth yr unigolyn
23. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnodion triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol yr unigolyn
24. y systemau a’r proseau sy’n cefnogi sicrhau ansawdd a gwelliannau mewn triniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol
25. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn
Cwmpas/ystod
Risgiau a chymhlethdodau
Ymyrraeth feddygol ar unwaith yn gofyn am sylw ar fyrder
1. Goradwaith – adwaith alergaidd ddifrifol– gwenwyndra systemig difrifol
2. Achludiad fasgiwlaidd / Achludiad cywasgaidd
3. Poen enbyd ddi-baid
4. Anhawster wrth siarad neu lyncu
5. Anhwylder anadlol
6. twll yn y rhedweli
7. Chwydd gwyn abnormal difrifol
8. Llosg garw
9. Toriadau garw
10. Haint garw - systemaidd/argroenol
11. Haematoma garw
12. meigryn/pen tost difrifol
13. Cyfog difrifol/teimlad chwydlyd
14. Necrosis
15. Comp Adlenwad capilaraidd mewn perygl
16. Dallineb – Unochrog a ddeuochrog
17. Aflonyddu ar y golwg ar unwaith ac wedi oedi/golwg dwbl
18. Ymateb fasofagol
19. Anaf garw i’r llygaid
Ymyrraeth ar unwaith
20. Gwaedu ysgafn
21. Chwyddo cymhedrol i ysgafn
22. Adweithiau alergaidd cymhedrol i ysgafn
23. Llosg cymhedrol i ysgafn
24. Haint cymhedrol i ysgafn
25. Casgliad yn ffurfio
26. Toriadau a chrafiadau
27. Oedi gydag anaf yn iachau
28. Dyfodiad awto imiwnedd wedi oedi
29. Chwyddo
30. Llosg dynad
31. Difrod i’r nerfau
32. Gorsensitifrwydd
33. Pen tost
34. Ffurfio bioffilm
35. Teimlad chwydlyd ysgafn
36. Symptomau tebyg i ffliw neu haint anadlol
37. Cochni/llid/ dolurusrwydd o’r meinwe
38. Llygaid/ceg sych
39. Symptomau dros dro neu gymhedrol neu amhariad ar fannau o fewn y llygad neu o amgylch y geg
40. Newidiadau yng ngweadedd y croen/ymddangosiad mewn mannau cyfagos
41. Pruritus – Croen yn cosi’n ysgafn
42. Anafiadau o flaen nodwydd
Cymhlethdodau Cosmetig sy’n gofyn am weithredu
43. Canlyniad cosmetig llai na’r gorau/ Anghymesuredd
44. Anghysonderau amlinellol
45. Ymddangosiad cosmetig yn gwaethygu
46. Dim yn ymateb /byrhoedlog
47. Mudiad o’r cynnyrch
48. Creithio
49. Cleisio – Dros dro neu bendant
50. Chwydd gwyn estynedig/cronig
51. Nodwl/ Gronyndyfiant yn ffurfio
52. Effaith Tyndall - Dadliwiad
53. Lliwiad gorliwio/tanliwio
54. Telangiectasis/neofasgwleiddiad
55. Newid dros dro neu bendant yn lliw’r croen– hemosiderin
56. Newid dros dro neu bendant yng ngweadedd y croen
57. Ffurfiad dros dro neu bendant o anhwylder o’r croen
58. Y cyhyrau’n edwino
59. Mân-waedu – Pothelli gwaed bychain
Cyfarwyddiadau
60. hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a’r ymarferydd esthetig
61. cefnogaeth a chyngor sydd ar gael ar unwaith ac yn barhaus
62. rheolaeth cymhlethdodau a/neu gynllun argyfwng
63. disgwyliadau ar ôl triniaeth ac amserlenni cysylltiedig
64. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
65. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
66. triniaethau yn y dyfodol
67. gweithdrefn cwynion neu brotocol pryderon
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Adwaith anffafriol
Adwaith anffafriol yw adwaith neu ganlyniad ‘annisgwyl’ yn dilyn gwasanaeth h.y. llewygu
Gwrth-weithred
Gwrth-weithred yw adwaith neu ganlyniad ‘disgwyliedig’ yn dilyn gwasanaeth h.y. erythema
Cynllun argyfwng
Cynllun argyfwng yw cynllun trefnus o weithdrefnau a chanllawiau wedi'u cynllunio i gael eu rhoi ar waith mewn ymateb i sefyllfaoedd neu ddigwyddiadau annisgwyl ac all fod yn beryglus. Prif bwrpas cynllun argyfwng yw sicrhau diogelwch a lles unigolion.
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Mesurau i atal a rheoli haint
Yn cyfeirio at arferion a gweithdrefnau sy’n seiliedig ar dystiolaeth all, o gael eu defnyddio’n gyson mewn sefyllfaoedd triniaeth, atal neu leihau’r risg o drosglwyddo meicroorganebau
Heintio microbig
Mae heintio microbig yn cyfeirio at bresenoldeb microbau nad oes eu heisiau, megis bacteria, ffyngau, firysau a sborau.
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol ar gyfer sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
Risgiau a chymhlethdodau
Problem na ellid mo’i rhagweld sy’n codi yn dilyn, ac o ganlyniad i, driniaeth .
Rhagofalon cyffredinol a rhagofalon safonol
Mae rhagofalon cyffredinol yn berthnasol os yw’r ymarferydd yn dod i gysylltiad â gwaed a/neu rywfaint o hylif corfforol. Cyfrifoldeb yr ymarferydd yw rhoi mesurau atal a rheoli haint ar waith er mwyn atal dod i gysylltiad â phathogenau a drosglwyddir drwy’r gwaed neu Ddeunyddiau Eraill all fod yn Heintus (OPIM).
Rhagofalon safonol yw’r lefel sylfaenol o reoli haint ddylai gael ei ddefnyddio bob amser o fewn yr amgylchedd waith, megis glendid dwylo, cyfarpar amddiffyn personol, atal anafiadau gan nodwyddau neu declynnau miniog, asesiad risg, glendid anadlol ac ymddygiad safonol ynghylch pesychu, glanhau amgylcheddol a chael gwared o wastraff.
Dolenni I NOS Eraill
SKANSC1, SKANSC2, SKANSC3, SKANSC4, SKANSC5, SKANSC6, SKANSC7, SKANSC8, SKANSC9, SKANSC10, SKANSC11, SKANSC12, SKANSC13,
SKANSC14, SKANSC16, SKANSC17, SKANSC18, SKANSC19, SKANSC20, SKANSC21, SKANSC22, SKANSC23