Rhoi adnewyddiad i’r croen gan ddefnyddio ynni uwchsain dwysedd uchel wedi ei ffocysu
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKANSC1.2: Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol yn ystod gweithdrefnau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol. a SKANSC2.2: Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gweithdrefnau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol o fewn yr amgylchedd waith. Mae'r safon yma ar gyfer ymarferwyr esthetig uwch sy'n cyflawni triniaethau ynni uwchsain dwysedd uchel wedi eu ffocysu er mwyn adnewyddu'r croen. Y mae uwchsain dwysedd uchel wedi ei ffocysu yn dechneg therapiwtig nad yw'n fewnwthiol sy'n defnyddio tonnau uwchsonig (sain) i ddosbarthu ynni sy'n cynhesu o dan feinwe'r croen, meinwe edafeddog isgroenol **a meinwe arwynebol cyhyrol-aponiwrotig. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Rhaid i'r ymarferydd esthetig gael cymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gweithle neu ei gyffelyb a gallu cyflawni'r swyddogaethau o fewn SFHCHS36: Cefnogaeth bywyd sylfaenol a gallu cael gafael ar gyfarpar cefnogi bywyd fel sydd wedi ei nodi yn y cynllun rheoli cymhlethdodau. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn
cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau
trafod a sefydlu amcanion, pryderon, disgwyliadau a chanlyniadau disgwyliedig yr unigolyn er mwyn hysbysu'r cynllun triniaeth HIFU, i gynnwys:
3.1 dewisiadau triniaeth amgen
3.2 dosbarthiad croen a'i nodweddion
3.3 rhaglen baratoadol ar gyfer preimio'r croen
3.4 triniaeth baratoadol o'r croen
3.5 teimlad corfforol a sŵn
4. cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, ei fod wedi deall y driniaeth HIFU arfaethedig, i gynnwys:
4.1 gwrth-weithredoedd
4.2 adweithiau niweidiol
5. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y driniaeth HIFU, gan ganiatau amserlen ddigonol i’r unigolyn wneud dewis gwybodus
dewis cynnyrch paratoi glendid effeithiol i gwrdd ag anghenion yr unigolyn yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
paratoi man triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth, i gynnwys:
7.1 defnyddio cynnyrch paratoi ar gyfer llithriad a'r dargludedd gorau, cyn y driniaeth HIFU yn unol â phryderon yr unigolyn am y croen sydd wedi ei dargedu a'r protocol triniaeth HIFU
paratoi'r cyfarpar HIFU a dewis y getrisen i'w ddefnyddio yn unol â dosbarthiad a nodweddion y croen, amcanion yr unigolyn a'i fan triniaeth,
cyflawni'r driniaeth HIFU yn unol â'r protocol triniaeth HIFU, i gynnwys:
9.1 ymdriniaeth gyfartal o'r man triniaeth
9.2 nad yw'r cyswllt mewn un fan yn parhau yn hwy na chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
10.monitro iechyd, lles ac adwaith y croen drwy gydol y driniaeth HIFU
- gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol
12. cwblhau'r driniaeth yn unol â'r protocol triniaeth HIFU, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
13. cymryd a chadw delweddau gweledol cydsyniol o fan triniaeth yr unigolyn, yn unol â gofynion yswiriant, polisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
cwblhau cofnodion triniaeth HIFU'r unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data
defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r driniaeth HIFU a gweithredu'n briodol
rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth
cofnodi'r canlyniad a gwerthusiad y driniaeth HIFU er mwyn cytuno ar a hysbysu triniaethau'r dyfodol
18. trafod a chytuno gyda’r unigolyn ar driniaethau ar gyfer y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. pwysigrwydd cydweithredu gyda phobl broffesiynol gymwys er mwyn cefnogi arferion gwaith diogel
eich swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau pan yn darparu triniaethau HIFU a phwysigrwydd gweithio o fewn maes eich gallu
pam bod yn rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
3.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad
4. pwysigrwydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, y gweithdrefnau, y polisïau a’r cyfarwyddyd am yr arfer orau ddiweddaraf
yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yma
y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i driniaethau HIFU, i gynnwys:
6.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol
6.2 sut a phryd i gyfathrebu a/neu gyfeirio at bobl broffesiynol eraill nad ydynt ym maes gofal iechyd neu sydd ym maes gofal iechyd
pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd
y rhesymau pam ei bod yn rhaid i'r unigolyn warchod y croen gyda chynnyrch ffactor gwarchod haul ar ôl y driniaeth HIFU
y broses heneiddio gronolegol i'r croen a'r berthynas gyda ffactorau cynhenid ac anghynenid
10. swyddogaeth cyfarpar HIFU ac amryw getrys, i gynnwys:
10.1 sut caiff ynni uwchsain ei ddisgrifio a'i fesur mewn perthynas â'r sbectrwm electromagnetig
10.2 sut mae uwchsain yn anfon ynni i amryw ddyfnderoedd o dan feinwe'r croen
sut i baratoi'r cyfarpar HIFU a dewis y getrisen sydd i'w defnyddio, yn unol â dosbarthiad a nodweddion y croen, amcanion yr unigolyn a'i fan triniaeth
sut i gwblhau triniaeth HIFU yn unol â'r protocol triniaeth HIFU, i gynnwys:
12.1 ymdriniaeth gyfartal o'r man triniaeth
canfod, cadw, trin, defnyddio a chael gwared o'r cyfarpar HIFU yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol
pwysigrwydd ystyried lles corfforol a seicolegol unigolyn ar gyfer y driniaeth HIFU
yr adweithiau niweidiol sy'n gysylltiedig gyda thriniaeth HIFU a sut i ymateb
y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth HIFU
pam ei bod hi'n bwysig trafod ac adnabod amcanion, pryderon, disgwyliaidau yr unigolyn a'r canlyniadau y mae'n ei ddymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth HIFU
pwysigrwydd defnyddio cymhorthion gweledol i hysbysu'r unigolyn o'r effeithiau corfforol
y strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth
y gofynion deddfwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi'i lofnodi ar gyfer triniaeth HIFU a rheoli poen
pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth HIFU
22. y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
y cynnyrch a ddefnyddir ar y cyd â thriniaethau HIFU I'r wyneb er mwyn gwella llithriad a dargludedd
y rhesymau dros weithio'n systematig er mwyn gwneud y cyfan o fan triniaeth yr unigolyn, yn unol â'r protocol triniaeth HIFU
pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y driniaeth
sut i weithredu yn y modd cywir us bydd adwaith niweidiol
y cynnyrch wedi'r driniaeth sy'n hybu'r iachau a'r effeithiau adferol
28. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a’u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, a’r rhai yswiriant a chyfundrefnol
- y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnod o driniaeth HIFU yr unigolyn
30. canlyniadau disgwyliedig triniaeth HIFU
diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol
pwysigrwydd cofnodi canlyniad a gwerthusiad y driniaeth HIFU
33. y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth HIFU
Cwmpas/ystod
Dosbarthiad croen**
- Graddfa Fitzpatrick
- Difrod-ffoto Glogau
Graddfa Lancer
Ffenoteip a genoteip
Nodweddion y croen
- sensitifrwydd y croen
- cyflwr y croen
- dwysedd y croen
Triniaeth baratoadol i'r croen
- glanhau
- deuod tywyniad golau
Adweithiau niweidiol
- hyperaemia
- anafiadau
- creithio atroffig
- creithio celoid
- colli dŵr trans-epidermaidd
- cleisio gormodol
- llid
- adwaith alergaidd
- adwaith histamin gormodol
- proses iachau wedi ei pheryglu
- pendro
- llewygu
- llosgi
Protocol triniaeth HIFU
- amgylchedd waith
- iechyd a diogelwch
- cynllun rheoli risg
- atal a rheoli haint
- rheoli cymhlethdodau
- cynllun triniaeth
cydsyniad gwybodus
rheoli data
cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
canlyniadau prawf
- archwilio ac atebolrwydd
cyfarwyddiadau a chyngor
cynaliadwyedd
- rheoli gwastraff
- ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
- ymarfer adfyfyriol
Anatomeg a ffisioleg
- strwythur a swyddogaeth systemau'r corff a'u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd
- gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau
- proses heneiddio'r croen yn cynnwys effeithiau geneteg, ffordd o fyw ac amgylchedd
- swyddogaeth rhwystro ar gyfer croen sydd mewn perygl a phrosesau adnewyddu croen
y broses o synthasis colagen ac elastin yn cynnwys symbyliad ffeibroblastig
amrywiaethau a lleoliad trwch y croen a meinwe bloneg
- effeithiau a mantiesion allbwn ynni amledd radio wedi ei greu o HIFU
Cymhorthion gweledol
- delweddau esboniadol
- diagramau esboniadol
Cyfarwyddiadau
- hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd esthetig
- rheoli cymhlethdodau
- disgwyliadau wedi'r driniaeth ac amserlenni cysylltiedig
- cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
- cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
- triniaethau yn y dyfodol
- gweithdrefn cwynion neu brotocol pryderon
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwrtharwydd llwyr
Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.
Adwaith niweidiol
Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu
Anatomeg a Ffisioleg
Sut mae'r systemau sgerbydol, cyhyrog, cylchredol, lymffatig, anadlol, ysgarthol, treuliadol, endocrinaidd a nerfol yn rhyngweithio gyda'i gilydd a sut maent yn effeithio ar yr unigolyn, gwasanaeth a chanlyniadau.
Gwrth weithred
Gwrth weithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth, e.e. erythema
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.
Cymorth Cynta*f*
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.
Gwrtharwydd cymharo*l*
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau
.
Gwasanaeth preimio'r croen
Mae rhaglen preimio'r croen yn set o gyfarwyddiadau y gall yr unigolyn eu gwneud cyn y driniaeth er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau.
Delweddau gweledol
Delweddau gweledol yw tystiolaeth sydd wedi ei chreu drwy ffotograffiaeth neu fideo.
Dolenni I NOS Eraill
SKANSC1.2, SKANSC2.2, SKANSC10, SKANSC11,
SKANSC12SKANSC13