Darparu triniaethau cryotherapi i’r wyneb
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKANSC1.2: Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol yn ystod gweithdrefnau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol. a SKANSC2.2: Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gweithdrefnau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol o fewn yr amgylchedd waith, Mae'r safon yma ar gyfer ymarferwyr esthetig uwch sy'n cyflawni triniaethau cryotherapi i'r wyneb er mwyn adnewyddu'r croen. Caiff cryotherapi ei gyflawni drwy ddefnyddio offeryn cryotherapi sy'n dal cibyn sy'n rhyddhau ac yn rheoli llif o nwy nitraidd ocsid ar dymheredd diogel i'r croen. Mae'r weithred hon yn cyfyngu'r gwaedlestri ac yn ystod y rhyddhau mae'r faslediad yn digwydd, gan ysgogi ymchwydd yn llif y gwaed sy'n dod â rhagor o faetholion and ocsigen i'r croen. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Rhaid i'r ymarferydd esthetig gael cymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gweithle neu ei gyffelyb a gallu cyflawni'r swyddogaethau o fewn SFHCHS36: Cefnogaeth bywyd sylfaenol a gallu cael gafael ar gyfarpar cefnogi bywyd fel sydd wedi ei nodi yn y cynllun rheoli cymhlethdodau. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau.
Y prif ddeilliannau yw:
- Darparu triniaeth cryotherapi i'r wyneb er mwyn adnewyddu'r croen
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn
cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau
trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, pryderon ynghylch y gwallt a chroen y pen, disgwyliadau a'r canlyniadau a ddymunir, er mwyn cael y wybodaeth ar gyfer y cynllun triniaeth cryotherapi i'r wyneb, i gynnwys:
3.1 dosbarthiad croen, a'i nodweddion a'i gyflwr
3.2 triniaethau diblisgiad blaenorol
3.3 triniaethau cosmetig blaenorol nad ydynt yn llawfeddygol
3.4 dewisiadau triniaeth amgen
3.5 triniaeth baratoadol i'r croen
3.6 ar ôl triniaeth i’r croen
- cadarnhau a chytuno gyda'r unigolyn, ei fod wedi deall y driniaeth cryotherapi i'r wyneb, i gynnwys:
4.1 gwrth arwyddion
4.2 adweithiau niweidiol
sicrhau a chofnodi cydsyniad yr unigolyn wedi ei hysbysu ar gyfer y driniaeth cryotherapi i'r wyneb, gan ganiatau amserlen ddigonol i'r unigolyn wneud dewis wedi ei hysbysu
cyflawni'r driniaeth baratoadol ar y croen, yn unol â'r protocol triniaeth cryotherapi
7. dewis cynnyrch paratoi glendid effeithiol i gwrdd ag anghenion yr unigolyn yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, i gynnwys:
7.1 sicrhau bod y croen yn lân ac yn sych cyn y driniaeth cryotherapi i'r wyneb
- paratoi man triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth cryotherapi i'r wyneb, i gynnwys:
8.1 sicrhau bod llygaid yr unigolyn wedi eu gwarchod gyda goglau diogelwch yn unol â'r gofynion deddfwriaethol a chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
9. paratoi'r offeryn a'r capsylau cryotherapi yn unol â dosbarthiad, nodweddion y croen, amcanion yr unigolyn, a'r protocol triniaeth cryotherapi i'r wyneb
10. cyflawni'r driniaeth cryotherapi i'r wyneb yn unol â'r protocol triniaeth cryotherapi i'r wyneb, i gynnwys:
10.1 ymdriniaeth gyfartal o fan triniaeth yr unigolyn
11. monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol triniaeth cryotherapi i'r wyneb, i gynnwys:
11.1 mesur tymheredd croen yr unigolyn yn barhaus yn unol â chyfarwyddiadau gwneuthurwr y cyfarpar cryotherapi ac ymateb croen yr unigolyn i'r nwy hylif nitrogen
- gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol
13. cyflawni triniaeth i’r croen wedyn yn unol â’r protocol triniaeth cryotherapi i’r wyneb
14. cwblhau’r driniaeth yn unol â’r protocol triniaeth cryotherapi i’r wyneb, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
cymryd a chadw cyfryngau gweledol cydsyniol o fan triniaeth yr unigolyn yn unol â gofynion yswiriant, polisïau a gweithdrefnau
cwblhau cofnod triniaeth cryotherapi i wyneb yr unigolyn a'i gadw yn unol â deddfwriaeth data
defnyddio ymarfer adfyfyriol i werthuso'r driniaeth cryotherapi i'r wyneb a gweithredu'n briodol
rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth
19. cofnodi canlyniad y driniaeth cryotherapi i’r wyneb a’r gwerthusiad ohoni er mwyn cytuno ar a hysbysu triniaethau’r dyfodol
- trafod a chytuno gyda'r unigolyn ar driniaethau ar gyfer y dyfodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. pwysigrwydd cydweithredu gyda phobl broffesiynol gymwys er mwyn cefnogi arferion gwaith diogel
2. eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau pan yn darparu triniaethau cryotherapi i’r wyneb a phwysigrwydd gweithio o fewn eich gallu
- pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
3.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu'r awdurdod lleol i chi eich hun a'ch adeilad
4. pwysigrwydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, y polisïau, y wybodaeth gwybodaeth wedi eu diweddaru eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, polisïau a gweithdrefnau diweddaraf a chyfarwyddyd am arfer orau
yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol i'r safon yna
y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i driniaethau cryotherapi i'r wyneb
6.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol
6.2 sut a phryd i gyfathrebu gyda a/neu gyfeirio at bobl broffesiynol ym maes gofal iechyd neu y tu allan i faes gofal iechyd
pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd amheus ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol ym maes gofal iechyd
sut a pham bod fasgyfyngiad a faslediad yn digwydd mewn triniaethau cryotherapi i'r wyneb
manteision, cyfyngiadau a'r risgiau cysylltiedig o driniaethau cryotherapi
y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy'n berthnasol i driniaethau cryotherapi i'r wyneb
10.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol
10.2 sut a phryd i gyfathrebu a/neu gyfeirio at bobl broffesiynol ym maes gofal iechyd neu y tu allan i faes gofal iechyd
11. y broses heneiddio gronolegol o’r croen a’r berthynas i ffactorau cynhenid ac anghynhenid
12.canfod, cadw, trin, defnyddio a chael gwared o offeryn cryotherapi a chapsylau yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
12.1 y tymheredd ble dylid cadw nitraidd ocsid
13. pwysigrwydd ystyried lles corfforol a seicolegol unigolyn ar gyfer triniaeth cryotherapi i'r wyneb
14. y triniaethau paratoadol a chanlynol ar y croen y gellir eu defnyddio ar y cyd gyda thriniaeth cryotherapi i’r wyneb
15. yr adweithiau niweidiol a gysylltir gyda thriniaeth cryotherapi i'r wyneb
y cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth cryotherapi i'r wyneb
pam ei bod yn bwysig trafod a phenderfynu amcanion, pryderon, disgwyliadau, canlyniadau a ddymunir a chytuno ar gynllun triniaeth cryotherapi i'r wyneb
pwysigrwydd defnyddio cymhorthion gweledol er mwyn hysbysu'r unigolyn o'r effeithiau corfforol
y strwythurau taliadau a'r dewisiadau ar gyfer triniaeth
20. y gofynion deddwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad gwybodus wedi’i lofnodi ar gyfer y driniaeth cryotherapi i’r wyneb
pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth cryotherapi i'r wyneb
sut i baratoi'r cyfarpar cryotherapi a dewis dwysedd yr hylif nitrogen sydd i'w ddefnyddio yn unol â dosbarthiad a nodweddion y croen, amcanion yr unigolyn a man triniaeth yr unigolyn
y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
24. pam ei bod yn rhaid i’r croen fod yn lân cyn triniaeth cryotherapi i’r wyneb
- sut i wneud triniaeth cryotherapi i'r wyneb yn unol â'r protocol triniaeth cryotherapi i'r wyneb:
25.1 pwysigrwydd gwarchod y llygad yn ddigonol i'r unigolyn
y rhesymau dros weithio'n systematig er mwyn gwneud y cyfan o fan triniaeth yr unigolyn, yn unol â'r protocol triniaeth cryotherapi i'r wyneb
pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn ystod ac ar ôl y driniaeth
sut i weithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol
29. y cynnyrch wedi'r driniaeth sy'n gwarchod, hybu'r iachau a'r effeithiau adferol, yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
30. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a'u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, yswiriant a chyfundrefnol
y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnod o driniaeth cryotherapi i wyneb yr unigolyn
canlyniadau disgwyliedig triniaeth cryotherapi i'r wyneb
diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol
34. pwysigrwydd cofnodi canlyniad y driniaeth cryotherapi i’r wyneb a’r gwerthusiad ohoni
- y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth cryotherapi i'r wyneb
Cwmpas/ystod
Dosbarthiad croen**
- Graddfa Fitzpatrick
- Difrod-ffoto Glogau
- Graddfa Lancer
- Ffenoteip a genoteip
Adweithiau niweidiol
- hyperemia
- brath rhew
- llosgiadau rhew
- diffrwythdra
- teimlad ysol
- llid
- adwaith alergaidd
- adwaith histamin gormodol
Protocol triniaeth cryotherapi i'r wyneb
- amgylchedd waith
- iechyd a diogelwch
- cynllun rheoli risg
- atal a rheoli haint
- rheoli cymhlethdodau
- cynllun triniaeth
cydsyniad gwybodus
rheoli data
- cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- canlyniadau prawf
- archwilio ac atebolrwydd
- cyfarwyddiadau a chyngor
- cynaliadwyedd
- rheolaeth gwastraff
- ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
- ymarfer adfyfyriol
Cyfarwyddiadau
- hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd esthetig
- rheoli cymhlethdodau
- disgwyliadau wedi'r driniaeth ac amserlenni cysylltiedig
- cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
- cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
- triniaethau yn y dyfodol
- gweithdrefn cwynion neu brotocol pryderon
Anatomeg a ffisioleg
- strwythur a swyddogaeth systemau'r corff a'u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd
- gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau
- proses heneiddio'r croen yn cynnwys effeithiau geneteg, ffordd o fyw ac amgylchedd
- amrywiaethau a lleoliad trwch y croen a'r mannau i'w hosgoi o fewn triniaeth cryotherapi i'r wyneb
- effeithiau a manteision ffisiolegol triniaeth cryotherapi i'r wyneb
- swyddogaeth rhwystro ar gyfer croen sydd mewn perygl a phrosesau adnewyddu croen
Cymhorthion gweledol
- delweddau esboniadol
- diagramau esboniadol
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwrtharwydd llwyr
Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei
gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.
Adwaith niweidiol
Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn
gwasanaeth e.e. llewygu
Anatomeg a Ffisioleg
Sut mae’r systemau sgerbydol, cyhyrog, cylchredol, lymffatig, anadlol, ysgarthol, treuliadol, endocrinaidd a nerfol yn rhyngweithio gyda’i gilydd a sut maent yn effeithio ar yr unigolyn, y gwasanaeth a’r canlyniadau.
Gwrth weithred
Gwrth weithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth, e.e. erythema
Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth
Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth orau cyfredol, dilys a pherthnasol sydd ar gael.
Cymorth Cyntaf
Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.
Protocol
Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.
Gwrtharwydd cymharol
Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.
*
Dolenni I NOS Eraill
SKANSC1.2, SKANSC2.2, SKANSC10, SKANSC11 SKANSC13