Adnewyddu’r croen drwy ddefnyddio dyfais plasma

URN: SKANSC11
Sectorau Busnes (Cyfresi): Therapi Harddwch,Tricoleg,Triniaethau Cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 2021

Trosolwg

Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKANSC1.2: Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol yn ystod gweithdrefnau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol. a SKANSC2.2: Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gweithdrefnau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol o fewn yr amgylchedd waith*.* Mae'r safon yma ar gyfer ymarferwyr esthetig uwch sy'n defnyddio dyfais plasma er mwyn adnewyddu'r croen a lleihau neu gael gwared o namau ar y croen a chyflyrau lliwiol ysgafn. Bydd gofyn i chi hefyd wneud gwerthusiad ar ôl y driniaeth ac adfyfyrio er mwyn gwelliant parhaus. Rhaid i'r ymarferydd esthetig gael cymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gweithle neu ei gyffelyb a gallu cyflawni'r swyddogaethau o fewn SFHCHS36: Cefnogaeth bywyd sylfaenol a gallu cael gafael ar gyfarpar cefnogi bywyd fel sydd wedi ei nodi yn y cynllun rheoli cymhlethdodau. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn

  1. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, gorchmynion a chanllawiau

  2. trafod a sefydlu amcanion yr unigolyn, pryderon ynghylch y gwallt a chroen y pen, disgwyliadau a'r canlyniadau a ddymunir, er mwyn cael y wybodaeth ar gyfer y cynllun triniaeth dyfais plasma, i gynnwys:

3.1 dewisiadau triniaeth amgen

3.2 dosbarthiad croen, a'i nodweddion

3.3 rhaglen baratoadol ar gyfer preimio'r croen

  1. trafod a chytuno ar y strategaeth rheoli poen, gan gymryd i ystyriaeth lefel goddefiad yr unigolyn, yn unol â gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau

  2. cadarnhau a chytuno gyda'r unigolyn, eu bod wedi deall y driniaeth arfaethiedig gyda dyfais plasma, i gynnwys:

5.1 gwrth-weithredoedd
5.2 adweithiau niweidiol

  1. sicrhau a chofnodi cydsyniad yr unigolyn wedi ei hysbysu ar gyfer y driniaeth dyfais plasma a rheoli poen, gan ganiatau amserlen ddigonol i'r unigolyn wneud dewis wedi ei hysbysu

  2. dewis cynnyrch paratoi glendid effeithiol i gwrdd ag anghenion yr unigolyn yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr, i gynnwys:

  3. paratoi man triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth dyfais plasma a strategaeth rheoli poen, i gynnwys:

8.1 sicrhau bod y croen yn lân ac yn sych cyn y driniaeth dyfais plasma

9. paratoi’r ddyfais plasma a’r stiliwr diheintiedig a ddefnyddir unwaith, a dewis y dwysedd a’r dull i’w ddefnyddio yn unol â dosbarthiad, nodweddion y croen, amcanion yr unigolyn, a’i fan triniaeth

10 gwneud marciau cyn triniaeth er mwyn nodi'r mannau sydd wedi eu targedu

  1. cwblhau'r driniaeth gyda'r ddyfais plasma yn unol â'r protocol dyfais plasma:

11.1 sefydlogi'r ddyfais plasma er mwyn sicrhau nad yw'r ddyfais plasma yn dod i gysylltiad uniongyrchol gyda'r croen

11.2 addasu technegau i gwrdd ag anghenion yr unigolyn

11.3 ymdriniaeth gyfartal o'r man triniaeth

11.4 sicrhau bod digon o le yn cael ei adael

12. monitro iechyd, lles a chyflwr croen yr unigolyn drwy gydol y driniaeth dyfais plasma
13. gweithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol
14. cwblhau'r driniaeth yn unol â'r protocol triniaeth dyfais plasma, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol.
15. cymryd a chadw cyfryngau gweledol cydsyniol o fan triniaeth yr unigolyn yn unol â gofynion yswiriant, polisïau a gweithdrefnau
16. cwblhau cofnodion triniaeth dyfais plasma'r unigolyn a'u cadw'n unol â deddfwriaeth data
17. defnyddio ymarfer adfyfyriol er mwyn gwerthuso'r driniaeth dyfais plasma a gweithredu'n briodol
18.rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i'r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth
19. cofnodi canlyniad y driniaeth dyfais plasma a’r gwerthusiad ohoni er mwyn cytuno ar a darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau’r dyfodol
20. trafod a chytuno gyda'r unigolyn ar driniaethau ar gyfer y dyfodol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1 pwysigrwydd cydweithredu gyda phobl broffesiynol gymwys er mwyn cefnogi arferion gwaith diogel 
2 eich swyddogaeth a’ch cyfrifoldebau pan yn darparu triniaethau dyfais plasma a phwysigrwydd gweithio o fewn maes eich gallu
3 pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio ag arfer moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol, i gynnwys:
3.1 y cyfrifoldebau o dan reoliadau trwyddedu’r awdurdod lleol i chi  eich hun a’ch adeilad
pwysigwrydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, y polisïau, y wybodaeth, y gweithdrefnau a’r cyfarwyddyd am yr arfer orau ddiweddaraf 
5 yr anatomeg a’r ffisioleg sy’n berthnasol i’r safon yma
6 y gwrtharwyddion cymharol a llwyr sy’n berthnasol i driniaethau dyfais plasma, i gynnwys:
6.1 y gofynion deddfwriaethol ac yswiriant ar gyfer cael diagnosis a chyfeirio meddygol
6.2 sut a phryd i gyfathrebu a/neu gyfeirio at bobl broffesiynol eraill ym maes gofal iechyd neu y tu allan i faes gofal iechyd
7 pwysigrwydd adnabod nodweddion afreolaidd ac anafiadau ar y croen, a chyfeirio at rywun proffesiynol perthnasol ym maes gofal iechyd
8 pam a sut mae creithio celoid yn digwydd a pham y mae’n gwrtharwyddo triniaeth dyfais plasma
9 sut gall triniaeth dyfais plasma achosi anhwylderau lliwiol i gynnwys:
9.1 y rhesymau pam ei bod yn rhaid i’r unigolyn warchod y croen gyda chynnyrch ffactor gwarchod haul yn ystod y broses iachau
10 y broses heneiddio gronolegol o’r croen a’r berthynas gyda ffactorau cynhenid ac anghynenid
11 cyfansoddiad a swyddogaeth dyfais plasma
12 sut i baratoi a defnyddio dyfais plasma a stiliwr electrod yn unol â dosbarthiad a nodweddion y croen, amcanion yr unigolyn a’i fan triniaeth, i gynnwys:
12.1 sut i lwytho stiliwr electrod diheintiedig a ddefnyddir unwaith
13 sut i gwblhau triniaeth dyfais plasma yn unol â’r protocol triniaeth dyfais plasma, i gynnwys:
13.1 gwneud marciau cyn triniaeth er mwyn nodi’r mannau sydd wedi eu targedu
 
13.2 sefydlogi’r ddyfais plasma er mwyn sicrhau nad yw’r ddyfais plasma yn dod i gysylltiad gyda’r croen
13.3 y rhesymau dros adael pellter diogel rhwng y stiliwr electrod a’r croen pan gaiff ei ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
13.4 addasu technegau i gwrdd ag anghenion yr unigolyn
13.5 ymdriniaeth gyfartal o’r man triniaeth
13.6 sicrhau bod digon o le yn cael ei adael
14. canfod, cadw, trin, defnyddio a chael gwared o gyfarpar y ddyfais plasma yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol
15. pwysigrwydd ystyried lles corfforol a seicolegol unigolyn ar gyfer y driniaeth dyfais plasma
16. y mathau o ddulliau rheoli poen a risgiau cysylltiedig
17. y gofynion deddfwriaethol a’r cyfyngiadau ar gyfer cael gafael ar, cadw a defnyddio anesthetigion lleol trwyddedig
18. yr adweithiau niweidiol sy’n gysylltiedig gyda’r driniaeth dyfais plasma a sut i ymateb
19. y cyfrifoldebau iechyd a diogelwch yn unol â deddfwriaeth cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth dyfais plasma
20. pam ei bod hi’n bwysig trafod ac adnabod amcanion, pryderon, disgwyliaidau yr unigolyn a’r canlyniadau y mae’n ei ddymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth dyfais plasma
21. pwysigrwydd defnyddio cymhorthion gweledol i hysbysu’r unigolyn o’r effeithiau corfforol
22. strwythurau talu a dewisiadau ar gyfer triniaeth
23. y gofynion deddwriaethol a digollediad er mwyn sicrhau cydsyniad
wedi ei lofnodi a’i hysbysu ar gyfer triniaeth dyfais plasma a rheoli poen
24. pwysigrwydd cadw at y protocol triniaeth dyfais plasma
25. y mathau o gynnyrch glendid ar gyfer y croen a phwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr
26. pam bod yn rhaid i’r croen fod yn lan ac yn sych cyn y driniaeth dyfais plasma
27. y rhesymau dros weithio’n systematig er mwyn gwneud y cyfan o fan triniaeth yr unigolyn, yn unol â’r protocol triniaeth dyfais plasma
28. pwysigrwydd monitro iechyd a lles yr unigolyn yn
 ystod ac ar ôl y driniaeth
29. sut i weithredu yn y modd cywir os bydd adwaith niweidiol
30. y cynnyrch wedi’r driniaeth sy’n gwarchod, hybu’r iachau a’r effeithiau adferol, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr
31. y rhesymau dros gymryd delweddau gweledol gyda chydsyniad o fan triniaeth yr unigolyn, a’u cadw yn unol â gofynion y gwasanaeth, yswiriant a chyfundrefnol
32. y gofynion deddfwriaethol a rheoleiddiol ar gyfer cwblhau a chadw cofnod o driniaeth dyfais plasma yr unigolyn
33. canlyniadau disgwyliedig triniaeth dyfais plasma
34. diben ymarfer adfyfyriol a gwerthuso a sut y mae’n darparu gwybodaeth ar gyfer triniaethau yn y dyfodol
35. pwysigrwydd cofnodi canlyniad y driniaeth dyfais plasma a’r gwerthusiad ohoni
36. y cyfarwyddiadau a’r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth dyfais plasma


Cwmpas/ystod

Dosbarthiad croen**

  1. Graddfa Fitzpatrick
  2. Difrod-ffoto Glogau
  3. Graddfa Lancer
  4. Ffenoteip a genoteip

Nodweddion y croen

  1. sensitifrwydd y croen
  2. cyflwr y croen
  3. dwysedd y croen


Adweithiau niweidiol

  1. hyperaemia
  2. anafiadau
  3. creithio atroffig
  4. creithio celoid
  5. colli dŵr trans-epidermaidd
  6. cleisio gormodol
  7. llid
  8. anhwylderau lliwiol
  9. adwaith alergaidd
  10. proses iachau wedi ei pheryglu
  11. pendro
  12. llewygu


Protocol triniaeth dyfais plasma

  1. amgylchedd waith
  2. iechyd a diogelwch
  3. cynllun rheoli risg
  4. atal a rheoli haint
  5. rheoli cymhlethdodau
  6. cynllun triniaeth
  7. cydsyniad gwybodus

  8. rheoli data

  9. cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr

  10. canlyniadau prawf

  11. archwilio ac atebolrwydd
  12. cyfarwyddiadau a chyngor
  13. cynaliadwyedd
  14. rheoli gwastraff
  15. ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
  16. ymarfer adfyfyriol


Anatomeg a ffisioleg

  1. strwythur a swyddogaeth systemau'r corff a'u cyd-ddibyniaeth ar ei gilydd
  2. gwrtharwyddion cymharol a llwyr a phatholegau
  3. proses heneiddio'r croen yn cynnwys effeithiau geneteg, ffordd o fyw ac amgylchedd
  4. swyddogaeth rhwystro ar gyfer croen sydd mewn perygl a phrosesau adnewyddu croen
  5. y broses o synthasis colagen ac elastin yn cynnwys symbyliad ffeibroblastig 
  6. amrywiaethau a lleoliad trwch y croen a meinwe bloneg


Cymhorthion gweledol

  1. delweddau esboniadol
  2. diagramau esboniadol


Cyfarwyddiadau

  1. hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a'r ymarferydd esthetig
  2. rheoli cymhlethdodau
  3.  disgwyliadau wedi'r driniaeth ac amserlenni cysylltiedig
  4. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl y driniaeth
  5. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
  6. triniaethau yn y dyfodol
  7. gweithdrefn cwynion neu brotocol pryderon








Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwrtharwydd llwyr

Mae gwrtharwydd llwyr yn gyflwr sy'n rhwystro'r gwasanaeth rhag cael ei gyflawni ac a all fod angen cael ei gyfeirio.

Adwaith niweidiol

Adwaith niweidiol yw adwaith 'annisgwyl' neu ganlyniad yn dilyn gwasanaeth e.e. llewygu

Anatomeg a Ffisioleg

Sut mae'r systemau sgerbydol, cyhyrog, cylchredol, lymffatig, anadlol, ysgarthol, treuliadol, endocrinaidd a nerfol yn rhyngweithio gyda'i gilydd a sut maent yn effeithio ar yr unigolyn, gwasanaeth a chanlyniadau.

Gwrth weithred

Gwrth weithred yw adwaith neu ganlyniad 'disgwyliedig' yn dilyn gwasanaeth, e.e. erythema

Ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth

Mae ymarfer wedi ei seilio ar dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth

orau gyfredol, ddilys a pherthnasol sydd ar gael.

Cymorth Cyntaf

Gall cymorth cyntaf gyfeirio at gymwysterau cymorth cyntaf yn y gwaith neu ei gyffelyb neu ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf iechyd meddyliol.

Dyfais plasma

Caiff dyfais plasma ei defnyddio gyda stiliwr electrod sy'n cynhyrchu nwy poeth wedi ei ïoneiddio y cynnwys niferoedd cyfartal o ionau wedi eu gwefru yn bositif ac electronnau wedi eu gwefru yn negatif. Caiff nodweddion plasma eu hystyried yn arwyddocaol wahanol i rai nwyon niwtral fel yr ystyrir y plasma yn "bedwerydd cyflwr o sylwedd" gwahanol

Protocol

Protocol yw gweithdrefn safonol er mwyn sicrhau arfer orau a chydymffurfiad pan yn darparu gwasanaethau h.y. dilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

Gwrtharwydd cymharol

Gwrtharwydd cymharol yw cyflwr sy'n gofyn am asesiad o addasrwydd ar gyfer y gwasanaeth a/neu os oes angen addasiadau.

Swyddogaeth rhwystro'r croen

Y rhwystr adnewyddadwy, biogemegol sy’n gwarchod ein systemau mewnol rhag ymosodwyr amgylcheddol a phathogenau, ac yn helpu rhwystro colli dŵr traws-epidermaidd. Wedi eu creu o gelloedd wedi eu corneiddio, ffactorau naturiol sy’n lleithio, lipidau rhwystrol a meicrobiom y croen.

Rhaglen preimio'r croen

Mae rhaglen preimio'r croen yn set o gyfarwyddiadau y gall yr unigolyn eu gwneud cyn y driniaeth er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau.

Delweddau gweledol

Delweddau gweledol yw tystiolaeth sydd wedi ei chreu drwy ffotograffiaeth neu fideo.


Dolenni I NOS Eraill

​SKANSC1.2, SKANSC2.2, SKANSC10, SKANSC12, SKANSC13


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKANSC11

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch, Tricolegwyr, Estheteg Harddwch, Ymarferydd Estheteg

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

Pen Plasma, dyfais plasma, pen ffeibroblast, adnewyddu’r croen