Cyflawni pigiadau mewngroenol o docsin botwliniwm math A er mwyn trin chwysu gormodol cosmetig
Trosolwg
Mae'r safon yma yn cydfodoli â, SKANSC1.2: Gweithredu a chynnal arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol yn ystod gweithdrefnau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol*.* a SKANSC2.2: Ymgynghori, asesu, cynllunio a pharatoi ar gyfer gweithdrefnau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol o fewn yr amgylchedd waith, yn dilyn ymgynghoriad a gwerthusiad gyda rhagnodwr annibynnol sy'n cael ei reoleiddio. Y mae'r safon yma ar gyfer ymarferwyr esthetig sy'n cyflawni pigiadau mewngroenol o docsin botwliniwm math A er mwyn trin chwysu gormodol cosmetig. Y mae'r botwliniwm math A yn rhwystro asetylcolin, niwrodrawsyrrydd o'r system nerfol paraymatebol rhag cael ei ryddhau, gan rwystro gorsymbyliad o'r chwarennau chwys ecrin sy'n arwain at chwysu gormodol. Caiff y tocsin botwliniwm ei gyflawni fel cwrs o weithrediadau wrth i'r nerfau atgynhyrchu dros amser. Bydd gofyn i chi wneud gwerthusiad ac adfyfyrio wedi'r driniaeth er mwyn gwlliant parhaus. Rhaid i'r ymarferydd esthetig gael cymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gweithle neu ei gyffelyb a gallu cyflawni'r swyddogaethau o fewn SFHCHS36: Cefnogaeth bywyd sylfaenol a gallu cael gafael ar gyfarpar cefnogi bywyd fel sydd wedi ei nodi yn y cynllun rheoli cymhlethdodau. Bydd rhaid i ddefnyddwyr y safon yma wneud yn siwr bod eu harferion yn adlewyrchu'r wybodaeth, y polisïau, y gweithdrefnau a'r cyfarwyddyd am yr arfer orau
Y prif ddeilliannau yw:
- Lleihau chwysu cosmetig gormodol
- Trin hyperhidrosis ceseiliol canolog cynradd sydd wedi ei ddiagnosio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. canfod a thrafod canlyniadau a dogfennau'r unigolyn ar gyfer y driniaeth tocsin botwliniwm math A gan y rhagnodwr annibynnol sy'n cael ei reoleiddio i gynnwys:
1.1 cynllun triniaeth yr unigolyn i gynnwys y manna i gael eu trin
1.2 cyngor, cefnogaeth a chyfarwyddyd
1.3 cynllun argyfwng
1.4 polisi rheoli moddion
1.5 strategaeth rheoli poen
2. cytuno ar a chael y prescripsiwn ar gyfer y tocsin botwliniwm math A gan ragnodwr annibynnol sy'n cael ei, yn unol â'r protocol tocsin botwliniwm math A, gofynion deddfwriaethol rheoleiddiol, polisïau cyfundrefnol a gweithdrefnau
- cynnal ymgynghoriad cryno a chynhwysfawr gyda'r unigolyn a chadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth tocsin botwliniwm math A
4. trafod amcanion, pryderon, disgwyliadau yr unigolyn a'r canlyniadau y mae'n ei ddymuno er mwyn hysbysu'r cynllun triniaeth tocsin botwliniwm math A i gynnwys :
4.1 dewisiadau amgen ar gyfer triniaeth
- penderfynu ar y cynllun triniaeth tocsin botwliniwm math A yn unol â'r gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
6. ailadrodd, cadarnhau a chytuno gyda’r unigolyn, ei fod wedi deall y driniaeth tocsin botwliniwm math A a rheoli poen arfaethedig, i gynnwys:
6.1 gwrth-weithredoedd
**6.2 adweithiau niewidiol
7. sicrhau a chofnodi cydsyniad gwybodus yr unigolyn ar gyfer y tocsin botwliniwm math A, gan ganiatau amserlen ddigonol I’r unigolyn wneud dewis gwybodus
8. adolygu’r cydsyniad gwybodus ar gyfer y driniaeth tocsin botwliniwm math A a rheoli poen
- casglu cydsyniad wedi ei hysbysu'r unigolyn, a presgripsiwn wedi ei gwblhau gan fferyllydd, i gynnwys:
9.1 cyfarwyddyd sy'n benodol i'r claf
9.2 toddiannau ail gyfuniad halwynog
9.3 cyfarwyddiadau ynglŷn â chadw
9.4 protocol ar gyfer cael gwared o wastraff
10. dewis cynnyrch paratoi glendid effeithiol er mwyn cwrdd ag anghenion yr unigolyn yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
11. paratoi man triniaeth yr unigolyn yn unol â'r protocol triniaeth tocsin botwliniwm math A a'r strategaethau cysylltiedig ar gyfer osgoi risg, i gynnwys:
11.1 gwneud marciau cyn triniaeth er mwyn nodi’r man hyperhidrotig ar gyfer pob cesail, yn dibynnu ar y man lle mae blew’n tyfu
11.2 sicrhau bod yna ddigon o le rhwng y marciau a'u bod wedi eu dosbarthu yn gyfartal
14. monitro iechyd, lles ac adwaith croen yr unigolyn drwy gydol y driniaeth tocsin botwliniwm math A, yn unol â gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
15.1 ceisio a gweithredu ymyrraeth feddygol ar unwaith gan yr unigolyn proffesiynol ym maes iechyd sydd wedi ei nodi a'i hyfforddi i ddelio gyda chymhlethdodau fel sydd wedi eu hamlinellu o fewn y cynllun argyfwng pan fod angen meddyginiaeth na ellir ei gael ond ar bresgripsiwn
16.cwblhau'r driniaeth yn unol â phrotocol triniaeth y tocsin botwliniwm math A, gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol, i gynnwys:
17. cymryd a chadw cyfryngau gweledol cydsyniol o fan triniaeth yr unigolyn yn unol â gofynion yswiriant, polisïau a gweithdrefnau
19. defnyddio arfer adfyfryiol i werthuso’r driniaeth tocsin botwliniwm math A a gweithredu’n briodol
20. rhoi cyfarwyddiadau a chyngor i’r unigolyn cyn ac ar ôl y driniaeth, i gynnwys:
20.1 manylion cyswllt y rhagnodwyr sy'n cael eu rheoleiddio
20.2 cynllun argyfwng
20.3 cynllun wrth gefn os bydd rhywun yn absennol
21. trafod, gwerthuso a chofnodi’r canlyniadau gyda’r rhagnodwr annibynnol sy’n cael ei reoleiddio a chytuno ar weithredu pellach a thriniaethau a wneir yn y dyfodol
22. trafod y canlyniadau a chytuno ar driniaethau yn y dyfodol gyda'r unigolyn
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. pwysigrwydd cydweithio gyda phobl broffesiynol gymwys er mwyn cefnogi arferion gwaith effeithiol a diogel
- swyddogaethau a chyfrifoldebau'r rhagnodwr annibynnol sy'n cael ei reoleiddio
3. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio ag arferiol moesegol a gweithio o fewn gofynion deddfwriaethol
4. pwysigrwydd ymwneud â, a chofnodi datblygiad proffesiynol parhaus i gynnwys, polisïau gwybodaeth wedi eu diweddaru, gweithdrefnau a chanllawiau arfer
5. yr anatomeg a'r ffisioleg sy'n berthnasol sy'n berthnasol i'r safon yma
6. y mathau o, cyfansoddiad ac effeithiau ffarmacolegol y cyfansoddion cemegol mewn toddiadau tocsin botwliniwm, i gynnwys:
6.1 sut all crefydd a chredo rwystro triniaeth tocsin botwliniwm math A
- pwysigrwydd derbyn diagnosis wedi ei seilio ar dystiolaeth gan feddyg teulu, i gynnwys:
7.1 diben a chanlyniadau profion iodin
- y gwahaniaethau rhwng gor-chwysu cosmetig a hyperhidrosis ceseiliol canolog cynradd ac eilaidd
9. y rhesymau dros beidio â thrin hyperhidrosis ceseiliol canolog eilaidd
10. sut i adnabod y man heiperheidrotig o bob cesail yn ôl y man blewog i gynnwys:
10.1 faint o bigiadau y gellir yn ddiogel eu defnyddio
10.2 pam mae’n rhaid i chi adael yr un faint o bellter rhwng mannau pigiad
10.3 yr offer diheintiedig a ddefnyddir i nodi'r mannau lle caiff y pigiadau eu rhoi cyn y driniaeth
- effaith ffisiolegol y toddiant tocsin botwliniwm tocsin math A ar feinewoedd gwaelodol y corff, mewn perthynas â'r canlynol:
11.1 atal rhyddhau’r niwrodrawsyrrydd asetylcolin a’i effaith ar y system nerfol paraymatebol
11.2 pam mai rhywbeth dros dro yw effaith pigiadau o docsin botwliniwm math A o dan y croen
11.3 pa mor aml mae angen triniaethau yn unol ag anghenion yr unigolyn
12. diben, defnydd a chyfyngiadau'r triniaethau tocsin botwliniwm math A , mewn perthynas â'r canlynol:
12.1 hanes meddygol cyfredol a bleanorol
12.2 hanes trinaethau cosmetig blaenorol nad oeddynt yn llawfeddygol
12.3 ffactorau perthnasol yn y ffordd o fyw
12.4 meddyginiaethau a chyflyrrau meddygol
12.5 ystyried lles corfforol a seicolegol yr unigolyn o’r driniaeth tocsin botwliniwm
12.6 disgwyliadau'r unigolyn
- yr adweithiau niweidiol sy'n gysylltiedig â'r driniaeth tocsin botwliniwm math A
14. cymryd y camau cywir os bydd yna adwaith neu ddigwyddiad niweidiol i gynnwys:
14.2 y strategaethau ar gyfer osgoi risg
15. y gwahaniaethu rhwng cynnyrch wedi’i drwyddedu, heb label a heb ei drwyddedu, i gynnwys:
16. y defnydd trwyddedig dynodedig o feddyginiaethau na ellir ond eu cael ar brescripsiwn a phryd y gellir eu defnyddio heb label, gan ystyried:
16.4 cytundeb gyda'r rhagnodwr annibynol sy'n cael ei reoleiddio
17. y mathau o ddulliau rheoli poen a risgiau cysylltiedig
21.6 archwilio ac atebolrwydd
22. sut mae canlyniadau ymgynghori’r rhagnodwr sy’n cael ei reoleiddio yn hysbysu’r cynllun triniaeth tocsin botwliniwm math A
23. pam ei bod hi'n bwysig trafod ac adnabod amcanion, pryderon, disgwyliaidau yr unigolyn a'r canlyniadau y mae'n ei ddymuno a chytuno ar y cynllun triniaeth botwliniwm math A
- y cyfarwyddiadau a'r cyngor, cyn ac ar ôl y driniaeth botwliniwm math A
Cwmpas/ystod
Gwybodaeth Ychwanegol
*
*
Protocol triniaeth tocsin Botwliniwm math A
- amgylchedd waith
- iechyd a diogelwch
- cynllun rheoli risg
- rhwystro a rheoli haint
- canlyniadau ymgynghori gan y rhagnodwr annibynnol sy'n cael ei reoleiddio
- cynllun rheoli
- rheoli meddyginiaeth
- cynllun triniaeth
- cydsyniad wedi ei hysbysu
- pobl broffesiynol briodol
- rheoli data
- archwilio ac atebolrwydd
- cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- cyfarwyddiadau a chyngor
- cynaliadwyedd
- rheoli gwastraff
- ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth
- arfer adfyfyriol
Gwrth Weithredoedd
- hyperemia
- mân anafiadau
- cleisio
chwydd gwyn
poen braich
gwendid yn y cyhyrau
poen yn y cyhyrau
cosi yn y gesail
**Anatomeg a ffisioleg**2. patholegau'r croen a systemig 3. patholegau digwyddiad niweidiol difrifol 4. gwybodaeth sylfaenol am ffarmacoleg a gwyddorau 5. yr effeithiau gaiff y tocsin botwliniwm math A ar strwythurau gwaelodol y croen a'r cyhyrrau
- strwythr a swyddogaeth holl systemau'r corff a'u cyd-ddibynniaeth ar ei gilydd
Adweithiau anffafriol
- ptosis/ecotroffin
- haint
- cyfog
- adwaith alergaidd
- anaphylacsis
- botwliaeth
- anafiadau wedi eu hachosi gan nodwyddau
- necrosis
- hematoma
- emboledd yr ysgyfaint
- anaf gwythiennol, rhedwelïol a nerfol
Strategaethau i osgoi risg
- cynllun argyfwng
- asesiad(au) risg
- hanes meddygol caffael
- cynllun(iau) triniaeth
- mannau triniaeth cyfyngedig
- cyfarwyddiadau a chyngor cyn ac ar ôl
- osgoi defnyddio heb drwydded
- brechiadau
- cymhwyster cymorth cyntaf yn y gwaith a chefnogaeth bywyd sylfaenol neu ei gyffelyb
- arferion gwaith iechyd a diogelwch cyffredinol
- atal a rheoli haint
- amgylchedd waith
- ymgynghoriad gyda rhywun proffesiynol ym maes gofal iechyd, rhagnodwr annibynnol wedi ei reoleiddio
protocol presgripsiwn deddfwriaethol
rheoli meddyginiaeth
- cydsyniad wedi ei hysbysu
- cydweithredu gyda phobl personel broffesiynol berthnasol
- rheoli data
- archwilio ac atebolrwydd
- protocol presgripsiwn
- dealltwriaeth sylfaenol o ffarmacoleg
- anatomi gwybodaeth waith o anatomeg geseiliol
- rheoli gwastraff
- ystyriaeth o les corfforol ac emosiynol yr unigolyn
Cymhorthion gweledol
- diagramau
- marciau cyn triniaeth
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Pobl Broffesiynol Gymwys
Pobl broffesiynol y tu allan i faes eich gallu y gellwch gyfeirio atynt neu ofyn am eu cyngor.
Adweithiau niweidiol
Caiff adweithiau niweidiol hefyd eu hadnabod fel digwyddiadau niweidiol neu risgiau. Adwaith niweidiol yw adwaith gorfforol neu ffisiolegol annisgwyl i driniaeth sy'n cael ei chyflawni
Gwrth-weithred
Gwrth weithred yw adwaith dros dro ddisgwyliedig o driniaeth
Wedi ei Wrtharwyddo
Sefyllfa benodol lle na ddylid defnyddio cyffur, triniaeth neu lawdriniaeth oherwydd y gall fod yn niweidiol i'r person.
Cynllun Argyfwng
Cyfrifoldeb y rhagnodwr annibynnol wedi ei reoleiddio yw’r cynllun argyfwng. Y mae’r cynllun argyfwng yn cynnwys yr ymateb priodol ar y safle, y broses gyfeirio gofal iechyd a gallu cael gafael ar becyn argyfwng sy’n addas ar gyfer delio gydag adweithiau neu ddigwyddiadau niweidiol. Mae gan y rhagnodwr annibynnol sy’n cael ei reoleiddio ddyletswydd o ofal tuag at ei gleifion ac i ddilyn y canllawiau rheoleiddiol a osodir allan gan eu Corff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiedig.
Cyfarwyddyd sy'n benodol i'r claf
Presgripsiwn sy'n benodol i'r unigolyn a'r driniaeth sydd i gael ei gwneud.
Marciau cyn triniaeth
Dylid gwneud marciau cyn triniaeth drwy ddefnyddio pen ysgrifennu lawfeddygol ddiheintiedig a ddefnyddir unwaith. Defnyddir marciau cyn triniaeth er mwyn creu canllawiau ar gyfer nodi mannau i roi pigiadau fel ag sydd wedi ei osod allan yn y cynllun triniaeth cosmetig nad yw'n llawfeddygol.
Rhagnodwr Annibynnol sy'n cael ei reoleiddio
Caiff rhagnodwyr annibynnol sy’n cael eu rheoleiddio gan y Cyrff Rheoleiddiol Proffesiynol Statudol. Bydd gan ragnodwyr annibynnol sy’n cael eu rheoleiddio y cymwysterau perthnasol i dderbyn eu cofrestriad a’u rhif pin. Cyfrifoldeb y rhagnodwyr annibynnol sy’n cael eu rheoleiddio ac sydd yn cydweithredu gyda phobl eraill i wneud y triniaethau tocsin a’r gwerthusiad ohoni math A yw sicrhau bod yr ymarferydd esthetig wedi cael yr hyfforddiant a’r profiad digonol i roddi meddyginiaethau na ellir ond eu rhoi ar bresgripsiwn.
Delweddau gweledol
Delweddau gweledol yw tystiolaeth sydd wedi'i chynhyrchu drwy ffotograffau neu fideo.
Dolenni I NOS Eraill
SKANSC11, SKANSC12, SKANSC13, SKANSC1.2, SKANSC2.2