Rhoi arferion gwaith diogel, glanwaith ac effeithiol ar waith a’u cynnal yn ystod triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol

URN: SKANSC1
Sectorau Busnes (Cyfresi): Therapi Harddwch,Triniaethau Cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 2021

Trosolwg

​Mae'r safon yma ar gyfer ymarferwyr esthetig sy'n cydymffurfio â iechyd,

diogelwch, rheoli haint ac arferion glendid effeithiol yn unol â'r protocol triniaeth gosmetig nad yw'n llawfeddygol, gofynion deddfwriaethol, rheoleiddiol a chyfundrefnol. Mae'r safon yn rhan o'r set safonau galwedigaethol cenedlaethol cosmetig nad yw'n llawfeddygol sy'n cynnwys safonau sy'n ymwneud â thocsin botwliniwm math A, triniaethau llenwadau croenol, pliciadau cemegol gradd ganolig i'r croen, mesotherapi, nodwyddo meicro uwch, electroserio uwch a dermaplaneg. Bydd rhaid i chi nodi, asesu a rhoi ar waith ddulliau rheoli mewn perthynas â chi eich hun, yr amgylchedd waith yn cynnwys offer, cyfarpar a chynnyrch, yr unigolyn a'r man i gael ei drin, cyn i'r driniaeth gosmetig nad yw'n llawfeddygol i gael ei chyflawni. Rhaid i'r ymarferydd esthetig gael cymhwyster Cymorth Cyntaf yn y Gweithle neu ei gyffelyb a gallu cyflawni'r swyddogaethau o fewn SFHCHS36: Cefnogaeth bywyd sylfaenol a gallu cael gafael ar gyfarpar cefnogi bywyd fel sydd wedi ei nodi yn y cynllun rheoli cymhlethdodau a/neu argyfwng.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​1. cadw at eich cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol

2. gwneud asesiad(au) risg cyn cyflawni triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol i gynnwys:
2.1 cofnodi canlyniadau’r asesiad(au) risg
2.2 rhoi dulliau rheoli ar waith a gweithredu yn briodol 
3. defnyddio mesurau atal a rheoli haint i gynnwys: 
3.1 rhagofalon cyffredinol a rhagofalon safonol
4. paratoi’r amgylchedd waith yn unol â gofynion deddfwriaethol a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol
5. paratoi ac amddiffyn eich hun ac eraill o fewn yr amgylchedd waith yn unol â pholisïau a gweithdrefnau deddfwriaethol a chyfundrefnol 
6. safleoli’r unigolyn yn unol â’r protocol triniaeth cosmetig nad yw’n llawfeddygol
7. defnyddio arferion gwaith sydd yn:
7.1 cadw blinder a’r perygl o anaf i chi eich hun ac eraill cyn ised â phosibl 
7.2 defnyddio arferion gwaith amgylcheddol a chynaliadwy 
7.3 cadw’r perygl i’r unigolyn cyn ised â phosibl a’i gadw’n ddiogel 
8. dod o hyd i’r cyfarpar, deunyddiau a’r cynnyrch a’u dewis, er mwyn cwrdd ag anghenion yr unigolyn, y fan i’w drin ac yn addas i’w ddiben i gynnwys:
8.1 risgiau cysylltiedig
8.2 yn unol â safonau cydnabyddiedig
9. defnyddio cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch yn unol â’r cynllun triniaeth cosmetig nad yw’n llawfeddygol, gofynion deddfwriaethol a chanllawiau’r gwneuthurwr 
10. cyflawni profion er mwyn penderfynu addasrwydd ar gyfer y driniaeth pan ofynnir am hynny
11. asesu a chael gwared o wastraff er mwyn cwrdd â gofynion deddfwriaethol 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


1. eich cyfrifoldebau dros ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch sy’n berthnasol i’ch swydd
2. rheolau ac amodau’r awdurdod lleol, y gofynion trwyddedu a/neu cofrestru ar gyfer chi eich hun a’ch adeilad 
3. pam ei bod yn rhaid i chi gydymffurfio gydag arfer moesegol a gweithio o fewn y gofynion deddfwriaethol
4. eich lles corfforol a seicolegol chi eich hun a sut y gall hyn effeithio ar y gallu i ddarparu triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol mewn modd diogel 
5. eich cyfrifoldeb a’r gweithdrefnau ar gyfer adrodd pan fydd amheuaeth o gamymddwyn
6. sut a phryd i geisio cael cyngor pellach y tu allan i faes gorchwyl yr ymarferydd i gynnwys:
6.1 cydymffurfio gyda deddfwriaeth data
7. sut a pham mae’n rhaid i chi gydymffurfio gyda gweithdrefnau atal a rheoli haint, i gynnwys:
7.1 rhagofalon cyffredinol a rhagofalon safonol
8. y diheintyddion ar gyfer wynebau caled i gynnwys:
8.1 y cyfansoddion cemegol a’r risgiau cysylltiedig 
8.2 sut mae amseroedd cyswllt yn effeithio ar yr effeithiolrwydd 
9. achosion a risgiau heintio meicrobaidd a dulliau atal haint
10. y diheintyddion croen i gynnwys:
10.1 y cyfansoddion cemegol a’r risgiau cysylltiedig 
10.2 yr effaith ar y raddfa pH a swyddogaeth rhwystro 
10.3 sut y gall amseroedd cyswllt effeithio ar yr effeithiolrwydd 
11. achosion, a pheryglon dod i gysylltiad â gwastraff clinigol drwy ddamwain a sut i ymateb i hynny
12. archwiliad ac atebolrwydd am arferion gwaith a gweithdrefnau
13. y rhesymau dros gadw at brotocolau triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol yn ystod y canlynol:
13.1 paratoi’r amgylchedd waith
13.2 ymgynghori, asesu a chwblhau triniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol
14. y gofynion deddfwriaethol a chyfundrefnol ar gyfer gwarchod, paratoi, urddas a phreifatrwydd yr unigolyn
15. sut y gall technegau safleoli ac arferion gwaith atal anaf ac afiechyd sy’n gysylltiedig â gwaith
16. pwysigrwydd sicrhau bod yr amgylchedd waith yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol i gynnwys:
16.1 goleuadau a goleuo
16.2 gwresogi
16.3 awyru
16.4 darnau gosod, gosodiadau a chyfarpar
16.5 cyfleusterau a mwynderau
16.6 archwilio ac atebolrwydd
17. y peryglon a’r risgiau sy’n gysylltiedig gyda’r amgylchedd triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol, y cyfarpar, deunyddiau, cynnyrch a’r mesurau rheoli sydd i’w rhoi ar waith
18. y gwahanol fathau o ddulliau gwaith sy’n hyrwyddo arferion gwaith amgylcheddol cynaliadwy
19. eich gofynion yswiriant a digollediad cyfredol sy’n berthnasol i’r driniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol
20. y cyfarwyddiadau diogelwch deddfwriaethol, cyfundrefnol a rhai’r gwneuthurwyr ar gyfer cyfarpar, deunyddiau a chynnyrch i gynnwys:
20.1 cadw
20.2 trin
20.3 defnydd
20.4 cael gwared ohono
20.5 cadw cofnodion
21. pam y mae rhaid i chi gael gafael ar gyfarpar a chynnyrch sy’n cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol 
22. y gofynion deddfwriaethol ar gyfer profion cyn y triniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol, gan gymryd i ystyriaeth:
22.1 diben profion
22.2 sut a phryd i wneud y profion
22.3 y newidiadau i’r driniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol o ganlyniad i’r hyn a ddatgelir gan y prawf
24. y rhesymau dros ddarparu a chael cadarnhad bod y cyfarwyddiadau llafar a chyngor cyn ac ar ôl y driniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol wedi eu derbyn gan yr unigolyn
25. y gofynion deddfwriaethol ar gyfer cael gwared o wastraff


Cwmpas/ystod

 Amgylchedd waith
*
1. Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a chyfarwyddebau, rheoleiddiadau a chanllawiau cysylltiedig
2. gofynnion ynglŷn â thrwyddedu a/neu gofrestru
3. asesiad(au) risg
4. atal a rheoli haint
5. asesiad risg diogelwch tân
6. rheoli gwastraff

Gwastraff*
1. gwastraff nad yw’n beryglus
2. clinigol
3. pethau miniog
4. bio-beryglus
5. gwastraff trefol cymysg
6. cyffredinol a chyfrinachol
7. ailgylchadwy


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas

Iechyd a diogelwch
*
1. Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith a chyfarwyddebau, rheoliadau a chanllawiau cysylltiedig
2. Deddfwriaeth Awdurdod Lleol, cynlluniau trwyddedu /neu gofrestru 
3. Amryw Ddarpariaethau ar gyfer Llywodraeth Leol
4. Gwarchod yr Amgylchedd
5. Gorfodaeth Cynnyrch Cosmetig
6. Polisi Diogelu
7. Gofynion Cyfredol y Gwasanaeth Datgelu sy’n berthnasol i bob lleoliad daearyddo


Cyngor pellach

1. rhybuddion diogelwch unigol
2. adrodd am adwaith niweidiol
3. tynnu sylw unigolion at rywun proffesiynol perthnasol 


Gweithdrefnau atal a rheoli haint

1. technegau aseptig
2. eitemau a ddefnyddir unwaith
3. rhagofalon cyffredinol
4. rhagofalon safonol 
5. brechiadau 


Rheoli archwiliadau ac atebolrwydd am arferion gwaith

1. paratoi a chynllunio
2. mesur perfformiad
3. rhoi newid ar waith
4. cynnal gwelliant 


Protocolau triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol 

1.      amgylchedd waith
2. iechyd a diogelwch
3. cynllun rheoli risg
4. atal a rheoli haint
5. plan cynllun triniaeth
6. cydsyniad gwybodus
7. cyngor a chefnogaeth ychwanegol
8. rheoli data 
9. archwilio ac atebolrwydd
10. cyfarwyddiadau a chyngor cyn ac ar ôl
11. rheoli gwastraff
12. ymarfer adfyfyriol wedi ei seilio ar dystiolaeth


Anaf ac afiechyd sy’n gysylltiedig â gwaith

1. anafiadau corfforol
2. anhwylderau
3. clefydau


Arferion gwaith amgylcheddol a chynialadwy

1. rheoli gwastraff amgylcheddol
2. defnydd o ynni
3. arferion amgylcheddol creiddiol
4. gweithio i amseroedd masnachol


Cyfarwyddiadau*
*
*
1. hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr unigolyn a’r ymarferydd esthetig
2. cefnogaeth a chyngor sydd sydd ar gael ar unwaith neu’n barhaus
3. rheoli cymhlethdodau a/neu gynllun argyfwng
4. disgwyliadau ar ôl triniaeth ac amserlenni cysylltiedig
5. cyfarwyddiadau a gofal cyn ac ar ôl triniaeth
6. cyfyngiadau a risgiau cysylltiedig
7. triniaethau yn y dyfodol
8. gweithdrefn cwynion neu brotocol pryderon




Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Heintio Meicrobaidd

Mae henintio Meicrofeiolegol yn cyfeirio at bresenoldeb meicrobau nad oes eu heisiau megis bacteria, ffyngau, feirysau a sborau.

Rhagofalon cyffredinol a rhagofalon safonol *
Mae rhagofalon cyffredinol yn berthnasol os yw’r ymarferydd yn dod i gysylltiad â gwaed a/neu rywfaint o hylif corfforol. Cyfrifoldeb yr ymarferydd yw rhoi mesurau atal a rheoli haint ar waith er mwyn atal dod i gysylltiad â phathogenau neu Ddeunyddiau Eraill all fod yn Heintus (OPIM).
Rhagofalon safonol yw’r lefel sylfaenol o reoli haint ddylai gael ei ddefnyddio bob amser o fewn yr amgylchedd waith, megis glendid dwylo, cyfarpar amddiffyn personol, atal anafiadau gan nodwyddau neu declynnau miniog, asesiad risg, glendid anadlol ac ymddygiad safonol ynghylch pesychu, glanhau amgylcheddol a chael gwared o wastraff. 

Amgylchedd waith*
Dylai gofynion am yr amgylchedd waith gydymffurfio â deddfwriaeth Iechyd a Diogelwch a bod yn unol â’r canllawiau sydd wedi cael eu gosod allan naill ai gan eich awdurdod lleol neu gorff llywodraethu.
Dylid gwneud asesiadau risg, a dylai dulliau rheoli gael eu rhoi ar waith a’u cofnodi, a’u diweddaru yn rheolaidd ac/os oes newidiadau’n digwydd. Dylai’r amgylchedd waith fod yn lanwaith ac yn addas i’w diben er mwyn i driniaethau cosmetig nad ydynt yn llawfeddygol gael eu cwblhau mewn modd diogel ac effeithiol gan ddefnyddio technegau aseptic. Mae angen i weithdrefnau i atal a rheoli haint gadw’r risg o heintio a throsglwyddo meicrobau mor isel â phosibl. Rhaid i gyfarpar amddiffyn personol fod yn addas i’w ddiben ac ar gael. Rhaid i gyfarpar a chynnyrch gael eu cynnal a’u cadw yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr a gofynion deddfwriaethol.
Mae’n ddoeth creu cynllun rheoli cymhlethdodau a/neu argyfwng ar gyfer pob triniaeth gosmetig nad yw’n llawfeddygol os bydd adwaith neu ddigwyddiad niweidiol.


Dolenni I NOS Eraill

​SKANSC2, SKANSC3, SKANSC4, SKANSC5, SKANSC6, SKANSC7, SKANSC8 and SKANSC9


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKSNSC1

Galwedigaethau Perthnasol

Therapydd Harddwch, Estheteg Harddwch, Ymarferydd Estheteg

Cod SOC

6222

Geiriau Allweddol

Iechyd a diogelwch, atal a rheoli haint, deddfwriaeth, triniaethau cosmetig dewisol nad ydynt yn llawfeddygol, tocsin botwliniwm, llenwadau croenol, pliciadau croen cemegol gradd ganolig, mesotherapi, meicronodwyddo uwch, electroserio uwch, dermaplaneg